Colledion Mewn Bioamrywiaeth

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 15 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:05, 15 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n falch iawn, Lywydd, fy mod wedi dod â fy rhestr o hyrwyddwyr rhywogaethau ar gyfer Aelodau'r Cynulliad y prynhawn yma. Rwy'n amlwg yn ymwybodol iawn o boblogaeth y wiwer goch yn y goedwig y cyfeiria'r Aelod ati. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio'n agos iawn gydag Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru drwy eu prosiect Red Squirrels United, ac mae hynny wedi golygu bod nifer sylweddol o wirfoddolwyr wedi ymrwymo i sefydlu Ymddiriedolaeth Wiwerod Coch Clocaenog. Yn amlwg, mae cyllid yn fater y mae'n rhaid i mi ei ystyried fesul achos. Rwyf am sicrhau bod cymaint â phosibl o brosiectau o'r fath yn gynaliadwy, felly byddwn yn edrych ar hynny yn y rownd nesaf o grantiau rheoli cynaliadwy.