– Senedd Cymru am 3:46 pm ar 11 Mehefin 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Addysg ar reoli llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth. Dwi'n galw ar y Gweinidog Addysg i wneud ei datganiad. Kirsty Williams.
Diolch, Llywydd. Nid oes gen i unrhyw amheuaeth bod rheoli llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth yr ystafell ddosbarth yn hanfodol os ydym ni am gefnogi ein hathrawon i godi safonau. Mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn benderfynol o roi amser i athrawon wneud yr hyn y maen nhw'n ei wneud orau: cynllunio a dysgu'r gwersi gorau posibl i'w disgyblion.
Mae dod o hyd i ffyrdd gwell o reoli llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth yn her sylweddol, ond yn un y mae angen i ni fynd i'r afael â hi os ydym ni'n dymuno cael gweithlu addysg brwdfrydig ac o ansawdd uchel. Rwy'n falch ein bod ni wedi gwneud cynnydd da mewn cyfnod byr i gefnogi ein penaethiaid a'n hathrawon. Er enghraifft, dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym ni wedi bod yn datblygu system werthuso ac atebolrwydd newydd yn seiliedig ar ymddiriedaeth, deialog broffesiynol llawn parch, a chymesuredd; rydym ni wedi cynhyrchu adnoddau lleihau llwyth gwaith, deunyddiau hyfforddi a chanllawiau ar y cyd â'n rhanddeiliaid, gan gynnwys Estyn, consortia rhanbarthol ac undebau; rydym ni'n buddsoddi £36 miliwn i leihau maint dosbarthiadau babanod, gan sicrhau bod athrawon yn gallu neilltuo mwy o amser a sylw i ddisgyblion; rydym ni'n cynnal asesiadau ar-lein llai beichus yn hytrach na phrofion ar bapur i gefnogi cynnydd ac addysg disgyblion; rydym ni wedi cyflwyno gwelliannau i sicrhau tegwch o ran darparu adnoddau a gwasanaethau digidol i athrawon drwy gyfrwng Hwb; ac rydym ni wedi sefydlu cynlluniau arbrofol ar gyfer rheolwyr busnes ysgolion, a nodwyd gan awdurdodau lleol bod dros 100 o ysgolion yn rhan o'r rhaglen honno, sydd wedi bod ar waith ers bron i ddwy flynedd erbyn hyn, gan roi cymorth gweinyddol ychwanegol i arweinyddion ysgolion.
Nawr, dim ond rhai enghreifftiau yw'r rhain o'r camau yr ydym ni wedi eu cymryd drwy weithio gyda'n gilydd. Ac wrth gwrs, rwy'n ymwybodol bod angen cefnogi ysgolion wrth i ni baratoi ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm newydd. Mae fy swyddogion i'n parhau i nodi'r arferion gorau i leihau effaith unrhyw broblemau llwyth gwaith wrth ddechrau cyflwyno'r cwricwlwm newydd yn 2022. Er hynny, er ei bod hi'n amlwg ein bod ni'n gwneud cynnydd o ran mynd i'r afael â llwyth gwaith, fe ellir gwneud mwy ac mae'n rhaid gwneud mwy. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd parhau i weithio ar y cyd â'r sector i ddod o hyd i ffyrdd eraill o gefnogi'r gweithlu. Ac i'r perwyl hwnnw, ym mis Ebrill, fe sefydlais i grŵp rheoli llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth, a oedd yn cynnwys rhanddeiliaid o bob haen ac o undebau llafur. Mae'r grŵp hwn wedi ystyried y blaenoriaethau y gallwn ni ddechrau gweithio arnyn nhw ar unwaith, yn ogystal â chamau gweithredu ychwanegol byrdymor, tymor canolig a hirdymor yn rhan o gynllun eang sy'n nodi gwaith i'w gwblhau i gynorthwyo athrawon wrth reoli llwyth gwaith.
O'r camau gweithredu niferus i'w hystyried wrth symud ymlaen, rydym ni wedi penderfynu canolbwyntio ar bedair blaenoriaeth allweddol ar unwaith y gallwn eu cyflawni yn ystod tymor yr hydref, cyn ailystyried cynigion tymor canolig a thymor hwy y grŵp. Y pedair blaenoriaeth hyn yw (1) datblygu siarter a phecyn cymorth llwyth gwaith a lles ar gyfer gweithlu'r ysgol, (2) adfywio a hyrwyddo'r adnoddau a'r pecyn hyfforddi sy'n lleihau llwyth gwaith ac, yn hollbwysig, monitro'r niferoedd sy'n manteisio arno, (3) datblygu ymhellach a dosbarthu'r modelau hyfforddi a'r astudiaethau achosion enghreifftiol a luniwyd ar draws y pedwar consortiwm rhanbarthol i ddatblygu dull cydlynus o weithredu ar sail genedlaethol, a (4) cynnal ymarfer archwilio sector cyfan i archwilio pa ddata sy'n cael eu casglu ym mhob haen, a sut y dylid ystyried asesiad o effaith ar lwyth gwaith yn rhan o unrhyw ddatblygiad polisi.
Fe wnaeth y grŵp rheoli llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth gyfarfod i drafod datblygu'r pedair blaenoriaeth hyn ar 5 Mehefin. Mae rhanddeiliaid ar draws pob haen ac undebau llafur wedi ymrwymo i sicrhau bod y blaenoriaethau hyn yn cael eu rhoi ar waith cyn gynted â phosibl. Serch hynny, pan fydd y rhain wedi eu cyflawni, bydd y grŵp yn parhau i weithio drwy'r cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r camau gweithredu byrdymor, tymor canolig a hirdymor a nodwyd i helpu i reoli llwyth gwaith yn well a lleihau biwrocratiaeth lle bynnag y bo modd.
Mae'n bwysig dros ben ein bod ni'n parhau i ganolbwyntio ar y dasg hon i sicrhau y caiff ein diwygiadau addysgol eu cyflwyno'n ddidrafferth wrth symud ymlaen. Rwy'n cydnabod yr ymrwymiad o ran gwaith ac amser sydd wedi ei roi gan yr holl randdeiliaid i helpu i fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn ac rwy'n edrych ymlaen at eu hymgysylltiad a'u hymrwymiad yn y dyfodol. Mae'n wirioneddol bwysig ein bod ni'n parhau i weithio ar y cyd i fynd i'r afael â'r heriau yn uniongyrchol a sicrhau ein bod ni'n nodi pob ffordd bosibl o reoli'r llwyth gwaith yn well a lleihau biwrocratiaeth.
Yn ogystal â hyn, rydym ni'n bwriadu ceisio cefnogi'r gwaith hwn drwy gynnal arolwg arall o weithlu ysgolion o fewn y 12 mis nesaf a byddwn yn dechrau trafodaethau â rhanddeiliaid cyn bo hir ynghylch cyflawni'r arolwg hwnnw. Rwy'n ffyddiog y bydd y gwaith yr ydym ni'n ei wneud yn cefnogi ein nod o ddatblygu proffesiwn addysg o safon uchel sy'n cael cefnogaeth dda. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Rwy'n siŵr, fel pawb yn y Siambr hon, mewn gwirionedd, ein bod ni'n gweld athrawon sy'n parhau i ddweud wrthym ni mai'r llwyth gwaith yw un o'r materion pwysicaf iddyn nhw a bydd y diweddariad a gawsom ni heddiw yn ein helpu i ddeall ac efallai'n gofyn iddyn nhw pa un a ydyn nhw wedi cael y math o gymorth yr ydych chi wedi bod yn sôn amdano yn yr ysgolion lle maen nhw'n dysgu, oherwydd mae'n debyg mai un o'r pethau y byddai gennych chi ddiddordeb ynddo hefyd yw pa un a yw'r camau sydd wedi eu cymryd i wella'r llwyth gwaith wedi mynd i wraidd pethau, fel petai.
Fel y gwyddom ni, mae gennym ni broblem recriwtio athrawon yn ymylu ar drothwy argyfwng ar hyn o bryd—nid yn unigryw i Gymru, wrth gwrs, ond yn arbennig o ddifrifol mewn rhai rhannau yng Nghymru, fel y dengys yr anawsterau sydd gennym ni o ran ateb y galw am athrawon cyflenwi mewn rhannau arbennig o Gymru. Yn sicr, cytunodd y Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg â chi yn 2017 fod y llwyth gwaith yn effeithio ar y potensial i addysgu i safonau da, ond ei fod yn niweidio lles staff hefyd. Dyna pam yr argymhellodd waith ar unwaith i sefydlu'r lefel y mae llwyth gwaith yn rhwystr i recriwtio.
Ers hynny, wrth gwrs, rydym ni wedi cael yr adolygiad cyflogau ac amodau hefyd, na wnaethoch chi sôn amdano yn eich datganiad, ond rwyf i o'r farn ei fod yn berthnasol i'r pwynt cyffredinol. Hoffwn i wybod, er hynny, pam mai dim ond ym mis Ebrill y sefydlwyd y grŵp rheoli llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth a pham mai dim ond nawr y mae wedi nodi'r angen i gynnal archwiliad ar draws y sector ac, os wyf i'n deall hyn yn iawn, asesu effaith asesiadau o effaith. Ydych chi'n meddwl tybed—? Wel, efallai fy mod i'n meddwl tybed a yw'r oedi wedi ymestyn y cyfnod pryd y bydd hi'n her i recriwtio athrawon.
Dim ond ar bwynt y cynllun arbrofol rheolwyr busnes ysgolion, roedd hwnnw wrth gwrs yn un o'r camau a gafodd rywfaint o sylw ar y pryd. Nid wyf i gant y cant yn siŵr pryd yn union yr aeth y rheolwyr cyntaf i'r ysgolion, ond efallai y gallwch chi roi rhyw syniad i ni o'r adrodd yn ôl a gawsoch chi yn ystod y cyfnod hwnnw, yn unol â chais y Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg. A wnewch chi ddweud wrthym ni hefyd faint o'r gost honno o £1.28 miliwn a glustnodwyd ar gyfer y gwaith hwn, sydd wedi cael ei wario a pha mor rhwydd y bu hi, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni, i gael yr awdurdodau lleol i rannu'r gost honno, gan fod hynny, wrth gwrs, yn rhan o'r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol?
Rwyf i wedi siarad ag athrawon yn fy rhanbarth i sy'n canmol Hwb i'r entrychion— i'r fath raddau fel bod rhai o'r ysgolion preifat, fel y gwyddoch chi, yn awyddus iawn i dalu i gael defnyddio'r gwasanaeth hwnnw hefyd. Ond beth allwch chi ei ddweud wrthym ni am rai o'r adnoddau eraill yr ydych chi wedi sôn amdanyn nhw yn eich datganiad a'r niferoedd sy'n manteisio ar hynny ac efallai pwy sy'n talu am y rhain hefyd? Yn arbennig, mae gen i rai pryderon am y canllawiau un dudalen hyn a gyhoeddwyd gan Estyn i helpu athrawon i ddeall sut i leihau eu llwyth gwaith. Daeth yr adolygiad o gyflogau i'r casgliad ei fod wedi syrthio ar dir caregog, ac athrawon yn parhau i weithio hyd at 50 awr yr wythnos a chyfraddau uchel o absenoldeb athrawon.
Mae'n debyg mai'r hyn yr wyf i'n ei ofyn yw sut mae canfyddiadau adolygiad cyflog 2018, neu'r adolygiad o gyflogau ac amodau, wedi addasu eich blaenoriaethau wrth leihau llwyth gwaith a biwrocratiaeth ac a ydyn nhw'n ysgafnhau'r gwaith ychwanegol y mae athrawon yn ei wneud ar hyn o bryd i lenwi bwlch y staff sydd wedi cael eu diswyddo gan ysgolion o ganlyniad i ddyraniadau cyllidebau craidd ysgolion yn crebachu i'r fath raddau yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf? Oherwydd byddai'n siomedig, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno, i symud ymlaen wrth leihau'r llwyth gwaith ddim ond i hynny gael ei ddadwneud am y rheswm syml bod nifer yr athrawon mewn ysgolion wedi lleihau.
Yn gryno, gan fod athrawon cyflenwi yn chwarae rhan fawr wrth helpu i leihau llwyth gwaith—mae'n debyg bod angen datganiad arall am hynny arnom ni, ond pe gallech chi roi syniad i ni am y gwaith sy'n mynd rhagddo i gadw athrawon cyflenwi er mwyn meithrin cynhwysiant o fewn y gweithlu, os mynnwch chi. Ac yna'n olaf, yn gysylltiedig â hynny efallai, y paratoadau ar gyfer y cwricwlwm newydd. Bydd newydd-ddyfodiaid, wrth gwrs, yn cael eu hyfforddi yn hyn o'r dechrau, ond fe wnaethoch chi ganfod £9 miliwn y llynedd a £15 miliwn eleni i baratoi'r gweithlu presennol tuag at y dyfodol. Gyda phrinder staff cyflenwi a phrinder maint yn yr ysgolion nawr a'r llwyth gwaith trwm sy'n bodoli eisoes, sut y gallwch chi fod yn siŵr, er eich bod wedi dod o hyd i'r arian efallai, bod yr athrawon yn gallu dod o hyd i'r amser i fod yn barod am Donaldson? Ac, os yw athrawon yn gadael eisoes oherwydd llwyth gwaith uchel, nid wyf i'n credu y bydd £24 miliwn yn eu hatal nhw rhag gadael, ac rwy'n meddwl tybed wedyn sut y gallwch chi egluro sut y gellid defnyddio'r arian hwnnw i helpu athrawon i aros yn y system, oherwydd nid wyf i'n credu bod y cysylltiad yn cael ei wneud, gan yr athrawon yr wyf i wedi siarad â nhw beth bynnag, ar hyn o bryd. Diolch.
Diolch yn fawr i chi, Suzy, am y cwestiynau yna. Fel yr amlinellais i yn fy natganiad, nid ydym wedi bod yn fyddar i'r pryderon a godwyd gan undebau athrawon ynglŷn â llwyth gwaith. Amlinellais nifer o gamau y mae'r Llywodraeth wedi eu cymryd eisoes. Diben sefydlu'r grŵp oedd symud y materion hyn ymlaen yn gynt a sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed. Mae hynny'n golygu bod yr holl undebau, pa un a ydyn nhw'n cynrychioli penaethiaid, neu'n cynrychioli'r gweithlu addysgu ac, yn hollbwysig, y rhai sy'n cefnogi athrawon a chynorthwywyr addysgu yn rhan o'r grŵp hwnnw yn ogystal â chonsortia rhanbarthol ac Estyn. Y nhw sydd wedi penderfynu mai dyma'r pedwar maes y bydden nhw'n dymuno gweld cynnydd ynddyn nhw yn nhymor yr hydref ac rwy'n falch iawn bod y Llywodraeth, ar y cyd â'r undebau wedi cytuno ar y ffordd ymlaen, oherwydd yr ydych chi'n iawn i ddweud mai llwyth gwaith yw'r un mater y mae'r proffesiwn wedi ei nodi fel mater sy'n gweithio yn ein herbyn ni efallai wrth i ni ymdrechu i ddenu mwy o bobl i'r proffesiwn, er bod yn rhaid i mi ddweud nad yw dweud trwy'r amser pa mor anodd a heriol yw'r gwaith hwn yn helpu gyda'n hymdrechion recriwtio. Yn ddiamau, mae dysgu yn swydd heriol, ond mae hi'n yrfa hynod o foddhaus ac rydym ni'n eiddgar i wneud yn siŵr bod mwy o bobl yn ei dewis a bod mwy o bobl sy'n dewis hyfforddi yn aros yn y proffesiwn hwnnw drwy gydol eu gyrfaoedd.
Gofynnodd yr Aelod rai cwestiynau penodol am y cynllun arbrofol rheolwyr busnes ysgolion. Fel y dywedais, cafodd dros 100 o ysgolion eu nodi gan awdurdodau lleol yn rhan o'r cynllun arbrofol. Yn wreiddiol, cyflwynodd 11 awdurdod lleol gynigion i gymryd rhan. Roedden nhw'n cynnwys Ynys Môn, sir Fynwy, Caerffili, Caerdydd, Conwy, Powys, sir Gaerfyrddin, Bro Morgannwg, Torfaen, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe. Ac, yn y pen draw, mae gan 10 o'r 11 awdurdod ysgolion sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen. Ym mis Gorffennaf 2018, comisiynodd swyddogion gwmni ymchwil Miller Research i gynnal adolygiad dros dro annibynnol o berfformiad a gweithrediad y cynllun arbrofol yn ystod ei flwyddyn gyntaf, a chanfu'r adroddiad gwerthuso dros dro bod mwyafrif helaeth yr adborth gan benaethiaid ac arweinyddion ysgolion yn gadarnhaol iawn. Mae'r prif fuddion yn ymwneud ag arbedion amser, llai o lwyth gwaith a sicrhau gwerth am arian gwirioneddol yn y ffordd y mae'r ysgol yn defnyddio ei chyllideb. Roedd cael rheolwr busnes wedi cael effaith gadarnhaol o ran lleihau'r baich gwaith gweinyddol sydd ar benaethiaid ysgolion cynradd, ac mewn rhai achosion, ar benaethiaid ysgolion uwchradd. Roedd y swyddi wedi eu galluogi hefyd i weld gwelliannau o ran effeithiolrwydd systemau rheoli busnes ar draws clystyrau yn ogystal â, fel y dywedais, rheolaeth ariannol gost-effeithiol i ysgolion.
Mae rhai o'r ffigurau o ran yr hyn a gafodd ei arbed ar gontractau llungopïo ysgolion yn dod â dŵr i'r llygaid yn llythrennol, ac efallai y byddaf i'n gallu rhoi manylion pellach i'r Aelodau am hynny. Ond mae cael yr unigolyn hwnnw yno sydd â set benodol o sgiliau ac, yn hollbwysig, sydd â'r amser i droi ei sylw at y materion hyn, wedi cael effaith. Bûm yn ddigon ffodus i ymweld â'r rheolwyr busnes sy'n gweithio yng nghynlluniau arbrofol sir Fynwy a chynlluniau arbrofol Conwy, ac maen nhw wedi gweithio gyda'i gilydd fel tîm o bobl i reoli eu llwyth gwaith hefyd, i sicrhau nad ydyn nhw'n ailddyfeisio'r olwyn wrth ddylunio, er enghraifft, ymatebion i newidiadau o ran diogelu data. Felly, maen nhw'n gwneud hyn unwaith ar gyfer eu hysgol eu hunain ac yna maen nhw'n rhannu hynny gyda'r rheolwyr busnes eraill. Felly, ceir arfer rhagorol yn y fan yma. Rydym ni'n bwriadu comisiynu gwerthusiad annibynnol llawn yn ystod tymor y gwanwyn 2020, a bydd enghreifftiau o arfer gorau yn rhan o'r gwerthusiad hwnnw. Byddwn ni'n darparu achosion enghreifftiol y gallwn ni eu rhannu ar draws y system. Felly, mae'r gwerthusiad annibynnol hwnnw o'r cynllun hwnnw wedi ei wneud ar sail dros dro, a bydd yn parhau.
O ran Hwb, rwy'n falch bod yr Aelod wedi cael adborth cadarnhaol gan y proffesiwn ynglŷn â defnyddioldeb Hwb. A gaf i roi enghraifft o ddim ond un ffordd yr ydym ni'n gwella mynediad at hynny? Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddais y bydd Cymru yn un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i ariannu ceisiadau yn ganolog am feddalwedd ystafell ddosbarth Microsoft ar gyfer pob ysgol a gynhelir, diolch i fuddsoddiad newydd gan Lywodraeth Cymru. Nid yn unig y bydd y buddsoddiad newydd hwn o £1.2 miliwn yn gwella tegwch o ran y meddalwedd sydd ar gael i ystafelloedd dosbarth digidol, mae'n caniatáu i athrawon gael mynediad am ddim at hynny, ac fe allan nhw ddefnyddio'r drwydded honno i ddefnyddio'r meddalwedd hwnnw ar hyd at bum dyfais. Felly, nid oes angen iddyn nhw allu talu am nifer o drwyddedau er mwyn cael y mynediad hwnnw; er enghraifft, os ydyn nhw'n gweithio o gartref neu'n gweithio o bell ar unrhyw adeg. Felly, mae hynny'n cymryd y baich oddi arnyn nhw ac yn sicrhau bod yr adnoddau y mae eu hangen arnyn nhw ar gael iddyn nhw.
Mae'r Aelod yn iawn y gellid bod wedi cael datganiad ar wahân ynglŷn ag athrawon cyflenwi, ond bydd yr Aelod yn ymwybodol mai'r flaenoriaeth i mi oedd gwella telerau ac amodau gwaith athrawon cyflenwi gydag asiantaeth gyswllt genedlaethol newydd ar gyfer cyflenwi, a chredaf y bydd hynny'n codi safonau ac, yn hollbwysig, yn rhoi sylfaen o ran tâl ac amodau, a fydd, gobeithio, o fudd gwirioneddol i'r rhai sy'n canfod eu hunain yn gweithio fel athrawon cyflenwi, sy'n agwedd bwysig iawn ar ein gweithlu addysg.
Ac yn olaf, ar fater addysg proffesiynol, gadewch i ni fod yn glir nad yw'r arian ynddo'i hun ar gael i berswadio pobl i ddal ati i fod yn athrawon; mae'r arian ar gael yn bennaf i sicrhau bod yr athrawon hynny wedi cael eu paratoi yn y ffordd orau ac yn gallu manteisio ar y cwricwlwm newydd. Ond yr hyn a wyddom ni o'r ymchwil sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan rai o'n darparwyr TG yw bod sicrhau bod athrawon yn gallu cael hyfforddiant datblygiad proffesiynol gydol oes yn un o'r ffyrdd y gallwn ni ddenu'r rhai gorau a'r mwyaf disglair i'r proffesiwn. Pan fyddwn ni'n meincnodi addysg yn erbyn proffesiynau eraill y gallai graddedigion medrus iawn eraill fod yn dymuno eu dilyn, un o'r pethau y maen nhw'n ei ddweud eu bod nhw'n chwilio amdano yw'r datblygiad proffesiynol parhaus hwnnw a'r llwybr hwnnw o symud ymlaen o fewn y proffesiwn hwnnw. Felly, mae dysgu proffesiynol yn y cyd-destun hwn yn ymwneud â darparu'r cwricwlwm, ond mewn gwirionedd mae'r ymrwymiad hwnnw i'r unigolion hynny y byddwn ni'n cefnogi eu gyrfa drwy gydol eu cyfnod yn ein hysgolion gyda dysgu proffesiynol parhaus yn bwysig iawn.
Ac o ran amser, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod ni wedi ymgynghori yn ddiweddar, er enghraifft, ar un diwrnod hyfforddiant mewn swydd ychwanegol i ategu'r diwrnodau HMS sydd gan ysgolion eisoes ar gyfer dysgu proffesiynol, ac rwy'n gobeithio gallu symud ymlaen â'r rheoliadau hynny yn fuan.
Diolch am y datganiad. Does dim dwywaith fod lleihau baich gwaith athrawon a lleihau biwrocratiaeth yn rhan bwysig o'r gwelliannau sydd angen digwydd er mwyn codi safonau yng Nghymru. Mae'r berthynas rhwng athro a disgybl yn allweddol i lwyddiant dysgu ar lawr y dosbarth, ac felly mae unrhyw beth sydd yn amharu ar y berthynas honno angen ei gwestiynu a'i gwestiynu yn rheolaidd. Dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno bod angen creu proffesiwn sydd yn fwy atyniadol ar gyfer pobl ifanc, ac mae lleihau'r baich gwaith a lleihau biwrocratiaeth yn rhan o'r cylch yna o geisio gwneud y proffesiwn yn fwy atyniadol, dwi'n credu.
Gaf i ofyn yn gyntaf i chi am yr awdit data rydych chi'n sôn amdano fo yn y pedwerydd pwynt, dwi'n meddwl, gennych chi fan hyn? Beth fydd hyd a lled yr ymarferiad yma? Ydych chi yn edrych arno fo o safbwynt lleihau faint o ddata mae disgwyl i athrawon ei gofnodi? Dwi'n siŵr y byddai hynny yn cael ei groesawu. Mae'n debyg ei fod o yn faich, yr holl gasglu data yma, y gellid lleihau dipyn arno fo. Felly, dwi'n croesawu yr awdit yma fel man cychwyn ar gyfer hynny.
Yn y tymor hirach, ydych chi'n credu bod angen adolygiad mwy cynhwysfawr, efallai, i'r dyfodol, gan edrych nid yn unig ar y data sydd angen ei gofnodi a'i gasglu, ond hefyd y ffaith fod yr holl gyrff gwahanol yma angen ymatebion yn aml iawn? Hynny yw, mae angen i athrawon fod yn ymatebol i wahanol haenau ac i wahanol bobl sydd yn dod i mewn i'r sefyllfa yn yr ysgol. Ac mi fyddaf i'n meddwl weithiau, tybed a oes yna ormod o hynny'n digwydd ac a oes yna ddyblygu'r hyn sydd yn cael ei fonitro a'r hyn y mae'n rhaid i athrawon ymateb iddo fo, a bod hyn yn ddiangen, mewn gwirionedd, a bod angen, efallai, edrych ar drio tynhau'r holl agwedd yna ar waith athrawon sydd, eto, yn ymyrraeth sydd yn gallu amharu ar y berthynas yma. Mae elfennau ohono fo'n ymyrraeth sy'n gorfod digwydd, ond tybed a oes yna ormod o'r un peth yn digwydd. Dyna fy nghwestiwn i yn fanna. Yn y tymor hirach, efallai bod eisiau edrych yn fwy manwl ar hynny.
Roedd Suzy Davies yn sôn am y rheolwyr busnes mewn ysgol, ac roeddwn i'n gwrando arnoch chi'n sôn am y peilot lle mae yna 100 o ysgolion wedi bod yn rhan ohono fo ers dwy flynedd, a fy nealltwriaeth innau hefyd ydy bod rôl y rheolwr busnes yn gweithio'n dda, ac mi wnaethoch chi amlinellu rhai o'r buddion. Ond, wrth gwrs, oherwydd yr holl ofynion eraill ar gyllid ysgolion, tybed a ydy'r swyddogaeth yma'n gynaliadwy mewn gwirionedd mewn hinsawdd o doriadau. Yn anecdotaidd, beth bynnag, dwi'n clywed bod llai a llai o ysgolion yn buddsoddi yn y rôl yma, neu fod y rôl rheolwr busnes yn un o'r rhai cyntaf, efallai, i ddiflannu mewn cyfnod o orfod canfod toriadau, er gwaetha'r manteision amlwg. Ac, wrth gwrs, dydy cael rheolwr busnes ddim yn opsiwn realistig ar gyfer rhai o'n hysgolion lleiaf oll ni. Tybed a oes yna angen gweithio'n fanna ar ryw fath o reolwr busnes sy'n gweithio ar draws nifer o ysgolion. Dwi'n gwybod bod hwnna'n digwydd mewn rhai ardaloedd. Efallai bod hwnna'n arfer da i'w ledaenu.
Yn olaf, a gaf i eich holi chi am yr adolygiad a wnaed gan Mick Waters a Melanie Jones ynglŷn â datganoli tâl ac amodau i Gymru? Dwi'n cymryd bod rhan o'r datganiad yma heddiw yn ymateb i rai o'u sylwadau nhw. Ond mi roedd yna 37 argymhelliad yn yr adroddiad yna, a dwi'n gwybod eich bod chi wedi ymateb i rai ohonyn nhw ond mae yna rai dal yn sefyll, ac mi fyddai'n ddiddorol cael, efallai, datganiad pellach ynglŷn â rhai o'r materion sydd yn dal i sefyll. Er enghraifft—mae hwn werth ei ystyried, dwi'n meddwl; mae'n gallu bod yn ddadleuol—ond mi roedden nhw'n argymell system o reoli gyrfa a chefnogaeth i athrawon ac yn argymell model cyflogaeth newydd ar gyfer penaethiaid ysgol ble mae penaethiaid yn gweithio ar lefel rhanbarthol yn hytrach na bod yn gysylltiedig efo ysgolion unigol. Byddai'n ddiddorol cael eich ymateb chi i hynny. Dwi ddim yn dweud fy mod i'n cytuno neu'n anghytuno, ond byddai'n ddiddorol gweld beth ydy'r drafodaeth ac a oes yna drafodaeth ynghylch hynny. Mae'n debyg bod yna fanteision petai angen arweiniad ar lefel mwy na lefel ysgol unigol, ac mae sgiliau penaethiaid, efallai, yn gallu cael eu rhannu ar draws nifer o ysgolion neu mewn rhanbarth. Felly, pryd ydych chi'n bwriadu ymateb i'r holl argymhellion a wnaed yn yr adroddiad gan Waters a Jones?
A wedyn, yn olaf, faint o sgôp ydych chi'n ei weld rŵan yn y tymor hir i wella amodau gwaith, yn cynnwys baich gwaith a biwrocratiaeth, drwy gyfrwng y pwerau datganoledig newydd ynglŷn â thâl ac amodau? Efallai fedrwch chi egluro sut ydych chi'n gweld cylch gorchwyl corff annibynnol adolygu tâl Cymru'n datblygu wrth i ni weld y pwerau newydd yma'n gwreiddio ac wrth i ni gael gwell dealltwriaeth o beth ydy posibiliadau defnyddio'r pwerau newydd wrth symud ymlaen. Diolch.
A gaf i ddiolch i Siân Gwenllian am y sylwadau a'r cwestiynau yna? Fe ddechreuodd hi drwy ofyn cwestiwn am ehangder yr archwiliad data. Bydd Llywodraeth Cymru yn arwain ar y flaenoriaeth hon, ac mae gwaith ar y gweill i gynnal archwiliad o'r data gorfodol sy'n cael eu casglu ar hyn o bryd, fel sy'n ofynnol yn y rheoliadau, ac yn hollbwysig, i ba ddiben y defnyddir y data hynny. A ydyn nhw'n ychwanegu mewn gwirionedd at godi safonau, at gau'r bwlch cyrhaeddiad ac at amcanion y genhadaeth genedlaethol? Felly, rydym ni'n dechrau gyda'n gofynion ein hunain i ysgolion. Ar ôl cwblhau hynny, cynhelir archwiliad pellach ar ba ddata y mae'r haen ganol yn eu casglu gan ysgolion—sef awdurdodau addysg lleol a'r consortia rhanbarthol. Ac eto, yn hollbwysig, i ba ddiben y defnyddir y data hynny? A ydyn nhw'n ychwanegu at yr addysgu a'r dysgu, neu a ydym ni ond yn eu casglu er mwyn eu casglu a'u bod yn gorwedd mewn ffeil gyfrifiadurol neu mewn ffeil bapur yn rhywle? Bydd y grŵp mewn sefyllfa wedyn i adolygu'r casgliadau hyn o ddata i weld a geir unrhyw ddyblygu, a pha un a yw'r casgliadau yn parhau i fod yn angenrheidiol ac a ydyn nhw'n berthnasol, ac a ellir eu symleiddio neu, yn hollbwysig, eu dileu o'r gofynion yn gyfan gwbl. Felly, dyna ddiben yr archwiliad, gan ddechrau gyda'r hyn yr ydym ni'n gofyn amdano gyntaf fel Llywodraeth ac yna rhoi sylw i'r hyn y mae'r haen ganol yn ei ofyn.
Arweiniodd hynny, wedyn, at gwestiynau am yr haen ganol. Awgrymodd yr Aelod fod hyn efallai ar gyfer y tymor hwy. Wel, yn sicr nid ar gyfer y tymor hwy y mae hyn yn fy marn i. Yn gynharach eleni, fe wnaethom ni sefydlu'r grŵp haen ganol dan gadeiryddiaeth Dylan Jones o Goleg y Drindod Dewi Sant, cyn-bennaeth profiadol a llwyddiannus iawn sydd bellach yn arwain yr ysgol addysg yng Nghaerfyrddin. Diben y grŵp hwnnw yw gwneud yn union yr hyn a ddywedodd Siân Gwenllian: sicrhau bod mwy o gysondeb rhwng agweddau ar yr haen ganol, i sicrhau nad oes dyblygu a bod y gofynion sydd ar benaethiaid ac athrawon yn gyson—felly ni ddylai unrhyw bennaeth ofyn iddo'i hunan, 'Gwas pwy ydw i heddiw? Ai'r awdurdodau addysg lleol, ai'r consortia rhanbarthol, ai Estyn, ai Llywodraeth Cymru?' ac fel bod cyfochri a gweledigaeth glir iawn am yr hyn sy'n cael ei ofyn gan ein hysgolion, ac, yn hollbwysig, pwy sy'n gyfrifol am wneud beth. Nid oes digon o arian yn y system i ni fod yn cwympo ar draws ein gilydd a dyblygu swyddogaethau'r chwaraewyr eraill yn y maes. Felly, dyna ddiben y grŵp hwnnw—i gael eglurder ar gyfer ein haen ganol ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am wneud beth, pryd mai eu gwaith nhw yw ei wneud, a sicrhau bod eglurder ar gyfer ein harweinwyr ysgol ynglŷn â'r hyn sy'n cael ei ofyn ganddyn nhw. Mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd.
O ran rheolwyr busnes ysgolion, efallai ei bod hi'n anochel y bydd pobl yn holi pa un a yw hi'n iawn i ddefnyddio adnoddau i gyflogi gweithwyr proffesiynol nad ydyn nhw'n addysgu, ond fel y dywedais, mae gwerthusiad dros dro o'r cynllun arbrofol hyd yn hyn wedi cael ei groesawu'n fawr gan y penaethiaid dan sylw, ac mewn llawer o achosion, mae'r arbedion y gallodd y rheolwyr busnes hynny eu cyflawni, er enghraifft, yn rhai o'u penderfyniadau o ran prynu, wedi talu holl gost eu cyflogau nhw mewn rhai achosion. Nawr, wrth gwrs, ni ellir ailadrodd hynny, o reidrwydd, o'r naill flwyddyn i'r llall, ond mae gwerth gwirioneddol yn y swyddi hynny. Ac mae'r Aelod yn llygad ei lle; efallai na fydd hi'n bosibl i un ysgol gyflogi rheolwr busnes oherwydd maint yr ysgol honno, ac mewn llawer o'r ardaloedd arbrawf, yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yw un rheolwr busnes yn gweithio ar draws clwstwr o ysgolion, yn enwedig ysgolion cynradd bach. Ac fe wn i o'r cynllun arbrofol yn fy ardal fy hun, mai dyna sydd wedi digwydd: mae un rheolwr busnes wedi bod yn gweithio i nifer o ysgolion cynradd nad ydyn nhw, ar eu pennau eu hunain, yn gallu fforddio'r adnodd hwnnw, ond mewn gwirionedd, dyna'r ffordd fwyaf effeithlon o'i wneud a'i wneud mewn modd llwyddiannus iawn, iawn. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais mawr ar y cyfraniad y gall rheolwyr busnes ysgolion ei gyfrannu at ein system addysg. I'r fath raddau fel ein bod ni, yn ein gwobrau addysgu Cymru, yn cyflwyno gwobr i reolwr busnes ysgol y flwyddyn—yr unigolyn sydd wedi ychwanegu cymaint i'w ysgol. Ac nid ydym ni byth yn brin o enwebiadau ar gyfer y wobr arbennig honno.
Byddaf i'n sicr yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch ble'r ydym ni arni gydag argymhellion unigol adroddiad Waters. Wrth gwrs, nid yw rhai o'r argymhellion hynny a wnaethpwyd yn fater i mi, ond mae angen iddyn nhw gael eu hystyried yn briodol gan y broses adolygu annibynnol yr ydym ni wedi ei sefydlu ar gyfer tâl ac amodau athrawon, ac maen nhw'n fater i'r corff hwnnw ei ystyried, a hynny'n briodol. Hon fydd y flwyddyn gyntaf y bydd Cymru yn gyfrifol am bennu cyflogau ac amodau athrawon, a bydd yr Aelod, rwy'n siŵr, yn ymwybodol o gynnwys fy llythyr cylch gwaith i'r bwrdd. Yn yr achos hwn, rydym ni'n dymuno sefydlu'r system a dangos ein bod ni yng Nghymru yn gallu rhedeg y system ein hunain. Yn bennaf, yn y flwyddyn gyntaf hon, rydym ni'n ystyried materion sy'n ymwneud â chyflogau. Rwy'n siŵr, yn y blynyddoedd i ddod, y bydd cylch gwaith Llywodraeth Cymru yn ceisio gofyn i'r bwrdd ystyried agweddau eraill ar gyflogau ac amodau athrawon yn eu cyfanrwydd. Eleni, y flaenoriaeth yw sefydlu'r system honno'n llwyddiannus ac edrych ar godiad cyflog posibl—mwy o gyflog i'n gweithlu ni o bosibl. Ond rwy'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith sydd wedi ei wneud o ran agweddau eraill ar adroddiad Waters.
Diolch yn fawr am eich datganiad ac am eich sylwadau yn gynharach, yn enwedig o ran tâl teg i athrawon cyflenwi—mae hynny i'w groesawu'n fawr.
Roeddwn i eisiau holi ychydig mwy ynglŷn â pha mor safonol yw cynllunio a gwerthuso gwersi gan athrawon ar y cyd, mewn modd priodol, yn eu grŵp blwyddyn neu gyfnod allweddol, oherwydd rydym ni i gyd wedi darllen y ffigurau brawychus ynghylch y proffesiwn addysgu i gyd yn dod i ben eu tennyn, a phobl yn gadael y proffesiwn ddim ond ychydig flynyddoedd ar ôl iddyn nhw gael eu hyfforddi. Felly, mae hwn yn fater pwysig iawn, yn amlwg. Ond yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant lle yr wyf i'n llywodraethwr, fel y gwyddoch chi, mae'r holl athrawon yn gwneud eu gwaith cynllunio a gwerthuso gwersi ar y cyd ag aelodau eraill o'r staff, sy'n eu galluogi i rannu arfer da, rhannu syniadau da a rhannu eu cryfderau a'u gwendidau. Mae'n ymddangos yn weddol amlwg i mi fod hynny'n ganlyniad cadarnhaol i'r disgyblion, oherwydd nid ydym ni angen gweld syniadau da yn cael eu monopoleiddio, mae angen eu rhannu er budd y disgyblion i gyd. Felly, tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni sut y mae'r siarter a'r pecyn cymorth hwn ar lwyth gwaith a lles am ledaenu'r arfer da sy'n digwydd, rwy'n siŵr, ar draws llawer rhan o'r system addysg, i sicrhau bod y cydweithio hwnnw'n dod yn rhywbeth safonol a bod pobl yn meddwl ei bod yn ddifyr gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod heriau trannoeth neu'r wythnos nesaf yn mynd i gael eu rhannu ac, oherwydd hynny, yn llai beichus.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am y cyfraniad yna? Yr hyn y mae hi'n cyfeirio ato mewn gwirionedd yw arferion da safonol. Mae llawer o'n hysgolion yn defnyddio dulliau o'r fath fel triadau addysgu ar draws disgyblaethau, ac mae llawer o ddysgu a chymorth proffesiynol yn digwydd rhwng gweithwyr proffesiynol mewn ysgolion ac, yn wir, rhwng ysgolion hefyd. Felly, er enghraifft, mewn rhai o'n hysgolion gwledig, efallai y byddwch chi mewn adran lle efallai mai y chi yw'r unig un neu efallai yn un o ddau, yna, yn amlwg, gall hynny fod yn feichus. Felly, mewn gwirionedd, mae ysgolion yn cydweithio, yn enwedig o ran y dasg o ddatblygu deunyddiau newydd neu i ymateb â'r cwricwlwm newydd, ond mae haneswyr ac arbenigwyr dyniaethau mewn gwahanol ysgolion yn cydweithio i allu cynllunio yn ffordd effeithiol iawn, iawn o gyflawni hynny.
O ran y siarter a'r pecyn cymorth llwyth gwaith a lles i ysgolion, ar gyfer bwrw ymlaen â hyn, bydd y grŵp yn nodi swyddogaethau a chyfrifoldebau a chamau gweithredu o nawr tan dymor yr hydref, ac yna bydd y grŵp llywio yn cyfarfod drwy gydol y cyfnod hwnnw i sicrhau bod yr agwedd arbennig hon ar y siarter a'r pecyn cymorth yn cael ei chyflawni. Y rheswm pam y caiff hyn ei ystyried yn bwysig yw y gall hwn fod yn offeryn sy'n ymarferol iawn y gellir ei roi i arweinyddion ysgolion ac ymarferwyr yn ein hysgolion ledled Cymru i herio'r syniadau sydd ganddyn nhw ynglŷn â sut y maen nhw'n rheoli'r prosesau hyn o fewn eu lleoliadau unigol eu hunain, fel y gallwn ni gael yr ymagwedd genedlaethol honno, yn hytrach na gadael i arweinyddion unigol fod ar eu pennau eu hunain, efallai yn chwilio am atebion, ond herio'r meddylfryd mewn gwirionedd, a herio arferion presennol mewn ysgolion a sicrhau eu hunain eu bod nhw'n cymryd y camau sy'n angenrheidiol. Bydd hynny, wedyn, yn cael ei atgyfnerthu drwy adnewyddu'r adnoddau llwyth gwaith a'r llwybr hyfforddi sy'n bodoli eisoes, gan fod deunyddiau ar gael, ac mae angen i ni sicrhau eu bod nhw mor berthnasol a chyfredol ag y dylen nhw fod, a gwneud yn siŵr eu bod yn mynd yn ôl allan i'r ysgolion ac, yn hollbwysig, ceisio gweithio gyda'n consortia rhanbarthol i edrych ar y niferoedd sy'n manteisio ar yr adnoddau hynny. Un peth yw eu cynhyrchu nhw, ond fel y dywedodd Suzy Davies, gyda rhai o'r adnoddau sydd wedi mynd yno o'r blaen, a yw hynny'n effeithio mewn gwirionedd ar arfer mewn ysgolion? Rydym ni'n bwriadu gweithio gyda chonsortia rhanbarthol i fesur yr effaith honno wrth i ni symud ymlaen.
Yn olaf, Mark Reckless.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r Gweinidog yn nodi pedair blaenoriaeth. Tybed a allai hi egluro ychydig ar y gwahaniaethau rhyngddyn nhw. Mae gennym ni'r siarter a'r pecyn cymorth llwyth gwaith a lles, ac yna'r adnoddau lleihau llwyth gwaith a'r pecyn hyfforddi, ac yna, ar wahân, y modelau hyfforddi, rwy'n credu, sy'n dod oddi wrth y consortiwm. Tybed a allai hi ein helpu ni i ddeall ychydig yn well sut y bydd y tair menter hynny'n rhyngweithio â'i gilydd?
O ran yr ymarfer archwilio ar draws y sector, unwaith eto, a gaf i eglurhad o ba un a yw hyn wedi cael ei wneud o'r blaen, ac os felly, pa mor bell yn ôl? A oes unrhyw beth i adeiladu arno yn y fan yma?
Ceir haen ganol, mewn gwirionedd. Gweinidog Addysg, rydych chi wedi dweud cryn dipyn yn eich atebion i ddatganiadau eraill am yr awdurdodau addysg lleol, ond fe gefais i fy nharo nad oedd sôn amdanyn nhw yn eich datganiad ysgrifenedig ei hun. Rwy'n meddwl tybed, yn y maes hwn, beth yw eu swyddogaeth nhw. Beth a fyddech chi'n hoffi iddyn nhw fod yn ei wneud i helpu i leihau biwrocratiaeth? Rydych chi'n rhoi pwyslais ar gyfochri a chysondeb o ran y modd y mae athrawon ac eraill yn ymdrin â cheisiadau am ddata, ond a ydych chi hefyd yn cydnabod y gall fod gan awdurdodau lleol arbennig ymagwedd benodol sy'n gweithio i'w hysgolion nhw ac yn ymdrin â'u blaenoriaethau democrataidd lleol ac anghenion yr ysgolion yn eu hardaloedd nhw? A oes meysydd o'r fath lle y gallai fod yn briodol i awdurdodau addysg lleol gael yr wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen arnyn nhw i fwydo'r blaenoriaethau lleol arbennig hynny?
Yn olaf, o ran rheolwyr busnes ysgolion, gwnaed argraff dda iawn arnaf gan rai o ysgolion Her Cymru, wrth edrych o gwmpas gyda'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, o ran cymaint o argraff a wnaethpwyd arnom ni, rwy'n credu,—ac yn sicr, arnaf i—gan y rheolwyr busnes hynny a'r swyddogaethau yr oedden nhw'n eu cyflawni. O'r hyn a ddywed y Gweinidog, rwy'n credu y dylen nhw allu ailadrodd yr arbedion cost. Os ydyn nhw'n canfod arbedion cost, fe ddylen nhw barhau, gobeithio, a chymharu cyflogau wrth symud ymlaen. Ond nid oeddwn i wedi gwerthfawrogi, wrth ymweld â'r ysgolion Her Cymru hynny, pa mor anarferol oedd y rheolwyr busnes neu i ba raddau yr oedd hynny'n gynllun arbrofol. Mae gennym ni 100 o'r rhain. Ymhle y maen nhw wedi eu gwasgaru? Pa mor realistig yw hi i ysgol uwchradd fawr obeithio gwneud yr holl bethau y mae'r rheolwr busnes yn eu gwneud os nad oes ganddyn nhw'r rheolwr busnes hwnnw yn y swydd?
A gaf i ddiolch i Mr Reckless am ei gwestiynau? O ran y pedair blaenoriaeth a nodwyd gan aelodau'r grŵp, maen nhw'n adeiladu ar ei gilydd. Yn gyntaf oll, datblygiad y siarter a'r pecyn cymorth llwyth gwaith a lles, dyna'r cam cyntaf yn y broses o nodi ble yr ydych chi arni yn eich ysgol, ac i'ch helpu chi i hunanwerthuso, a gallu dangos fel arweinyddion ysgol i'ch staff, a darpar staff, fod hwn yn fater yr ydych yn ei gymryd o ddifrif os ydych chi wedi ymrwymo i'r siarter hwnnw. Yna, wrth gwrs, weithiau, bydd angen help a chefnogaeth arbennig ar ysgolion i roi arferion newydd ar waith. Dyna ble, wedyn, y mae gennym ni'r adnoddau a'r pecyn hyfforddi sy'n lleihau'r llwyth gwaith, gan nodi, efallai, fod angen i chi wneud mwy yn eich ysgol, efallai y bydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol ar rai ysgolion i ddeall yn union beth yw arfer gorau a sut y gallan nhw gymryd camau effeithiol os ydyn nhw wedi canfod bod angen iddyn nhw wneud hynny. Dyna lle mae'r adnoddau yn dod i'r amlwg.
Mae arferion mewn ysgolion yn newid cryn dipyn, ac felly cafodd yr adnoddau hynny eu datblygu'n bennaf yn 2017, ac mae angen i ni sicrhau eu bod yn cael eu hadnewyddu a'u diweddaru o ran ble'r ydym ni yn y system erbyn hyn. Mae angen hefyd i ni weithio, wedyn, gyda'n consortia rhanbarthol, ein gwasanaethau gwella ysgolion, oherwydd y mae angen i ni weld lleihau llwyth gwaith a biwrocratiaeth yn rhan o system i wella ysgolion, yn hytrach nag er ei fwyn ei hunan yn unig. Mae'n rhaid bod diben iddo. Nhw wedyn fydd â'r cyfrifoldeb arweiniol o sicrhau eu bod yn dosbarthu modelau hyfforddi ac astudiaethau achosion enghreifftiol ar draws y pedwar consortiwm, a hynny yn gyson, felly ni waeth ble byddwch chi'n gweithio yng Nghymru, fe fyddwch chi'n gwybod eich bod yn cael cyfradd benodedig o wybodaeth a chymorth, a hefyd i helpu i roi adborth i mi ar fonitro'r niferoedd sy'n defnyddio'r deunyddiau hyfforddi hynny, fel bod gennym ni yn y canol well syniad o ran bod y prosesau hyn, mewn gwirionedd, yn cael effaith mewn lleoliadau addysg unigol.
O ran yr haen ganol a swyddogaeth awdurdodau addysg lleol, a gaf i sicrhau'r Aelod eu bod nhw wedi eu cynrychioli ar y grŵp hwn? Felly, nid ydyn nhw'n cael eu heithrio o'r grŵp hwn. Maen nhw'n aelodau allweddol o'r grŵp hwn, ac yn hollbwysig, maen nhw hefyd wedi cytuno i ymrwymo i'r archwiliad. Efallai fod cyfiawnhad mewn achos o awdurdod addysg lleol unigol yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gasglu data mewn ffordd arbennig. Mae angen iddyn nhw ddangos, er hynny, pam mae hynny'n berthnasol a pham mae hynny'n angenrheidiol, ac nad ydyn nhw ddim ond yn gofyn i'r ysgolion wneud hynny am ddim rheswm, ac nad yw'r data wedyn yn cael eu defnyddio i lywio'r gwaith o ddatblygu polisi o safbwynt yr awdurdod addysg lleol. Felly, nid oes gennyf i broblem gyda chasglu data ar yr amod eu bod yn ddefnyddiol, yn cael eu defnyddio, ac yn arwain mewn gwirionedd at godi safonau yn ein hysgolion. Felly, pe gallai awdurdod lleol unigol gyfiawnhau hynny i'w ysgolion, i'w benaethiaid, nid oes rheswm pam y dylid eu hatal rhag gwneud hynny, ond mae'n rhaid i chi dynnu'r trawst o'ch llygad eich hun yn gyntaf, a dyna pam yr ydym ni'n dechrau gyda gofynion Llywodraeth Cymru, i sicrhau ein bod ni'n ymarfer yr hyn a bregethwn o ran y data yr ydym ni'n gofyn i ysgolion eu casglu. Oherwydd sawl gwaith yn y Siambr hon yr ydym ni wedi sefyll yma ac weithiau mae prinder data yn broblem i ni, ac yna rydym ni'n dweud, 'Wel, fe ddylem ni ofyn i ysgolion wneud mwy o hynny'? Felly, y ni ein hunain, weithiau, sy'n gyfrifol am sbarduno'r galw hwn am i ysgolion wneud mwy a mwy a mwy o waith papur, ac mae angen i ni bwyllo a myfyrio a meddwl o ddifrif am yr hyn yr ydym ni'n gofyn i ysgolion ei wneud, ac a yw hynny'n ychwanegu gwerth.
O ran y rheolwyr busnes, roedd rhai ysgolion eisoes yn cyflogi rheolwyr busnes. Mae'r arbrawf yn ymdrech i ledaenu'r arfer gorau hwnnw a, thrwy ddefnyddio rhywfaint o arian Llywodraeth Cymru, gydag arian hafal gan yr awdurdodau lleol, i allu profi'r achos efallai i rai o'r bobl hynny sy'n amau gwerth y swyddi penodol hyn, sydd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr o ran lleihau llwyth gwaith ac ysgogi buddion eraill drwy gyflogi'r unigolyn hwnnw. Yn ddealladwy, weithiau, efallai y bu ysgolion unigol ac awdurdodau lleol unigol yn gyndyn o arbrofi ac ysgogi'r swyddi hyn. Drwy ddefnyddio arian Llywodraeth Cymru, rydym ni wedi ceisio dangos—a gobeithio y bydd y gwerthusiad yn dangos—effeithiolrwydd y swyddi hynny a pham y maen nhw'n bwysig. Mewn ysgolion uwchradd, yn enwedig yn yr ysgolion uwchradd mawr sydd gennym ni, maen nhw'n cynnig swyddogaeth bwysig iawn sy'n cael ei gwerthfawrogi'n fawr nid yn unig gan benaethiaid ac uwch reolwyr, ond yn aml yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan y disgyblion, oherwydd bod math gwahanol o weithiwr proffesiynol yno y gall disgybl gael perthynas ag ef, a bydd plant yn dymuno siarad â rheolwyr busnes yr ysgol am eu problemau weithiau ac nid â'r athrawon proffesiynol. Felly mewn gwirionedd, nid yn unig eu bod nhw'n cael trefn ar y papur, y llungopiwyr, yr holl archebion, yn talu'r biliau, yn trefnu pethau eraill; mewn gwirionedd, mae llawer ohonyn nhw wedi sefydlu perthynas wirioneddol bwysig gyda phlant yn yr ysgolion, ac maen nhw'n aelodau gwerthfawr o gymuned yr ysgol. Rwy'n cymeradwyo'r holl reolwyr busnes sy'n gweithio mor galed yn ein hysgolion yng Nghymru heddiw, a gobeithio y bydd y cynllun arbrofol yn dangos eu gwerth mewn modd hyd yn oed mwy amlwg.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.