Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 11 Mehefin 2019.
Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno bod cynnal budd-daliadau cynhwysol fel presgripsiynau am ddim, pasys bws am ddim, a chynnig cymorth i'r rhai sy'n talu'r dreth gyngor ac mewn angen ariannol yn ffordd well o lawer o fynd i'r afael â thlodi na thoriadau treth y Torïaid i'r rhai sy'n ennill y cyflogau uchaf a chael gwared ar drwyddedau teledu ar gyfer pobl dros 75 oed?