Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 15 Mai 2019.
Wel, gobeithiaf fod eich ymateb yn golygu y byddwch yn mynd i'r afael â hyn yn awr o fewn y llwybr gyda'ch swyddogion.
O ystyried eich ymateb blaenorol, efallai eich bod wedi clywed am Project 360°—partneriaeth rhwng Age Cymru, yr elusen i gyn-filwyr Woody's Lodge, a Chynghrair Henoed Cymru—sy'n darparu lle croesawgar i gyn-filwyr y lluoedd arfog, rhai sydd wedi gadael yn ddiweddar a milwyr wrth gefn, a ariennir gan gronfa cyn-filwyr hŷn Canghellor y DU, ac sy'n cefnogi cyn-filwyr hŷn ledled Cymru.
Yn ddiweddar, cefais ohebiaeth gan Age Cymru ynghylch gofalwr o Gonwy a soniai am yr heriau ychwanegol y mae'n eu hwynebu wrth ofalu am ei gŵr sy'n gyn-filwr ac sydd â dementia fasgwlaidd. Er ei fod yn ymweld â grwpiau cymdeithasol ar gyfer cyn-filwyr, fel Woody's Lodge ym Mae Colwyn, lle mae'n teimlo'n ddigon cyfforddus i sgwrsio â chyd-ymwelwyr am eu cyfnod yn y lluoedd arfog, dywedodd eu bod hefyd wedi mynychu grwpiau cymorth i bobl nad ydynt yn gyn-filwyr, ac nad ydynt yn diwallu ei anghenion. Er iddo fwynhau'r dosbarthiadau ymarfer corff, nid oedd am sgwrsio ag unrhyw un yno y teimlai nad oedd ganddo unrhyw beth yn gyffredin â hwy. Dywedodd, 'Buaswn wrth fy modd yn gweld mwy o weithgareddau i gyn-filwyr gan eu bod yn cynnig cymorth sy'n canolbwyntio cymaint ar yr unigolyn.' Ac mae Project 360° yn amau y gall fod miloedd o bobl fel hyn yng Nghymru, gyda gofalwyr llawn amser yn ymdrechu i ddiwallu anghenion eu hanwyliaid sydd â chyflyrau cronig a'r cymhlethdod ychwanegol o fod yn gyn-filwr sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â'r byd sifil. Sut y bwriadwch fynd i'r afael â phryder o'r fath wrth i chi edrych tua'r dyfodol gyda'ch cyd-Aelodau mewn adrannau cysylltiedig?