Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 4 Mehefin 2019.
Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma? Yn amlwg, mi fydd angen edrych mewn manylder ar y dogfennau atodol sydd hefyd wedi cael eu cyhoeddi heddiw cyn ein bod ni'n gallu dod i gasgliad llawn ynglŷn â rhai o'r newidiadau y mae'r Gweinidog yn cyfeirio atyn nhw. Yn amlwg, mi fydd llawer o'r manylion yn yr ymgynghoriad fydd yn ymddangos mis nesaf, felly mi edrychwn ni ymlaen i weld hwnnw.
Ar y wyneb, dwi'n meddwl bod tôn y datganiad yma yn taro cywair tipyn mwy adeiladol na'r hyn rŷm ni wedi'i gael yn y gorffennol. Dwi'n cyfeirio'n benodol at y ffaith eich bod chi'n dweud y byddwch chi'n cyd-gynllunio—yn 'co-design-io'—agweddau ymarferol y cynllun. Mae'n biti ein bod ni ddim wedi cael co-design o'r polisi o'r cychwyn cyntaf efallai, ond mae'r ffaith bod hynny am ddigwydd nawr, rwy'n credu, yn gam i'r cyfeiriad iawn.
Byddwn i yn gwerthfawrogi, efallai, gwell eglurder y prynhawn yma oddi wrthych chi, er enghraifft, ynglŷn ag unrhyw ymrwymiad o safbwynt ffermwyr gweithredol—active farmers. Mae yna ryw linell yn un o'r dogfennau atodol sy'n dweud y bydd mwy o bwyslais arnyn nhw. Allwch chi gadarnhau i ni mai dim ond ffermwyr gweithredol a fydd yn cael mynediad i'r gefnogaeth rŷm ni'n sôn amdani o dan unrhyw gynllun newydd? Mae'r effaith mae hyn yn mynd i'w gael ar denantiaid hefyd, wrth gwrs, wedi bod yn rhywbeth sydd wedi bod yn ganolog i lawer o'r ymatebion, ac mae yna gyfeiriad at hynny hefyd, felly a allwch chi gadarnhau i ni fan hyn y prynhawn yma y bydd tenantiaid yn cael mynediad at bob ffynhonnell o gefnogaeth a fydd yn cael ei darparu gan y cynllun?
Rŷch chi'n cydnabod, wrth gwrs, fod yna ansicrwydd yn deillio o beth fydd yn dod yn sgil Brexit, ond rŷch chi ddim ond yn cydnabod hwnna yn eich datganiad mewn perthynas â'r amserlen. Nawr, does bosib bod yr holl ddryswch o gwmpas Brexit yn tanseilio unrhyw waith y byddwch chi'n ei wneud dros y misoedd nesaf, oherwydd tan i ni wybod beth yw canlyniad Brexit, yna dŷn ni ddim yn gwybod, yn ei hanfod, pa fath o dirlun neu ba fath o gyd-destun y bydd y diwydiant amaeth yng Nghymru'n gweithredu oddi fewn iddo fe. Felly, mi fydd hynny'n ei gwneud hi'n anodd iawn, iawn i sicrhau bod unrhyw gynlluniau newydd yn rhai cywir, yn rhai addas, yn rhai a fydd yn ymateb i anghenion y sector. Felly, dwi yn poeni. Rŷch chi'n dweud ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n ei gael e'n iawn, ond ar y llaw arall wedyn, rŷch chi'n dweud bod yna gymaint o bethau dydyn ni ddim yn gwybod. Dwi yn stryglo i roi'r ddau beth yna at ei gilydd a chael hyder y bydd y broses yma'n arwain at ganlyniad a fydd yn un a fydd o fudd i'r sector yng Nghymru, oherwydd mae hwn yn newid sydd ddim yn digwydd ar chwarae bach. Un waith rŷm ni'n cael cyfle mewn cenhedlaeth i wneud newid fel hwn, fel rŷch chi wedi cydnabod, ac os ŷm ni'n ei gael e'n anghywir, mae'r canlyniadau'n mynd i fod yn ddifrifol eithriadol.