6. Dadl: Adroddiad Blynyddol 2018-19 Prif Swyddog Meddygol Cymru — Gwerthfawrogi ein Hiechyd

– Senedd Cymru ar 14 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth. 

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 5:10, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Rydym yn mynd i symud ymlaen, nawr, i eitem 6, a byddwn yn cael dadl ar adroddiad blynyddol 2018-19 Prif Swyddog Meddygol Cymru, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig—Vaughan Gething.

Cynnig NDM7048 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru ar gyfer 2018-19 'Gwerthfawrogi ein Hiechyd' a gyhoeddwyd ar 7 Mai 2019 ac yn croesawu yn arbennig:

a) sylwadau’r Prif Swyddog Meddygol ynghylch llwyddiannau, cyfleoedd a heriau sy’n ein hwynebu wrth geisio gwella iechyd pobl Cymru;

b) ei sylw ar bwysigrwydd sicrhau’r gwerth gorau posib am arian o’r adnoddau sydd ar gael mewn gofal iechyd;

c) pwysigrwydd ymchwil i wella iechyd ac economi Cymru; a 

d) ei asesiad o’r prif fygythiadau i iechyd sydd yn ein hwynebu.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:10, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Rwy'n fodlon cynnig y cynnig sydd ger ein bron. Dechreuodd y prif swyddog meddygol ar ei swydd yma ym mis Awst 2016. Fe'i denwyd i Gymru gan yr agenda gofal iechyd darbodus yr ydym ni wedi ei chyflwyno. Rwyf wedi gofyn iddo sicrhau na fydd yr agenda ddarbodus yn diffygio, ond y bydd yn parhau i wneud gwahaniaeth ehangach, mwy sylweddol a mwy cyson, ac felly rwy'n falch iawn o weld bod gofal iechyd darbodus, wedi ei ddarparu yn fwy cyson gan ofal iechyd sy'n seiliedig ar werth, yn ganolog i'w adroddiad, ac rwy'n croesawu'r persbectif unigryw y mae'n dod gydag ef i'w swydd. 

Mae adroddiadau blaenorol y prif swyddog meddygol wedi rhoi'r cyfle i ystyried sefyllfa Cymru o ran iechyd a lles ein poblogaeth, yr heriau sy'n ein hwynebu o ran iechyd y cyhoedd a'r newid yn narpariaeth gofal iechyd. Ddwy flynedd yn ôl, edrychodd adroddiad y prif swyddog meddygol ar sut y gall anfantais gymdeithasol effeithio ar gyfleoedd bywyd unigolyn, ei iechyd a'i les. Archwiliodd adroddiad y llynedd y niwed y gall gamblo ei achosi i unigolion, teuluoedd a'r gymdeithas ehangach. Mae'r adroddiadau hynny wedi llywio ein cynlluniau a'n dull gweithredu ar gyfer trawsnewid a darparu gwasanaethau. Eleni, mae adroddiad y Prif Swyddog Meddygol yn edrych ar dri mater penodol: gofal darbodus a seiliedig ar werthoedd; ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol; a bygythiadau i iechyd sy'n amrywio o ymwrthedd i gyffuriau i'r amgylchedd.

Mae'r adroddiad hefyd yn crybwyll pwysigrwydd sicrhau bod plant yn cael eu brechu rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela. Mae gan glinigwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill gyfrifoldeb i sicrhau bod rhieni'n cael yr wybodaeth lawn am fanteision brechu. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod yr agwedd hon ar yr adroddiad eisoes wedi cael sylw sylweddol yn y cyfryngau. Rydym ni wedi gweithio'n galed i ddileu clefydau plentyndod y gellir eu hatal ac fe ddylai hi fod o bryder i bob un ohonom ni fod rhai rhieni yn parhau i gael eu camarwain gan ymgyrchoedd gwrth-frechu. Felly, fe hoffwn i bwysleisio eto effeithiolrwydd a diogelwch y brechlyn ar gyfer y frech goch, clwy'r pennau a rwbela, ac annog rhieni i frechu eu plant.

Mae'r adroddiad hefyd yn ystyried her gordewdra ymhlith plant a datblygu cynllun pwysau iach. Ar hyn o bryd, mae fy swyddogion yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a ddaeth i ben yn ddiweddar, a bydd hwnnw'n sail i'r hyn a fydd, gobeithio, yn ddull gweithredu cyfannol. Mae Aelodau wedi clywed heddiw sut y gellir hybu asedau megis llwybr arfordir Cymru er mwyn helpu i fynd i'r afael â gordewdra drwy roi cyfle i bobl wneud ymarfer corff pleserus yn yr awyr agored ac, wrth gwrs, rhan teithio llesol yn hynny o beth. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod cefnogaeth sylweddol o hyd i egwyddorion gofal iechyd darbodus. Ceir llawer o enghreifftiau ledled Cymru o gyd-gynhyrchu, gwneud penderfyniadau ar y cyd, mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac amrywio a lleihau niwed. Mae angen i ni nawr ymgorffori'r egwyddorion hyn yn llawer mwy effeithiol a chyson, nid yn rhan o arferion da, ond yn rhan o arferion safonol a chyson.

Mae'r prif swyddog meddygol yn glir bod dull gofal sy'n seiliedig ar werthoedd yn fodd o wneud gofal iechyd darbodus yn realiti llawer mwy ymarferol a chyson. Ac mae hynny'n argoeli'n dda a chyffrous ar gyfer ein system iechyd a gofal. Dylai ganiatáu i'n GIG ganolbwyntio ar wneud mwy o'r pethau sy'n cyflawni canlyniadau gwell a gwell profiad gyda'n pobl ac ar eu cyfer. Mae'n rhaid i ni fod yn glir nad bwriad edrych ar werth yn y modd hwn yw torri costau. Mae, yn hytrach, yn ymwneud â pharatoi a chymell byrddau iechyd i ddefnyddio data i ganfod ac yna dadfuddsoddi mewn camau gweithredu llai gwerthfawr ac ail-fuddsoddi’r adnodd hwnnw yn yr ymyriadau hynny sy'n rhoi'r canlyniadau gorau. Mae llawer o waith da wedi ei ddechrau eisoes dan arweiniad clinigol Dr Sally Lewis ac rwyf wedi cytuno i fuddsoddi £500,000 o bunnau ychwanegol i ddatblygu  gofal sy'n seiliedig ar werth ymhellach yma yng Nghymru.

Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu pwysigrwydd ymchwil ac arloesi wrth gefnogi nid yn unig iechyd gwell, ond hefyd y ffordd y mae ein gwasanaethau yn cael eu trefnu. Mae'n disgrifio'r traddodiad ymchwil toreithiog sydd gennym ni yng Nghymru. Mae ein seilwaith ymchwil modern yn rhan hanfodol o economi Cymru a'r byd addysg. Mae manteision ymchwil iechyd a gofal yn ddirfawr, ac ni ellir tanbrisio ei bwysigrwydd, boed hynny wrth atal afiechyd, gwella lles, lleihau anghydraddoldeb neu ddatblygu gwell triniaeth a llunio gwasanaeth trefnu a darparu effeithlon ac effeithiol.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:15, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Dyna pam ein bod wedi buddsoddi yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru er mwyn ein galluogi ni i gyflwyno adnoddau a seilwaith i gefnogi'r gymuned ymchwil, y diwydiant a phobl yma yng Nghymru. Mae'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru heddiw mewn amryw o feysydd ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn rhywbeth y dylem ni fod yn wirioneddol falch ohono. Mae GIG Cymru ar fin gwireddu'r manteision sylweddol y gellir eu sicrhau drwy ddatblygiadau mewn meddygaeth fanwl i gleifion drwy gynnig y prawf neu'r driniaeth briodol ar yr adeg briodol. Mae ein gwaith ar dechnoleg enetig a genomig newydd yn ein galluogi ni i ddatblygu dealltwriaeth lawer mwy manwl o'r cysylltiad rhwng ein genynnau a'n hiechyd, gan ein helpu i ddatblygu therapïau uwch newydd a thriniaeth newydd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae pethau'n newid yn gyflym eithriadol yn y maes hwn. Rydym ni'n parhau i fod yn aelod o Gydweithrediaeth Ymchwil Clinigol y DU a'r grŵp cyllidwyr meddygaeth arbrofol a manwl ac yn dal i gyd-ariannu nifer o gymrodoriaethau meddygaeth fanwl.

Menter flaenllaw yma yng Nghymru, Doeth am Iechyd Cymru, a lansiwyd gan y Gweinidog Iechyd Cyhoeddus ar y pryd, i'r chwith i mi yn ei swydd newydd, yw'r astudiaeth fwyaf o'i math yn Ewrop, gyda dros 30,000 o bobl wedi'u cofrestru. Mae gallu astudiaeth o'r fath i gyfrannu at ein dealltwriaeth o iechyd, lles a dewisiadau ffordd o fyw yn bwysig ac mae'n siŵr y caiff ei defnyddio yn y blynyddoedd i ddod i ddatblygu polisi, gwasanaethau a thriniaethau.

Hefyd, mae'r gronfa ddata cysylltu gwybodaeth ddienw ddiogel, a adwaenir fel arall wrth yr enw SAIL, sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe, yn cyfuno a chysylltu data dienw ar lefel unigolyn am bobl Cymru. Mae'n darparu hyn mewn ffordd ddiogel fel adnodd ar gyfer gwneud gwaith ymchwil. Caiff y systemau diogelu data a llywodraethu gwybodaeth sy'n sail i gronfa ddata SAIL eu cydnabod yn rhyngwladol fel esiamplau. Defnyddir yr adnodd data i gefnogi amrywiaeth o brosiectau ymchwil o ansawdd uchel yng Nghymru a ledled y DU, gan gynnwys Dementias Platform UK, y gofrestr sglerosis ymledol a Biobanc y DU.

Nawr, mae gormod o enghreifftiau o ymchwil i'w crybwyll yn fy nghyfraniad byr heddiw, ond, i roi enghraifft, mae ymchwil y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth, sydd unwaith eto yn Abertawe, ar flaen y gad o ran ymchwil i fod yn sail i fentrau atal gordewdra, sydd, fel yr ydym ni wedi'i drafod ar fwy nag un achlysur, yn flaenoriaeth polisi sylweddol inni. Mae ymchwil Prifysgol Bangor ar agweddau a phrofiadau teuluol yn sgil gweithredu ein Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 arloesol yn enghraifft dda arall o ymchwil yng Nghymru yn llywio ac yn gwella polisïau a wnaed yng Nghymru.

Rydym ni'n dal yn ymwybodol iawn, ym mhob rhan o'r Llywodraeth, o'r heriau sy'n dod yn sgil Brexit, wrth inni weithio i sicrhau rhwydd hynt i ddyfodol ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru, ac i wneud hynny mewn hinsawdd sy'n parhau i gefnogi ein llwyddiant cynyddol mewn ymchwil a'n ffyniant ehangach. Yn olaf, mae adroddiad y prif swyddog meddygol yn edrych ar rai o'r bygythiadau i ddiogelwch iechyd yr ydym ni'n eu hwynebu, gan gynnwys ymwrthedd i gyffuriau, bygythiadau o glefydau y gellir eu hosgoi, rhai trosglwyddadwy, a'r peryglon amgylcheddol sy'n newid sy'n effeithio arnom ni i gyd. Mae'r rhain yn faterion difrifol y mae'n rhaid inni fod yn barod i fynd i'r afael â nhw'n uniongyrchol os ydym ni am wneud cynnydd a lleihau'r effaith sylweddol ar iechyd a lles pobl.

Felly, byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein gwasanaeth diogelu iechyd cenedlaethol a'n seilwaith i sicrhau ein bod yn parhau i allu gwrthsefyll y bygythiadau sy'n ein hwynebu. Bydd yr Aelodau'n gwybod bod ymwrthedd i gyffuriau yn broblem fyd-eang. Yng Nghymru, rhaid inni wneud ein rhan i atal heintiau yn ogystal â lleihau'r defnydd amhriodol o wrthfiotigau. Mae'r ffigurau'n mynd i'r cyfeiriad cywir yma yng Nghymru, ond rhaid inni barhau i gefnogi a herio ein GIG a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol i gyrraedd y targedau heriol yr ydym ni wedi'u pennu. Rydym ni hefyd yn gweithio i ddileu hepatitis B ac C fel bygythiad sylweddol i iechyd y cyhoedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddileu hepatitis erbyn 2030, ac mae ein GIG yn gweithio'n galed i ganfod a thrin pobl sydd â'r clefyd. Mae'r cynnydd mewn heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn parhau i fod yn destun pryder. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion adolygiad annibynnol o wasanaethau iechyd rhywiol, ac rydym ni wedi trafod y rhain o'r blaen. Y nod yw lleihau heintiau, gyda gwell gwasanaethau, addysg a gwell profiad i gleifion. Mae'n rhaid inni hefyd wneud yr hyn a allwn ni i wrthweithio bygythiadau iechyd yn yr amgylchedd, ac mae Gweinidogion yn cytuno ag asesiad y prif swyddog meddygol bod angen dull integredig i fynd i'r afael ag ansawdd aer a pheryglon eraill.

I gloi, hoffwn ddiolch i'r prif swyddog meddygol, Dr Frank Atherton, am adroddiad ac argymhellion sy'n ysgogi'r meddwl. Byddwn yn ei ystyried yn ofalus, a bydd yn parhau i herio a llywio ein dewisiadau ar gyfer iechyd a lles ein gwasanaethau a'n pobl yma yng Nghymru yn y dyfodol.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 5:20, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig a galwaf ar Dai Lloyd i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

yn gresynu at y methiant parhaus i gyflwyno deddfwriaeth i fynd i'r afael â llygredd aer fel ffordd o wella iechyd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 5:20, 14 Mai 2019

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a dwi'n falch o gyfrannu i'r ddadl yma ar adroddiad bendigedig gan y prif swyddog meddygol—llongyfarchiadau iddo—ac yn symud y gwelliant ar lygredd awyr. Mwy am hynna yn y man.

Yn nhermau amser, yr unig bwynt arall roeddwn i'n mynd i ganolbwyntio arno fo ydy brechiadau yn erbyn MMR, achos mae'n bwynt sylfaenol bwysig. Mae'r Gweinidog eisoes wedi cyfeirio at y peth. Mae ein capel ni yn Abertawe gyda mynwent weddol enfawr, dros bedair erw, ac mae'n dorcalonnus i weld beddau plant bach yn fanna. Mae'r fynwent wedi bod yna ers bron i ddwy ganrif. Mae yna enwau babanod a phlant ifanc iawn wedi'u rhestru ar y cerrig beddau. Maen nhw wedi marw yn eu cannoedd dros y blynyddoedd, o diptheria, tetanws, pertussis, y frech goch a'r frech wen, a nifer o afiechydon tebyg.

Wrth gwrs, nôl yn 2012-13, pan oeddwn i'n feddyg teulu llawn amser, ddaeth yna achosion o'r frech goch—gwnaethon nhw ddechrau yn Abertawe—yn fy mhractis i, yn y Coced, lle roeddwn i'n bartner ar y pryd, achos doedd y niferoedd a oedd wedi derbyn brechiad MMR ddim yn ddigonol i atal y clefyd heintus iawn yma rhag lledu, achos mae'n dibynnu ar imiwnedd y praidd—herd immunity, felly. Mae'n dibynnu ar y ffaith nad yw 95 y cant o blant ddim yn gallu dal y frech goch achos maen nhw wedi cael eu brechu yn erbyn o. Mae'r firws yn dal yn fyw yn ein cymuned ni, ond mae'n dibynnu ar y ffaith nad yw 95 y cant o bobl ddim yn gallu dal nhw achos maen nhw wedi cael brechiad. Mae yna nifer o blant sydd efo clefydau arbennig sydd ddim yn gallu cael y brechiad, felly mae'n ofynnol i bob un arall sydd yn ffit i dderbyn brechiad MMR i gael y brechiad.

Cyn y brechiad yma ym Mhrydain, cyn y brechiad yn erbyn y frech goch, measles, roedd miloedd o blant a phobl ifanc yn dal y frech goch bob blwyddyn yma ym Mhrydain, a channoedd yn marw neu yn dioddef yn barhaol o sgil-effeithiau'r frech goch, fel byddardod, drwy gydol eu hoes. Gyda dyfodiad yr MMR yn 1988, am flynyddoedd ni fu fawr neb o'r frech goch, a doedd yna ddim achosion o gwbl o'r frech goch am flynyddoedd, tan y blynyddoedd diweddar hyn pan fo lefelau'r brechu wedi cwympo o dan 95 y cant, ac weithiau yn sylweddol yn is na 95 y cant. Nôl yn Abertawe, saith blynedd yn ôl, roedd y lefel tua 82 y cant, felly does dim rhyfedd i ni gael nifer o achosion o'r frech goch, gydag un farwolaeth. 

A'r pwynt arall mae'r prif swyddog meddygol yn ei wneud yn ei adroddiad ydy—nifer o bwyntiau, wrth gwrs, ond, gan fod ein gwelliant ni yn canolbwyntiau ar llygredd awyr, fe af i ar ôl llygredd awyr, sydd yn lladd neu'n cyfrannu at farwolaeth 2,000 o bobl bob blwyddyn yma yng Nghymru. Fel dŷn ni wedi clywed gan Lee Waters prynhawn yma eisoes, mae yna air quality crisis yma yng Nghymru, ac wrth gwrs mae yna argyfwng hinsawdd hefyd. Ac wrth gwrs mae'r llygredd awyr yma—mae hyn yn argyfwng iechyd cyhoeddus, fel mae'r prif swyddog meddygol yn amlinellu yn ei adroddiad bendigedig y prynhawn yma.

Felly, mae angen gweithredu ar fyrder, yn enwedig i leihau allyriadau o geir a lorïau ar ein ffyrdd a'n strydoedd. Mae angen, felly, deddfu yn y maes, dwi'n credu, achos mae o yn argyfwng hinsawdd, ac mae o yn argyfwng iechyd cyhoeddus. Dwi'n gadeirydd y grŵp amlbleidiol ar y Ddeddf awyr glân yma yn y Senedd, er mwyn i ni allu creu parthau awyr glan yn ein trefi a'n dinasoedd. Mae ein plant ni yn haeddu dim gwaeth na hynny. Mae angen yr isadeiledd i'n siroedd ni allu casglu'r wybodaeth ar y llygredd yn eu hardaloedd nhw. Mae llygredd awyr yn niweidio ein hysgyfaint ni, a'n calonnau ni nawr, achos mae nanoblastigau—darnau bach, gronynnau bach—maen nhw mor fach rŵan fel eu bod nhw'n gallu cyrraedd i mewn i'n calon ni, yn ein gwythiennau, yn y gwaed. Achos mae nanoblastigau mor fach, maen nhw'n cyrraedd ein calonnau ni ac yn achosi clefyd y galon. Felly, cefnogwch y gwelliant. Diolch yn fawr.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 5:25, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Galwaf ar Janet Finch-Saunders.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Dr Frank Atherton yn gwbl briodol wedi amlinellu'n dda iawn y materion lluosog sy'n gofyn am ein sylw llawn, ac yn wir, rhywfaint o weithredu gan y Llywodraeth. Mae'n ein hatgoffa ni i gyd am bwysigrwydd ymchwil, ymwybyddiaeth a chydweithio effeithiol er mwyn mynd i'r afael â'r bygythiadau mawr i iechyd sy'n ein hwynebu yng Nghymru, a hefyd i fod yn barod am newidiadau iechyd a chymdeithasol disgwyliedig. Mae heintiau, bygythiadau amgylcheddol, gordewdra cynyddol—yn enwedig gordewdra ymhlith plant, gyda 27 y cant o blant pedair i bump oed bellach yn cael eu hystyried yn rhy drwm neu'n ordew—marwolaethau sy'n gysylltiedig ag ysmygu, ac anghenion cynyddol ein cymdeithas sy'n heneiddio yn achosi pryder mawr.

Mae angen monitro'r sefyllfa lle mae cyfraddau disgwyliad oes wedi aros yn wastad yn ddiweddar. Yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf, fodd bynnag, yw'r gwahaniaeth rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru, sef bwlch o wyth mlynedd yn gyffredinol rhwng aelwydydd sy'n ddiogel yn economaidd a rhai sy'n llai hyfyw yn economaidd. O ran disgwyliad oes iach, mae'r amrywiad hwn yn cynyddu i wahaniaeth sylweddol iawn o 18 mlynedd.

Yn hollbwysig, fel yr archwilir ym mhennod 1, mae angen i ofal am y boblogaeth oedrannus yng Nghymru fod yn seiliedig ar ddull gweithredu system gyfan sy'n cydnabod yr hawl i bobl hŷn heneiddio'n dda, yn gorfforol ac yn feddyliol. Ac mae hefyd yn ystyried y rhagweliad y bydd cynnydd o 58 y cant yn y boblogaeth 75 oed a throsodd. Mae hyn yn ganolog. Fel y gwyddom ni i gyd, pobl oedrannus sy'n wynebu'r perygl mwyaf o ddatblygu dementia—ac mae hynny wedi'i drafod yn gynharach heddiw—ynghyd ag afiechydon eraill megis canser, sydd wedi dod yn un o'r afiechydon mwyaf angheuol a phoenus yn ein cenhedlaeth ni. Fodd bynnag, dylid ystyried hyn law yn llaw â'r ffaith bod pobl hŷn yn fwy tebygol o gael cymhlethdodau oherwydd cyflyrau iechyd lluosog, sy'n gallu gwneud diagnosis a thriniaeth yn anodd.

Hefyd, mae'r swyddog meddygol yn amlinellu pedwar argymhelliad fel bod ein system gofal iechyd a'n hymagwedd yn ddarbodus ac yn seiliedig ar werth. Mae hyn yn cynnwys datblygu seilwaith, data, arfer da a chyfathrebu rhagorol. Nawr, rwy'n cydnabod bod creu system sy'n seiliedig ar ddata yn hanfodol i ganfod lle dylid cyfeirio buddsoddiad i fynd i'r afael â'r bygythiadau mwyaf i iechyd. Mae ymchwil yn rhan annatod o'r broses o gyflwyno ein strategaeth iechyd yn llwyddiannus ac felly rwy'n annog Llywodraeth Cymru i barhau i ariannu gwaith ymchwil ystyrlon o'r fath, gan gydlynu gweithgarwch ymhlith rhanddeiliaid allweddol a, lle bo modd, i ymgysylltu mwy â'r cyhoedd yn y gwahanol gyfnodau ymchwil hynny.

Dylai'r Llywodraeth hefyd geisio hybu gwaith Doeth am Iechyd Cymru, sydd bellach yn gofyn i'r cyhoedd rannu eu syniadau ynghylch y cwestiynau iechyd, lles a gofal cymdeithasol mwyaf dybryd yn rhan o'u prosiect cenedlaethol. Yn wir, mae adroddiad Ymchwil Canser y DU, 'O'r Fainc i Erchwyn y Gwely', yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'n sylweddol ei chyllid ar gyfer ymchwil meddygol, yn enwedig ymchwil sy'n gysylltiedig ag ansawdd. Yn fwy penodol, hoffwn dynnu sylw at alwadau Ymchwil Canser y DU i Lywodraeth Cymru arloesi ei dulliau meddwl a chynllunio strategol er mwyn denu a chefnogi ymchwilwyr gyda chyfleoedd newydd i gael cyllid. Mae hyn yn fater brys yng ngoleuni Brexit, oherwydd gellid colli ffrydiau ariannu o'r UE i ymchwil meddygol y DU.

Dirprwy Lywydd, anogaf Lywodraeth Cymru i fod yn rhagweithiol gyda chenhedloedd datganoledig eraill, fel yr Alban, er mwyn gwella ein gwybodaeth, ein dealltwriaeth a'n hymateb i'r heriau iechyd sy'n effeithio arnom ni heddiw. Mae gordewdra yn un o'r rhain, felly rwy'n croesawu cyflwyno'r cynllun pwysau iach. Gobeithiaf y bydd hwn yn gwella'r ystadegau presennol sy'n peri pryder o ran bwyta ffrwythau a llysiau.

Yn olaf, credaf fod Dr Atherton wedi tynnu sylw at fygythiadau iechyd llai amlwg, megis ymwrthedd i gyffuriau, tueddiadau gwrth-frechu, heintiau a geir mewn gofal iechyd, halogiad cemegol, ac effaith newidiadau yn ein hinsawdd a'n hamgylchedd naturiol megis rhyddhau ymbelydredd, llifogydd, ac amrywiadau tywydd eithafol.

Mae'r prif swyddog meddygol yn datgan bod angen gwneud mwy o waith gyda phractisau meddygon teulu er mwyn sicrhau defnydd gwrthfacterol priodol. Yn yr un modd, dylai ysgolion barhau i gael eu hannog i ddarparu'r brechiadau MMR i blant fel bod cyfraddau canrannol presennol y rhai sy'n cael eu brechu'n cynyddu. Rwy'n awyddus i ofyn i Lywodraeth Cymru pa gynlluniau sydd ar waith i gynyddu faint o bobl sy'n cael brechiadau yn y ddemograffeg sy'n fwy anodd ei chyrraedd. Rwy'n cefnogi argymhellion Dr Atherton ac yn annog y Llywodraeth i weithredu ar yr adroddiad cadarn a diddorol iawn hwn er mwyn inni allu parhau i ddiogelu iechyd pobl Cymru a chyflawni ein nodau o ran gofal iechyd. Diolch.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 5:30, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, hoffwn gyfeirio'n benodol at y rhan o'r adroddiad yn yr atodiad sy'n ymdrin â'r cynnydd a wnaed mewn cyswllt â'r mater iechyd cyhoeddus a grybwyllwyd o ran gamblo. Rwy'n sôn am hyn oherwydd bod adroddiad y llynedd yn adroddiad arloesol a'i fod wedi'i gydnabod ledled y DU o ran nodi a dechrau'r broses o edrych ar sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â'r hyn sydd, yn fy marn i, yn epidemig cudd, cynyddol, dirgel a datblygol ond sy'n anhygoel o ddifrifol.

Mae'n rhaid imi ddweud, er fy mod i'n croesawu agweddau ar yr atodiad o ran y gwaith sydd wedi'i wneud, rwy'n credu nad yw'n ddigonol o bell ffordd. Rwy'n sicr yn croesawu'r cwestiynau arolwg i bobl ifanc o ran nifer yr achosion, yr ystyriaeth i edrych ar y system gynllunio, y pryderon a nodir ynghylch hysbysebu gyda'r awdurdod safonau, seminarau ac ati. Ond nid wyf yn credu bod hyn, mewn unrhyw ffordd yn cydnabod maint gwirioneddol y problemau iechyd cyhoeddus sy'n dod yn sgil gamblo.

Yn sicr, mae llawer o'r cyfrifoldeb o ran gamblo ar lefel y DU, ond yn sicr mae llawer y gallwn ni ei wneud ynghylch agweddau iechyd cyhoeddus. Os gallaf gyfeirio'r Gweinidog a'r Aelodau at sylwadau cwmni ymchwil marchnad blaenllaw ar gamblo:

Mae disgwyl i'r farchnad betio chwaraeon byd-eang gyrraedd tua $155 biliwn erbyn 2024...gan dyfu ar lefel iach o 8.83 y cant ... gyda chwyldro digidol yn trawsnewid y byd bob eiliad, mae'r farchnad fetio chwaraeon yn debygol o dyfu'n sylweddol yn y dyfodol.

Os edrychwn ni mewn gwirionedd ar gyflwr gamblo a'i effaith yng Nghymru, mae'r Comisiwn Hapchwarae yn amcangyfrif bod gan 1.1 y cant o boblogaeth Cymru broblemau gamblo. Mae hynny oddeutu 40,000 o bobl. Mae'n amcangyfrif bod perygl i 4 y cant arall—hynny yw, 160,000 o bobl ychwanegol—ac am bob un gamblwr sydd â phroblem, mae ymchwil yn amcangyfrif bod saith arall yn dioddef effaith andwyol. Dyna 280,000 o bobl ychwanegol, ac rwy'n credu bod y rheini'n amcangyfrifon ceidwadol iawn sy'n seiliedig ar hen wybodaeth ac nad ydyn nhw'n adlewyrchu graddfa'r hyn sy'n digwydd.

Rwy'n cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar gamblo ac rydym ni wedi cael rhai academyddion diddorol iawn sydd wedi bod yn gwneud ymchwil mewn gwahanol wledydd, yn enwedig Awstralia, gan nodi rhai o'r effeithiau ar bobl ifanc, ac ar bobl ifanc rwy'n credu y mae'n rhaid inni edrych yn benodol o ran ein polisi iechyd cyhoeddus, ac nid wyf yn credu bod yr adroddiad mewn gwirionedd yn dechrau mynd i'r afael â hynny. Mae 80 y cant o blant 11 i 16 oed wedi gweld hysbysebion gamblo ar y teledu, mae 70 y cant wedi gweld hysbysebion gamblo ar y cyfryngau cymdeithasol, a 66 y cant ar wefannau. Mae 78 y cant o bobl ifanc y buom ni'n siarad â nhw yn credu bod betio yn rhan arferol o chwaraeon, ac mae normaleiddio gamblo yng nghyd-destun chwaraeon yn eithriadol o arwyddocaol yn fy marn i. Mae wedi dod yn rhan o ddiwylliant chwaraeon a dylai hyn ein poeni'n sylweddol.

Roeddwn yn edrych ar raglen stadiwm newydd Tottenham Hotspur sef White Hart Lane yn ddiweddar—stadiwm £1 biliwn, sy'n wych—a'r peth cyntaf a dynnodd fy sylw oedd y datganiad na fyddai cyfleusterau gamblo yn y stadiwm. Meddyliais, 'Dyna beth da', ynghyd â'i bolisi ailgylchu, nes ichi ddarllen bod y rhyngrwyd ar gael drwy'r stadiwm. Nid oes angen mannau betio mwyach. Gamblo ar y rhyngrwyd yw hi erbyn hyn. A phan edrychwch chi ar wir swm yr arian sy'n cael ei fuddsoddi, gadewch i ni fod yn onest ynglŷn â hyn, gamblo yw'r nicotin newydd, y diwydiant tybaco newydd ym myd chwaraeon. Dyna pam fod angen inni fynd i'r afael o ddifrif â'r mater o addysg gyhoeddus.

Mae tri o bob pum myfyriwr wedi gamblo mewn rhyw fodd dros y 12 mis diwethaf. Mae un o bob 10 wedi defnyddio rywfaint neu'r cyfan o'u benthyciad myfyrwyr i gamblo. Gweinidog, mae'r raddfa'n aruthrol ac mae'n tyfu. Yn y DU yn unig, mae'n ddiwydiant gwerth £15 biliwn, ac mae'n tyfu o flwyddyn i flwyddyn. Rydym ni i gyd yn gwybod na allwch chi droi at deledu lloeren, y rhyngrwyd, eich ffonau, YouTube—unrhyw beth rydych chi'n ei ddefnyddio—heb wynebu llu o hysbysebion gamblo. Ac, wrth gwrs, mae hynny'n gyfrifoldeb i'r DU, ac, wrth gwrs, mae'n rhaid inni ymgysylltu oherwydd bod angen dirfawr am ddeddfwriaeth gamblo newydd sydd mewn difrif yn mynd i'r afael â hynny ac yn cyfyngu ar hynny.

Ond yn y cyfamser, o ran yr hyn sydd gennym ni o fewn ein cymhwysedd, credaf fod angen strategaeth hynod glir a deinamig iawn arnom ni, sy'n gallu gwrthsefyll yr epidemig gamblo sy'n agosáu ac sydd eisoes yn effeithio ar ein pobl ifanc ac yn eu cyflyru. Mae angen iddi fod yn un o addysgu'r cyhoedd. Mae'n rhaid rhoi llawer mwy o bwyslais ar y modd y gallwn ni ddefnyddio deddfau cynllunio o ran mannau gamblo, sut y gallwn ni edrych ar fannau gamblo o ran y ffordd y maen nhw'n hysbysebu eu hunain, a hefyd, yn y pen draw, y pwysau y mae'n rhaid inni ei roi ar y diwydiant gamblo a'r Comisiwn Hapchwarae er mwyn ariannu'r hyn sydd ei angen i ymdrin â dibyniaeth ar gamblo ac addysgu pobl ynglŷn â gamblo.

Yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd—

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 5:36, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi ddod â'ch sylwadau i ben, os gwelwch yn dda?

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

(Cyfieithwyd)

Mae'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn ddim byd ond diferyn yn y môr ac nid wyf yn credu bod y strategaeth sydd gennym ni ar hyn o bryd yn strategaeth nac mewn unrhyw fodd yn ddigonol i fynd i'r afael â'r hyn y gallem ni, o bosib, fod yn ei wneud.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r prif swyddog meddygol am ei adroddiad blynyddol diweddaraf. Mae Dr Atherton wedi tynnu sylw at sawl her iechyd sy'n wynebu ein cenedl. Rwyf i eisiau canolbwyntio yn fy nghyfraniad i ar ddwy o'r heriau hynny. Dwy her i iechyd ein cenedl a allai, o'u gadael heb eu harchwilio, wneud niwed aruthrol i les Cymru. Yr heriau hynny yw ymwrthedd gwrthficrobaidd a lledaeniad y mudiad 'gwrth frechu'.

Rwy'n croesawu, fel mae'r prif swyddog meddygol wedi tynnu sylw ato, y bu cynnydd o ran lleihau'r defnydd amhriodol o wrthfiotigau mewn lleoliadau iechyd. Fodd bynnag, ni allwn ni fynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd drwy ddim ond lleihau nifer y gwrthfiotigau sy'n cael eu dosbarthu gan ein meddygon teulu. Rydym ni wedi bod yn gorddefnyddio gwrthfiotigau sbectrwm eang ers degawdau. Pan fyddwn ni'n cymryd gwrthfiotig, mae canran yn mynd i lawr y tŷ bach, ac o ganlyniad, mae llawer iawn o wrthfiotigau'n llifo i'n ffrydiau gwastraff, i'n hafonydd a'n cefnforoedd. Mae'r llygredd fferyllol hwn nid yn unig yn cael effaith andwyol ar fywyd gwyllt; mae hefyd yn ychwanegu at y gronfa o ficro-organebau sy'n gwrthsefyll cyffuriau. Mae'n rhaid inni hefyd ystyried effaith defnyddio gwrthfiotigau mewn amaethyddiaeth. Gall crynodiadau o wrthfiotigau mewn pridd gyrraedd lefelau'r dosau therapiwtig a roddir i dda byw oherwydd gorddefnydd.

Rydym ni wedi gweld sawl achos ledled y byd yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf lle'r oedd heintiau bacterol yn gallu ymwrthod â phob gwrthfiotig a oedd ar gael. Ar hyn o bryd, mae heintiau nad oes modd eu gwella yn berygl amlwg i fywyd dynol. Mae'n rhaid inni weithredu i leihau'r cyfleoedd i'r microbau hyn allu ymwrthod â gwrthfiotigau ac i ganfod dewisiadau eraill, ac mae hynny'n golygu, yn ogystal â lleihau defnydd dynol o wrthfiotigau, fod yn rhaid inni hefyd fynd i'r afael â gorddefnyddio mewn amaethyddiaeth a chael gwared ar lygredd fferyllol. Mae'n rhaid i ni hefyd fuddsoddi mewn ymchwil i ddewisiadau eraill, fel bacterioffagau, yn lle gwrthfiotigau.

Yn ogystal â'r bygythiadau yr ydym ni'n eu hwynebu gan facteria, rydym ni'n gweld bygythiad cynyddol gan firysau a oedd unwaith dan reolaeth. Unwaith eto, ymddygiad dynol yw'r grym y tu ôl i'r bygythiad. Y tro hwn nid y dulliau diogelu sy'n methu. Mae celwyddau a gwybodaeth gyfeiliornus wedi peri i lawer roi'r gorau i'r dulliau diogelu yn gyfan gwbl. Mae twf y mudiad 'gwrth frechu' wedi cynyddu'n aruthrol, diolch i'r cyfryngau cymdeithasol. Er bod y cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn gweithredu o'r diwedd, mae'r difrod eisoes wedi ei wneud. Mae gormod o rieni wedi gwrando ar y celwyddau sydd wedi'u lledaenu gan bobl fel y cyn-feddyg cywilyddus Andrew Wakefield a'r actores Americanaidd Jenny McCarthy. Canlyniad y celwyddau hynny yw marwolaeth plant o'r frech goch.

Mae nifer yr achosion o'r frech goch wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, ac rydym ni'n gweld mwy na 10 y cant o blant yn methu â chael dau ddos o'r brechlyn MMR. Mae'n rhaid inni fynd ati i wrthsefyll lledaeniad propaganda 'gwrth frechu' ar-lein gyda'n negeseuon di flewyn ar dafod ein hunain. Gallai plant heb eu brechu farw oherwydd bod rhyw berson ar-lein wedi darbwyllo rhiant bod brechlynnau yn achosi awtistiaeth. Mae brechlynnau'n atal marwolaethau oherwydd clefydau. Mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae wrth dynnu sylw at hyn, ac rwy'n diolch i Dr Atherton am gynnwys bygythiad clefydau y gellir eu hatal gan frechlynnau yn ei adroddiad blynyddol. Diolch yn fawr.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 5:41, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i hefyd ddiolch i'r prif swyddog meddygol am yr adroddiad? Mae'n rhyfedd ein bod ni wedi cael prynhawn yn trafod rhai o'r elfennau sy'n ymddangos yn yr adroddiad hwn—newid ymddygiad a ffyrdd o fyw egnïol, boed hynny drwy deithio llesol neu ryw fodd arall. Rydym yn ymwybodol iawn o'r ffaith bod 'Cymru Iachach', y strategaeth y cyflwynodd y Gweinidog y llynedd ac y mae'n bwrw ymlaen â hi, yn rhoi'r cyfle hwnnw inni weddnewid gofal iechyd o ran y ffordd yr ydym ni'n ei ystyried. Newid gwirioneddol drawsnewidiol a chenedliadol tuag at atal a gofal cymunedol a sylfaenol, gofal iechyd darbodus, i bobl sy'n byw'n hwy ac yn fwy annibynnol yn eu cartref, neu'n nes at eu cartrefi, ac yn y blaen. Rwy'n annog y Gweinidog, oherwydd rwy'n gwybod am ei ymrwymiad yn hyn o beth, i barhau i sbarduno'r newid hwn â phartneriaid ledled Cymru gyfan, a gwneud y gweddnewidiad hwn a'i wneud yn beth parhaol. 

Ond rwyf eisiau troi at rywbeth arall yn gyfan gwbl, ffordd wahanol o ystyried hyn, ac am hyn rwy'n ddiolchgar i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am eu cyflwyniad i holl Aelodau'r Cynulliad, ac rwy'n mynd i gyfeirio'n helaeth ato ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog wedi'i weld hefyd. Maen nhw'n cyfeirio at eu hadroddiad cynharach eleni, 'A yw Cymru'n Decach?', ac maen nhw'n nodi'r canfyddiadau allweddol o'r adroddiad hwnnw, yr heriau penodol, y materion sydd wedi hen ymwreiddio ac sy'n effeithio ar gymunedau Sipsiwn/Roma/Teithwyr, yn enwedig o ran eu gallu i gael darpariaeth iechyd. Ond hefyd mae'r ddrwgdybiaeth a'r amharodrwydd i fanteisio ar wasanaethau iechyd yn dal i fod yn broblem fawr.

Y ffaith bod pobl nad ydyn nhw'n anabl yn dweud bron iawn ddwywaith mor aml eu bod nhw mewn iechyd da na phobl anabl, a bod pobl anabl yn dweud bod eu hiechyd meddwl yn wael bron i dair gwaith yn amlach na phobl nad ydyn nhw'n anabl. Y ffaith bod hyd at un fenyw o bob pump yn dioddef o salwch meddwl amenedigol ac yn dal i wynebu'r heriau o gael gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol yng Nghymru.

Ac wrth gwrs, rydym ni i gyd yn gwybod am yr heriau sy'n wynebu plant sy'n derbyn gofal, sy'n tueddu i fod mewn mwy o berygl o ddioddef iechyd meddwl gwael na phlant yn y boblogaeth ehangach. Rydym ni i gyd yn gwybod yn rhy dda fod dynion yng Nghymru, o ystadegau yn 2016, bedair gwaith yn fwy tebygol na merched o farw drwy hunanladdiad. Yr heriau sydd gennym ni, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU ac mewn llawer o wledydd datblygedig, o ran sicrhau bod y ddarpariaeth ar gyfer iechyd meddwl yn cyfateb i'r cynnydd yn y galw.

Yn olaf, maen nhw'n nodi mai un o'r heriau mwyaf yw diffyg data wedi'i ddadgyfuno sy'n golygu ei bod hi'n anodd gwybod beth yw'r canlyniadau mewn gwirionedd a dadansoddi'r rhwystrau posib o ran gallu'r rhai hynny â nodweddion gwarchodedig penodol i gael gofal iechyd. Felly, maen nhw'n gwneud rhai argymhellion penodol, ac unwaith eto byddaf yn cyfeirio atyn nhw yn fyr iawn yma.

Yn gyntaf, wrth fwrw ymlaen â 'Cymru Iachach', strategaeth gynhwysfawr Llywodraeth Cymru nawr o ran trawsnewid iechyd, bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn elfen greiddiol yng ngweithrediad hynny. Felly, y pwyntiau hynny y byddaf yn cyfeirio atyn nhw yn y man, fod y rheini'n cael eu cydnabod ond bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn elfennau creiddiol o'r strategaeth honno.

Bod gofal iechyd yng Nghymru ar gael i bawb yn ddiwahân, a hynny gan gyfeirio'n benodol at Sipsiwn a Roma a Theithwyr, at hygyrchedd ac ansawdd y gwasanaethau cyfieithu sydd ar gael i fewnfudwyr a ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a bod gwasanaeth hunaniaeth rhywedd cwbl integredig yng Nghymru lle mae modd monitro'r effaith ar ganlyniadau iechyd pobl drawsryweddol yng Nghymru. A hefyd ein bod yn gwerthuso'n llawn y cynnydd a wnaed o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 a'r strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'.

Nawr, rydym ni'n gwneud rhai pethau anhygoel yng Nghymru, er gwaethaf yr heriau o ran ariannu a'r heriau ehangach o fewn gofal iechyd, ond mae'n briodol ein bod yn herio ein hunain yn barhaus i wneud mwy, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn croesawu'r dadansoddiad a'r heriau a nodwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fel cyfraniad defnyddiol mewn gwirionedd at wneud pethau'n well wrth inni fwrw ymlaen.  

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:45, 14 Mai 2019

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething. 

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd, ac rwyf eisiau diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau meddylgar ar y cyfan i'r ddadl heddiw. Hoffwn ddiolch i Dai Lloyd am ei araith ac, yn enwedig, am ailadrodd y sylw y mae rhai o'r Aelodau eraill wedi ei wneud ynglŷn â phwysigrwydd brechu—ei brofiad uniongyrchol ei hun fel meddyg teulu, ond hefyd rhieni fel fi sydd wedi mynd ati a gwneud yn siŵr bod ein plant wedi'u brechu—a'r sylwadau a wnaed am y ffaith bod y damcaniaethau cynllwyn am frechu yn parhau i gael eu hyrwyddo. Mae deiliad presennol y Tŷ Gwyn wedi cymryd ei dro i geisio gwneud yr un peth yn union, ac yna wedi encilio, ond mae'n bwysig bod gan bob un ohonom ni neges gyson am bwysigrwydd gwneud hynny.

Hoffwn droi at gyfraniad Mick Antoniw. Rwyf innau hefyd yn rhannu eich pryder am normaleiddio'r cysylltiad rhwng gamblo a chwaraeon. Mae chwaraeon yn weithgaredd mor eang, gyda chymaint o bobl yn cymryd rhan ac yn ymwneud, ni allwn ni amddiffyn ein plant a'n pobl ifanc rhag gweld y negeseuon treiddiol ynghylch chwaraeon proffesiynol, nac yn wir, oedolion, ac mae hynny yn cael dylanwad. Nid yw pobl yn hysbysebu'r cyfleoedd i gamblo'n rhydd er mwyn eu cydwybod eu hunain, eu bod yn credu ei fod yn beth da i'w wneud, maen nhw'n ei hysbysebu oherwydd ei fod yn cael effaith ac yn cyflyru pobl. Dyna pam fod y prif swyddog meddygol wedi ymgysylltu'n uniongyrchol â'r Asiantaeth Safonau Hysbysebu a dyna pam ein bod ni'n parhau i wneud hynny. Ac rwy'n cydnabod bod yna heriau yn y maes hwn. Y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar hyn o bryd gyda chyfarwyddwyr iechyd cyhoeddus, y gwaith yr ydym ni'n ei wneud i ddwyn ynghyd amrywiaeth o randdeiliaid, fe wnaethom ni nodi rhai o'r manylion yn yr adroddiad, ond rydym ni yn cytuno bod angen mynd ati mewn modd sy'n cynnwys meysydd polisi eraill, fel camddefnyddio sylweddau, er mwyn darparu fframwaith cychwynnol ar gyfer gweithredu. Felly, byddwn ni'n parhau i ystyried sut yr ydym ni'n manteisio i'r eithaf ar ein cyfle i wneud gwahaniaeth, gan gofio nad yw pob un o'r pwerau yr hoffem ni fod â nhw yn y lle hwn.

Roedd llawer o'r hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders na fyddwn i'n anghytuno ag ef, ond byddwn i'n dweud, unrhyw bryd y bydd pobl yn galw am gynnydd mewn cyllideb, na allan nhw ddisgwyl cael eu cymryd o ddifrif oni fyddant yn dweud o ble y daw'r arian hwnnw. Rydym ni mewn sefyllfa lle mae llai o arian ar gael. Y gwasanaeth iechyd sy'n cael y gyfran fwyaf o hwnnw. Felly, os ydym ni'n mynd i alw am arian ychwanegol, gadewch inni fod yn glir o ble daw hwnnw a beth yw ystyr hynny—naill ai galw am gynnydd yn y gyllideb y mae'r lle hwn yn ei chael yn y lle cyntaf, neu nodi pa feysydd y mae'n well gan bobl eu gweld cwtogi arnyn nhw er mwyn gwneud hynny.

Ac, o ran sylwadau Huw Irranca-Davies, rwy'n fwy na pharod i gytuno ag ef o ran ei sylw am iechyd meddwl, ond hefyd yn fwy cyffredinol y sylw am degwch wrth ddarparu gofal iechyd, gan gydnabod yr heriau sydd gan grwpiau penodol o bobl o ran cael gwasanaeth gwirioneddol deg gan ein gwasanaeth iechyd. Ac rwy'n cytuno bod yr adroddiad gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ddefnyddiol i'n hatgoffa ni ym mhob rhan o'r gwasanaeth. Rwyf hefyd, wrth gwrs, yn falch o ailadrodd fy ymrwymiad i gyflawni'r weledigaeth a nodir yn 'Cymru Iachach', i wneud yn well, i wella'r profiad a'r canlyniadau mewn ystod o fesurau, oherwydd dyna y mae pobl Cymru yn ei haeddu.

Ni wnaf ailadrodd llawer o'r sylwadau yr wyf eisoes wedi'u gwneud ar sawl achlysur ynghylch yr heriau sydd o'n blaenau, ond mae'n ddefnyddiol ystyried adroddiad y prif swyddog meddygol a'i argymhellion yn rhan o'r ateb. Felly, rydym ni'n edrych yn gyffredinol ar wireddu'r addewid o ofal iechyd darbodus drwy ofal iechyd sy'n seiliedig ar werthoedd. Mae hynny'n rhywbeth a fyddai o fudd mawr i bob un ohonom ni, i ryddhau adnoddau sylweddol yn ein system ac i gyfeirio hynny at well canlyniadau.

Felly, wrth gloi, Llywydd, hoffwn ddiolch, unwaith eto, i'r prif swyddog meddygol am ei ddadansoddiad a'i argymhellion, ac edrychaf ymlaen at ei gyngor, ei her a'i gefnogaeth barhaus wrth inni fwrw ymlaen i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a llunio Cymru iachach a hapusach.  

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:49, 14 Mai 2019

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.