– Senedd Cymru am 6:00 pm ar 21 Mai 2019.
A dyma ni'n dod i'r eitem nesaf, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Mesur Masnach, a dwi'n galw ar Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i wneud y cynnig—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n cyflwyno'r cynnig.
Yr hyn yr ydym ni'n ei drafod yn y ddadl hon yw memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol ar y Bil Masnach, Bil y bydd angen ei sefydlu er mwyn sicrhau y gallwn ni barhau i fasnachu â chenhedloedd ledled y byd ar ôl Brexit. Mesur gan Lywodraeth y DU yw'r Bil, wrth gwrs, ond, fel y mae Llywodraeth y DU yn dysgu'n gyflym, pan fyddant yn trafod bargeinion masnach yn y dyfodol—rhywbeth nad yw'r DU wedi ei wneud am bron i 40 mlynedd—byddant yn tramgwyddo yn ein herbyn ni a'n pwerau yma yng Nghynulliad Cymru, felly mae'n gwneud synnwyr iddyn nhw ofyn am ein caniatâd pan eu bod nhw'n bwriadu negodi ar faterion y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gyfrifol amdanynt.
Felly, ychydig dros ddau fis yn ôl, cytunodd y Cynulliad y dylid pasio memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Masnach. Nawr, ar y pryd, ymddangosai fel pe byddai'r Bil yn dod i ddiwedd y daith ddeddfwriaethol honno, ond ers hynny, diwygiwyd y Bil yn Nhŷ'r Arglwyddi, a byddai natur o leiaf un o'r gwelliannau hyn wedi ei gwneud hi'n ofynnol i ni gyflwyno cynnig deddfwriaeth cydsyniad atodol i'r Senedd. Ond, gan ei bod hi'n ymddangos y gallai'r Bil fynd yn ôl ac ymlaen, neu i Dŷ'r Cyffredin orfod ystyried gwelliant Tŷ'r Arglwyddi, roedd hi'n edrych ar un adeg fel pe na byddai digon o amser i gynnal dadl bellach yma yn y Cynulliad. Ond, fel y gwyddom ni, mae'r Bil Masnach wedi bod yn gogr-droi yn Nhŷ'r Arglwyddi bellach ers cryn dipyn o amser ac felly mae wedi rhoi'r cyfle i ni ymgynghori â'r Cynulliad ar y newidiadau arfaethedig sy'n cael eu hawgrymu.
Nawr, mae hanes y Bil yma yn dangos y pwynt a wnaed gan y Prif Weinidog yng Nghymru am ba mor annigonol yw'r trefniadau ar gyfer delio â chydsyniad deddfwriaethol yn y broses o basio deddfwriaeth San Steffan. Yn ei araith fis Medi diwethaf, galwodd y Prif Weinidog blaenorol i'r broses seneddol gael ei ailddiwygio i sicrhau cyfnod clir yn ystod camau olaf unrhyw Fil o San Steffan sy'n sefyll ar draed datganoli. A'r penderfyniadau hyn, dylen nhw gael eu hystyried yn fanwl hefyd gan y Senedd yn y Deyrnas Unedig.
Nawr, rwyf wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am yr holl newidiadau a wnaed i'r Bil wrth iddo fynd rhagddo. Fodd bynnag, gan y bu oedi pellach ar y Bil, yn ôl pob tebyg oherwydd pryder y Llywodraeth na fydd yn gallu perswadio Tŷ'r Cyffredin i wrthdroi'r gwelliant a fyddai'n ei rwymo i drafod undeb tollau parhaol, rwy'n falch bod y Cynulliad wedi gallu amserlennu'r ddadl hon. Er fy mod i'n sylweddoli na fu amser i graffu ar y Bil, rwy'n ddiolchgar am gael cyfle i egluro mwy am y gwelliannau sydd wedi'u gwneud ers ein dadl ddiwethaf ar gydsyniad deddfwriaethol.
Felly, ers y cyflwyniad yn ôl yn 2017, mae'r Bil wedi cael dau gylch craffu, ac rydych chi, yn y Siambr hon, eisoes wedi cael cyfle i drafod y darpariaethau yn y Bil sydd o fewn ein cymhwysedd. Am y rheswm hwn, nid wyf i yma heddiw i drafod y darpariaethau niferus yn y Bil sydd o fewn ein cymhwysedd, oherwydd bod y rheini eisoes wedi derbyn cydsyniad. Y rheswm dros y ddadl heddiw a'r rheswm pam y cyflwynais femorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol arall yw bod un o'r gwelliannau a gynigir i'r Bil yn dod o fewn cymhwysedd y Cynulliad hwn.
Nawr, nid yw'r gwelliant hwn yn arbennig o sylweddol, ac nid wyf yn disgwyl iddo fod yn arbennig o ddadleuol ychwaith. Fodd bynnag, mae o fewn cymhwysedd, ac felly dylai'r Cynulliad hwn ei ystyried ac, rwy'n credu, rhoi ei gydsyniad iddo. Un o effeithiau'r gwelliant dan sylw yw diddymu'r gofyniad blaenorol i Weinidogion Cymru ymgynghori â Llywodraeth y DU cyn gwneud rheoliadau o dan y Bil Masnach, os gallai Gweinidogion Cymru wneud yr un peth mewn rheoliadau o dan Ddeddf Cynulliad neu Fesur heb fod angen ymgynghoriad. Mae hyn i bob pwrpas yn ehangu pwerau datganoledig o dan y Bil, felly, mewn egwyddor, mae hynny'n golygu llai o gyfyngu ar bwerau datganoledig. Dyma'r unig welliant yn Nhŷ'r Arglwyddi sydd wedi ei wneud yn y Mesur Seneddol sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad. Credaf ei fod yn cynrychioli newid synhwyrol a phriodol, na ddylai fod gan y Cynulliad unrhyw bryderon yn ei gylch. Felly, rwy'n argymell y dylid caniatáu cydsyniad iddo.
Yn fwy cyffredinol, er nad oes sicrwydd y bydd y gwelliant mwy dadleuol yn ymwneud ag undeb tollau yn cael ei wrthdroi gan Dŷ'r Cyffredin, ac er nad yw hyn yn amodol ar y gofyniad am gydsyniad deddfwriaethol, rwy'n gobeithio yr hoffai Aelodau'n ddatgan eu cefnogaeth i'r nod hwn, sydd wrth gwrs yn gwbl unol â safbwynt cyson y Cynulliad ynglŷn â Brexit. Rydym yn disgwyl i'r Bil ddechrau ar daith yn ôl ac ymlaen yn fuan iawn. Bydd fy swyddogion yn parhau i gadw golwg ar unrhyw newidiadau pellach a wneir i'r Bil, a byddaf, wrth gwrs, yn rhoi gwybod i chi os bydd newidiadau pellach yn gofyn am gydsyniad y Cynulliad hwn.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.
Diolch, Lywydd. Rwy'n adrodd ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ac, wrth gwrs, rwy'n canmol Aelodau'r Cynulliad sydd wedi aros yma mor amyneddgar y prynhawn yma am fy adroddiad.
Fe wnaethom ni adrodd ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol cyntaf Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r Bil Masnach ym mis Mawrth 2018. Ym mis Hydref y flwyddyn honno, cyflwynwyd adroddiad gennym ni ar y rheoliadau i'w gwneud o dan y Bil. Fe wnaethom ni ystyried Memorandwm Rhif 2 ym mis Mawrth eleni, ac er nad oeddem ni mewn sefyllfa i gymryd tystiolaeth gan y Gweinidog, oherwydd yr amserlenni caeth, fe wnaethom ni lunio adroddiad a siaradais yn y ddadl ar y memorandwm hwnnw.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Gweinidog am ddod â'r cynnig hwn gerbron ynglŷn â Memorandwm Rhif 3, yn dilyn llythyr gan David Rees yn rhinwedd ei swyddogaeth o fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Nid ydym ni wedi bod mewn sefyllfa i dderbyn tystiolaeth gan y Gweinidog ar femorandwm Rhif 3, nac i lunio adroddiad, unwaith eto oherwydd yr amserlenni dan sylw. Fodd bynnag, fe hoffwn i wneud sawl sylw, a gwnaed rhai ohonyn nhw yn ein hadroddiad ar femorandwm Rhif 2 ac sy'n dal i fod yn berthnasol.
Yn gyntaf, diolch i'r Gweinidog am ei llythyr dyddiedig 25 Ebrill, pryd yr ymatebodd i nifer o'r argymhellion a wnaed yn ein hadroddiad ar yr ail femorandwm. Er fy mod i'n croesawu'r wybodaeth y mae'r Gweinidog wedi ei rhoi ynghylch yr ymrwymiadau sydd wedi eu sicrhau o ran y blychau dogfennau, tynnaf sylw'r Cynulliad eto at y pryderon sydd gan y pwyllgor ynghylch y modd y caiff confensiwn Sewel ei ddefnyddio ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Rydym ni'n dal i fod o'r farn bod angen egluro i ba raddau y gellir dibynnu ar y confensiwn i ddiogelu cymwyseddau datganoledig. O dan yr amgylchiadau, byddwn yn dal i groesawu eglurhad gan y Gweinidog ynghylch pa un a oes unrhyw eithriadau i'r ymrwymiad na fydd Gweinidogion Llywodraeth y DU fel arfer yn defnyddio'r pwerau mewn meysydd datganoledig heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.
Yn ein hadroddiad ar femorandwm Rhif 2, fe wnaethom ni argymell y dylid diwygio Rheol Sefydlog 30C i fod yn berthnasol i'r Bil Masnach ar ôl iddo ddod yn ddeddfwriaeth, ac, yn ei llythyr atom ni, mae'r Gweinidog wedi dweud wrthym ni ei bod yn credu bod angen adolygu Rheol Sefydlog 30C yn yn hytrach hynny. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog roi eglurhad pellach dim ond ar y pwynt hwn.
Drwy gydol ein gwaith o graffu ar y Bil Masnach, rydym ni wedi mynegi pryderon ynghylch cwmpas y pwerau gwneud rheoliadau yn y Bil. Ein prif bryder yw bod y Bil yn caniatáu i Weinidogion y DU wneud rheoliadau sy'n diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Rwy'n achub ar y cyfle eto i ailddatgan yr egwyddor gyfansoddiadol na ddylai cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol gael ei addasu gan reoliadau a wneir gan Weinidogion y DU, ac er y cafwyd sicrwydd na chaiff pwerau gwneud rheoliadau eu defnyddio i addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, nid yw'r sicrwydd hwnnw, wrth gwrs, yn rhwymo mewn cyfraith, sy'n amlwg yn peri pryder.
Ar 30 Ebrill 2019, ac yn unol ag un o'n hargymhellion, cyhoeddodd y Gweinidog ddatganiad ysgrifenedig ynglŷn ag Awdurdod Rhwymedïau Masnach y DU, a sylwaf fod y Gweinidog wedi dweud ei bod wedi cael nifer o ymrwymiadau anneddfwriaethol gan Lywodraeth y DU ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu rhyngweithio â'r awdurdod. Hefyd, mae hi wedi dweud ei bod hi'n falch â'r cynnydd a wnaed a'r ymrwymiadau y mae Llywodraeth y DU wedi eu rhoi. Fodd bynnag, byddwn yn awgrymu'n barchus nad yw'r broses a sicrhawyd sy'n golygu y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymgynghori â Llywodraeth Cymru ar argymhellion yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach ar yr un pryd ag ymgynghori ag adrannau Llywodraeth y DU yn parchu Llywodraeth Cymru fel adain weithredol gwlad ddatganoledig.
Dyna fy sylwadau i. Diolch, Llywydd.
Ar y meinciau hyn, dŷn ni'n poeni'n ddirfawr am y Bil Masnach yn gyffredinol a'r posibiliadau eang a dinistriol o gael cytundebau masnach newydd efo gwledydd fel Unol Daleithiau America, a all danseilio ein gwasanaethau cyhoeddus yn gyfan gwbl a'r bwydydd dŷn ni'n eu bwyta bob dydd; Duw a ŵyr beth fyddan nhw'n edrych fel. Dŷn ni hefyd yn poeni am golli pwerau mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i fan hyn ers 20 mlynedd. Dyna'r pryder am ddyfodol confensiwn Sewel, fel dŷn ni i gyd wedi gwyntyllu eisoes yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ac mae'r Cadeirydd newydd ei wyntyllu eto. Dŷn ni'n poeni hefyd fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn anwybyddu Cymru ac yn anwybyddu Llywodraeth Cymru yn feunyddiol yn y trafodaethau Brexit, ac, o ran craffu yn y ddeddfwrfa yma, dŷn ni hefyd yn poeni bod pwerau yn cael eu sugno o'r Senedd yma yn gyffredinol i Lywodraeth Cymru, ac yn ogystal fod pwerau yn cael eu sugno o fan hyn ar draws yr M4 i San Steffan. Dŷn ni'n colli pwerau o'r ddwy ochr—o'r ddeddfwrfa ei hun i'r Llywodraeth fan hyn, ac o'r Llywodraeth yn fan hyn i San Steffan.
Nawr, fe wnaeth Plaid Cymru bleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol gwreiddiol am bedwar rheswm penodol y diwrnod hynny, ac nid oes unrhyw un o'r rhain wedi newid yn sgil y gwelliannau a gymeradwywyd yn Nhŷ’r Arglwyddi. Mae'r gwelliant a basiwyd yn cael gwared â'r angen i Weinidogion Cymru gael caniatâd Gweinidogion San Steffan cyn gwneud rheoliadau dan y Bil Masnach, ond nid yw'n gwireddu'r hyn y mae Plaid Cymru wedi galw amdano, sef sicrhau rôl i'r Senedd hon wrth weithredu pwerau o'r fath. Mae ein pryder ynghylch yr effaith ar gonfensiwn Sewel yn parhau, ein pryder ynghylch y posibiliad y bydd y terfyn amser y bydd y pwerau yn weithredol yn cael ei ymestyn yn ddi-dor yn parhau, ac mae ein pryder bod diffyg manylder ynghylch sut y bydd yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach yn gweithredu yn parhau. Dŷn ni ddim felly mewn sefyllfa i allu cymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma heddiw a byddwn ni'n pleidleisio yn erbyn y cynnig.
Dechreuaf fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy ddiolch i'r Gweinidog am osod yr ail femorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol ac am gyflwyno'r cynnig yr ydym ni'n ei drafod heddiw. Fel y gŵyr y Gweinidog, ac fel mae Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi ei nodi, mae hyn mewn gwirionedd yn deillio o ohebiaeth gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, ac rwy'n falch ein bod ni'n gallu trafod ac ystyried y cwestiwn ynghylch cydsyniad ar gyfer darpariaethau a ychwanegwyd i'r Bil Masnach gan welliant yn hwyr yn y dydd ym mhroses graffu San Steffan. Ceisiaf osgoi ailadrodd unrhyw beth y mae fy nghyd-Aelod Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi'i ddweud, oherwydd mae gennym ni farn debyg iawn yn ein pwyllgor ni i'w bwyllgor ef. Ond rwyf eisiau atgoffa'r Aelodau mai dyma'r ail dro yn ystod y broses Brexit pan fo darpariaethau newydd wedi'u hychwanegu mewn Mesur yn San Steffan ar yr unfed awr ar ddeg sydd angen cydsyniad y Cynulliad hwn. Rydym ni'n gresynwn nad oeddem ni'n gallu ystyried rhoi ein cydsyniad ynglŷn â'r enghraifft gyntaf o'r fath, a oedd ar ddiwedd taith Mesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) drwy'r Senedd, ond rwy'n falch ein bod ni'n gallu gwneud hynny heddiw a bod gennym ni gyfle gwirioneddol i drafod y gwelliannau i'r Bil masnach. Rwyf yn derbyn safbwynt y Gweinidog ein bod ni wedi rhoi cydsyniad i'r agweddau blaenorol ac felly y dylem ni yn dechnegol fod yn edrych ar y gwelliannau a ychwanegwyd gan Dŷ'r Arglwyddi yn y Mesur hwnnw.
Ond mae'n rhaid rhoi sylw manylach i ba mor ymarferol yw ystyried materion sy'n ymwneud â chydsyniad deddfwriaethol sy'n codi ar ddiwedd proses graffu Bil San Steffan. Mae'n fy nharo i fod hyn yn wendid yn y trefniadau presennol, yn enwedig, fel y mae'r Gweinidog wedi casglu, pan fyddwn ni mewn sefyllfa lle mae pethau'n mynd hwnt ac yma, lle mae pethau'n mynd yn ôl ac ymlaen fel io-io. Ni wyddom ni beth fydd terfyn pethau, ond mae angen i ni edrych ym mha le y mae'r broses graffu ar gyfer y Cynulliad hwn os caiff gwelliannau ychwanegol eu gwneud a'u cymeradwyo ar ôl i ni gydsynio â memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Mae holl broses Brexit mewn gwirionedd wedi dangos i ni y gwendidau yn y broses graffu bresennol.
Nawr, ystyriodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yr ail femorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol ddoe, ac er inni glywed y prynhawn yma gan y Gweinidog am fanylion y gwelliant hwnnw a wnaethpwyd yn Nhŷ'r Arglwyddi, gyda'r amserlenni a ganiateir i ni, yn amlwg nid ydym ni wedi gallu darparu adroddiad ar ein hystyriaeth, ond rydym ni'n fodlon dweud nad oes unrhyw bwyntiau craffu sylweddol pellach inni graffu arnyn nhw yn seiliedig ar y gwelliant a ystyriwyd gennym ni.
Fe hoffwn i gloi drwy ddiolch i'r Gweinidog unwaith eto am osod y memorandwm. Mae'n bwysig bod y sefydliad hwn yn cael cyfle i drafod gwelliannau atodol i femoranda cydsyniad deddfwriaethol yr ydym ni eisoes wedi rhoi cydsyniad iddyn nhw. Oherwydd fel arall, nid ydym ni'n cael cyfle i wneud sylwadau ar rywbeth a fydd yn effeithio ar gymwyseddau datganoledig. Mae'r camau gweithredu yr un mor bwysig o ran yr egwyddor o gynnal y confensiwn cydsyniad hwnnw ag ydyw o ran manylion y gwelliannau a arweiniodd at y ddadl hon. Felly, os gwelwch yn dda, pa bryd bynnag y gallwn ni, gadewch inni barhau i osod memoranda atodol, ond efallai, fel Cynulliad, bod angen inni gyflwyno sylwadau i San Steffan i edrych ar y broses, er mwyn inni gael y cyfle hwnnw hyd yn oed yn fwy.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr. Byddwn wrth fy modd yn ailagor y ddadl a thrafod confensiwn Sewel a'r rhyngweithio gyda Llywodraeth y DU a'r rhwymedïau masnachol a pham y dylem ni gefnogi undeb tollau. Nid dyna'r hyn yr ydym ni yma i'w drafod heddiw mewn gwirionedd. Rydym ni eisoes wedi pasio'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Masnach a oedd yn cyfeirio at agweddau a oedd wedi'u datganoli i Gymru. Rwy'n methu'n lân â deall pam na fyddai Plaid Cymru yn cefnogi'r gwelliant hwn. Mae hyn yn ehangu pwerau'r Cynulliad. Beth bynnag am hynny, rwy'n gweld hynny'n rhyfedd iawn, ac mae'n amlwg bod—
Wel, gadewch i mi eich helpu, Gweinidog. Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. [Chwerthin.]
Mae'n bleser.
A allwch chi gadarnhau, felly, na fydd unrhyw golli pwerau o'r Cynulliad hwn o ran ein gallu i graffu os byddwn ni'n pasio'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn? Oherwydd rwy'n credu y bydd. Dyna pam yr ydym ni yn ei erbyn.
Na fydd, ni fydd unrhyw golled o gwbl. Mewn gwirionedd, mae gennym ni fwy o bwerau o ganlyniad i'r gwelliant hwn. Ac felly, dyna pam—
Pwerau'r Llywodraeth, nid pwerau'r Cynulliad.
Na, na—rwy'n credu, os ydych chi'n edrych arno fel Cynulliad, fe welwch chi fod mwy o bwerau o ganlyniad i'r gwelliant hwn. Felly, credaf fod anghysondeb o ran dull gweithredu Plaid Cymru.
Rwy'n cytuno â Chadeirydd y pwyllgor materion allanol nad yw'r broses yn dderbyniol o gwbl. Os oes gennym ni broses lle mae gwelliannau newydd yn cael eu cyflwyno, nid oes cyfleoedd i ni eu hailystyried. Ond mae cyfle yn yr achos hwn. Oherwydd y bu oedi hir iawn ar hyn, rydym ni wedi gallu gwneud sylwadau. Nid dyna fydd y sefyllfa fel arfer. Felly, mae angen i ni gael system well o allu monitro, asesu, ac er mwyn i chi, y Cynulliad, allu ein dwyn ni'r Llywodraeth i gyfrif hefyd o ran unrhyw newidiadau y byddem ni'n cytuno iddyn nhw. Felly, gobeithio y bydd yr Aelodau'n cytuno â'r gwelliant hwn, oherwydd rwy'n credu ei fod yn ehangu pwerau'r Cynulliad.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio, felly, y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu’r gloch, dwi'n symud yn syth i’r bleidlais.