Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 14 Mai 2019.
Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Mae'n dda cael diweddariad heddiw, ac rwy'n croesawu llawer o'r sylw cadarnhaol sydd yn eich datganiad, yn enwedig am y cynnydd yn nifer y cyfeillion dementia. Mae gen i rai cwestiynau penodol am y cynllun gweithredu. Roeddwn yn ddiolchgar am eich atebion i mi yn rhinwedd fy swyddogaeth fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddementia ynghylch tryloywder y cyllid ar gyfer y cynllun, sy'n cael ei ddarparu i raddau helaeth drwy'r gronfa gofal integredig, ac mae pryderon ynghylch hynny wedi'u crybwyll yn y Pwyllgor Iechyd hefyd. Roeddwn yn falch o gael eich ateb a'r sicrwydd a roesoch chi. Ond a gaf i ofyn a oes unrhyw gynlluniau i gael unrhyw fath o werthusiad annibynnol o effaith y cynllun, i gydnabod rhai o'r pryderon sydd wedi parhau i gael eu mynegi ynghylch tryloywder?
Yn gysylltiedig â hynny, rydych chi wedi sôn am waith y Grŵp Goruchwylio Gweithrediad ac Effaith ym maes Dementia, ond rwy'n gwybod fod rhai cyrff yn y trydydd sector yn awyddus iawn i gael strwythur arweinyddiaeth gwahanol, un sy'n golygu bod rhywun yn hyrwyddo'r achos hwn yn benodol yn y Llywodraeth. A ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i sut y caiff y gwaith hwn ei hyrwyddo gan arweinwyr penodol yn Llywodraeth Cymru? Fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad am fewnbwn y rhai sy'n byw gyda dementia, ac mae hynny'n nodwedd gadarnhaol iawn o waith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn. Ac, yn arbennig, fe hoffwn i gydnabod effaith barhaol DEEP yn y maes hwn. Ond fe gafodd y rhai sy'n byw gyda dementia ran ryfeddol yn y gwaith o ffurfio'r cynllun. Felly, a gaf i ofyn i chi am ragor o fanylion? Roedd tua 1,000 o bobl wedi cyflwyno sylwadau ynglŷn â'r cynllun gweithredu, felly a gaf i ofyn am ragor o fanylion ynghylch sut y byddwch chi'n parhau i sicrhau y bydd y rhai sy'n byw gyda dementia yn chwarae rhan lawn yn y gwaith yn y dyfodol?
Ac, yn olaf, roeddwn yn falch o weld y cyfeiriad at adroddiad Comisiynydd y Gymraeg a Chymdeithas Alzheimer's Cymru yn eich datganiad. Mae'n adroddiad gwirioneddol bwysig, ac roeddwn yn falch iawn o fod yn bresennol pan gafodd ei lansio. Dydw i ddim yn credu y gallwn ni orbwysleisio pwysigrwydd y gallu i gyfathrebu yn eich iaith gyntaf i rywun sydd â dementia, o ystyried yr heriau cyfathrebu enfawr sy'n bodoli. Rwy'n falch y bydd Llywodraeth Cymru yn rhan o'r grŵp y mae'r Comisiynydd a'r Gymdeithas Alzheimer's wedi ei sefydlu, ond a allwch chi fanteisio ar y cyfle hwn i ailddatgan eich ymrwymiad yn wleidyddol i sicrhau bod yr argymhellion rhagorol yn yr adroddiad hwnnw yn cael eu gweithredu?