– Senedd Cymru am 3:45 pm ar 22 Mai 2019.
Felly, symudwn ymlaen at eitem 7, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'Deiseb P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu—adnabyddiaeth a chefnogaeth', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Janet Finch-Saunders.
Diolch. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf agor fy nadl gyntaf fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Hoffwn ddiolch i'r tîm clercio, y tîm cyfreithiol, ac aelodau gwych fy mhwyllgor am yr holl gefnogaeth a'r cymorth a gefais yn fy swydd fel Cadeirydd. Hoffwn ddiolch hefyd i'r rhai sy'n dal i anfon deisebau gwych i'r pwyllgor hwn.
Mae'r ddadl heddiw'n ymwneud â deiseb a gyflwynwyd gan Stevie Lewis, sy'n galw am well adnabyddiaeth a chefnogaeth i bobl a niweidiwyd gan ddibyniaeth ar feddyginiaeth presgripsiwn. Hoffwn ddiolch yn bersonol i Stevie Lewis am gyflwyno'r ddeiseb. Rhoddodd dystiolaeth bwerus—a hynod o bersonol yn aml—i gefnogi'r ddeiseb, ac rydym yn ddiolchgar iawn. Hefyd, hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i ni. Roedd y rhain yn cynnwys ein byrddau iechyd, cyrff proffesiynol fel Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru a nifer o bobl â phrofiad personol o ddibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn a diddyfnu. Roedd yr holl dystiolaeth yn amhrisiadwy i'r pwyllgor a dylanwadodd ar ymateb eithaf addawol gan y Llywodraeth.
Mae'r ddeiseb yn galw am fwy o weithredu i gydnabod y materion sy'n ymwneud â dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac am sicrhau bod gwasanaethau cymorth gwell ar gael i bobl a niweidir gan ddibyniaeth ar feddyginiaethau presgripsiwn a diddyfnu oddi arnynt, yn enwedig cyffuriau gwrth-iselder. Golyga hyn bobl sy'n cymryd meddyginiaeth bresgripsiwn ac yn mynd yn ddibynnol ar y feddyginiaeth honno, hyd yn oed pan fyddant wedi bod yn defnyddio'r feddyginiaeth honno'n union fel y rhagnodwyd. Yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf yw y gall cleifion hefyd brofi symptomau wrth geisio lleihau eu dos neu roi'r gorau i gymryd meddyginiaethau'n gyfan gwbl. Gall y symptomau hyn fod yn ddifrifol a gwanychol weithiau. Yn wir, mae'r ddeiseb yn tynnu sylw at bryderon penodol yn ymwneud â chyffuriau gwrth-iselder a bensodiasepinau. Mae Stevie Lewis wedi tynnu sylw at ei phrofiad personol o gael cyffuriau gwrth-iselder SSRI ar bresgripsiwn. Ar ôl sawl ymgais aflwyddiannus i roi'r gorau i gymryd y cyffur, darganfu ei bod yn gorfforol ddibynnol arno. Yn ei geiriau ei hun, fe brofodd 'gyfnod diddyfnu hir ac andwyol' cyn llwyddo i ddod â'r feddyginiaeth i ben yn y diwedd ar ôl 17 mlynedd. Nid yw tystiolaeth Stevie Lewis yn unigryw. Caiff ei hadleisio gan lawer o bobl a ymatebodd i wahoddiad gan y Pwyllgor Deisebau i bobl yr effeithiwyd arnynt rannu eu profiadau â ni.
Rwyf am ddweud yn y fan hon y gall y meddyginiaethau hyn effeithio'n gadarnhaol ar lawer o bobl sy'n eu cael ar bresgripsiwn. Nid yw'r pwyllgor yn awgrymu bod pob presgripsiwn ar gyfer y meddyginiaethau hyn yn broblemus—i'r gwrthwyneb. Yn hytrach, mae'n hanfodol bwysig fod cleifion yn cael y wybodaeth a'r gefnogaeth gywir, yn sicr ar ddechrau eu triniaeth, a hefyd pan fyddant am leihau neu roi'r gorau i gymryd y feddyginiaeth. Hefyd, mae angen i weithwyr meddygol proffesiynol sicrhau eu bod yn trafod dulliau a therapïau'n ddigonol gyda chleifion sy'n ystyried cyffuriau SSRI ac yn ceisio rheoli eu hanawsterau gydag iechyd meddwl. Ategaf ddyheadau'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol y dylai cleifion deimlo eu bod yn cael eu grymuso i wneud penderfyniadau ynglŷn â'u gofal.
Nawr, hoffwn ganolbwyntio ar ddarganfyddiadau ac argymhellion y pwyllgor am weddill y cyfraniad hwn. Cydnabod dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn. Yn gyntaf, mae'r ddeiseb yn galw am fwy o gydnabyddiaeth i broblem dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn, yn enwedig ymhlith llunwyr polisïau a gweithwyr iechyd proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys cydnabod graddau ac effaith y broblem a derbyn pa fathau o feddyginiaethau a all achosi problemau dibyniaeth a diddyfnu. Roedd y pwyllgor yn ymwybodol nad yw pawb yn derbyn bod cyffuriau gwrth-iselder yn un o'r meddyginiaethau hyn. Fodd bynnag, mae profiadau'r deisebydd ac eraill yn dangos bod dibyniaeth yn bodoli a bod llawer o bobl yn wynebu anawsterau wrth roi'r gorau i ddefnyddio cyffuriau gwrth-iselder.
Rydym yn croesawu ymatebion cadarnhaol Llywodraeth Cymru i’n hadroddiad, a hoffwn ddiolch i’r Gweinidog am ei gydnabyddiaeth wrth wneud hynny, ac yn enwedig y gydnabyddiaeth fod cysylltiad rhwng cyffuriau gwrth-iselder a symptomau diddyfnu mewn rhai achosion. Mae'r deisebydd wedi disgrifio hyn a chydnabyddiaethau eraill yn ymateb y Gweinidog fel cam enfawr ymlaen.
Hefyd, mynegodd y deisebydd bryder fod polisi a thriniaeth ar gyfer dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn wedi’u gosod o dan yr un ambarél â chamddefnyddio sylweddau. Rydym yn cytuno nad yw hyn yn briodol, ac mae'n annhebygol mai gwasanaethau a luniwyd ar gyfer trin caethiwed i gyffuriau ac alcohol yw'r lleoedd gorau i gefnogi pobl sy’n ddibynnol ar feddyginiaeth bresgripsiwn. Argymhellwyd gennym y dylai Llywodraeth Cymru wahaniaethu’n eglur rhwng problemau o’r fath yn y dyfodol a dylent hefyd nodi gweithgarwch penodol i atal hyn, a chefnogi’r rhai a niweidiwyd gan ddibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn. Rydym yn croesawu’r ffaith bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn.
Canllawiau. Ystyriodd y pwyllgor y canllawiau proffesiynol sy'n ymwneud â rhagnodi cyffuriau gwrth-iselder hefyd. Mynegwyd pryderon wrthym ynghylch y posibilrwydd o or-ragnodi a diffyg cyngor i bobl sy’n awyddus i leihau eu dos. Argymhellwyd gennym y dylai Llywodraeth Cymru bwysleisio canllawiau pellach ar y materion hyn, gan gynnwys na ddylid rhagnodi cyffuriau gwrth-iselder fel mater o drefn ar gyfer iselder ysbryd nad yw’n ddifrifol. Yn yr ymateb, nodwn fod y Gweinidog wedi ymrwymo i sicrhau bod canllawiau NICE, sy'n cael eu hadolygu ar hyn o bryd, yn cael eu dosbarthu'n eang yng Nghymru. Fodd bynnag, rwy’n bryderus braidd nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell. Credwn fod gan Lywodraeth Cymru rôl i sicrhau bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn mabwysiadu dull cyson o ragnodi cyffuriau gwrth-iselder a darparu cyngor i gleifion. Mae'r deisebwr hefyd wedi cynnig y gallai fod angen deunydd hyfforddi pellach pe bai’r cynlluniau NICE yn cael eu hadolygu’n sylweddol.
Mae angen i mi fynd i'r afael â dau argymhelliad arall y prynhawn yma mewn perthynas â monitro. Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno dangosydd rhagnodi cenedlaethol ar gyfer cyffuriau gwrth-iselder. Byddai hyn y gwella’r wybodaeth am batrymau rhagnodi sydd ar gael i fyrddau iechyd a Llywodraeth Cymru. Rydym yn credu hefyd y byddai’r wybodaeth hon yn galluogi’r Llywodraeth i ddeall maint y problemau’n well ac yn cefnogi camau i wella'r gwaith o dargedu mathau eraill o driniaethau ar gyfer iselder ysbryd, megis therapïau seicolegol. Rydym yn siomedig fod y Llywodraeth wedi gwrthod yr argymhelliad hwn. Yn ei ymateb, mae’r Gweinidog yn cydnabod pwysigrwydd gwella patrymau rhagnodi. Felly, o gofio nad yw'n ystyried mai dangosydd rhagnodi cenedlaethol yw’r dull cywir, byddem yn croesawu eglurhad ganddo ynglŷn â sut y bwriada’r Llywodraeth fonitro hyn.
Yn olaf, derbyniodd y pwyllgor nifer o gyfeiriadau cadarnhaol at y gwasanaeth cymorth meddyginiaeth ar bresgripsiwn a weithredir gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Trwyddo, mae therapyddion yn gweithio gyda meddygon teulu a fferyllwyr i gynnal asesiadau wyneb yn wyneb o gleifion a chynhyrchu rhaglenni personol. Weithiau bydd y rhain yn cynnwys cyngor ar leihau’r dos bob yn dipyn a chymorth diddyfnu. Yng Nghymru, mae'r cymorth wedi'i dargedu yn unigryw ac i’w weld yn ymyrraeth gost isel. Felly, gwnaethom argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru archwilio’r posibilrwydd o gyflwyno'r gwasanaeth hwn yn genedlaethol. Mae ymateb y Gweinidog yn dynodi ei fod yn ystyried mai cyfrifoldeb byrddau iechyd lleol yw gwneud hyn. Fodd bynnag, mae nifer o fyrddau iechyd wedi dweud wrthym y byddent yn croesawu mwy o gyfleoedd i ddysgu o arferion gorau o ran sut i gefnogi cleifion yn y ffordd orau. Rwy’n dal i gredu y dylai’r Llywodraeth chwarae mwy o rôl arweiniol yn hyn o beth. Felly, fel y rhagwela’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, dylai unigolion sydd wedi dod yn ddibynnol ar feddyginiaethau presgripsiwn yn anfwriadol—eu bod wedyn yn cael cymorth amserol a phriodol a mynediad at therapïau clinigol a seicolegol yn eu hardaloedd heb ofni beirniadaeth a diffyg gwahaniaethu rhwng dibyniaeth ar feddyginiaeth bresgripsiwn a chamddefnyddio sylweddau.
I gloi, Lywydd, roedd hi’n amlwg i'r Pwyllgor Deisebau fod dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn yn fater difrifol ac yn un nad yw bob amser wedi cael y sylw na’r gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu. Rwy’n sicr yn gobeithio bod hyn yn fan cychwyn ar gyfer newid ac rwy’n sicr yn edrych ymlaen at wrando ar y sylwadau eraill a wneir gan Aelodau o’r Senedd yma heddiw yn y ddadl y prynhawn yma. Diolch yn fawr.
A gaf fi ddiolch i Janet Finch-Saunders a'i phwyllgor am y gwaith safonol a phwysig hwn? Rhaid i mi ddweud fy mod yn aml yn teimlo bod gwaith y Pwyllgor Deisebau ymhlith rhai o’r pethau pwysicaf y bydd y Cynulliad hwn yn eu gwneud—y ffordd y mae ein system yn grymuso lleisiau dinasyddion i gael eu clywed yn uniongyrchol. Un o'r pethau mwyaf cadarnhaol y credaf i mi eu clywed heddiw yw’r hyn y mae Janet Finch-Saunders newydd ei ddweud wrthym am ymateb y deisebydd i’r broses gyfan hon, oherwydd mae hynny, o’i luosogi sawl gwaith wrth gwrs yn cynyddu hyder yn y ddemocratiaeth hon fel un sy’n gwrando go iawn ar bobl ac yn ystyried eu pryderon.
Roedd darllen yr adroddiad yn brofiad personol iawn i mi, oherwydd sawl blwyddyn yn ôl, cawsom brofiad yn fy nheulu lle roedd aelod o’r teulu wedi mynd yn ddibynnol ar feddyginiaeth a ragnodwyd ar gyfer problemau iechyd meddwl. Aethom drwy broses a deimlai fel mynd ag aelod o’r teulu drwy’r broses croen gŵydd a welwch wrth ddiddyfnu oddi ar heroin. Nawr, roedd hyn yn ôl yn gynnar iawn yn y 1980au, a’r hyn a oedd yn fy ngofidio i, rwy’n credu, oedd darllen yn yr adroddiad fod rhai o’r problemau hyn yn dal i fodoli—fod problemau o hyd ynghylch priodoldeb darparu'r cyffuriau hyn, fod yna broblemau gyda’r ddealltwriaeth ynghylch gallu rhai o’r meddyginiaethau hyn i ddatblygu dibyniaeth. Ac mae'n bwysig iawn mynd i'r afael â'r problemau hyn. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r deisebydd am ei dewrder personol yn dod â’r materion hyn i sylw’r Cynulliad, ac rwy’n siŵr fod pawb ohonom yn gwerthfawrogi’r dewrder y mae’n sicr o fod wedi’i gymryd i siarad mor agored.
Hoffwn ymateb i ychydig o bwyntiau penodol. Mae un yn angen pwysig iawn, ac yn amlwg mae’r Cadeirydd eisoes wedi cyffwrdd ar hyn, ynglŷn â gwahaniaethu rhwng y math cywir o wasanaethau i gefnogi rhywun sydd wedi datblygu dibyniaeth naill ai ar gyffuriau anghyfreithlon neu ar alcohol a phobl sydd wedi mynd yn ddibynnol ar feddyginiaethau presgripsiwn. Bydd y llwybrau y mae pobl wedi’u dilyn sydd wedi eu rhoi yn y sefyllfaoedd anffodus hynny yn wahanol iawn a bydd y cymorth sydd ei angen arnynt a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt hefyd yn wahanol felly. Ac rwy’n meddwl bod y pwyntiau pwysig a wnaed ynghylch methu gwahaniaethu rhwng y ddau—mae’r rhain yn bethau y bydd yn rhaid i bawb ohonom eu hystyried. Rwy’n teimlo bod angen i mi feddwl am hynny yn fy sgrysiau personol a’r ffordd y gallwn fod yn siarad am rai o’r pethau hyn.
Fel Janet Finch-Saunders, rwyf am ddod at argymhelliad 6 a wrthodwyd gan Lywodraeth Cymru. Rwy’n deall y rhesymau y mae'r Gweinidog wedi'u rhoi, ond buaswn yn gwerthfawrogi pe bai’n gallu rhoi gwybod inni heddiw sut yr eir i’r afael â’r pryderon sy’n sail i’r argymhelliad hwnnw os nad ydynt i’w rhoi ar y rhestr o gyffuriau a dargedir ar gyfer lleihau'r defnydd o gyffuriau. Mae'n wirioneddol bwysig inni gydnabod y gall y meddyginiaethau hyn wneud gwahaniaeth cadarnhaol enfawr i bobl, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders, ond gallant hefyd greu anawsterau wrth gwrs, a rhaid i bobl wybod beth yw’r opsiynau pan fyddant yn cael presgripsiwn ar gyfer y meddyginiaethau hyn, a beth yw’r risgiau posibl, a rhaid iddynt gael cymorth i reoli’r risgiau hynny.
Roeddwn am gyfeirio hefyd at argymhelliad 7, a dderbyniwyd mewn egwyddor gan y Gweinidog, ond mae wedi dweud y dylai fod yn fater i fyrddau iechyd lleol. Credaf mai’r hyn y buaswn yn ei ddweud wrth y Gweinidog—ac mae’n bwynt a godwyd gan Aelodau ar draws y Siambr hon—yw nad ydym bob amser yn dda iawn yng Nghymru am weld rhywbeth sy’n gweitho’n dda mewn un man a’i efelychu a dysgu gwersi ohono mewn mannau eraill. Nawr, ni allaf honni, fel unigolyn, fy mod yn ddigon cyfarwydd â'r model penodol hwn, er fy mod wedi darllen yr hyn oedd gan yr adroddiad i’w ddweud wrth gwrs, ac wedi clywed yr hyn oedd gan Janet Finch-Saunders i’w ddweud. Ond o ystyried bod y byrddau iechyd yn gofyn am arweiniad cenedlaethol cryf ar hyn, tybed a all y Gweinidog ddweud ychydig bach rhagor—ar ôl derbyn mewn egwyddor, a chymeraf fod hynny’n golygu ei fod yn derbyn mewn egwyddor fod angen ychydig mwy o ganllawiau cenedlaethol—a fyddai’n gofyn i’w swyddogion edrych eto ar y model hwnnw a gweld a fyddai modd ei efelychu’n effeithiol yn rhywle arall. Efallai nad yw’n addas. Am resymau daearyddol neu beth bynnag, efallai na fyddai’n gweithio’n arbennig o dda mewn amgylcheddau mwy trefol, ond pan fydd gennym y lefel hon o wybodaeth, rwy'n credu ei bod yn syniad da inni wneud y gorau ohoni. Ac mae'r ymagwedd honno, wrth gwrs, yn cyd-fynd â’r gwaith y mae’r Gweinidog ei hun yn ceisio ei gyflawni drwy’r gronfa drawsnewid, sy’n ymwneud â datblygu modelau da y gellir eu cyflawni’n effeithiol wedyn mewn mannau eraill.
Mae i ba raddau y mae rhai o'r cyffuriau gwrth-iselder hyn yn achosi dibyniaeth yn dal i fod yn destun dadl, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni greu diwylliant o onestrwydd ynglŷn â hyn, ac nid yw’r ffaith y gall meddyginiaeth greu dibyniaeth yn rheswm dros beidio â'i defnyddio, mae'n rheswm dros ei defnyddio gyda gofal. Rydym yn defnyddio morffin i reoli poen eithafol yn yr ysbytai drwy’r amser, ond pan gaiff hwnnw ei ragnodi, mae’r bobl sy’n ei ragnodi’n gwybod beth yw’r risgiau posibl, mae’r bobl sy’n ei gymryd yn gwybod beth yw’r risgiau posibl, ac mae’r system reoli o’i gwmpas yno i atal perygl. Gyda’r sylweddau hyn, a gafodd eu gwerthu i ni wrth gwrs fel cyffuriau gwrth-iselder diogel, rwy'n credu'n wirioneddol fod angen—wel, rwy’n credu ein bod yn gwybod gyda meddyginiaeth sy’n effeithio ar les emosiynol rhywun na all fod yn gwbl ddiogel, ac mae angen inni sicrhau pan fydd pobl yn gwneud penderfynadau ynglŷn â thriniaeth, eu bod yn eu gwneud yn effeithiol.
Fe orffennaf, Lywydd, gan fy mod yn gweld bod fy amser yn dod i ben, drwy ddweud bod hyn mewn rhyw ffordd yn fy atgoffa o’r problemau sydd gennym gyda’n gwasanaethau iechyd meddwl—gwyddom fod llawer o bobl yn cael eu trin â’r meddyginiaethau hyn am nad oes therapïau siarad addas ar gael a allai fod yn llawer gwell. Felly, hoffwn annog y Gweinidog i ystyried ymdrin â'r mater hwn yn y cyd-destun ehangach, a gwn ei fod yn ymwybodol o hyn. Rydym yn gwybod nad oes cysondeb yn y gwasanaethau iechyd meddwl a geir ym mhob rhan o Gymru; gwyddom fod therapïau siarad ar gael i rai ac nid i eraill. Ni ddylai nifer o'r bobl sy’n wynebu’r sefyllfa anodd hon fod wedi gorfod cymryd y feddyginiaeth hon yn y lle cyntaf pe bai triniaethau amgen wedi bod ar gael. Edrychaf ymlaen at glywed ymateb y Gweinidog ac at grynhoi’r ddadl gan Janet Finch-Saunders a’r cyfraniadau gan eraill. Diolch yn fawr.
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch, Lywydd. Rwy'n hapus iawn i fanteisio ar y cyfle i ymateb i adroddiad y Pwyllgor Deisebau a'r ddadl heddiw. Mae mynd i'r afael â dibyniaeth ar feddyginiaethau presgripsiwn a chyffuriau dros y cownter yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon. Mae'r gyllideb ar gyfer camddefnyddio sylweddau wedi cynyddu i bron i £53 miliwn y flwyddyn ar gyfer darparu ystod o wasanaethau a gweithgarwch i ymateb i bob ffurf ar ddefnyddio cyffuriau, gan gynnwys meddyginiaethau presgripsiwn a dros y cownter. Rydym hefyd wedi sicrhau bod gan ragnodwyr ledled Cymru ganllawiau cynhwysfawr a chyngor yn y maes, felly rydym yn hapus i nodi’r cynnig heddiw ac rydym yn derbyn neu’n derbyn mewn egwyddor bob un ond un o’r argymhellion, fel y nododd Janet Finch-Saunders.
Mae argymhellion y pwyllgor yn cyd-fynd yn agos â’r gwaith sydd ar y gweill eisoes, ac sy’n cael ei arwain gan Lywodraeth Cymru a’n partneriaid ar draws y gwasanaeth iechyd gwladol a byrddau cynllunio ardal, gan gynnwys ystod ehangach o bartneriaid, gydag aelodau o’r trydydd sector a’r heddlu yn eu plith.
Argymhelliad 1, sy'n ceisio cydnabyddiaeth i ddibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn mewn polisi a strategaeth genedlaethol: rwy’n falch o roi’r gydnabyddiaeth honno ac yn disgrifio’r cymorth sydd eisoes ar waith a’r gwaith sydd ar y gweill. Rwy’n cytuno â'r angen i wahaniaethu rhwng camddefnyddio sylweddau a dibyniaeth. Felly, bydd ein cynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau ar gyfer 2019-22, y byddwn yn ymgynghori arno yn ystod y misoedd nesaf, yn gwneud y gwahaniaeth hwnnw'n glir. I gydnabod hyn, bydd ein gwaith yn ymateb i broblemau dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn yn y dyfodol yn cael ei oruchwylio ar y cyd gan ein fferylliaeth a’n prosesau rhagnodi yn ogystal â’n timau camddefnyddio sylweddau o fewn y Llywodraeth. Mae ymchwil yn cael ei gyflawni ym Mhrifysgol De Cymru, ac mae Llywodraeth Cymru’n anelu at gael gwell dealltwriaeth o achosion, nodweddion a chanlyniadau meddyginiaethau presgripsiwn a dros y cownter. Bydd y gwaith hwnnw’n llywio polisi ac yn nodi arferion gorau wrth inni fynd ati i ddarparu triniaeth, a disgwyliwn i hyn arwain, gobeithio, at ddatblygu fframwaith triniaethau ar y mater hwn.
Gan droi at argymhelliad 2, mae'r Llywodraeth yn cydnabod bod rhai cleifion sydd wedi ceisio dod oddi ar gyffuriau gwrth-iselder SSRI a SNRI wedi dangos symptomau diddyfnu, a gallant fod yn gyson â symptomau dibyniaeth anfwriadol. Rydym hefyd yn gwybod bod rhai cyffuriau gwrth-iselder yn fwy tebygol o achosi symptomau nag eraill, ond mae hwn yn fater cymhleth lle dylid bod yn ofalus fel nad ydym yn methu gwahaniaethu rhwng problemau dibyniaeth â phroblemau sy’n deillio o roi'r gorau i gyffur. Mae ein safbwynt yn adlewyrchu'r dystiolaeth sy'n dangos y gellir lleihau effeithiau rhoi'r gorau i gyffur drwy leihau'r dos o'r meddyginiaethau'n raddol mewn modd strwythuredig, gyda chefnogaeth y clinigydd rhagnodi i oruchwylio’r broses.
Yn argymhellion 3 a 4, rwy'n gwybod bod angen eglurder ar y canllawiau ar feddyginiaeth na chaiff ei rhagnodi fel mater o drefn ac ar leihau dos meddyginiaeth bresgripsiwn. Fel y nododd Janet Finch-Saunders, mae canllawiau cyfredol gan NICE yn cynghori nad ydynt yn argymell rhagnodi cyffuriau gwrth-iselder fel rheol ar gyfer iselder ysbryd nad yw’n ddifrifol, ond maent yn fwy tebygol o fod yn effeithiol ar gyfer achosion cymedrol i ddifrifol o iselder ysbryd. Ac wrth gwrs, mae'r canllawiau a ddisgwylir ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf, 2020, wrthi’n cael eu hadolygu, a byddwn yn sicrhau eu bod yn cael eu dosbarthu'n eang i glinigwyr yng Nghymru eu mabwysiadu. Deallaf fod Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn bwriadu cyhoeddi datganiad sefyllfa newydd ar gyffuriau gwrth-iselder ac iselder ysbryd, gan gynnwys cyfeiriad penodol at y ffordd orau o reoli’r broses o roi'r gorau i'w defnyddio. Wrth gwrs, byddwn yn gweithio gyda Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru, a fydd yn gwneud argymhellion sy'n benodol i Gymru.
Gofynnai argymhelliad 5 am ddiweddariad ar ein gweithredoedd wrth ymateb i argymhelliad 8 yn ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gamddefnyddio alcohol a sylweddau a gyhoeddwyd ym mis Awst 2015. Gallaf gadarnhau bod Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan wedi cynhyrchu neu gyfrannu at ystod o ganllawiau perthnasol ac arferion da ar feddyginiaethau presgripsiwn a dros y cownter yn unig ers yr ymchwiliad hwnnw. Rhoddais restr o'r gwaith cynhwysfawr hwnnw i'r pwyllgor. Gallaf hefyd gadarnhau bod camau gweithredu penodol yn ymwneud ag argymhellion y cyn banel cynghori ar gamddefnyddio sylweddau wedi'u cynnwys yn y cynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau a ddaeth i ben y llynedd. Mae'r argymhellion a wnaed yn adroddiad y panel cynghori ar niwed yn ymwneud â phoenliniarwyr presgripsiwn yn unig a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr y llynedd yn cael eu hystyried wrth ddrafftio'r cynllun cyflawni newydd ar gyfer 2019-22.
Fel y clywsoch, nid wyf yn derbyn argymhelliad 6. Mae iselder ysbryd yn salwch cyffredin, sy’n dod yn ei ôl dro ar ôl tro, ac mewn rhai achosion, mae’n salwch gwanychol. I lawer o bobl ag iselder ysbryd, bydd rhagnodi cyffur gwrth-iselder yn opsiwn triniaeth diogel ac effeithiol. Credwn y gallai dangosydd rhagnodi cenedlaethol gyda’r nod o leihau rhagnodi gael canlyniad anfwriadol o annog pobl i beidio â defnyddio meddyginiaeth gwrth-iselder yn briodol gan arwain at rai cleifion yn dewis peidio â dechrau triniaeth ac at eraill yn dod oddi ar feddyginiaeth yn gynamserol. Gwyddom y gall meddyginiaethau o'r fath chwarae rhan effeithiol yn rheoli iselder ysbryd. Yr hyn sydd o ddiddordeb i ni yw sicrhau bod meddyginiaeth yn cael ei rhagnodi a'i rheoli'n briodol. Buaswn yn pryderu na fyddai targedu'r rheini ar gyfer lleihau’r defnydd ohonynt yn gyffredinol yn arwain at ganlyniad cadarnhaol i'r unigolyn. Rydym o'r farn o hyd y bydd gwelliannau i arferion rhagnodi, adolygu cleifion a chamau graddol i leihau dos yn ddiogel yn cyflawni'r canlyniadau dymunol a amlinellwyd gan y pwyllgor, ac rydym yn eu rhannu o ran y canlyniad a'r effaith ar yr unigolyn. Wrth gwrs, dylai fod opsiynau triniaeth seicogymdeithasol eraill, fel cwnsela, ar gael ac yn cael eu hystyried. Mae ein buddsoddiad i wella mynediad at therapïau seicolegol a’r amrywiaeth ohonynt yng Nghymru yn parhau i gynyddu. Rydym hefyd yn profi dulliau newydd o wella mynediad at gymorth anghlinigol i wella iechyd meddwl trwy, er enghraifft, ein prosiectau rhagnodi cymdeithasol.
Ac fel y gwyddoch, rwyf wedi cytuno ar argymhelliad 7 mewn egwyddor. Rwy'n cydnabod ac yn cymeradwyo gwaith y gwasanaeth cymorth meddyginiaeth ar bresgripsiwn ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, ond nid wyf wedi fy argyhoeddi o'r angen am raglen genedlaethol yn seiliedig ar y gwasanaeth penodol hwnnw. Rwy'n parhau i gredu y dylid mynd i'r afael â hynny ar lefel leol mewn ymateb i anghenion lleol fel rhan o asesiadau o angen y byrddau cynllunio ardal i sicrhau bod y mater yn cael ei ystyried gan gynnwys sicrhau bod gwasanaethau triniaethau cyffuriau lleol yn ymgysylltu ag ymarfer cyffredinol i ddarparu cymorth ychwanegol pan fo angen. Ceir dulliau gwahanol ond cadarnhaol ar draws Cymru—er enghraifft, yn Aneurin Bevan ar leihau’r defnydd o tramadol. Yn hytrach na chymeradwyo un dull gweithredu ar draws y wlad, rwy'n disgwyl i ymarfer gael ei rannu rhwng gwahanol fyrddau cynllunio ardaloedd i ddeall pa welliant pellach y gellir ei wneud. Yn y lle cyntaf wrth gwrs, dylai eu clinigwyr gefnogi cleifion yn briodol, boed drwy ragnodi meddyginiaeth ac yn wir monitro unrhyw sgil-effeithiau’n rheolaidd a darparu cymorth ar gyfer camau graddol i leihau meddyginiaeth yn ddiogel.
Wrth gwrs, rydym yn cydnabod y bydd rhannu gwybodaeth ac arferion gorau mewn perthynas â dibyniaeth ar gyffuriau yn gwella cefnogaeth i gleifion fel yr argymhellir yn argymhelliad 8, ac mae gan ein Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru rôl allweddol i'w chwarae yn hyn, a byddwn yn parhau i weithio gyda hwy ar rannu arferion gorau ac ysgogi gwelliannau.
Mae argymhelliad 9 ar gyfer GIG Cymru, ond rwy'n cefnogi pob cyfle i'r GIG elwa mwy ar arbenigedd fferyllwyr. Bydd gennym fwy i'w ddweud am hynny yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Rwy'n annog byrddau iechyd, ymddiriedolaethau a chlystyrau gofal sylfaenol i weithio'n fwy cyson â fferyllwyr i gefnogi cleifion. Mae gan ein fferyllwyr rôl hanfodol i’w chwarae yn darparu adolygiadau o feddyginiaeth a chyngor proffesiynol, gan gynnwys yn hollbwysig, yng ngoleuni'r adroddiad hwn, i helpu cleifion i orffen triniaeth a ragnodwyd.
Mewn ymateb i argymhelliad 10, bydd fy swyddogion yn gweithio gyda DAN 24/7 i werthuso a oes angen hyfforddiant pellach ar feddyginiaethau presgripsiwn yn unig ar gyfer staff ac i sicrhau bod y wefan yn darparu cynnwys ar ddibyniaeth ar y meddyginiaethau hyn.
Hoffwn gloi drwy ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am eu gwaith a'r holl bobl a roddodd dystiolaeth, ond yn bwysicaf oll, hoffwn gofnodi fy niolch i Stevie Lewis, a sicrhaodd fod ei phrofiad personol wedi tynnu ein sylw at yr anawsterau a all godi wrth ddiddyfnu oddi ar feddyginiaeth a ragnodwyd.
Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl. Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am yr hyn a oedd mewn gwirionedd yn ymateb manwl iawn ac eithaf cadarnhaol, sy'n galonogol i mi fel Cadeirydd ein pwyllgor, ond hefyd i Stevie, a gyflwynodd y ddeiseb hon oherwydd ei phrofiadau eu hun. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau hefyd am eu cyfraniadau, ac yn arbennig Helen Mary Jones, a roddodd gyfraniad ardderchog fel arfer. Fe wnaethoch chi siarad gan roi llawer o brofiad personol—eich profiadau eich hun gydag aelod o'ch teulu—ac fe wnaethoch chi hefyd roi sylw yn fedrus iawn i'r gwahanol ddulliau sydd eu hangen, ac i sicrhau ein bod yn gwahaniaethu rhwng dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn a chamddefnyddio sylweddau. Rwy'n cytuno â chi. Ni allaf weld unrhyw reswm yn y byd pam, yn enwedig bwrdd iechyd sydd wedi bod mewn mesurau arbennig ers pedair blynedd, lle gellir gweld bod ganddynt, a lle mae wedi'i brofi fod ganddynt fodel da sy’n gweithio, pam nad yw'r Gweinidog sy’n arwain y mesurau arbennig hynny yn argyhoeddedig y gallai cyflwyno'r rheini i ble nad oes tystiolaeth o ymarfer da, lle na ellir ei ddarparu ar hyn o bryd, helpu byrddau iechyd eraill a helpu unigolion eraill fel Stevie gyda'u pryderon.
Buaswn—. Yn eich ymateb, fodd bynnag, ni wnaethoch gyffwrdd â hyn, felly hyd yn oed os ysgrifennwch ataf yn nes ymlaen ar hyn, Weinidog, hoffwn i chi roi rhywfaint o ganllawiau pellach y gallai Llywodraeth Cymru eu rhoi i sicrhau y byddwch yn cyflawni rôl arweinyddiaeth a thrwy wneud hynny, yn cymeradwyo'r model arfaethedig gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol fod angen cyfathrebu effeithiol bellach rhwng fferyllwyr a meddygon teulu, o roi meddyginiaeth yn y lle cyntaf i ddosau llai. Sut y mae'ch Llywodraeth yn bwriadu monitro a lleisio gofynion fferyllwyr a'r diwydiant fferyllol i sicrhau bod cyffuriau presgripsiwn yn cael eu defnyddio'n ddiogel? Hoffwn wybod ychydig mwy hefyd pa wasanaethau cymorth a fydd ar gael ar hyn ledled Cymru yn y dyfodol, felly hoffwn i chi ysgrifennu ataf ynglŷn â hynny.
Ond i gloi, Lywydd, hoffwn ddiolch i Stevie Lewis a phawb sydd wedi gweithio'n galed iawn i gyflwyno'r mater pwysig hwn i'n sylw. Rwy'n gobeithio bod y ddadl hon, a gwaith y broses ddeisebau yn ei chyfanrwydd yn wir, wedi bod yn brofiad cadarnhaol, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth bellach i'r pwyntiau ychwanegol a godwyd y prynhawn yma ac y cymerir camau i ddarparu gwell cyngor a chefnogaeth i bobl yr effeithir arnynt gan ddibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn yn y dyfodol.
Fel y soniais, caf fy nghalonogi’n fawr gan nifer yr argymhellion rydych wedi cytuno arnynt mewn egwyddor: nifer fawr o'r rheini—a dim ond un yr ydym yn anghytuno yn ei gylch mewn gwirionedd. Ond i mi, nid yw argymhellion mewn egwyddor yn golygu dim oni chyflawnir y camau gweithredu yn eu sgil. Felly, diolch i chi eto, Weinidog, a diolch, Aelodau. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Reol Sefydlog 12.36.