Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 15 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:42, 15 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Dirprwy Weinidog wedi bod yn bwrw ymlaen ag ef. Mae hi wedi fy atgoffa, unwaith eto, ei bod yn lansio'r adroddiad yn Woody's Lodge i weld drosti'i hun yr hyn y gellir ei wneud yn rhan o'r gwaith o sicrhau bod cyn-filwyr yn cael y mathau o wasanaethau a fydd yn eu galluogi i gael y math o brofiadau a ddisgrifiodd Mark Isherwood yn ei ateb. Rwy'n fwy na pharod i sicrhau bod y Dirprwy Weinidog yn ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion unrhyw brosiectau eraill y bu'n edrych arnynt yn ddiweddar,FootnoteLink ac os hoffai roi manylion yr etholwr y cyfeiriodd ati i mi, rwy'n fwy na pharod i edrych ar hynny hefyd.