Colledion Mewn Bioamrywiaeth

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 15 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:04, 15 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, y wiwer goch yw'r rhywogaeth rwy'n ei hyrwyddo, ac rwy'n ffodus iawn fod yna boblogaeth dda o wiwerod coch yng nghoedwig Clocaenog yn fy etholaeth, ac yn wir, canolfan fridio yn Sw Mynydd Cymru ym Mae Colwyn. Ond mae poblogaeth y wiwer goch wedi gostwng i oddeutu 1,500 o wiwerod coch ledled Cymru ar hyn o bryd. Mae'r rhan fwyaf ohonynt ar Ynys Môn. Cefais y fraint o ymweld â'r prosiectau ar Ynys Môn ac yng Nghlocaenog, a gwn mai un o'r heriau y mae'r prosiectau'n eu hwynebu yw parhad cyllid o un prosiect i'r llall. Felly, tybed pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd er mwyn sicrhau dull mwy cynaliadwy o ariannu gweithgarwch craidd sefydliadau fel Ymddiriedolaeth Wiwerod Coch Clocaenog ac Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru, sydd wedi gwneud gwaith pwysig iawn yn amddiffyn y rhywogaeth eiconig hon yng Nghymru.