Y System Gynllunio

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 15 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:20, 15 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Ie, rwy'n ddiolchgar iawn am farn eglur yr Aelod ynglŷn â chynnwys cymunedau mewn apeliadau cynllunio, barn a rannodd gyda mi yn y cyfarfod a gawsom. Rwyf wedi mynegi'r pryderon hyn wrth gyfarwyddwr Arolygiaeth Gynllunio Cymru. Gwn fod fy nghyd-Aelod yn ymwybodol iawn fod yr apêl gynllunio gerbron Gweinidogion Cymru i'w phenderfynu ar hyn o bryd, a'i bod yn deall na allaf wneud sylwadau ar unrhyw agwedd ar y mater gan y gallai gwneud hynny niweidio canlyniad y penderfyniad neu arwain at herio'r penderfyniad ei hun.