Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 14 Mai 2019.
Ga i groesawu'r datganiad yma gan y Llywodraeth heddiw? Mae llawer ohono fo yn gynnwys dwi'n cyd-fynd â fo. Beth sy'n fy nharo i ac eraill bob amser ydy rhwystredigaeth ein bod ni'n methu cyrraedd at ben y daith neu i lle dŷn ni eisiau mynd yn gynt. Dwi'n siŵr bod y rhwystredigaeth yna yn rhywbeth mae'r Dirprwy Weinidog ei hun yn ei rannu. Dwi'n meddwl bod y seiliau gennym ni, mewn ffordd, o ran bod y Ddeddf yn ei lle, ond allwn ni ddim anwybyddu, wrth gwrs, pwysigrwydd cyllido yn iawn a rhoi yr adnoddau digonol er mwyn sicrhau bod y dyheadau yn cael eu gwireddu mewn difrif.
Dwi'n croesawu'r cynnydd eto, a'r ffaith ein bod ni'n cyrraedd £30 miliwn. Mae'n garreg filltir bwysig. Dwi'n meddwl mai rhyw £80 miliwn oedd y ffigwr y cyrhaeddodd yr Alban â fo nôl rhyw ddwy flynedd yn ôl, sy'n rhoi rhywbeth inni gymharu ag o. Mae'n bwysicach wedyn i edrych ar faint rydym ni'n gwario y pen. Dwi'n meddwl bod y Sefydliad Materion Cymreig, yn eu hadroddiad nhw y llynedd, yn sôn bod angen anelu rŵan at £20 y pen yng Nghymru. Mae yna sbel o ffordd i fynd tan hynny, wrth gwrs. Dwi'n ymfalchio fy hun ar fod yn uchelgeisiol a gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer y Llywodraeth, a rŵan bod y Gweinidog wedi sôn am £10 miliwn y pen, dydy'r hyn dwi'n gofyn amdano fo ddim yn swnio'n ddigon rŵan, rhywsut. Ond, mae'n rhaid inni gadw llygaid ar yr angen yna drwy'r amser i wthio'r ffigurau i fyny, achos mae yna ffordd bell i fynd o hyd.
Pan fyddwn ni'n sôn am isadeiledd, mae isadeiledd wastad yn rhywbeth y mae'n rhaid buddsoddi yn drwm ynddo fo, a buddsoddi rŵan er mwyn sicrhau bod yr isadeiledd yno ar gyfer cenedlaethau i ddod. A tra dwi'n gwerthfawrogi iaith y Gweinidog am fod yn granular, mewn ffordd—a mae Dave Brailsford, fel hyfforddwr seiclo o fri yn dod â llwyddiant mawr o'r gwelliannau incremental bach yna sy'n mynd â ni gam o'r ffordd tuag at y nod—dŷn ni hefyd yn aros, dwi'n meddwl, am y swmp yna o fuddsoddiad a all wneud gwahaniaeth go iawn mewn gosod sylfeini mwy cadarn ar gyfer cynyddu teithiant llesol ar gyfer y dyfodol.
Un peth arall y gwnaf i sylw arno fo ydy'r gwahaniaeth rhwng y dyhead a beth sy'n cael ei weithredu go iawn. Dwi'n gwerthfawrogi'r iaith gafodd ei defnyddio gan y Gweinidog heddiw o ran ei barodrwydd o i helpu ac i weithio efo awdurdodau lleol i weithredu amcanion teithio llesol. Dwi'n meddwl, ar y cyfan, fod yna awydd ar lefel llywodraeth leol, yn swyddogion ac yn aelodau etholedig, i wthio'r maen i'r wal ar hwn, ond mae angen i strategaeth ac arweiniad a chyllid, ie, i ddod gan y Llywodraeth er mwyn tywys pobl yn gyflymach ar hyd y llwybr. Ond, fel bob amser, mae bob cam ymlaen i'w groesawu ac mi fyddwn ni fel gwrthblaid yn fan hyn yn cadw llygaid ar beth ydy'r gwahaniaeth ymarferol a pha bryd fyddwn ni'n gallu dweud go iawn, 'Ydyn, pump neu chwe blynedd ers y Ddeddf yma, mi ydyn ni'n cymryd camau breision ymlaen.'