3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru ar 22 Mai 2019.
4. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am hygyrchedd y Senedd i aelodau'r cyhoedd? OAQ53912
Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i sicrhau bod aelodau'r cyhoedd yn ddiogel wrth ddod i ystad y Cynulliad. Rhan hanfodol o wireddu'r ymrwymiad yma yw cynnal adolygiadau parhaus o'r gweithdrefnau diogelwch i sicrhau eu bod yn ein galluogi i gael cydbwysedd rhwng ein dymuniad i groesawu'r cyhoedd ar yr ystad a'n dyletswydd i gadw pawb yn ddiogel a sicrhau y gall busnes y Cynulliad barhau heb ymyrraeth.
Wel, rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd am yr ateb hwnnw ac yn amlwg, mae angen cydbwysedd rhwng diogelwch a mynediad, ond bydd y Llywydd yn ymwybodol o ddigwyddiad ar 1 Mai eleni, pan gafwyd gwrthdystiad digon heddychlon a hwyliog gan brotestwyr newid hinsawdd y tu allan i'r adeilad hwn, pan oedd y Siambr yn trafod a fyddem yn mabwysiadu'r polisi ynghylch argyfwng newid hinsawdd ai peidio. Roedd y protestwyr hynny eisiau dod i mewn i weld y ddadl o'r oriel gyhoeddus. Roedd yr oriel gyhoeddus ar y pryd yn wag at ei gilydd, a gwrthodwyd mynediad i lawer ohonynt i'r adeilad. Nid wyf mewn sefyllfa i ddweud y naill ffordd neu'r llall, ond yn sicr roedd rhai o’r bobl hynny o dan yr argraff eu bod wedi cael eu gwrthod oherwydd eu hymddangosiad, oherwydd nad oeddent yn cael eu hystyried yn ddigon parchus. Nawr, mae’n rhaid i mi ddweud wrth y Llywydd bod rhai o’r menywod a gafodd fynediad wedi bod yng Nghomin Greenham gyda mi yn yr 1980au a go brin eu bod yn barchus, ond rwy’n siŵr fod rhai o'r bobl iau a waharddwyd yn ddinasyddion parchus iawn yn ôl pob tebyg.
Ond o ddifrif, rwy'n awyddus iawn i sicrhau nad ydym yn cyffredinoli. Nid wyf yn deall pam fod unrhyw ofn y byddai'r bobl a waharddwyd wedi creu unrhyw fath o risg. Roedd yr oriel bron â bod yn hollol wag, roeddent wedi dod i fynegi barn i'r lle hwn ar fater roedd y lle hwn yn ei drafod. Rwyf fi, ac Aelodau eraill ar y fainc hon yn sicr, yn teimlo ei bod yn anffodus iawn na roddwyd mynediad iddynt, ac os oes unrhyw bolisi sy’n dweud, os ydych yn protestio un funud, na allwch ddod yn aelod o'r cyhoedd i arsylwi ar y trafodion y funud nesaf, hoffwn geisio sicrwydd y Comisiwn y bydd y polisi hwnnw'n cael ei newid.
Diolch am y cwestiwn. Rydw i'n cofio'r achlysur. Wrth gwrs, fe wnaeth rhai Aelodau ddwyn sylw at y ffaith ar y dydd fod yna brotestwyr sydd hefyd yn aelodau o'r cyhoedd yn awyddus i ddod mewn yn ystod y drafodaeth yna a bod yr oriel gyhoeddus â digon o le ynddi i bobl fedru gwneud hynny.
Fel y nodais i yn yr ateb cychwynnol, mae hyn yn fater o gydbwysedd, wrth gwrs, rhwng materion diogelwch a'r angen i ganiatáu i bobl Cymru fedru ymweld â ni ac i wneud hynny'n ddiogel, ac i fedru gwrando ar ein trafodaethau ni fan hyn. Mae yna god ymddygiad clir i ymwelwyr, ac un sy'n ymdrin hefyd â phrotestiadau. Mae'r cod yn nodi, er mwyn sicrhau diogelwch, mai dim ond chwe chynrychiolydd o grŵp protest sy'n cael bod y tu mewn i'r adeilad ar unrhyw adeg. O ganlyniad, yn yr achos yma, cafodd chwe chynrychiolydd fynediad i'r ystad, ond ni roddwyd mynediad i weddill y grŵp, fel ŷch chi wedi nodi yn eich cwestiwn.
Ar yr achlysur yma, yn ystod y trafodaethau, fe wnaethpwyd penderfyniad strategol i ganiatáu mwy o brotestwyr i ddod mewn i'r Neuadd, ond, wrth gwrs, mi oedd hynny wrth i'r prynhawn fynd yn ei flaen a'r ddadl wedi'i chwblhau.
Mae profiad yr hyn a ddigwyddodd y diwrnod hwnnw—y ffaith bod nifer o Aelodau wedi dwyn ein sylw ni at yr hyn a oedd yn digwydd a nawr eich cwestiwn chi—. Rydyn ni wedi—rydw i wedi gofyn am adolygiad o'r polisi fel y mae'n bodoli ar hyn o bryd, ac fe fydd y Comisiwn yn edrych ar hynny maes o law. A gaf i ofyn i chi, fel Aelodau yn y Siambr yma, ddwyn i sylw'r Comisiynwyr o'ch pleidiau chi'ch hunain yr hyn ŷch chi'n credu sydd yn gydbwysedd iawn i'w daro wrth inni fod yn adolygu'r polisi yma?
Os caf i eich sicrhau chi, Helen Mary Jones, rŷm ni'n gwneud hynny—rŷm ni'n gwneud ein gwaith o ran diogelwch mewn ffordd sydd yn trin pawb yn gyfartal, ac rŷm ni, byddwn i'n dweud, ar y cyfan, yn weddol o lwyddiannus yn cydbwyso hynny rhwng diogelwch a chaniatáu i bawb fedru ymweld â'n Senedd ni fan hyn. Os ydyn ni wedi ei gael e'n anghywir yn y gorffennol, yna mae'n rhaid inni ddysgu o'r profiad hynny, ac rwy'n edrych ymlaen at drafod y materion yma ymhellach, fel y gallwn ni sicrhau ein bod ni'n lle diogel—yn lle diogel i bobl ymweld ag ef, yn ogystal ag i ni'n hunain a'n staff, ond hefyd ein bod ni'n lle sy'n agored, a bod ein horiel gyhoeddus ni mor llawn ag y gallith hi fod ar bob achlysur posib.
Diolch am y sylwadau rydych wedi’u gwneud hyd yn hyn, Lywydd. Gan nad oedd unrhyw dor-cyfraith o gwbl pan ddigwyddodd yr holl brotestiadau yn Llundain yn gynharach yr wythnos honno, roedd yn ymddangos yn hurt i ragdybio y byddent yn torri’r heddwch mewn rhyw fodd oherwydd eu bod yn aelodau o Extinction Rebellion.
Un o'r pethau nad oes gennym yn y Senedd hon sydd ganddynt yn Senedd y DU yw hawl i’r Aelodau gael ymwelwyr personol, oherwydd ceisiais ofyn i'r bobl ddiogelwch am ganiatâd i wahodd sawl aelod roeddwn yn eu hadnabod yn bersonol, sy’n aelodau o fy etholaeth, i fynychu'r ddadl. Ni chefais ganiatâd—yn bendant, dywedasant, 'Na, rydym wedi cael gwybod mai dim ond chwech o bobl sy’n cael dod i mewn ac maent hwy eisoes wedi cael eu gadael i mewn.'
Rwy'n falch eich bod wedi cytuno i'n gwahodd i roi sylwadau ar y Rheol Sefydlog benodol hon, ond ymddengys i mi y dylem fod yn ymrwymo i sicrhau bod y Senedd hon mor agored â phosibl, ac mae'n debygol fod gan y rheini sy'n protestio ar y grisiau ddiddordeb yn y ddadl sy'n mynd rhagddi ar y mater hwnnw.
Oes, yn sicr. Os caf fi ailadrodd, lle ceir protest, mae’r polisi presennol yn datgan mai chwech o bobl o'r brotest honno sy’n cael dod i mewn i’r Cynulliad, naill ai i siarad â phwy bynnag y maent angen siarad â hwy neu i fynychu unrhyw ddadl yma. Mae'r rhif chwech yn y polisi—nid yw'n ymwneud ag Extinction Rebellion nac unrhyw grŵp protest, nac unrhyw un o unrhyw le yng Nghymru sy'n protestio ar ein grisiau. Ond yn amlwg, byddwn yn dysgu o'r profiad ac rwy'n eich gwahodd unwaith eto i wneud yn siŵr fod y Comisiynwyr yma sy'n eich cynrychioli yn gwbl ymwybodol o sut rydych eisiau i ni sicrhau’r cydbwysedd yn briodol yn y dyfodol.
Diolch.