– Senedd Cymru am 4:06 pm ar 15 Mai 2019.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar gynnal hyder yn y weithdrefn safonau, a dwi'n gofyn i'r Cadeirydd i gyflwyno ei datganiad—Jayne Bryant.
Diolch, Lywydd. Mae gwaith y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn rhan annatod o sicrhau ein bod ni, fel cynrychiolwyr etholedig yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, yn cynnal hyder ac ymddiriedaeth y rhai sy'n rhoi eu ffydd ynom i'w cynrychioli.
Cafodd system y comisiynydd annibynnol ei chyflwyno yn 2011. Roedd gan swydd statudol y comisiynydd safonau bwerau pwysig i gynnal ymchwiliadau trylwyr i gwynion yn erbyn Aelodau Cynulliad cyn adrodd i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Roedd creu'r swydd hon yn arwyddocaol. Ei nod oedd rhoi mwy o hyder i bobl Cymru yn eu cynrychiolwyr etholedig drwy ymgorffori mewn cyfraith bwerau ac annibyniaeth comisiynydd safonau'r Cynulliad.
Rydym bellach mewn hinsawdd wahanol i 2011. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae llawer o sylw wedi'i roi i ymddygiad amhriodol ac aflonyddu rhywiol drwy'r gymdeithas gyfan. Mae hashnod MeToo, cam sydd wedi galluogi pobl ledled y byd i godi llais a mynegi eu pryderon, wedi dangos na ellir gwadu'r angen am newid. Yn sicr, nid yw gwleidyddiaeth yn eithriad. Un ffactor allweddol wrth gyflawni'r newid hwn yw sicrhau bod gan bobl hyder i fynegi pryderon yn gyfrinachol heb ofni y byddai'r wybodaeth, sy'n aml yn sensitif, yn cael ei rhannu. Mae hefyd yn ddyletswydd arnom i wneud yn siŵr ein bod yn annog mwy o gynrychiolaeth yn y system wleidyddol. Ni fydd hyn yn bosibl heblaw fod gennym ddiwylliant sy'n wirioneddol gynhwysol ac yn grymuso.
Mae'n hynod o siomedig felly fod nifer o gwynion i'r comisiynydd safonau yn ddiweddar wedi cael eu rhyddhau i'r cyfryngau cyn i'r broses ddod i ben. Yn y ddau achos diwethaf, digwyddodd cyn i'r pwyllgor ddechrau ystyried y gŵyn hyd yn oed. Effeithir yn sylweddol ar waith y pwyllgor pan fydd cwyn neu gynnwys adroddiad comisiynydd yn ymddangos yn gyhoeddus cyn i ni ystyried y mater. Mae'n tanseilio'r system yn fawr ac yn golygu bod y pwyllgor yn ystyried adroddiad yn erbyn cefndir o sylwadau a dyfalu o'r tu allan. Nid yw hyn yn deg i achwynwyr nac i'r rhai sy'n destun cwyn.
Rydym yn pryderu'n fawr y gall y cyhoeddusrwydd a'r sylw yn y cyfryngau sy'n deillio o achosion o'r fath o dorri cyfrinachedd fod yn rhwystr rhag gwneud cwyn ffurfiol, yn enwedig os yw o natur sensitif. Mae hyn yn peri gofid ac yn groes i'r gwaith sy'n cael ei wneud ar draws y Cynulliad i sicrhau hyder yn y modd yr ymdrinnir â phryderon ac ymddygiad amhriodol.
Fel gwleidyddion etholedig, mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau ein bod yn gosod y safonau uchaf fel esiampl i'r gymdeithas ehangach. Mae'n hollbwysig fod pob un ohonom yn ysgwyddo cyfrifoldeb am gyflawni hyn. Hoffwn atgoffa pob Aelod na ddylem ddatgelu, cyfathrebu na thrafod unrhyw agwedd ar gŵyn gyda'r wasg na chyfryngau eraill nes i adroddiad y pwyllgor gael ei gyhoeddi. Gall hyn gynnwys trafod unrhyw gwynion posibl cyn iddynt gael eu gwneud yn swyddogol. Bydd methu cadw at y weithdrefn hon yn dramgwydd yn erbyn y cod ymddygiad ac ymdrinnir ag ef yn y modd hwnnw.
Rwy'n croesawu'r datganiad hwn heddiw gan Gadeirydd y pwyllgor safonau. Yn anffodus, roedd angen sefydlu comisiynydd safonau annibynnol ar gyfer y Cynulliad, ac yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae'n debyg y bydd mwy o'i angen na phan gafodd ei sefydlu i ddechrau. Rhaid i'r ymchwiliadau gael eu gweld fel rhai trwyadl a bydd yn rhaid i gasgliadau a gyflwynir wedyn i'r pwyllgor eu hystyried yn briodol aros yn gyfrinachol er mwyn eu galluogi i gyflawni camau gweithredu ystyriol heb i ddylanwadau allanol amharu arnynt.
Yn fy marn i, roedd y ddau achos o ddatgelu answyddogol i'r cyfryngau yn weithredoedd bwriadol a danseiliai'r broses honno, a chytunaf â'r datganiad heddiw fod hynny'n peri gofid mawr, a'i bod yn hollbwysig fod unrhyw AC, boed yn achwynydd neu'n destun cwyn, yn deall eu bod yn tramgwyddo ein cod ymddygiad. Fy nghwestiwn i chi fel Cadeirydd yw sut y gall y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ddisgwyl gallu gorfodi'r dyfarniad penodol hwnnw.
Diolch am eich sylwadau, Joyce, ac rwy'n hynod werthfawrogol o'r cyfle i wneud y datganiad hwn, eto heddiw, fel y dywedais, Lywydd, ac rwyf am sicrhau pob Aelod a'r cyhoedd fod hyn yn cael sylw. Rydym wedi bod yn bryderus iawn am y peth ac rydym wedi cymryd camau pan fo angen i ni wneud hynny. Cawsom ymholiadau i ddatgelu answyddogol ynglŷn â hyn, ynglŷn â'r ddau bwynt a nododd Joyce heddiw, ac yn sgil hynny, rydym—gallodd yr ymchwiliadau hynny i ddatgelu answyddogol awgrymu nifer o welliannau i'r prosesau diogelwch, sydd bellach wedi'u gweithredu.
Ond i ailadrodd, mae mor bwysig ein bod yn glir fod unrhyw ddatgelu answyddogol yn tanseilio'r system yn fawr ac yn golygu bod y pwyllgor yn ystyried adroddiad yn erbyn cefndir o sylwadau a dyfalu allanol, ac nid yw'n deg i'r achwynwyr ac nid yw'n deg i'r rhai sy'n destun y gŵyn.
Diolch i'r Cadeirydd.