6. Dadl: Adroddiad Blynyddol 2018-19 Prif Swyddog Meddygol Cymru — Gwerthfawrogi ein Hiechyd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 14 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 5:30, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, hoffwn gyfeirio'n benodol at y rhan o'r adroddiad yn yr atodiad sy'n ymdrin â'r cynnydd a wnaed mewn cyswllt â'r mater iechyd cyhoeddus a grybwyllwyd o ran gamblo. Rwy'n sôn am hyn oherwydd bod adroddiad y llynedd yn adroddiad arloesol a'i fod wedi'i gydnabod ledled y DU o ran nodi a dechrau'r broses o edrych ar sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â'r hyn sydd, yn fy marn i, yn epidemig cudd, cynyddol, dirgel a datblygol ond sy'n anhygoel o ddifrifol.

Mae'n rhaid imi ddweud, er fy mod i'n croesawu agweddau ar yr atodiad o ran y gwaith sydd wedi'i wneud, rwy'n credu nad yw'n ddigonol o bell ffordd. Rwy'n sicr yn croesawu'r cwestiynau arolwg i bobl ifanc o ran nifer yr achosion, yr ystyriaeth i edrych ar y system gynllunio, y pryderon a nodir ynghylch hysbysebu gyda'r awdurdod safonau, seminarau ac ati. Ond nid wyf yn credu bod hyn, mewn unrhyw ffordd yn cydnabod maint gwirioneddol y problemau iechyd cyhoeddus sy'n dod yn sgil gamblo.

Yn sicr, mae llawer o'r cyfrifoldeb o ran gamblo ar lefel y DU, ond yn sicr mae llawer y gallwn ni ei wneud ynghylch agweddau iechyd cyhoeddus. Os gallaf gyfeirio'r Gweinidog a'r Aelodau at sylwadau cwmni ymchwil marchnad blaenllaw ar gamblo:

Mae disgwyl i'r farchnad betio chwaraeon byd-eang gyrraedd tua $155 biliwn erbyn 2024...gan dyfu ar lefel iach o 8.83 y cant ... gyda chwyldro digidol yn trawsnewid y byd bob eiliad, mae'r farchnad fetio chwaraeon yn debygol o dyfu'n sylweddol yn y dyfodol.

Os edrychwn ni mewn gwirionedd ar gyflwr gamblo a'i effaith yng Nghymru, mae'r Comisiwn Hapchwarae yn amcangyfrif bod gan 1.1 y cant o boblogaeth Cymru broblemau gamblo. Mae hynny oddeutu 40,000 o bobl. Mae'n amcangyfrif bod perygl i 4 y cant arall—hynny yw, 160,000 o bobl ychwanegol—ac am bob un gamblwr sydd â phroblem, mae ymchwil yn amcangyfrif bod saith arall yn dioddef effaith andwyol. Dyna 280,000 o bobl ychwanegol, ac rwy'n credu bod y rheini'n amcangyfrifon ceidwadol iawn sy'n seiliedig ar hen wybodaeth ac nad ydyn nhw'n adlewyrchu graddfa'r hyn sy'n digwydd.

Rwy'n cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar gamblo ac rydym ni wedi cael rhai academyddion diddorol iawn sydd wedi bod yn gwneud ymchwil mewn gwahanol wledydd, yn enwedig Awstralia, gan nodi rhai o'r effeithiau ar bobl ifanc, ac ar bobl ifanc rwy'n credu y mae'n rhaid inni edrych yn benodol o ran ein polisi iechyd cyhoeddus, ac nid wyf yn credu bod yr adroddiad mewn gwirionedd yn dechrau mynd i'r afael â hynny. Mae 80 y cant o blant 11 i 16 oed wedi gweld hysbysebion gamblo ar y teledu, mae 70 y cant wedi gweld hysbysebion gamblo ar y cyfryngau cymdeithasol, a 66 y cant ar wefannau. Mae 78 y cant o bobl ifanc y buom ni'n siarad â nhw yn credu bod betio yn rhan arferol o chwaraeon, ac mae normaleiddio gamblo yng nghyd-destun chwaraeon yn eithriadol o arwyddocaol yn fy marn i. Mae wedi dod yn rhan o ddiwylliant chwaraeon a dylai hyn ein poeni'n sylweddol.

Roeddwn yn edrych ar raglen stadiwm newydd Tottenham Hotspur sef White Hart Lane yn ddiweddar—stadiwm £1 biliwn, sy'n wych—a'r peth cyntaf a dynnodd fy sylw oedd y datganiad na fyddai cyfleusterau gamblo yn y stadiwm. Meddyliais, 'Dyna beth da', ynghyd â'i bolisi ailgylchu, nes ichi ddarllen bod y rhyngrwyd ar gael drwy'r stadiwm. Nid oes angen mannau betio mwyach. Gamblo ar y rhyngrwyd yw hi erbyn hyn. A phan edrychwch chi ar wir swm yr arian sy'n cael ei fuddsoddi, gadewch i ni fod yn onest ynglŷn â hyn, gamblo yw'r nicotin newydd, y diwydiant tybaco newydd ym myd chwaraeon. Dyna pam fod angen inni fynd i'r afael o ddifrif â'r mater o addysg gyhoeddus.

Mae tri o bob pum myfyriwr wedi gamblo mewn rhyw fodd dros y 12 mis diwethaf. Mae un o bob 10 wedi defnyddio rywfaint neu'r cyfan o'u benthyciad myfyrwyr i gamblo. Gweinidog, mae'r raddfa'n aruthrol ac mae'n tyfu. Yn y DU yn unig, mae'n ddiwydiant gwerth £15 biliwn, ac mae'n tyfu o flwyddyn i flwyddyn. Rydym ni i gyd yn gwybod na allwch chi droi at deledu lloeren, y rhyngrwyd, eich ffonau, YouTube—unrhyw beth rydych chi'n ei ddefnyddio—heb wynebu llu o hysbysebion gamblo. Ac, wrth gwrs, mae hynny'n gyfrifoldeb i'r DU, ac, wrth gwrs, mae'n rhaid inni ymgysylltu oherwydd bod angen dirfawr am ddeddfwriaeth gamblo newydd sydd mewn difrif yn mynd i'r afael â hynny ac yn cyfyngu ar hynny.

Ond yn y cyfamser, o ran yr hyn sydd gennym ni o fewn ein cymhwysedd, credaf fod angen strategaeth hynod glir a deinamig iawn arnom ni, sy'n gallu gwrthsefyll yr epidemig gamblo sy'n agosáu ac sydd eisoes yn effeithio ar ein pobl ifanc ac yn eu cyflyru. Mae angen iddi fod yn un o addysgu'r cyhoedd. Mae'n rhaid rhoi llawer mwy o bwyslais ar y modd y gallwn ni ddefnyddio deddfau cynllunio o ran mannau gamblo, sut y gallwn ni edrych ar fannau gamblo o ran y ffordd y maen nhw'n hysbysebu eu hunain, a hefyd, yn y pen draw, y pwysau y mae'n rhaid inni ei roi ar y diwydiant gamblo a'r Comisiwn Hapchwarae er mwyn ariannu'r hyn sydd ei angen i ymdrin â dibyniaeth ar gamblo ac addysgu pobl ynglŷn â gamblo.

Yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd—