Y System Gynllunio

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 15 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:21, 15 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, y llynedd, adroddodd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Chymunedau Senedd yr Alban ar Fil Cynllunio (Yr Alban). Roeddent yn galw am i'r Bil annog ymgysylltu mwy ystyrlon ar geisiadau cynllunio. Croesawyd hyn gan y Royal Town Planning Institute Scotland, a ddywedodd eu bod am greu system gynllunio fwy cydweithredol, lle mae cymunedau a phartneriaid eraill yn cael eu cynnwys ar ddechrau'r broses i nodi a chytuno ar beth sydd ei angen. Pa astudiaeth a wnaed gan y Gweinidog o'r cynigion ym Mil Cynllunio (Yr Alban) i weld pa wersi y gellir eu dysgu i wella llais cymunedau yn y broses gynllunio yng Nghymru, os gwelwch yn dda?