Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 15 Mai 2019.
Mae gennym lwybr penodol ar gyfer pobl sy'n gadael y lluoedd arfog. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod y llwybr hwnnw'n gweithio, ac i gael gwell cysylltiad ag aelodau o'r lluoedd arfog yn y flwyddyn cyn iddynt adael y lluoedd arfog. Felly, byddwn yn croesawu gwell cysylltiad yn y broses benodol honno ar gyfer fy swyddogion. Felly, rydym am gael llwybr di-dor inni allu cyfeirio pobl at yr asiantaethau cywir yn yr ardal. Rydym yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cynnal cysylltiadau lleol fel y gall pobl ddychwelyd at unrhyw gymuned y teimlant fod ganddynt gysylltiad lleol â hi, neu yn wir, os ydynt wedi creu bywyd wrth fod yn y lluoedd arfog yn rhywle arall, eu bod yn gallu cynnal cysylltiad â theulu a ffrindiau. Fy nealltwriaeth i yw bod pobl yn trosglwyddo orau o'r lluoedd arfog pan fyddant yn symud i mewn i gymuned sy'n barod i'w derbyn a lle mae ganddynt lawer o gysylltiadau. Felly, rwy'n fwy na pharod i weithio gyda'r Aelod os hoffai fy rhoi mewn cysylltiad ag unrhyw un sydd â phryderon ynglŷn â hyn i sicrhau bod y llwybr yn gywir.
Ar hynny, cefais fy atgoffa gan y Dirprwy Weinidog ei bod yn lansio adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar y cyfamod yfory, sydd wedi cael llawer o fewnbwn gan y grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog. Felly, rydym yn falch iawn o fod yn rhan o hynny hefyd.