Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 15 Mai 2019.
Diolch, Weinidog. Yn sicr, ni chafwyd unrhyw gydgysylltu ar y thema. Ond yn sicr, mae llawer iawn o denantiaid cymdeithasau tai wedi cysylltu â mi dros y misoedd diwethaf ynghylch yr hyn y teimlant sy'n lefelau anfforddiadwy o rent yn y dyfodol. Mae'r cynnydd yn y rhenti o fewn canllawiau Llywodraeth Cymru. Mae'n fater rwyf wedi ysgrifennu atoch yn ei gylch, ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'n caniatáu isafswm cynnydd o 1.5 y cant ar ben chwyddiant, a £2 yr wythnos. Beth arall a wnewch i sicrhau nad yw cyfraddau rhent mor ddrud i'r rhai sy'n aml ar incwm isel, a pha ystyriaeth a roesoch i gyflwyno asesiad gwerth am arian, tebyg i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr, i roi hyder i denantiaid fod cyfiawnhad dros unrhyw gynnydd yn y rhenti?