Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 15 Mai 2019.
Wrth gwrs, cawson ni ambell i brofiad rhyngwladol gan Jenny, ac mae angen inni edrych i wledydd eraill am ddarpariaethau bendigedig mewn rhai ardaloedd. Ac, wrth gwrs, dyna beth ddechreuodd Suzy Davies yn ei chyfraniad hi, a diolch am ei chyfraniad hi hefyd, yn naturiol, yn olrhain rhai o giniawau'r gorffennol yn yr ysgolion—af i ddim ar ôl hynna i gyd—ond, wrth gwrs, profiad rhyngwladol, yn enwedig, yn yr achos yma, y Ffindir, eto yn arloesi, fel y mae’r Ffindir, mewn nifer o feysydd, yn arloesi, ac, wrth gwrs, yn gwario’r arian angenrheidiol i arloesi hefyd, mae’n wir i ddweud. Ond roeddwn i’n licio’r syniad yna o ddangos i’r plant beth mae plât iach o fwyd yn edrych fel. Mae hynna’n bwysig—ddim jest yn ei adael o'n hollol i fyny i ddewis y plentyn. Mae yna ddisgwyliad yn fanna o beth mae plât iach o fwyd yn edrych fel.
Gan symud ymlaen wedyn at gyfraniad Mike Hedges, wrth gwrs, roedd Mike yn pwysleisio pwysigrwydd y pryd o fwyd yn yr ysgol, jest rhag ofn fuasai’r plentyn hwnnw ddim yn cael unrhyw fwyd arall o gwbl y dydd hwnnw—o gofio cefndir tlodi, wrth gwrs, yn Abertawe, mae hynna’n agenda pwysig inni—eto, gan bwysleisio pwysigrwydd darpariaeth fwyd iach er lles a datblygiad y plentyn yn addysgiadol yn ogystal â thyfu’n blentyn iach. Ac eto roedd Mike yn mynd ar ôl yr angen am fwyd, darpariaeth fwyd, neu’r her i ddarparu bwyd i’n plant yn ystod gwyliau’r haf. Mae o yn bwnc cyson yn ardal Abertawe bob tro, yn enwedig yn ystod gwyliau ysgol yn yr haf. Ac, wrth gwrs, mi wnaeth Mike y pwynt dyw plant ddim yn cael eu geni i ddim ond hoffi siocled ac i gasáu llysiau—mae yna rôl ehangach, wrth gwrs, mewn darparu addysg a sut mae plant yn cael eu magu yn y byd yma, ond dwi’n credu bod hynny y tu allan i ganllawiau’r ddadl yma'r prynhawn yma.
Sydd yn ein dod â ni at gyfraniad gwerthfawr Joyce Watson, eto’n gwneud y pwynt ynglŷn ag argaeledd dŵr, ac, wrth gwrs, yn gwneud yr achos dros gael y dewis figan hefyd yn ein hysgolion—cael y dewis, mewn ffordd—a phwysleisio llysiau yn y ddarpariaeth o fwyd a maeth. A hefyd roedd Joyce yn ein hatgoffa ni am effeithiau beth rŷn ni’n ei fwyta yn gallu amharu neu ddylanwadu'n uniongyrchol ar ein hamgylchedd. Ac eto roedd Joyce yn gwneud y pwynt, fel y gwnaeth sawl un, fod pryd ysgol yn gallu dylanwadu ar arferion oes y plentyn wrth i’r plentyn dyfu i fod yn berson ifanc ac wedyn yn oedolyn—dŷch chi’n sefydlu arferion oes wrth ddechrau bwyta yn ein hysgolion ni. Ac, wrth gwrs, y pwynt arall diddorol oedd pan fo ysgolion yn tyfu’r cynnyrch i’w fwyta, ac, wrth gwrs, yn pwysleisio pwysigrwydd cynnyrch lleol, ond, yn addysgiadol, mae plant yn gallu gweld o le mae eu bwyd nhw’n dod, ac yn cyfeirio at ymchwiliad presennol cyfredol y pwyllgor newid hinsawdd ar randiroedd a’r pwysigrwydd yn y fan hynny o hefyd fod yn byw bywyd iach, bwyta bwyd iach a hefyd yn lleihau gwastraff bwyd. Bydd canlyniadau’r ymchwiliad yna i ddilyn allan o’r pwyllgor newid hinsawdd.
A'r Gweinidog i orffen—dwi wedi clustnodi rhai materion wnaeth hi gyfeirio atynt eisoes, ond eto’n ategu pwysigrwydd prydiau iach i hybu lles a datblygiad y plentyn, yn cydnabod cyfraniad y sawl sy’n paratoi bwyd, wrth gwrs, gan gynnwys aelodau eraill o’i theulu dros y blynyddoedd mewn ardaloedd o Abertawe mae rhai ohonon ni’n eu nabod yn dda iawn. Ond, wrth gwrs, mae’n bwysig cydnabod rôl allweddol y sawl sydd yn coginio bwyd yn ein hysgolion wedi'i wneud dros y blynyddoedd, achos yr agenda gordewdra ydy’r peth sylfaenol sydd yn gyrru hyn. Wrth gwrs, mae yna sawl elfen i’n hymateb ni fel cymdeithas i’r agenda gordewdra, fel y gwnaeth y Gweinidog ei amlinellu. Mae diweddariad ar y rheoliadau bwyta’n iach yn ein hysgolion ar y ffordd. Eto, roedd y Gweinidog yn pwysleisio pwysigrwydd caffael lleol. Cawson ni'r ddadl eto ynglŷn â darpariaeth dŵr am ddim, ac eto yn ein hatgoffa ni o'n hanes bod brecwast am ddim hefyd wedi dechrau yma yng Nghymru. Ac, i orffen, roedd y Gweinidog yn pwysleisio lles ein plant yn hyn i gyd, sydd yn hollol ganolog. Diolch yn fawr.