Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 14 Mai 2019.
Diolch am y sylwadau. Dydw i ddim yn siŵr a oedd unrhyw gwestiynau penodol, ond rwy'n croesawu tôn yr hyn a ddywedwyd. O ran y pwynt olaf ar uchelgais awdurdodau lleol yn benodol, credaf fod angen inni fod yn onest bod yna uchelgais anghyfartal. Mae yna nifer o awdurdodau lleol sydd wedi dangos diffyg uchelgais truenus, ac mae hynny'n rhannol yn mynd yn ôl, fe gredaf, i'r mater capasiti a grybwyllais, i fod yn deg â nhw. Ond rwy'n credu mai dyma pam, mewn ffordd, yr wyf am ei ail-osod—a dyma'r wers a ddysgais o'r dystiolaeth a gafodd Pwyllgor yr Economi y llynedd. Mae'r Ddeddf yn dal yn ei dyddiau cynnar. Mae hwn yn mynd i fod yn brosiect newid tymor hir.
Roedd y mapiau cyntaf a ddaeth i law fel petaent yn ddrafft cyntaf. Y tro nesaf, rhaid inni gael pethau'n iawn. Rwy'n credu mai un o'r problemau sylfaenol o ran y dull gweithredu a gawsom hyd yma yw eich bod yn gofyn i beirianwyr priffyrdd gynnal ymarferion ymgynghori cyhoeddus, nad oes ganddynt yr adnoddau i'w gwneud, nad ydynt wedi eu hyfforddi i'w gwneud ac nad yw'n rhan o'u diwylliant nhw, yn y bôn. Roedd gennym rai enghreifftiau o beirianwyr yn defnyddio ystafell mewn llyfrgell ar brynhawn dydd Mercher am ychydig oriau ac yn synnu mai ychydig iawn o bobl a oedd yno. Ond hyd nes y cawn y dull ymgynghori hwnnw'n iawn, dydyn ni byth yn mynd i gael y sylfeini'n iawn. Felly, yr hyn yr wyf yn bwriadu ei wneud yw neilltuo rhywfaint o'r arian hwn a chyflwyno tendr ar gyfer dull Cymru gyfan o weithredu. Dull lle rydym yn ariannu sefydliad sydd y tu allan i ddiwylliant awdurdodau lleol i ymwneud â chymunedau, i gael y data amrwd hwnnw, i gael y sgwrs gyda mamau â bygis a dynion oedrannus sy'n defnyddio ffyn am yr hyn y byddai'n ei gymryd i'w cael i newid eu harferion teithio ac i adeiladu hynny i mewn i'r mapiau rhwydwaith. Oherwydd, wedi'r cyfan y bwriad yw eu bod yn weledigaethau 15 mlynedd, mewn byd delfrydol, o'r hyn fyddai ei angen er mwyn inni ymddwyn yn wahanol.
Ac nid dyna a wnaeth yr awdurdodau lleol. Roedd tystiolaeth CLlLC i'r Pwyllgor yn glir iawn: nid oeddent am greu disgwyliadau na fyddent yn gallu eu bodloni drwy roi llwybrau ar y mapiau hynny nad oeddent yn hyderus y gallent eu darparu. Ac mae hynny'n fan cychwyn anghywir. Felly mae'n rhaid inni roi'r hyder hwnnw iddyn nhw y gallwn ni greu disgwyliadau, oherwydd heb greu disgwyliadau, beth yw'r pwynt o wneud hyn yn y lle cyntaf? Ond rhaid i'r datblygiadau sy'n hanfodol eu cyflawni fod yn rhai a all wrthsefyll y broses graffu, sef creu rhwydweithiau sy'n mynd i gael eu defnyddio'n dda. Felly, credaf fod angen inni ailosod y broses drwy fynd allan a gwneud ymarfer ymgynghori cadarn, gan dargedu'r bobl iawn, a fydd wedyn yn rhoi yn y mapiau nesaf yn 2021 rwydweithiau lleol y gallwn eu hariannu wedyn mewn camau. Bydd hyn yn digwydd yn ôl safonau dylunio swyddogion yr awdurdod, wedi eu hyfforddi'n briodol, yn gweithio'n rhanbarthol, yn craffu ar waith ei gilydd er mwyn gwneud yn siŵr bod y gwaith o safon, law yn llaw â'r rhan hollbwysig nad wyf wedi sôn llawer amdani heddiw, sef hyrwyddo'r datblygiadau.
Mae'r gyllideb yn canolbwyntio'n bennaf ar gyfalaf, ar seilwaith, a gwyddom o'r holl dystiolaeth fod angen ymyriadau newid ymddygiad yn ogystal â'r seilwaith. Mae rhywfaint o'r arian sy'n cael ei gyhoeddi, sef y £3 miliwn, ar gael i awdurdodau lleol wneud gwaith hyrwyddo. Ond mae angen inni wneud llawer mwy os ydym am sicrhau bod yr agenda hon yn cael ei rhoi ar waith. Felly beth am ailosod y sylfeini, gadewch i ni gael hynny'n iawn, ac yna gallwn ni edrych ar y rhan nesaf.