6. Dadl: Adroddiad Blynyddol 2018-19 Prif Swyddog Meddygol Cymru — Gwerthfawrogi ein Hiechyd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 14 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:15, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Dyna pam ein bod wedi buddsoddi yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru er mwyn ein galluogi ni i gyflwyno adnoddau a seilwaith i gefnogi'r gymuned ymchwil, y diwydiant a phobl yma yng Nghymru. Mae'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru heddiw mewn amryw o feysydd ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn rhywbeth y dylem ni fod yn wirioneddol falch ohono. Mae GIG Cymru ar fin gwireddu'r manteision sylweddol y gellir eu sicrhau drwy ddatblygiadau mewn meddygaeth fanwl i gleifion drwy gynnig y prawf neu'r driniaeth briodol ar yr adeg briodol. Mae ein gwaith ar dechnoleg enetig a genomig newydd yn ein galluogi ni i ddatblygu dealltwriaeth lawer mwy manwl o'r cysylltiad rhwng ein genynnau a'n hiechyd, gan ein helpu i ddatblygu therapïau uwch newydd a thriniaeth newydd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae pethau'n newid yn gyflym eithriadol yn y maes hwn. Rydym ni'n parhau i fod yn aelod o Gydweithrediaeth Ymchwil Clinigol y DU a'r grŵp cyllidwyr meddygaeth arbrofol a manwl ac yn dal i gyd-ariannu nifer o gymrodoriaethau meddygaeth fanwl.

Menter flaenllaw yma yng Nghymru, Doeth am Iechyd Cymru, a lansiwyd gan y Gweinidog Iechyd Cyhoeddus ar y pryd, i'r chwith i mi yn ei swydd newydd, yw'r astudiaeth fwyaf o'i math yn Ewrop, gyda dros 30,000 o bobl wedi'u cofrestru. Mae gallu astudiaeth o'r fath i gyfrannu at ein dealltwriaeth o iechyd, lles a dewisiadau ffordd o fyw yn bwysig ac mae'n siŵr y caiff ei defnyddio yn y blynyddoedd i ddod i ddatblygu polisi, gwasanaethau a thriniaethau.

Hefyd, mae'r gronfa ddata cysylltu gwybodaeth ddienw ddiogel, a adwaenir fel arall wrth yr enw SAIL, sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe, yn cyfuno a chysylltu data dienw ar lefel unigolyn am bobl Cymru. Mae'n darparu hyn mewn ffordd ddiogel fel adnodd ar gyfer gwneud gwaith ymchwil. Caiff y systemau diogelu data a llywodraethu gwybodaeth sy'n sail i gronfa ddata SAIL eu cydnabod yn rhyngwladol fel esiamplau. Defnyddir yr adnodd data i gefnogi amrywiaeth o brosiectau ymchwil o ansawdd uchel yng Nghymru a ledled y DU, gan gynnwys Dementias Platform UK, y gofrestr sglerosis ymledol a Biobanc y DU.

Nawr, mae gormod o enghreifftiau o ymchwil i'w crybwyll yn fy nghyfraniad byr heddiw, ond, i roi enghraifft, mae ymchwil y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth, sydd unwaith eto yn Abertawe, ar flaen y gad o ran ymchwil i fod yn sail i fentrau atal gordewdra, sydd, fel yr ydym ni wedi'i drafod ar fwy nag un achlysur, yn flaenoriaeth polisi sylweddol inni. Mae ymchwil Prifysgol Bangor ar agweddau a phrofiadau teuluol yn sgil gweithredu ein Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 arloesol yn enghraifft dda arall o ymchwil yng Nghymru yn llywio ac yn gwella polisïau a wnaed yng Nghymru.

Rydym ni'n dal yn ymwybodol iawn, ym mhob rhan o'r Llywodraeth, o'r heriau sy'n dod yn sgil Brexit, wrth inni weithio i sicrhau rhwydd hynt i ddyfodol ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru, ac i wneud hynny mewn hinsawdd sy'n parhau i gefnogi ein llwyddiant cynyddol mewn ymchwil a'n ffyniant ehangach. Yn olaf, mae adroddiad y prif swyddog meddygol yn edrych ar rai o'r bygythiadau i ddiogelwch iechyd yr ydym ni'n eu hwynebu, gan gynnwys ymwrthedd i gyffuriau, bygythiadau o glefydau y gellir eu hosgoi, rhai trosglwyddadwy, a'r peryglon amgylcheddol sy'n newid sy'n effeithio arnom ni i gyd. Mae'r rhain yn faterion difrifol y mae'n rhaid inni fod yn barod i fynd i'r afael â nhw'n uniongyrchol os ydym ni am wneud cynnydd a lleihau'r effaith sylweddol ar iechyd a lles pobl.

Felly, byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein gwasanaeth diogelu iechyd cenedlaethol a'n seilwaith i sicrhau ein bod yn parhau i allu gwrthsefyll y bygythiadau sy'n ein hwynebu. Bydd yr Aelodau'n gwybod bod ymwrthedd i gyffuriau yn broblem fyd-eang. Yng Nghymru, rhaid inni wneud ein rhan i atal heintiau yn ogystal â lleihau'r defnydd amhriodol o wrthfiotigau. Mae'r ffigurau'n mynd i'r cyfeiriad cywir yma yng Nghymru, ond rhaid inni barhau i gefnogi a herio ein GIG a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol i gyrraedd y targedau heriol yr ydym ni wedi'u pennu. Rydym ni hefyd yn gweithio i ddileu hepatitis B ac C fel bygythiad sylweddol i iechyd y cyhoedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddileu hepatitis erbyn 2030, ac mae ein GIG yn gweithio'n galed i ganfod a thrin pobl sydd â'r clefyd. Mae'r cynnydd mewn heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn parhau i fod yn destun pryder. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion adolygiad annibynnol o wasanaethau iechyd rhywiol, ac rydym ni wedi trafod y rhain o'r blaen. Y nod yw lleihau heintiau, gyda gwell gwasanaethau, addysg a gwell profiad i gleifion. Mae'n rhaid inni hefyd wneud yr hyn a allwn ni i wrthweithio bygythiadau iechyd yn yr amgylchedd, ac mae Gweinidogion yn cytuno ag asesiad y prif swyddog meddygol bod angen dull integredig i fynd i'r afael ag ansawdd aer a pheryglon eraill.

I gloi, hoffwn ddiolch i'r prif swyddog meddygol, Dr Frank Atherton, am adroddiad ac argymhellion sy'n ysgogi'r meddwl. Byddwn yn ei ystyried yn ofalus, a bydd yn parhau i herio a llywio ein dewisiadau ar gyfer iechyd a lles ein gwasanaethau a'n pobl yma yng Nghymru yn y dyfodol.