Tai Fforddiadwy

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 15 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:52, 15 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n synhwyro thema'n datblygu yng nghwestiynau heddiw, Lywydd.

Gwnaf, wrth gwrs. Mae darparu tai fforddiadwy yng nghanolbarth Cymru yn flaenoriaeth, fel y mae adeiladu mwy o gartrefi fforddiadwy ym mhob rhan o Gymru. Rwy'n cydnabod nad yw'r cyflenwad yn ateb y galw ar hyn o bryd. Mae gan awdurdodau lleol sy'n cadw stoc, megis Powys, a chymdeithasau tai rôl allweddol i'w chwarae o ran darparu stoc.