– Senedd Cymru am 4:12 pm ar 15 Mai 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, a heddiw y Bil cerbydau cyhoeddus di-allyriad carbon. Dwi'n galw ar Rhun ap Iorwerth i wneud ei gynnig.
Cynnig NDM7020 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig am fil cerbydau cyhoeddus di-allyriad carbon.
2. Yn nodi mai diben y bil hwn fydd:
a) hybu'r defnydd o gerbydau trydan neu gerbydau di-allyriadau yng Nghymru er mwyn helpu i leihau allyriadau carbon; a
b) gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i lunio strategaeth i symud tuag at ddefnyddio cerbydau trydan neu gerbydau di-allyriadau yn y fflyd gyhoeddus yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wel, wythnos ac ychydig yn ôl, mi wnaeth y Senedd yma bleidleisio i ddatgan argyfwng hinsawdd—cam symbolaidd pwysig. Plaid Cymru oedd wedi cyflwyno’r cynnig, ac, ar drothwy hynny, mi wnaeth y Llywodraeth ddatgan eu bod nhw’n barod i wneud y datganiad. Mi oedd o’n ddatganiad symbolaidd pwysig iawn, a dwi’n edrych ymlaen at drafod hynny efo ymgyrchwyr amgylcheddol yn fy hen ysgol, Ysgol David Hughes, yfory.
Ond, tra bod y symbolaeth yn arwyddocaol, yn ein parodrwydd i weithredu mai mesur ein difrifoldeb ni ynglŷn â mynd i’r afael â’r argyfwng yna. Yma yn y Siambr brynhawn ddoe, mi oedden ni’n gwrando ar ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar deithio llesol. Mae’r term Cymraeg yn well na’r term Saesneg, a dweud y gwir: 'active travel' ydy o’n Saesneg. Mae ‘llesol’ yn Gymraeg yn golygu 'beneficial', a, drwy’r Ddeddf yna, beth dŷn ni’n ei wneud ydy gofyn i bobl wneud dewisiadau teithio sy’n fwy llesol iddyn nhw eu hunain—o ran eu hiechyd, ie, ond hefyd dŷn ni’n sôn am fod yn llesol i’r amgylchedd.
Mi roddodd y Gweinidog ystadegyn inni ddoe: mae 13 y cant o allyriadau newid hinsawdd yng Nghymru, meddai fo, yn dod o drafnidiaeth, ac maen nhw i gyd, bron, yn dod o’r car preifat efo’i beiriannau petrol neu ddisel. Ddoe, mi gafon ni drafodaeth ar sut i helpu pobl i ddewis teithio dan eu stêm eu hunain—ar droed neu ar gefn beic—dyna ichi un ffordd o daclo allyriadau. Yn fwy arwyddocaol wedyn mai annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth dorfol, trafnidiaeth gyhoeddus, cael allan o’u ceir, dewis opsiynau teithio torfol sy’n garedicach i’r amgylchedd. Dwi’n cytuno 100 y cant efo hynny; mae’n rhaid buddsoddi mewn creu rhwydweithiau a systemau teithio cyhoeddus deniadol, effeithiol, glân, sy’n gallu gyrru’r math yna o newid yn y ffordd dŷn ni’n symud o A i B. Mi allwn ni hefyd drafod ffyrdd o atal mwy o siwrneiau A i B fel bod pobl yn gweithio ym mhwynt A ac yn byw yno, yn hytrach na gorfod mynd i bwynt B o gwbl.
Ond, yng nghanol y cyfan, mae’r car preifat yn dal yn mynd i fod yn nodwedd bwysig o’n tirwedd trafnidiaeth ni am sbel. Mi fydd yna newid. Mi fydd yna fwy o rannu ceir, gobeithio; mi ddaw awtomeiddio, lle bydd ceir yn cyrraedd heb yrrwr ynddyn nhw. Ond mi fydd yna, am rai blynyddoedd dwi’n siŵr, geir ar ein ffyrdd ni. Ac nid dim ond ceir, wrth gwrs; mi fydd yna faniau, lorïau nwyddau ac mi fydd yna gerbydau trwm yn cynnal a chadw ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn y blaen. Felly, mae’n rhaid eu gwneud nhw’n lanach. Y tu allan i’r Senedd yma’n gynharach heddiw, mi roedd hi’n braf croesawu cwmnïau Audi, BMW, Hyundai, Kia, Nissan a Renault i ddangos eu cerbydau trydan diweddaraf nhw. Mae’r dechnoleg yn symud ymlaen yn gyflym. Ceir llwyr drydanol yn gallu teithio ymhellach—200 milltir a mwy ar un gwefriad; 300 a mwy, rhai, a gwefru’n digwydd yn gyflymach. Ond, mae yna gamau brys sydd angen eu cymryd er mwyn normaleiddio cerbydau allyriadau isel iawn.
Yn gynharach heddiw hefyd, mi wnes i gyhoeddi adroddiad a oedd yn dilyn ymweliad gen i i’r Alban yn amlinellu'r gwersi y gallwn ni ddysgu o’r Alban ar gyfer dyfodol ceir trydan yng Nghymru. Mi ges i gyflwyno copi i Gadeirydd pwyllgor yr economi, Russell George, a dwi’n ddiolchgar i’r pwyllgor hwnnw am gynnal ymchwiliad yn y maes hwn. Dwi’n gobeithio bydd fy adroddiad i’n rhywfaint o ddefnydd i’r pwyllgor. Ond, efallai mai’r prif beth ddysgais i o’r Alban oedd bod angen ffocws clir a strategaeth benodol. Mae angen penderfynoldeb i yrru’r strategaeth honno’n ei blaen, i gyflwyno llawer mwy o bwyntiau gwefru a sicrhau bod y rheini’n gweithio, i gasglu data ar eu defnydd nhw, ac yn y blaen, ac i gyflwyno mwy o incentives mewn gwahanol sectorau—tacsis, er enghraifft—i feddwl sut mae plethu defnydd o geir trydan efo trafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol yn ein dinasoedd ni.
Diolch am adael i fi siarad am funud. Dwi wedi cael cyfle i edrych ar yr adroddiad dŷch chi wedi'i ysgrifennu. Dwi'n meddwl ei fod yn adroddiad arbennig o dda, ac mae'n dangos y math o uchelgais sydd ei angen arnom ni. Mi fyddaf i'n eich cefnogi chi y prynhawn yma pan mae'n dod i'r bleidlais. Ydych chi'n cytuno gyda fi taw beth sydd angen nawr yw strategaeth, amserlenni ac arian i sicrhau ein bod ni'n gallu cyrraedd y math o uchelgais dŷch chi'n ei disgrifio yn eich adroddiad?
Diolch yn fawr iawn am y sylwadau yna. Roedd hi'n braf gweld yr Aelod dros Flaenau Gwent yn y digwyddiad y tu allan i'r Cynulliad yn gynharach, a dwi'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth. Ac oes, yn sicr, mae angen strategaeth glir, a dyna ydy un o'r consyrns sydd gen i: ein bod ni'n disgyn ar ei hôl hi.
Ond, i'r Senedd yma fel deddfwrfa, mae angen i ni, wrth ymateb i'r ffaith ein bod ni wedi gwneud y datganiad argyfwng hinsawdd yma'n fwy na dim, feddwl sut y gallwn ni ddefnyddio'r hyn sydd gennym ni fel arfau. Ac un o'r pethau dŷn ni'n gallu ei wneud fel deddfwrfa ydy deddfu. Y llynedd, mi wnes i gynnig deddfwriaethol yn cynnig Bil cynllunio i osod canllawiau ar gyfer gosod isadeiledd gwefru mewn datblygiadau newydd, ac yn y blaen. Ac roeddwn i'n falch iawn o weld Llywodraeth Cymru'n adlewyrchu ar rai o'r rheini yn ei chynllun carbon isel diweddar. Y tro yma, beth sydd gen i ydy Bil cerbydau cyhoeddus di-allyriad carbon. Y diben ydy hybu'r defnydd o gerbydau trydan, neu gerbydau di-allyriadau carbon eraill, fel hydrogen, drwy osod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill, o gynghorau i awdurdodau lleol, i lunio strategaeth i symud yn benodol tuag at ddefnyddio cerbydau felly yn eu fflyd nhw. Mae'n bwysig, dwi'n meddwl, i fi ddweud bod yna arwyddion o arfer da yn dod i'r amlwg mewn sawl cyngor ar draws Cymru.
Un peth ddysgais i o'r Alban, yn Dundee yn benodol: cwpwl o unigolion penderfynol oedd wedi gyrru arloesedd ymlaen yn Dundee. Dŷn ni angen gallu adnabod y bobl frwdfrydig, benderfynol hynny yng Nghymru. Ond, dwi'n meddwl bod deddfu'n gallu bod yn arf y dylem ni ei ddefnyddio. Cynnig ydw i bod yna hwb yn cael ei roi, drwy ddeddfwriaeth, i wneud yn siŵr bod pob corff cyhoeddus yn cyhoeddi strategaeth ar sut maen nhw'n mynd i symud yn eu blaenau. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, yn digwydd bod, wedi gwneud asesiad o'u sefyllfa eu hunain, a dod i'r canlyniad y gallai newid ychydig dros hanner o'u fflyd nhw—. Dydyn nhw ddim yn gallu newid pob cerbyn ar hyn o bryd, ond pe baen nhw'n newid ychydig dros hanner eu fflyd, bydden nhw'n arbed 413 tunnell o allyriad carbon deuocsid bob blwyddyn, ac ar ben hynny yn arbed £136,000.
Felly, dewch ymlaen, gadewch inni roi sêl bendith drwy bleidlais yma heddiw i'r syniad o ddatblygu Deddf—achos deddfwrfa ydyn ni—er mwyn gwthio strategaeth dŷn ni i gyd yn ei chefnogi mewn egwyddor yn ei blaen, ond lle ydyn ni'n ystyried beth allwn ni'n benodol ei wneud fel Aelodau etholedig yn ein Senedd genedlaethol ni.
Diolch i chi am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol y prynhawn yma. A gaf fi ddweud bod y Ceidwadwyr Cymreig a minnau yn llwyr gefnogi'r cynnig deddfwriaethol a gyflwynwyd gan Rhun ap Iorwerth y prynhawn yma? Roeddwn yn falch hefyd o gefnogi'r digwyddiad y soniodd Rhun amdano'n gynharach heddiw, lle lansiodd ei adroddiad yn sôn am brofiad yr Alban, ac yn wir roeddwn yn ddiolchgar iawn iddo am ddarparu copi o'r adroddiad hwnnw i mi ac i aelodau'r pwyllgor ymlaen llaw, oherwydd mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar hyn o bryd yn gwneud gwaith ar seilwaith gwefru cerbydau trydan. Yn y gwaith a wnawn, rydym wedi defnyddio dull o weithredu sydd ychydig yn wahanol i'r arfer, gan ein bod wedi cymryd tystiolaeth, ac yn hytrach na chyhoeddi ein canfyddiadau gydag argymhellion a chasgliadau, rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad ar ffurf ddrafft gyda'n casgliadau a'n hargymhellion sy'n datblygu ar gyfer ymgynghori ymhellach arnynt, ac mae'n ymddangos bod y dull hwnnw wedi gweithio. Bydd cyfle arall i mi siarad am rai o'r casgliadau sy'n datblygu pan ddaw'n bryd inni drafod hynny yn y Siambr hon.
Ond hoffwn nodi un pwynt. Un o'r themâu a ddaeth i'r amlwg, neu'n sicr un o'r ymatebion a gawsom yn ddiweddar, oedd bod Cymru'n anialwch o ran gwefru ac ar hyn o bryd, nad yw'r seilwaith yn ddigon i ymdopi â'r galw presennol, heb sôn am alw cynyddol. Rwy'n difaru nad wyf wedi defnyddio'r sgriniau sydd gennym heddiw i ddangos y Zap-map y mae'r Llywodraeth hefyd yn ei ddefnyddio i gael ei gwybodaeth ei hun ynglŷn â'r ddarpariaeth a phwyntiau gwefru ar draws Cymru a Lloegr, oherwydd pe baech yn gweld y map hwnnw, byddai'r stori'n adrodd ei hun. Mae gan Loegr wasanaeth eithaf da, yn sicr mewn ardaloedd trefol, ond yng Nghymru—mae gennym lond llaw yn y gogledd, llond llaw yn y de, ac anialwch mawr yn y canol.
Nawr, cyhoeddodd y Llywodraeth £2 filiwn o fuddsoddiad i wella'r mannau gwefru a'r seilwaith pwyntiau gwefru, ond nodwn fod y Llywodraeth yn yr Alban wedi ymrwymo £14 miliwn i gefnogi seilwaith ac i gefnogi'r agenda carbon isel, ac mae £8 miliwn ohono wedi'i neilltuo ar gyfer seilwaith gwefru o gynllun Plugged-in Places Llywodraeth y DU. Credaf y dylem ni, neu Lywodraeth Cymru yn sicr, fod yn hyrwyddo buddsoddiad sector preifat hefyd yn ogystal â chymhorthdal cyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac mewn rhai achosion, efallai na fydd angen i'r Llywodraeth hyrwyddo arian cyhoeddus hyd yn oed, oherwydd daw hynny ei hun drwy'r sianeli arferol. Ond yr hyn y mae angen inni fynd i'r afael ag ef yw'r seilwaith yng nghefn gwlad Cymru, ac nid ar gyfer y rhai sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru yn unig y mae angen seilwaith arnom, ond wrth gwrs, i gyrraedd unrhyw le, os ydych am fynd o'r gogledd i'r de, rydych yn gyrru drwy gefn gwlad Cymru, felly mae arnoch angen seilwaith yno i gynnal y rhwydwaith.
Roeddwn yn falch hefyd—yn ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ganiatáu i'w swyddog ddod i gyfarfod ddydd Llun yn y Drenewydd, lle daeth swyddog o Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Powys a rhanddeiliaid eraill at ei gilydd i ymchwilio i rai o'r problemau ac i gyfnewid gwybodaeth hefyd. Y prif fater a lywiai'r cyfarfod hwnnw oedd diffyg seilwaith gwefru yng nghefn gwlad Cymru a sicrhau y bydd unrhyw strategaeth a ddaw, fel y bydd yn ei wneud gan fod y Gweinidog wedi dweud y bydd yn dod yn 2020, yn mynd i'r afael â rhai o'r problemau hynny. Nid oes gennyf amser ar ôl—mae'n flin iawn gennyf, nid wyf wedi dweud cymaint ag yr hoffwn ei ddweud—ond caf gyfle arall pan ddaw'n bryd i'r pwyllgor drafod yr adroddiad hwn yn ddiweddarach yn y flwyddyn, mae'n siŵr.
Diolch am gyflwyno'r cynnig hwn ar gyfer Bil. Cytunaf fod yn rhaid inni ddod o hyd i ffordd lanach o fynd o A i B, a byddaf yn cefnogi'r cynnig. Fodd bynnag, er bod llawer o bobl yn breuddwydio am y diwrnod pan fyddwn oll yn gallu troi cefn ar ddiesel a phetrol, a buaswn yn cytuno â hwy ar hynny, rhaid inni fod yn ofalus nad ydym yn rhuthro i hyrwyddo cerbydau trydan ac yn ystyried o ddifrif realiti cyflwyno ceir trydanol ar lefel dorfol. Felly, yn fy nghyfraniad i heddiw, rwy'n mynd i ganolbwyntio ar gerbydau trydan. O ran yr amgylchedd, rydym yn aml yn sôn am ein cyfrifoldeb, nid yn unig tuag at Gymru ond tuag at weddill y byd hefyd, ac mae angen inni gofio hynny wrth hyrwyddo cerbydau trydan.
Mae cerbydau trydan yn dibynnu ar fatris. Mae angen cobalt ar fatris, a daw'r rhan helaeth ohono o'r Congo—ardal sy'n rhemp o wrthdaro. At hynny, manteisir ar blant i weithio yn y mwyngloddiau cobalt ar gyflog caethweision, a defnyddir llawer o'r elw a wna'r cwmnïau i ariannu rhyfel cartref. Mae'r term 'batris gwaed' bellach wedi mynd yn rhan o eirfa'r rhai sy'n sôn am ddatblygu cerbydau trydan, a rhaid inni sicrhau nad ydym yn rhan ohono. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr, wrth inni sgrialu i ddod o hyd i ffurf wahanol ar danwydd ar gyfer ein ceir, nad ydym yn hybu wrthdaro, tlodi a llafur plant wrth wneud hynny—ni waeth pa mor bell o Gymru y mae. Yn ôl y sôn, mae Tesla wedi dweud eu bod yn ystyried cael cobalt o Cuba, ond yn yr ymdrech fyd-eang i ddod o hyd i'r adnodd cyfyngedig hwn, ar ôl dihysbyddu'r ffynonellau moesegol, fe ddaw o ffynonellau llai moesegol. Ni fydd dewis arall. Felly, lle mae pwynt 2(b) yn sôn am strategaeth i symud tuag at ddefnyddio cerbydau trydanol, a gawn ni sicrhau mai elfen gyson yn y strategaeth honno yw na fyddwn yn defnyddio cerbydau sy'n cynnwys deunyddiau gwrthdaro neu fatris gwaed?
Ond nid y ffynonellau moesegol yn unig sy'n peri pryder i mi. Rhaid datrys rhai o'r agweddau ymarferol cyn inni ruthro tuag at ddefnyddio cerbydau trydan ar raddfa fawr. Y broblem fwyaf, yn amlwg, fydd ailwefru. Lle gallwn ail-lenwi'n gyflym ar ein taith ar hyn o bryd, ni cheir seilwaith na thechnoleg sy'n caniatáu hynny i'r un graddau yn awr, ac mae siaradwyr eraill wedi cyfeirio at hynny. Mewn llawer o orsafoedd petrol, hyd yn oed yn awr, ceir rhes o geir yn aros am y pympiau petrol, ac rwy'n sylweddoli nad oes rhaid cyfyngu pwyntiau gwefru i orsafoedd petrol, ond bydd yn rhaid cael rhai pwyntiau canolog ar gyfer gwefru i bobl eu defnyddio pan fyddant ar eu taith. Felly, mae gennym giwiau eisoes; pa mor fawr fydd yn rhaid i'r canolfannau ailwefru hyn fod os yw ailwefru'n cymryd, dyweder, 30 munud yn hytrach na phum munud yn unig i lenwi â phetrol neu ddiesel? Beth sy'n digwydd os yw car angen ei ailwefru cyn cyrraedd pwynt ailwefru? Nid yw'r gyrrwr yn mynd i allu cario can petrol i lawr y lôn i orsaf betrol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, parhewch.
Rwy'n credu mai un o'r datblygiadau y byddwn yn eu gweld yn y blynyddoedd i ddod yw y byddwch yn ailwefru wrth i chi fynd, gydag ailwefru milltiroedd o briffyrdd, felly ni fydd rhaid i chi aros o gwbl.
Ie, ffantastig, ond rydych yn dweud ei fod yn un o'r datblygiadau sydd i ddod. Yr hyn rwy'n ei ddweud yw nad cyflwyno cerbydau trydanol ar raddfa fawr cyn i'r dechnoleg a'r seilwaith ddal i fyny yw'r ffordd orau o'i wneud.
O'r gorau. Felly, ni allwn ddweud yn sicr po fwyaf eang yw'r defnydd o gerbydau trydanol, y cyflymaf y bydd y dechnoleg yn dal i fyny, a hyd nes y gall gyrrwr wneud taith hir heb orfod ailwefru sy'n cynnwys bod yn sownd mewn tagfa ar y draffordd am rai oriau yn y gaeaf, nid yw cerbydau trydan yn mynd i ddod yn ffasiynol. Peidiwch â chamddeall; nid wyf yn erbyn cerbydau trydan ynddynt eu hunain. Y cyfan rwy'n ei ddweud yw bod yna ganlyniadau y mae angen i ni feddwl amdanynt. Iawn—
A allwch chi feddwl am ddirwyn i ben? Mae'n ddrwg gennyf. Tri munud sydd yna i bob Aelod.
Fe wnaf fwrw ati. Un pwynt arall sydd gennyf.
Pryder arall yw natur ddistaw ceir trydanol. Mae'r gallu i glywed cerbyd yn dod yn hanfodol i gadw eich hun yn ddiogel ar y ffordd ac ar ymyl y ffordd. Yr hyn sy'n fy mhoeni yw bod ceir trydan mor dawel fel bod hynny'n peri risg i iechyd a diogelwch. Felly, hoffwn i weithgynhyrchwyr fynd i'r afael â'r perygl hwnnw i iechyd a diogelwch.
Ac yn olaf, hoffwn dynnu sylw at y ffaith mai 50 y cant yn unig o lygredd o geir sy'n dod o'r injan a'r bibell fwg. Daw gweddill y llygredd o'r teiars a'r llwch brêcs mewn gwirionedd, felly mae angen inni gynnwys hynny yn rhan o'r strategaeth er mwyn edrych am ffyrdd o leihau'r llygredd hwnnw. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates?
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'n fawr y cyfle i ymateb heddiw, a hoffwn ddiolch i Rhun ap Iorwerth am gyflwyno'r cynnig hwn. Daw ar adeg arbennig o briodol, yn dilyn ein datganiad am argyfwng hinsawdd ar 29 Ebrill. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd yr awenau o ran ymateb i'r galwadau am weithredu gan bobl o bob oed sy'n poeni am effeithiau real iawn newid yn yr hinsawdd.
Yn ôl ym mis Mawrth, lansiwyd 'Cymru Carbon Isel', ein cynllun datgarboneiddio trawslywodraethol statudol cyntaf. Mae'n cynnwys 100 o argymhellion a chamau gweithredu, gydag oddeutu eu hanner yn ymwneud â thrafnidiaeth. Mae'r cynllun yn cynnwys polisïau i gynyddu'r gyfran o gerbydau trydan a cherbydau allyriadau isel iawn, gan gynnwys uchelgais beiddgar iawn ar gyfer bysiau a thacsis a cherbydau hurio preifat di-allyriadau erbyn 2028. Rydym yn cydnabod rôl arweiniol y sector cyhoeddus, felly mae'r cynllun hefyd yn cynnwys cynnig y dylai pob car newydd a cherbyd nwyddau ysgafn yn fflyd y sector cyhoeddus fod yn rhai allyriadau isel iawn erbyn 2025 a lle bo'n bosibl, fod yr holl gerbydau nwyddau trwm yn rhai allyriadau isel iawn erbyn 2030. Bydd cyflwyno cerbydau carbon isel i fflyd y sector cyhoeddus nid yn unig yn cyfrannu at ein nod o gael sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030, ond bydd hefyd yn cynyddu amlygrwydd ac yn normaleiddio'r defnydd o gerbydau allyriadau isel iawn ar gyfer ein staff sector cyhoeddus, defnyddwyr gwasanaethau, a'r cyhoedd wrth gwrs.
Gan fod y rhan fwyaf o'n cyrff cyhoeddus eisoes yn mynd i'r afael â'r mater hwn, prin yw'r dystiolaeth fod angen deddfwriaeth i ysgogi datblygiad strategaethau. Yn wir, y bore yma amlinellais ddatblygiad ein gweledigaeth a'n strategaeth ar gyfer gwefru cerbydau trydan ar draws y wlad, pan fynychais Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Rydym yn cynllunio i'r seilwaith gwefru sydd ar gael i'r cyhoedd allu ateb y galw a grëir gan y nifer fawr o bobl a fydd yn defnyddio cerbydau trydan, ond rwy'n disgwyl i'r sector preifat a darparwyr cyfleusterau gwefru cerbydau trydan gyflawni'r rhan helaethaf o'r seilwaith. Ein rôl yw asesu lle mae bylchau yn y ddarpariaeth a gweithredu lle bo angen er mwyn mynd i'r afael â methiant y farchnad. Bydd ein strategaeth, yr ymgynghorir arni ochr yn ochr â strategaeth drafnidiaeth Cymru, yn defnyddio'r un dull ag a weithredwyd gennym wrth gaffael y gweithredwr a'r partner datblygu ar gyfer y fasnachfraint reilffyrdd newydd, lle rydym yn defnyddio eiddo cyhoeddus a thir cyhoeddus i ddod â'r farchnad i fuddsoddi mewn gosod pwyntiau gwefru ar sail consesiwn. Bydd ein strategaeth newydd yn sicrhau bod rhwydwaith gwefru safonol cenedlaethol yn cael ei ddarparu, gyda buddsoddiad y sector preifat yn bennaf, ond gyda'r budd gorau i'r cyhoedd yn ganolog i'w weithrediad.
Yng ngoleuni'r polisïau a'r argymhellion sydd gennym yn 'Cymru Carbon Isel' a'r strategaeth sydd ar y gorwel ar gyfer rhwydwaith gwefru cerbydau trydan ledled Cymru, nid wyf yn teimlo bod angen deddfwriaeth ar hyn o bryd. Ond wrth gwrs, rwy'n fodlon adolygu hyn yn y dyfodol. Buaswn yn annog pob Aelod i weithio gyda ni ar hyn. Bydd cyflawni ein targedau datgarboneiddio uchelgeisiol yn galw am arweinyddiaeth sylweddol, am newid, am gydweithio â'n partneriaid, ac am ymwneud y gymdeithas yn ei chyfanrwydd. Gan weithio gyda'n gilydd a dangos arweiniad fel unigolion yn ogystal â chyda'n gilydd ar y mater hwn, rwy'n hyderus y gallwn wneud gwahaniaeth go iawn.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw yn awr ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan, a diolch i'r Gweinidog am ei ymateb. Ychydig eiliadau'n unig sydd gennyf i ymateb. Credaf fy mod wedi gwneud yr holl bwyntiau yr oeddwn am eu gwneud yn fy araith agoriadol, ond credaf fod cefnogaeth eang i'r egwyddorion. Credaf fod Michelle Brown yn iawn i ofyn cwestiynau. Pe bai digon o amser gennyf, credaf y gallwn fynd i'r afael â nifer o'r cwestiynau a oedd ganddi. Ond mae hyn yn rhan o'r drafodaeth ehangach yr ydym yn ei chael i feithrin hyder pobl yn y dechnoleg sy'n datblygu ac yn dod i'r amlwg.
Mae hon yn ddadl ar nodi'r cynnig hwn. Gobeithio y bydd y Cynulliad yn pleidleisio'n gadarnhaol i nodi'r cynnig hwn heddiw. Wrth gwrs, nid deddfwriaeth yw'r unig ateb o reidrwydd, ond rhaid inni ddal ati i ystyried deddfwriaeth fel arf posibl. Rwy'n croesawu'r arwyddion o symud tuag at gael strategaeth. Er enghraifft, pan fydd y cynllun carbon isel yn sôn am fod eisiau symud tuag at fflyd gyhoeddus sy'n ddi-allyriadau erbyn 2025, yr hyn yr hoffwn ei wybod yw sut. Pryd fyddwn ni'n gwneud hyn? Sut fyddwn ni'n gwneud hyn? Dyna pam y mae angen i ni symud ar fyrder tuag at gael strategaeth ar draws Cymru gydag allyriadau isel iawn yn ffocws clir, oherwydd mae'n mynd i fod yn rhan hynod o amlwg o ddyfodol ein trafnidiaeth.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi'r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbyniwyd y cynnig.