Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 14 Mai 2019.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad yma heddiw. Wrth i nifer y bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru gynyddu, mae hi mor bwysig ein bod yn sicrhau bod y ddarpariaeth hon yn briodol. Rwy'n sylwi yn gyntaf yn eich datganiad ar y cyfeiriad at y nifer gynyddol o gyfeillion dementia a chymunedau sy'n deall dementia. Mae fy swyddfa i, ynghyd â swyddfeydd llawer o Aelodau Cynulliad eraill, wedi cael yr hyfforddiant hwnnw ac rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn o ran y cymorth yr ydym ni'n ei gynnig i'n cymunedau. Beth ellir ei wneud i annog gwasanaethau cymorth cymunedol eraill o'r fath i gymryd rhan yn yr hyfforddiant y mae'r Gymdeithas Alzheimer yn ei gynnig?
Ar gyfer fy nghwestiynau eraill, hoffwn ganolbwyntio ar rai pethau diddorol yr wyf wedi'u gweld ar ymweliadau etholaeth. Yn gyntaf, cyfarfûm yn ddiweddar â'r tîm therapi galwedigaethol yn Ysbyty Cwm Cynon i drafod eu gwaith yn cefnogi pobl sydd wedi cael diagnosis o ddementia yn ddiweddar a sut maen nhw'n eu galluogi nhw i adennill eu hyder a byw'n annibynnol. Ymunais ag un o'r therapyddion galwedigaethol hynny ar ymweliad cartref ym Mhenywaun, a chefais adborth mor gadarnhaol gan y person a oedd yn cael cymorth ynghylch sut roedd yr ymyriad wedi newid ei fywyd mewn gwirionedd. Felly, beth ellir ei wneud i sicrhau bod ardaloedd eraill, yng Nghwm Taf a thu hwnt, yn dysgu o'r math hwn o ddull?
Ymwelais hefyd yn ddiweddar â'r ward rithwir arobryn yn Ysbyty Sant Ioan yn Aberdâr, sy'n enghraifft wych o ddull gweithredu amlddisgyblaethol. Ac mae'r math hwn o ddull gweithredu mor ddefnyddiol i gefnogi'r rhai sy'n byw gyda dementia, yn ogystal â llawer o gyflyrau eraill. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud er mwyn helpu i alluogi a chymell gwaith partneriaeth o'r fath mewn clystyrau meddygon teulu fel modd o helpu'r rheini sy'n byw gyda dementia i gael y gofal amlddisgyblaethol gorau posib?
Ac yn olaf, ymwelais hefyd â Chartref Gofal Ysguborwen yn Llwydcoed i weld prosiect gwych a oedd yn cael ei ddarparu gan Ganolfan Gydweithredol Cymru, a oedd yn caniatáu i drigolion ddefnyddio technoleg fodern, megis iPads, sgriniau a llechi rhyngweithiol, er mwyn ymhel â diddordebau y bu ganddyn nhw drwy gydol eu hoes neu edrych ar hen luniau a oedd yn wir yn ail-fywiogi'r rhannau dwfn hynny o'r cof gan ddod â'r fath hapusrwydd iddyn nhw. Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i annog cartrefi gofal i ddefnyddio manteision pwerus iawn technoleg fodern er mwyn helpu'r rhai sy'n byw gyda dementia i gynnal y gweithgareddau a'r diddordebau hynny sydd eisoes ganddyn nhw a all ychwanegu cymaint at ansawdd eu bywyd?