2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru ar 21 Mai 2019.
4. Sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo yn yr adolygiad barnwrol o faterion sy'n codi o bolisi Llywodraeth y DU o ran gwneud oedrannau pensiwn menywod yn gyfartal ac effaith y newidiadau hynny ar fenywod a anwyd yn y 1950au? OAQ53905
Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei phryderon yn gyson wrth Lywodraeth y DU ynghylch menywod lle mae oedran derbyn eu pensiwn y wladwriaeth wedi cael ei godi heb eu hysbysu'n effeithiol nac yn ddigonol. Fodd bynnag, nid yw pensiynau'r wladwriaeth yn fater sydd wedi'i ddatganoli ac felly cyfyngir ar bwerau Gweinidogion Cymru yn hynny o beth.
Rwy'n deall y cyfyngiadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn eu nodi, ond yn y cyfarfod llawn ar 20 Mawrth cytunwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i gefnogi ymgyrchwyr pensiwn y wladwriaeth, sy'n ymwneud ag anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth, llawer ohonyn nhw'n etholwyr i mi ac wedi cysylltu'n uniongyrchol â mi. Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip hefyd y byddai'r Cwnsler Cyffredinol yn ystyried pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd yn gysylltiedig â'r ymgyfreitha yn erbyn yr Adran Gwaith a Phensiynau am y cam-drafod honedig o godi oedran pensiwn y wladwriaeth ar gyfer menywod a anwyd yn y 1950au. Ac mae dyddiad gwrandawiad yr Uchel Lys ar gyfer yr adolygiad barnwrol yn prysur agosáu erbyn hyn, gan ei fod yn cael ei gynnal ddydd Mercher 5 Mehefin a dydd Iau 6 Mehefin. Gwerthfawrogaf yr hyn a ddywed fod pensiynau'n fater a gadwyd yn ôl, ond rydym wedi gwneud ymrwymiad. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad i'r ymgyrchwyr hynny. Felly, a all ef fodloni'r Siambr hon fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd y camau a drafodwyd gennym ar 20 Mawrth ac wedi rhoi pwysau arnynt ers hynny?
Wel, rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw, a gwn fod hwn yn fater y bu'n ymgyrchu yn ei erbyn yn ei etholaeth a'i fod mewn cysylltiad agos â'i grŵp menywod 1950au lleol. Mae'n iawn wrth ddweud bod y Dirprwy Weinidog, yn y ddadl ar 20 Mawrth, wedi awgrymu dull gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru. Fel y dywed, mae'r Uchel Lys wedi rhoi caniatâd ar gyfer yr adolygiad barnwrol hwnnw a bydd y gwrandawiad yn cael ei glywed ar y pumed a'r chweched.
Nid yw'r pwerau sydd gan y Cwnsler Cyffredinol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu ymyrryd yn y set benodol hon o amgylchiadau, yn anffodus. Dyna asesiad yr wyf wedi'i wneud wedi hynny, o ystyried y sylwadau a wnaeth y Gweinidog yn y Siambr. Fodd bynnag, yn dilyn hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i bwysleisio ei phryderon ynghylch ymagwedd Llywodraeth y DU, ac mae'n cloi drwy bwyso ar Lywodraeth y DU i gymryd camau i liniaru'r effeithiau negyddol y mae'r menywod yn eu hwynebu heb fod bai arnyn nhw. Hefyd, bod angen mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd yn benodol gan yr Athro Alston a Phwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Gwahaniaethu yn Erbyn Menywod, ac mae'r llythyr hwnnw wedi'i anfon i ddilyn yr ymrwymiadau a wnaed gan y Dirprwy Weinidog yn y Siambr.
A gaf i ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb i Hefin David? Rwy'n siŵr y bydd yn deall y bydd llawer iawn o fenywod yn y categori hwn a fydd yn siomedig o glywed nad oes ganddo—. A rhaid inni gymryd ei air, Llywydd, ei fod wedi ystyried a oedd modd cymryd unrhyw gamau. Wrth gwrs, mae'r menywod sy'n cyflwyno'r achos yn optimistaidd ynglŷn â chanlyniad cadarnhaol posibl. Os byddant yn llwyddiannus, yna, wrth gwrs, bydd apêl.
A gaf i bwyso ar y Cwnsler Cyffredinol a Llywodraeth Cymru i edrych eto i weld a oes rhyw ffordd, os bydd apêl—? Mae'n rhy hwyr yn awr rwy'n meddwl i wneud unrhyw sylwadau yng nghyd-destun gwrandawiad yr adolygiad barnwrol ei hun, ond, os bydd apêl, byddwn yn cyflwyno i'r Cwnsler Cyffredinol a Llywodraeth Cymru, er enghraifft, fod gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb sylweddol yn y maes hwn, gan fod economi Cymru wedi colli miliynau o bunnoedd, gan nad oedd yr arian hwnnw gan y menywod hynny i'w wario yn eu cymunedau lleol. Felly, a gaf i annog y Cwnsler Cyffredinol heddiw, gan fynegi gofid i'm hetholwyr i a rhai Hefin a llawer o bobl eraill y gwn y byddant wedi bod mewn cysylltiad â ni—? Cefais lythyr heddiw gan wraig a oedd yn gorfod colli ei chartref—yn gorfod gwerthu ei chartref—am na allai fforddio parhau â'i thaliadau ac na allai fforddio talu'r biliau. A gaf fi ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol a fydd, os bydd apêl, yn edrych eto ac yn gofyn am gyngor pellach ynghylch a yw'r hyn a gredaf i sy'n wir, sef camweinyddu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, gan ystyried y golled i economi Cymru—? O ystyried y golled bosibl honno, byddwn yn awgrymu y gallai bod achos perthnasol i Lywodraeth Cymru wrthwynebu apêl os pleidleisir o blaid y menywod yr wythnos ar ôl nesaf. Rwy'n sylweddoli bod hon yn sefyllfa sensitif iawn, gan nad yw'r mater wedi'i ddatganoli, ond, ar y llaw arall, os bu camweinyddu, mae'r camweinyddu hwn wedi cael effeithiau trychinebus, nid yn unig ar y menywod unigol hynny, ond hefyd ar y cymunedau lle nad oedd gan y menywod hynny incwm i'w wario.
Wel, diolch i Helen Mary Jones am ei chwestiwn atodol. Mae'n nodi yn ei chwestiwn rai o ganlyniadau trasig gweithredoedd Llywodraeth y DU ym mywydau'r menywod hyn, ac rydym i gyd yn uniaethu â'r sylwadau y mae'n eu gwneud yn ei chwestiwn. O ran y pwynt ynglŷn â'm pwerau i i ymyrryd a phwerau Gweinidogion Cymru i ymyrryd, dyna'r math o beth yr wyf i, wrth gwrs, yn dal i'w ystyried yn barhaus, a bydd hynny'n berthnasol yn yr achos hwn fel yn unrhyw un arall.