Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 15 Mai 2019.
Weinidog, yn ddiweddar, cefais y pleser o ymweld â datblygiad Lle Ysgol Cymdeithas Tai Rhondda yn Hirwaun, a adeiladwyd gan un o'r cwmnïau adeiladu bach a chanolig eu maint yn lleol, WDL Homes Ltd. Ac roedd y datblygiad tir llwyd hwn yn defnyddio grant tai cymdeithasol i ddatblygu 12 cartref, ac uned fasnachol hefyd, sef siop bentref yn ei hanfod. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â landlordiaid cymdeithasol i annog datblygiad unedau manwerthu fel hyn yn eu prosiectau adeiladau, sy'n darparu incwm i'r landlord, ond yn bwysicach fyth, maent yn ased go iawn i'r gymuned leol, a ninnau'n gwybod bod cynifer o'n cymunedau wedi dioddef neu'n poeni am y posibilrwydd o golli eu siopau pentref?