Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 4 Mehefin 2019.
Ychydig funudau yn ôl, dywedodd y Prif Weinidog wrthym ni o ran penderfyniad yr M4, a dyfynnaf o'i ddatganiad,
Llywydd, penderfyniad yw hwn a wneir pan mae'r ansicrwydd mwyaf ynglŷn â'n dyfodol ariannol. Mae cyni na welwyd ei debyg o'r blaen ym maes cyllid cyhoeddus yn cyfuno â diffyg eglurder llwyr o ran ein cyllidebau cyfalaf am y blynyddoedd i ddod, a gwaethygir hynny gan yr ansicrwydd ynghylch Brexit.
Nawr, dyma un o'r rhesymau pam y mae wedi penderfynu peidio mynd ar drywydd yr M4. Wel, os yw'n berthnasol i'r M4, siawns ei fod yn fwy perthnasol byth o ran yr effaith y bydd Brexit yn ei chael ar y sector amaethyddol.
Rwyf i wedi dweud hyn o'r blaen ac rwy'n mynd i ddweud hynny eto: mae angen sefydlogrwydd ar ffermwyr Cymru. Mae angen sefydlogrwydd, sicrwydd a chysondeb arnyn nhw, ac mae dechrau, fel yr ydych chi'n bwriadu ei wneud, ar y model hwn nad yw wedi'i dreialu erioed o'r blaen yn risg enfawr. Dim ond chi a Michael Gove sy'n cerdded i ffwrdd gyda'ch gilydd i'r cyfeiriad hwn nawr. Mae Llywodraeth yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r 27 gwlad yng ngweddill yr UE, maen nhw i gyd yn aros gyda'r drefn bresennol, dydyn nhw ddim yn cymryd risg â dyfodol ein ffermydd teuluol a dyfodol ein heconomi wledig. Nawr, dydw i ddim yn gwrthwynebu newid, ond mae cyflwyno'r newidiadau hyn ar yr adeg arbennig hon, yn fy marn i, yn ormod o risg.
A fedrwch chi ddweud wrthym ni beth fydd yr amodau masnachu i ffermwyr Cymru ymhen chwe mis? Wn i ddim beth fyddan nhw; dydw i ddim yn credu y gwyddoch chi beth ydyn nhw. A fyddwn ni'n wynebu tariffau andwyol? A fyddwn ni'n wynebu mewnforion enfawr o fwyd rhad? Dydyn ni ddim yn gwybod. Felly, sut y gallwn ni ddylunio rhaglen heb wybod rhai o'r atebion hyn? Dywedoch chi hynny eich hun—nid oes syniad gennych â pha gyllideb y bydd angen i chi weithio, felly sut y gallwch chi gynllunio cynllun heb wybod faint o gyllideb a fydd ar gael ichi? Ydyn, mae pobl wedi gwneud addewidion, ond mae rhai o'r union bobl hynny nawr yn cael eu gwysio gan lysoedd i ddod i ateb cyhuddiadau o gamarwain pobl. Felly, dydw i ddim yn cymryd y bobl hyn ar eu gair.
Felly, dydych chi ddim yn gwybod. Ac, wrth gwrs, os nad yw Michael Gove yn hoffi'ch cynigion, neu o leiaf os na allwch chi gytuno ar gonsensws gydag ef ar rwymedigaethau Sefydliad Masnach y Byd, yna gall ef dynnu'n ôl ei gefnogaeth a gall ef rwystro unrhyw gynigion y dymunwch chi eu gwneud. Felly, gyda'r holl ansicrwydd ac ansefydlogrwydd hwn, mae'n rhaid i mi ddweud, Gweinidog, bod cael gwared ar yr elfen taliad sylfaenol yn golygu, yn y bôn, eich bod yn gwthio amaethyddiaeth Cymru yn ddall, oddi ar glogwyn. Dyna yw fy mhryder, a dyna'r realiti yr ydym ni'n ei wynebu yma.
Oes, mae angen i ni gael pethau'n iawn, felly pam ddylem ni fwrw ymlaen cyn ein bod yn gwybod pa ffurf fydd ar Brexit? Oni ddylai natur Brexit ddylanwadu ar natur y gefnogaeth a gaiff y sector mewn unrhyw gynllun yn y dyfodol. Sut y gallwch chi ymgymryd ag unrhyw asesiadau effaith a modelu ystyrlon pan na allwch chi ateb unrhyw un o'r cwestiynau hynny a ofynnais ichi funudau'n ôl? Bydd y sefyllfa'n newid ymhen chwe mis, ac o bosibl yn newid eto wedi hynny. Mae gormod yn y fantol i weithio'n ddall ar hyn. Bydd penderfyniadau anghywir yn golygu colli bywoliaeth, byddant yn golygu cost gymdeithasol, cost economaidd, ac yn y pen draw bydd colli pobl ar y tir yn cael yr effaith amgylcheddol honno a fydd yn mynd â chi ymhellach o'r lle yr ydych eisiau ei gyrraedd a pheidio â chyflawni rhai o'r nodau yr ydym ni i gyd yn dyheu amdanyn nhw yn y Cynulliad hwn.