7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Prydau Ysgol Iach

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 15 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 4:43, 15 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Cefais olwg ar ganllawiau 2013 i baratoi ar gyfer y ddadl hon, ac roedd yr hyn a ddarllenais yn fy atgoffa, mewn gwirionedd, o lawer iawn o giniawau ysgol hen ffasiwn, sef cig a llysiau, a chwstard yn bwdin. Yn amlwg, nid oedd dim yn yr hen ddyddiau, os gallwch ei roi felly, yn ymwneud â llysieuaeth neu feganiaeth—nid oeddent wedi'u dyfeisio bryd hynny. Mae'n debyg bod llawer mwy o halen yn y dyddiau hynny hefyd. Ond gallaf weld bod y pethau yr ystyriwn eu bod yn arferion gwael, fel cacennau a bisgedi, yn dal i gael eu caniatáu ar fwydlenni Cymru ar yr amod nad ydynt yn cynnwys melysion. Felly, mae'n debyg fod hynny'n golygu eich bod yn dal i allu cael cwci maint eich pen cyhyd â'i fod yn llawn resins yn hytrach na siocled. Ac wrth gwrs, doedd neb yn gwybod beth oedd cwci yn y 1960au a'r 1970au, felly mae pethau yn bendant wedi gwella, neu wedi gwaethygu—penderfynwch chi. Nid wyf yn credu bod yna ganllawiau ers talwm, ond mae eu hangen arnom yn awr, mae hynny'n sicr.  

O dra-arglwyddiaeth bwydydd a weithgynhyrchwyd a newid pethau fel melysion a chreision o statws danteithion achlysurol i statws byrbryd diofal neu hyd yn oed yn lle prydau bwyd mewn rhai achosion, i dwf diwylliant prydau parod a cholli sgiliau coginio—rhywbeth pwysig yn fy marn i—mae llwyth o resymau sydd wedi ein symud ymlaen o'r tocyn traddodiadol iawn hwnnw, drwy'r cyffro o gyflwyno tatw stwnsh wedi rhewi. A ydych chi'n cofio hwnnw ar fwydlen yr ysgol? Ein cyffro pan gyflwynwyd Smash. Ac yna i'r oes honno wedyn pan oedd cylchau sbageti yn cael eu hystyried yn ffurfiol yn llysieuyn—tipyn o liw cryf ar blatiaid llwydfelyn.

Ond rydych yn llygad eich lle, Jenny, nid ni yw'r unig wlad sydd â chanllawiau ar gyfer prydau ysgol, ond byddech yn synnu faint o wledydd yr UE nad ydynt yn meddu arnynt. Norwy, Denmarc, yr Iseldiroedd—rydym yn edrych ar y llefydd hyn am syniadau diddorol iawn. Tra bod eraill, fel yr Almaen, yn dilyn patrwm tebyg i ni, buaswn yn dweud, ac yn debyg i Loegr. Efallai bod yr Alban ychydig yn fwy uchelgeisiol, gyda rhestri o'r hyn a ganiateir, yr hyn y cyfyngir arno, yr hyn a anogir a'r hyn sy'n rhaid ei ddarparu, gyda chyfarwyddyd yn y rhan fwyaf o achosion, ar feintiau maetholion gwahanol, gan gynnwys mwynau a fitaminau.

Mae Ffrainc, wrth gwrs, yn gwneud yn fawr o'i chryfderau gyda pholisi ar gyfer pryd dau gwrs ynghyd â saig ychwanegol, yn ogystal â chynnyrch llaeth ychwanegol—sy'n fy nharo i'n uchel-ael iawn. Ond credaf fod y Ffindir wedi gwneud rhywbeth diddorol iawn a gallai roi rhai syniadau i'n hathrawon, mewn gwirionedd, ynglŷn â sut y gallent gynnwys profiad plant o fwyta bwyd ysgol yn y maes dysgu a phrofiad ar lesiant. Oherwydd, i raddau, mae ganddynt ganllaw tebyg i'r math rwyf newydd ei ddisgrifio, ond prif fyrdwn eu polisi yw'r plât enghreifftiol. Nid wyf yn gwybod a ydych chi'n gwybod amdano. Mae'r plât enghreifftiol, sydd i'w weld yn y ffreutur, i fod i annog, neu i ddylanwadu yn y bôn, ar blant ysgol ynglŷn â sut i lenwi eu plât eu hunain pan fyddant yn cyrraedd y ciw cinio. Yn yr achos hwn, mae'n cynnwys hanner plât o lysiau wedi'u coginio'n ffres, chwarter o datws, reis neu basta, a chwarter o gig, pysgod neu brotein nad yw'n deillio o anifail. Gyda hynny, gall y plant gael llaeth a dŵr, bara menyn os ydynt ei eisiau, a ffrwythau'n bwdin. Yn anaml, cynigir pwdinau fel cacen pan na fydd y prif gyrsiau'n cyrraedd y gwerth caloriffig llawn am ryw reswm. Felly, maent yn ddanteithion go iawn.  

Ond yr hyn sydd yr un mor bwysig, rwy'n meddwl, yw canllawiau'r Ffindir sy'n dweud bod yn rhaid i'r bwyd gael ei gyflwyno'n atyniadol, ar y tymheredd cywir, gan staff sy'n parchu'r plant, ond sydd hefyd yn parchu'r bwyd. Felly, nid llwytho stwff i hambyrddau plastig a wneir. Rwy'n meddwl mai rhywbeth arall sy'n ddiddorol o'r Ffindir yw bod eu prydau ysgol yn costio 8 y cant o'r gyllideb addysg i'w darparu. Mae prydau ysgol am ddim yn y Ffindir, nid dyna yw fy mhwynt—ond y gost sylfaenol o ran yr hyn a wariant yn darparu bwyd o'r fath gydag ansawdd maethol o'r fath.

Yma, lle mae gan ysgolion yr un ymrwymiad i ddarparu bwyd maethlon, a lle gallant adennill rhywfaint o'r arian, clywsom dystiolaeth gan y comisiynydd plant—roeddem yn sôn am blant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim—maent yn cael prydau sy'n werth £2 yn unig, neu ychydig dros hynny. Ni all ysgolion wneud elw ar eu bwyd, felly dyna yw ei gost. Rwy'n meddwl mai'r enghraifft a roddwyd yn adroddiad y comisiynydd plant yw bod tafell o pizza yn costio £1.95. Nid wyf yn siŵr iawn pam y mae'n costio £1.95 pan allwch godi 67c am bryd o fwyd iawn, ond yn sicr nid yw'n bodloni'r canllawiau maeth.  

Fel y dywedoch chi, mae awdurdodau lleol yn cael arian, wedi'i lapio yn y grant cynnal refeniw, sy'n seiliedig ar nifer y plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Po uchaf y nifer, y mwyaf fydd y cyfraniad i'r grant cynnal refeniw. Mae ysgolion yn cael grant datblygu disgyblion ar gyfer yr un disgyblion. Felly, sut ar wyneb y ddaear y gall ysgol beidio â chael ei chosbi am gynnig bwyd gwerth £2? Rwy'n credu ei fod yn fethiant polisi yn yr achos arbennig hwnnw. Nid wyf yn gwybod a ydych chi'n gwybod, Weinidog, neu os gallwch ddweud wrthym, faint sy'n mynd i mewn i'r grant cynnal refeniw fesul disgybl sy'n cael prydau ysgol am ddim a faint ohono sy'n dod allan o'r grant cynnal refeniw wedyn i ddarparu'r prydau maethlon y mae pawb ohonom am eu gweld. Rwy'n tybio ein bod filltiroedd i ffwrdd o'r Ffindir, sef 8 y cant o'r gyllideb addysg—rwy'n siŵr na allwn fforddio hynny.

Hoffwn orffen drwy ddweud bod y canllawiau'n gynhwysfawr ond nad oes dyletswydd i lynu wrthynt, ar wahân i hyrwyddo bwyta'n iach a darparu dŵr yfed. Felly, rydym yn ôl gyda disgwyliadau yn hytrach nag ymrwymiadau. Felly, rwy'n chwilfrydig i glywed gan y Gweinidog am yr hyn y gallwch ei wneud pan fydd ysgolion yn cael eu dal yn anwybyddu'r canllawiau'n gyson. Diolch.