Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 14 Mai 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Dr Frank Atherton yn gwbl briodol wedi amlinellu'n dda iawn y materion lluosog sy'n gofyn am ein sylw llawn, ac yn wir, rhywfaint o weithredu gan y Llywodraeth. Mae'n ein hatgoffa ni i gyd am bwysigrwydd ymchwil, ymwybyddiaeth a chydweithio effeithiol er mwyn mynd i'r afael â'r bygythiadau mawr i iechyd sy'n ein hwynebu yng Nghymru, a hefyd i fod yn barod am newidiadau iechyd a chymdeithasol disgwyliedig. Mae heintiau, bygythiadau amgylcheddol, gordewdra cynyddol—yn enwedig gordewdra ymhlith plant, gyda 27 y cant o blant pedair i bump oed bellach yn cael eu hystyried yn rhy drwm neu'n ordew—marwolaethau sy'n gysylltiedig ag ysmygu, ac anghenion cynyddol ein cymdeithas sy'n heneiddio yn achosi pryder mawr.
Mae angen monitro'r sefyllfa lle mae cyfraddau disgwyliad oes wedi aros yn wastad yn ddiweddar. Yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf, fodd bynnag, yw'r gwahaniaeth rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru, sef bwlch o wyth mlynedd yn gyffredinol rhwng aelwydydd sy'n ddiogel yn economaidd a rhai sy'n llai hyfyw yn economaidd. O ran disgwyliad oes iach, mae'r amrywiad hwn yn cynyddu i wahaniaeth sylweddol iawn o 18 mlynedd.
Yn hollbwysig, fel yr archwilir ym mhennod 1, mae angen i ofal am y boblogaeth oedrannus yng Nghymru fod yn seiliedig ar ddull gweithredu system gyfan sy'n cydnabod yr hawl i bobl hŷn heneiddio'n dda, yn gorfforol ac yn feddyliol. Ac mae hefyd yn ystyried y rhagweliad y bydd cynnydd o 58 y cant yn y boblogaeth 75 oed a throsodd. Mae hyn yn ganolog. Fel y gwyddom ni i gyd, pobl oedrannus sy'n wynebu'r perygl mwyaf o ddatblygu dementia—ac mae hynny wedi'i drafod yn gynharach heddiw—ynghyd ag afiechydon eraill megis canser, sydd wedi dod yn un o'r afiechydon mwyaf angheuol a phoenus yn ein cenhedlaeth ni. Fodd bynnag, dylid ystyried hyn law yn llaw â'r ffaith bod pobl hŷn yn fwy tebygol o gael cymhlethdodau oherwydd cyflyrau iechyd lluosog, sy'n gallu gwneud diagnosis a thriniaeth yn anodd.
Hefyd, mae'r swyddog meddygol yn amlinellu pedwar argymhelliad fel bod ein system gofal iechyd a'n hymagwedd yn ddarbodus ac yn seiliedig ar werth. Mae hyn yn cynnwys datblygu seilwaith, data, arfer da a chyfathrebu rhagorol. Nawr, rwy'n cydnabod bod creu system sy'n seiliedig ar ddata yn hanfodol i ganfod lle dylid cyfeirio buddsoddiad i fynd i'r afael â'r bygythiadau mwyaf i iechyd. Mae ymchwil yn rhan annatod o'r broses o gyflwyno ein strategaeth iechyd yn llwyddiannus ac felly rwy'n annog Llywodraeth Cymru i barhau i ariannu gwaith ymchwil ystyrlon o'r fath, gan gydlynu gweithgarwch ymhlith rhanddeiliaid allweddol a, lle bo modd, i ymgysylltu mwy â'r cyhoedd yn y gwahanol gyfnodau ymchwil hynny.
Dylai'r Llywodraeth hefyd geisio hybu gwaith Doeth am Iechyd Cymru, sydd bellach yn gofyn i'r cyhoedd rannu eu syniadau ynghylch y cwestiynau iechyd, lles a gofal cymdeithasol mwyaf dybryd yn rhan o'u prosiect cenedlaethol. Yn wir, mae adroddiad Ymchwil Canser y DU, 'O'r Fainc i Erchwyn y Gwely', yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'n sylweddol ei chyllid ar gyfer ymchwil meddygol, yn enwedig ymchwil sy'n gysylltiedig ag ansawdd. Yn fwy penodol, hoffwn dynnu sylw at alwadau Ymchwil Canser y DU i Lywodraeth Cymru arloesi ei dulliau meddwl a chynllunio strategol er mwyn denu a chefnogi ymchwilwyr gyda chyfleoedd newydd i gael cyllid. Mae hyn yn fater brys yng ngoleuni Brexit, oherwydd gellid colli ffrydiau ariannu o'r UE i ymchwil meddygol y DU.
Dirprwy Lywydd, anogaf Lywodraeth Cymru i fod yn rhagweithiol gyda chenhedloedd datganoledig eraill, fel yr Alban, er mwyn gwella ein gwybodaeth, ein dealltwriaeth a'n hymateb i'r heriau iechyd sy'n effeithio arnom ni heddiw. Mae gordewdra yn un o'r rhain, felly rwy'n croesawu cyflwyno'r cynllun pwysau iach. Gobeithiaf y bydd hwn yn gwella'r ystadegau presennol sy'n peri pryder o ran bwyta ffrwythau a llysiau.
Yn olaf, credaf fod Dr Atherton wedi tynnu sylw at fygythiadau iechyd llai amlwg, megis ymwrthedd i gyffuriau, tueddiadau gwrth-frechu, heintiau a geir mewn gofal iechyd, halogiad cemegol, ac effaith newidiadau yn ein hinsawdd a'n hamgylchedd naturiol megis rhyddhau ymbelydredd, llifogydd, ac amrywiadau tywydd eithafol.
Mae'r prif swyddog meddygol yn datgan bod angen gwneud mwy o waith gyda phractisau meddygon teulu er mwyn sicrhau defnydd gwrthfacterol priodol. Yn yr un modd, dylai ysgolion barhau i gael eu hannog i ddarparu'r brechiadau MMR i blant fel bod cyfraddau canrannol presennol y rhai sy'n cael eu brechu'n cynyddu. Rwy'n awyddus i ofyn i Lywodraeth Cymru pa gynlluniau sydd ar waith i gynyddu faint o bobl sy'n cael brechiadau yn y ddemograffeg sy'n fwy anodd ei chyrraedd. Rwy'n cefnogi argymhellion Dr Atherton ac yn annog y Llywodraeth i weithredu ar yr adroddiad cadarn a diddorol iawn hwn er mwyn inni allu parhau i ddiogelu iechyd pobl Cymru a chyflawni ein nodau o ran gofal iechyd. Diolch.