Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 14 Mai 2019.
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a'i gwestiynau. Byddaf yn ymdrin ag amrywiaeth o'r pethau penodol y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw. Ond o ran eich sylw olaf am y ddarpariaeth Gymraeg, yn y datganiad, rwyf wedi nodi'r gwaith sydd wedi'i wneud ar y cyd, yn gyntaf gyda Chomisiynydd y Gymraeg a'r Gymdeithas Alzheimer, a bydd y grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw yn helpu i roi mwy o wybodaeth i ni am yr hyn sydd angen inni ei wneud. A chan fod Lywodraeth Cymru yn cymryd rhan yn y grŵp gorchwyl a gorffen, byddwn yn dysgu yn ystod hynny, nid dim ond pan gawn ni'r adroddiad terfynol. Yn amlwg, byddwn ni wedyn yn disgwyl ymateb i hynny a deall sut y byddwn ni'n diwygio gwasanaethau—nid dim ond cyfarwyddeb ganolog gan y Llywodraeth, ond, mewn gwirionedd, sut y bydd angen i bob un o'r grwpiau partneriaeth rhanbarthol hynny ailfeddwl ynghylch y modd y maen nhw'n darparu gwasanaethau. Nid yw hyn yn ddewis gofal, ond yn angen gofal, ac mae angen i ni adlewyrchu hynny.
O ran eich pwyntiau ehangach ynghylch cydnabod cyfraniad y sector gwirfoddol, mae'r sefydliadau eu hunain yn ymwneud â threfnu gweithgareddau, cymorth a gwasanaethau, yn ogystal ag eiriolaeth, gan ein cefnogi a'n herio, unwaith eto, i gydnabod swyddogaeth gofalwyr unigol—yn aml, aelodau o deuluoedd sy'n mynd yr ail filltir ac yn cysegru llawer o'u bywyd i ofalu am anwyliaid. A heb hynny, ni fyddem yn darparu dim ond gwasanaeth, ond y math o dosturi ac urddas yr ydym ni eisiau ei weld. Sy'n arwain at y sylw yr ydych chi'n ei wneud am yr her o ran stigma. Felly, ar gyfer popeth y mae gennym ni gyfrifoldeb i'w wneud yn y Llywodraeth, yn y gwasanaeth iechyd, mewn awdurdodau lleol, mae llawer o'r hyn a drafodwn yn ymwneud â'r rhan sydd gennym ni fel aelodau o gymdeithas a'r wlad yr ydym ni'n byw ynddi, a dyna pam ein bod ni'n anelu at fod yn wlad sy'n deall dementia. Mae'n ymwneud â'r ffordd yr ydym ni'n ymddwyn gydag a thuag at bobl eraill, nid yn unig y rhai yr ydym ni'n eu hadnabod, ond yn benodol, sut yr ydym ni'n ymddwyn tuag at y bobl hynny nad ydym ni'n eu hadnabod, a'r pwynt hwnnw am fwy o oddefgarwch a dealltwriaeth, byddai hynny nid yn unig yn gwneud gwahaniaeth yma yn y maes dementia, ond yn fwy cyffredinol. Rwy'n meddwl am y ffordd yr ydym ni'n barod i drin pobl eraill, ac yn disgwyl cael ein trin ein hunain.
Dyna pam fy mod i'n arbennig o falch o weld cynifer o bobl, dros un flwyddyn yn unig, sydd wedi bod yn ymgysylltu ac wedi dod yn gyfeillion dementia—38,000 o bobl ychwanegol mewn un flwyddyn, sef 158,000 o gyfeillion dementia bellach ledled Cymru. Mae hynny'n gam cadarnhaol iawn ymlaen. A gallaf ddweud, o'm safbwynt i fy hun, fy swyddfa etholaeth a minnau, rydym ni yn gyfeillion dementia—rwyf innau'n gyfaill dementia—ac wedi gwneud yr hyfforddiant. Oherwydd rwy'n cydnabod nad oedd a wnelo hynny dim ond â'r gwaith yr wyf yn ei wneud yn y fan yma, ond mewn gwirionedd, fel Aelodau etholaeth, rydym ni eisoes yn gweithio gyda phobl sy'n byw gyda dementia, a bydd pobl sy'n byw gyda dementia yn cysylltu â ni nawr ac yn y dyfodol hefyd. Mae'n rhan fawr o'n hetholaeth yn barod, ac i Aelodau eraill yma hefyd sy'n cynrychioli etholaeth neu ranbarth. Ac rwy'n gwybod bod Jayne Bryant ac eraill yn ceisio annog pobl fel y gallai'r fan yma fod y Senedd gyntaf sy'n deall dementia hefyd, os yw pob aelod wedi gwneud yr hyfforddiant hwnnw, ynghyd â'u staff, a byddwn yn annog pobl i wneud hynny.
Ynglŷn â'ch pwyntiau ehangach ynghylch sut y mae hynny'n helpu, mewn gwirionedd, rydym ni'n gweld mwy a mwy o bobl yn cymryd rhan ar draws y sector manwerthu, er enghraifft, nid dim ond y gefnogaeth o ran yr arian elusennol y mae pobl yn ei roi, ond mewn gwirionedd, unwaith eto, yn annog eu staff i ddod yn gyfeillion dementia. Ac mae Boots yn enghraifft dda; mae fferyllfeydd cymunedol a lluosog eraill ar gael. Ond yn yr un arbennig yma, rhan Cymru o'r cwmni hwnnw a arweiniodd yr ymgyrch yn y cwmni hwnnw, drwy gael cyfeillion dementia ym mhob un o siopau Boots. Roedd rhaglen fawr o weithgarwch ac ymgysylltu, ac roeddwn yn falch iawn o gydnabod, pan ddaethant yma, eu bod mewn gwirionedd yn herio gweddill grŵp Boots yn y DU i wneud yr un fath. Felly, unwaith eto, bydd ymgyrch sy'n codi stêm yma yng Nghymru, gyda'r fenter honno, yn mynd i wneud gwahaniaeth yma a thu hwnt.
Fe hoffwn i orffen gyda'ch sylw am brofiad personol a fydd gan lawer o Aelodau yn y fan yma. Rydym ni'n cydnabod bod angen newid. Ac nid dim ond am ein bod yn gallu siarad am ein profiadau ein hunain yn aml, ond mae anghenion ein poblogaeth yn newid. Nid yw'n ymwneud ag oedran yn unig—mae'n fwy na hynny—ond mewn gwirionedd mae ein proffil heneiddio'n golygu y bydd yn gynyddol fwy cyffredin yn y wlad yr ydym ni ac y byddwn ni yn y dyfodol. Ac os nad oeddem ni'n cydnabod bod angen newid er mwyn sicrhau'r urddas a'r tosturi yr ydych chi'n sôn amdanyn nhw, yna ni fyddai gennym ni gynllun, ni fyddai gennym ni fesurau, ac ni fyddem ni'n cael yr un sylw difrifol ag y cawn ni. Yr her fydd gwireddu'r uchelgais yr ydym ni wedi'i osod yn y cynllun, er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ymarferol.