Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 15 Mai 2019.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, ymwelais ag ysgol Parc Cornist yn Sir y Fflint i edrych ar y ddarpariaeth amser cinio. Pam? Gan mai Sir y Fflint oedd yr unig arlwywr ysgolion yng Nghymru i fod wedi cyflawni ardystiad Bwyd am Oes Cymdeithas y Pridd. Beth a welais? Roedd pob plentyn yn cael y pryd bwyd yr oeddent wedi'i ddewis adeg cofrestru y bore hwnnw. Hyd yn oed os oeddent yn olaf i mewn, fe wyddent fod eu henw ar y pryd bwyd hwnnw. Roedd hyn yn cael gwared ar y pryder sydd gan rai plant ynglŷn â bwyta rhywbeth nad ydynt yn ei hoffi neu nad ydynt yn ei adnabod. Roedd goruchwylwyr prydau bwyd yn annog pob plentyn i ychwanegu rhywfaint o salad at eu pryd bwyd, gan dargedu'r nod o saith y dydd; cogydd ymroddedig gyda sgiliau i ddiwallu'r canllawiau bwyta'n iach; y nesaf peth i ddim gwastraff mewn byd lle mae traean o'r holl fwyd yn cael ei daflu; ymagwedd ysgol gyfan at fwyd; arddangosiadau o amgylch yr ysgol yn dathlu bwyd; ac unwaith y mis câi aelodau eraill o'r teulu eu gwahodd i ddod i ginio i helpu i ledaenu'r neges ynglŷn â bwyd iach.
Awgrymaf fod angen hyn ym mhob ysgol er mwyn cyflawni amcanion 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Mae pob ysgol gynradd yn llenwi'r gofrestr ar ddechrau'r diwrnod ysgol. Felly pam na all pob disgybl cynradd ddewis eu cinio ar yr un pryd? Mae'n dechrau digwydd yng Nghaerdydd, ond yn bendant nid yw ar gael i bawb. Beth sydd i beidio â'i hoffi ynglŷn â chael gwared ar wastraff a phryderon plant?
Mae ardystiad Bwyd am Oes Cymdeithas y Pridd yn dynodi sicrwydd ansawdd. Mae'n bodoli yma yn ffreutur y Senedd. Beth sydd ei angen i gyflawni'r amcan hwnnw mewn ysgolion? Yn gyntaf, rhaid i arlwywyr ysgolion ddangos eu bod yn cydymffurfio â'r canllawiau cenedlaethol ar fwyta'n iach. Rhaid i o leiaf dri chwarter yr eitemau ar y fwydlen fod wedi'u paratoi'n ffres o gynhwysion heb eu prosesu. Rhaid i unrhyw gig ddod o ffermydd sy'n bodloni safonau lles anifeiliaid. Ni ddylai unrhyw bysgod fod ar restr 'pysgod i'w hosgoi' y Gymdeithas Cadwraeth Forol. Rhaid i wyau fod yn wyau maes. Ni ellir defnyddio unrhyw ychwanegion annymunol, traws-frasterau artiffisial na chynhwysion a addaswyd yn enetig, ac mae dŵr yfed am ddim ar gael yn amlwg—a heb ei guddio yn y toiledau. Mae'r bwydlenni'n dymhorol a thynnir sylw at gynnyrch sydd yn ei dymor. Caiff yr holl gyflenwyr eu dilysu gan Gymdeithas y Pridd er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni safonau bwyd priodol; fel arall, pwy a ŵyr fod hynny'n digwydd mewn gwirionedd? Yn anad dim, yn fy marn i, caiff staff arlwyo hyfforddiant mewn paratoi bwyd ffres, gan fod hyn yn rhywbeth na allwn ei gymryd yn ganiataol, yn anffodus.
Mae dros 10,000 o ysgolion Lloegr yn defnyddio ardystiad Cymdeithas y Pridd i ddynodi cydymffurfiaeth ddirprwyol ynghylch ffresni ac ansawdd, ac mae hynny'n cynnwys dros hanner yr holl ysgolion cynradd a llawer o ysgolion uwchradd hefyd. Mae'r arlwywyr ysgol mwyaf uchelgeisiol, fel Oldham—sy'n gwasanaethu un o'r cymunedau tlotaf ym Mhrydain—wedi mynd ymhellach i gyrraedd y safon aur: rhaid i o leiaf 20 y cant o'r arian a werir ar gynhwysion fod yn organig, gan gynnwys cig organig. 'O, mae hynny'n anfforddiadwy', clywaf bobl yn dweud. Na, nid yw hynny'n wir; 67c y disgybl y pryd bwyd yn unig y maent yn ei wario. Mae peth o'r ganmoliaeth i Oldham yn seiliedig ar y ffaith bod mwy na'r hyn sy'n arferol o'r bwyd yn tarddu o'r DU—bydd hynny'n eu galluogi i wrthsefyll ansicrwydd yn sgil Brexit. Maent hefyd i'w canmol am brynu bwyd a gynhyrchir yn eu hardal, gan gyfoethogi'r economi fwyd leol. Mae ymchwil i'r bwydlenni Bwyd am Oes hyn yn profi, am bob £1 a werir yn lleol, ei bod yn darparu elw cymdeithasol ar fuddsoddiad o dros £3 ar ffurf mwy o swyddi a marchnadoedd i gynhyrchwyr bwyd lleol.
Felly oni ddylai pob awdurdod lleol fod yn cysoni eu penderfyniadau polisi caffael bwyd â'r ymrwymiadau economaidd i ddyletswyddau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? Os gall Oldham ei wneud, pam na all Cymru? Ac nid yn Lloegr yn unig y mae hyn. Mae'r Alban hefyd yn defnyddio'r fframwaith i gynyddu'r bwyd a gynhyrchwyd yn lleol y maent yn ei gaffael. Rwy'n awgrymu y gallai Cymru ei ddefnyddio fel arf i gryfhau economi sylfaenol ein bwyd.
Byddai'r buddsoddiad hwn yn ein plant yn boblogaidd gydag oedolion hefyd. Dangosodd arolwg barn diweddar gan YouGov ar gyfer Cancer Research UK fod 86 y cant o bobl yn cefnogi mesurau i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn cydymffurfio â'r canllawiau ar fwyta'n iach, oherwydd gwyddom nad felly y mae hi ar hyn o bryd. A yw'n cymryd Comisiynydd Plant Cymru i ddweud wrthym fod diffodd ffowntenni dŵr mewn un ysgol wedi gorfodi disgyblion i ddefnyddio arian cinio i brynu dŵr potel?
Sut y gall ysgolion uwchradd Caerdydd gynnig yr hyn a alwant yn 'fargen fwyd' o ddiod potel gyda bwyd, gan ychwanegu at y gwastraff plastig yn ogystal â diffyg maeth mewn llawer o ysgolion? Gyda thraean o holl blant Cymru yn byw mewn tlodi, mae'n hanfodol fod y bwyd sy'n cael ei weini yn yr ysgol o ansawdd uchel. I lawer dyma'r unig bryd y byddant yn ei gael. Mae'r holl ymchwil ar newyn bwyd yn ystod gwyliau ysgol yn dweud hynny wrthym. Dylai bargen fwyd olygu prif bryd bwyd gydag o leiaf ddau lysieuyn a phwdin o ryw fath, a dyna fy her i Gaerdydd.
Eto i gyd, mae'r wasgfa ar gyllidebau awdurdodau lleol, a staff arlwyo, sydd heb eu hyfforddi'n ddigonol mewn llawer o achosion yn fy marn i, yn peri iddynt roi pris o flaen ansawdd. Y llynedd, mae'n drist gennyf ddweud, rhoddodd Sir y Fflint ei wasanaeth arlwyo ar gontract allanol i gwmni masnachu hyd braich newydd a chael gwared ar wasanaethau ardystio Cymdeithas y Pridd. Hyd yma nid oes llawer o wahaniaeth wedi bod i blant, ond mae'n amddifadu Sir y Fflint o'r fframwaith i symud ymlaen nid yn ôl. Mae'r Gweinidog Addysg wedi datgan yn glir fod pob awdurdod lleol a llywodraethwr ysgol yn gyfrifol am fonitro cydymffurfiaeth â Mesur Bwyta'n Iach Mewn Ysgolion (Cymru) 2009. Mae rheolwr gyfarwyddwr Arlwyo a Glanhau NEWydd Sir y Fflint yn fy sicrhau bod ganddynt olrheiniadwyedd llawn ar gyfer popeth a ddefnyddiant, a'u bod wedi torri'r cysylltiad â Chymdeithas y Pridd am na allant gael cyflenwyr i ddarparu'r meintiau sydd eu hangen arnynt, yn ogystal ag ar sail cost. Ond mae'r penderfyniad hefyd yn deillio o'r ffaith fod yr arweinydd arlwyo llawn gweledigaeth wedi gadael. Dof yn ôl at Oldham: os gall Oldham gyflawni, pam na all Cymru?
Nid yw ardystiad Cymdeithas y Pridd ond yn un ffordd ymlaen, ond dyna y mae mwyafrif yr ysgolion cynradd a rhai ysgolion uwchradd yn ei ddefnyddio yn Lloegr, a'r hyn y mae'r Alban yn ei wneud yn ei huchelgais i ddod yn genedl bwyd da. Fe'ch gwahoddaf i gymharu'r hyn y mae disgyblion yn eich etholaeth yn ei fwyta o'i gymharu â'r hyn a gaiff ei gynnig i ddisgyblion yn Ffrainc, yn Sbaen, yn yr Eidal ac yng Ngwlad Groeg. Ble mae ein huchelgais ar gyfer ein plant? Naill ai mae'n rhaid i ni fabwysiadu fframwaith Cymdeithas y Pridd ar gyfer sicrhau gwelliant radical, neu ddyfeisio rhywbeth gwell. Ni allwn aros yn ein hunfan. Nid yw peidio â newid yn opsiwn.