Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 5 Mehefin 2019.
Mae Llafur, 'plaid y GIG' fel y mae'n galw ei hun, yn gyfrifol am saith bwrdd iechyd yn unig yng Nghymru, ac mae'n gywilyddus fod pump o'r rhain mewn mesurau arbennig o ryw fath. Ni fydd y mwyaf o'r rhain, sy'n gwasanaethu tua miliwn o bobl, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru, yn dathlu'r ffaith y bydd hi'n bedair blynedd ddydd Sadwrn nesaf ers iddo gael ei roi mewn mesurau arbennig. Y Gweinidog presennol sydd wedi bod â goruchwyliaeth ar y trefniadau mesurau arbennig hyn. Nid oes yr un Prif Weinidog Ceidwadol erioed wedi torri cyllideb y GIG. O dan Lafur, fodd bynnag, Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld gostyngiad mewn termau real yn y gwariant adnabyddadwy ar iechyd rhwng 2010 a 2016.
Gwnaed Betsi Cadwaladr yn destun mesurau arbennig wedi i adroddiadau erchyll ddod yn hysbys am ward iechyd meddwl Tawel Fan. Roedd Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu gwrando ar rybuddion adolygiad Ockenden—neu mae wedi methu gwrando ar rybuddion adolygiad Ockenden ar hyn, ac yn gyson mae wedi anwybyddu pryderon y teuluoedd dan sylw. Efallai ei bod wedi cyfarfod â hwy—mae wedi parhau i'w hanwybyddu. Yn hytrach, dibynnai Llywodraeth Cymru ar adolygiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2018, a ddisgrifiwyd gan y teuluoedd fel ymgais i guddio'r gwir.
Ym mis Ionawr, dywedodd Donna Ockenden nad oedd wedi gweld digon o gynnydd ar wella gwasanaethau iechyd meddwl a datgelodd fod staff wedi dweud wrthi fod gwasanaethau'n mynd tuag yn ôl. Cafodd ei hadolygiad yn 2018 glywed dro ar ôl tro, ers sefydlu'r bwrdd iechyd ym mis Hydref 2009, fod achos pryder sylweddol iawn ynghylch y systemau, y strwythurau a'r prosesau llywodraethu sy'n sail i ystod o wasanaethau a ddarperir gan Betsi Cadwaladr.
Wrth siarad yma ym mis Mai y llynedd, gofynnais i'r Gweinidog iechyd pam nad oedd casgliadau adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a gomisiynwyd gan Betsi Cadwaladr, yn cydfynd â chanfyddiadau adroddiad 2015 Donna Ockenden, adroddiad yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'i dderbyn, neu gydag adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, neu waith mapio gofal dementia, ill dau yn 2013, y flwyddyn y mae'r bwrdd iechyd yn datgan iddo gael ei rybuddio am bryderon difrifol ynglŷn â gofal cleifion ar ward Tawel Fan. Yn wir, roeddwn wedi tynnu eu sylw hwy a Llywodraeth Cymru at bryderon yn 2009.
Er bod staff y rheng flaen yn gweithio'n eithriadol o galed, y mis diwethaf canfu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod ymyrraeth Llywodraeth Cymru yn y bwrdd heb gael 'fawr o effaith ymarferol'. Dywedodd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru ei fod yn cytuno'n llwyr ag argymhellion yr adroddiad a chyfeiriodd at lythyr a anfonwyd at y Gweinidog iechyd lle mae'n nodi bod ei aelodau'n credu bod y drefn mesurau arbennig bellach yn drefn arferol ac yn ymddangos fel pe bai wedi colli ei heffaith. Nid yw targed damweiniau ac achosion brys Llywodraeth Cymru i weld 95 y cant o gleifion o fewn pedair awr, sydd ar waith ers 2008, erioed wedi cael ei gyrraedd. Felly, mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai Betsi Cadwaladr yw'r bwrdd sy'n perfformio waethaf yng Nghymru o hyd. Dim ond hanner ei gleifion a welwyd o fewn pedair awr gan adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Maelor Wrecsam.
Ym mis Ionawr, dywedodd crwner gogledd Cymru, John Gittins, fod oedi yn y gwasanaeth ambiwlans, prinder staff a'r anhawster i sicrhau gofal damweiniau ac achosion brys yn gyflym wedi cyfrannu at farwolaethau niferus ac mae'n bosibl y gallai achosi mwy o farwolaethau. Y mis diwethaf, dywedodd meddyg ymgynghorol uwch, Ian Smith, wrth gwest y crwner i farwolaeth Megan Lloyd-Williams yn Ysbyty Glan Clwyd ei bod hi'n ddwy flynedd a mwy ers iddo dynnu sylw at fwlch mewn gofal a thriniaeth i'r henoed mewn gwrandawiad tebyg, ond nid oedd dim wedi newid, er cael sicrwydd fod gwelliannau wedi cael eu gwneud. Mae hynny'n swnio mor gyfarwydd. Yn dilyn y cwest hwnnw, rhoddodd y crwner tan ddiwedd y flwyddyn hon i'r bwrdd iechyd wneud gwelliannau i'w ofal orthopedig.
Ym mis Mawrth, ysgrifennodd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru at y Gweinidog yn mynegi eu siom ynglŷn ag ymateb Llywodraeth Cymru i bapur opsiynau ar restr perfformwyr meddygon teulu GIG Cymru, gan ddweud bod yr anawsterau yng ngogledd Cymru wedi bod yn bresennol ac yn cynyddu ers o leiaf bum mlynedd. Nid oes unrhyw amheuaeth na fydd yr anawsterau i recriwtio a chadw staff yn parhau. Ychwanegasant nad oedd y ffyrdd eraill y ceisiodd Betsi Cadwaladr eu defnyddio i fynd i'r afael â'r broblem recriwtio mor llwyddiannus ag yr adroddwyd. Bellach maent yn gweithio gyda chynghorau iechyd cymuned ledled Cymru i adolygu profiadau pobl sy'n gorfod aros yn rhy hir yn yr ysbyty pan fyddant yn ddigon iach i adael. A oes unrhyw syndod, felly, fod y Llywodraeth Lafur groendenau hon yn awr yn ceisio gosod corff canolog y gallant ei reoli yn lle cynghorau iechyd cymuned?
Y mis diwethaf yn unig, dywedodd Coleg Brenhinol y Meddygon mai dim ond 43 y cant o swyddi meddygon ymgynghorol a hysbysebwyd yng ngogledd Cymru a gafodd eu llenwi y llynedd. Mae'r datganiadau a wnaeth y Gweinidog iechyd dro ar ôl tro ei fod yn disgwyl gweld gweithredu—fe'u clywsom heddiw, fe'u clywsom bedair gwaith ddoe—yn wag. Mae angen iddo dderbyn ei gyfrifoldeb am fethu cyflawni'r gwelliannau gofynnol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac ymddiswyddo'n anrhydeddus.