– Senedd Cymru am 6:44 pm ar 12 Mehefin 2019.
Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Caroline Jones i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis—Caroline.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw ac rwyf wedi cytuno i roi amser i Michelle Brown siarad yn y ddadl hon. Rydym yn wynebu epidemig yng Nghymru. Mae'r cyhoedd yng Nghymru yn cael eu targedu gan sgemiau i'w twyllo o'r arian y maent wedi gweithio'n galed i'w ennill, sgemiau mwyfwy soffistigedig sy'n targedu ein henoed a'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae cwsmeriaid yn derbyn negeseuon e-bost ffug sy'n honni eu bod yn dod oddi wrth eu banc neu gwmni cardiau credyd sy'n ceisio cael manylion personol a chyfrineiriau ganddynt. Mae hysbysebion ffug a gwefannau sy'n dynwared brandiau adnabyddus yn cael eu sefydlu er mwyn gwerthu cynnyrch ffug. Mae pobl yn agor y drws i rai eraill sy'n gwerthu cyfleoedd buddsoddi ffug, nwyddau a chynhyrchion gwael nad ydynt eu hangen na'u heisiau. Mae teuluoedd yn cael eu targedu gan bost torfol sy'n hyrwyddo cystadlaethau, loterïau a nwyddau ffug. Defnyddir y gwasanaeth post hefyd i dwyllo pobl i dalu am nwyddau neu wasanaethau na wnaethant eu harchebu na'u cael yn y lle cyntaf.
Bob blwyddyn, mae mwyfwy o bobl yn dioddef yn sgil sgamiau ac mae'r sgamwyr yn tyfu'n fwyfwy soffistigedig er mwyn twyllo mwy o bobl. Yn ôl yr arolwg troseddu ar gyfer Cymru a Lloegr, troseddau twyll a throseddau camddefnyddio cyfrifiaduron oedd y troseddau mwyaf cyffredin a brofwyd gan unigolion y llynedd. Mae Action Fraud, corff yr heddlu a sefydlwyd i gydgysylltu gwybodaeth am seiberdroseddu a thwyll, wedi gweld cynnydd o 28 y cant mewn twyll cardiau a chyfrifon banc yn y 12 mis diwethaf. Mae'r arolwg troseddu ar gyfer Cymru a Lloegr yn awgrymu bod llai nag un o bob pum achos o dwyll yn cael eu hadrodd i'r heddlu ac Action Fraud.
Yn anffodus, pan fydd rhywun wedi dioddef twyll, ychwanegir eu manylion, gan gynnwys manylion personol a chyfrineiriau, at restri o ddioddefwyr, ac mae'r rheini'n cael eu gwerthu i droseddwyr eraill. Yn ôl amcangyfrifon y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig, gallai fod 0.5 miliwn o breswylwyr y DU ar y rhestrau hyn. Cafodd manylion un dioddefwr eu gwerthu ymlaen dros 200 o weithiau—200 o grwpiau sgam a throseddwyr cyfundrefnol yn targedu un unigolyn yn unig.
Mae tri chwarter yr oedolion sy'n byw yn y DU wedi cael eu targedu gan sgam yn y ddwy flynedd diwethaf. Maent yn amrywio o ran pa mor soffistigedig ydynt, o e-bost wedi'i eirio'n wael gan dywysog tramor sy'n cynnig cyfoeth enfawr i beirianneg gymdeithasol wedi'i thargedu'n dda yn seiliedig ar eich proffil ar-lein. Mae fy swyddfa wedi treulio'r ychydig wythnosau diwethaf yn ymddiheuro i bobl ledled y DU sydd wedi cysylltu â ni yn credu bod Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn bygwth eu harestio am drethi heb eu talu. Mae'r ffaith bod rhifau ein swyddfeydd yn y Cynulliad wedi cael eu ffugio i ychwanegu rhywfaint o gredadwyedd i'r sgam arbennig hon yn arwydd o soffistigeiddrwydd cynyddol y troseddwyr dan sylw.
Ychydig wythnosau yn ôl, cysylltodd etholwr â mi ac mae wedi caniatáu i mi ddefnyddio ei enw, Mr Mark Morgan o Heol Gordon ym Mhorthcawl. Mae Mark Morgan yn un o fy etholwyr sydd wedi dioddef sgam. Mae yn ei 60au ond yn deall sut i ddefnyddio cyfrifiadur. Gan ei fod yn teithio dramor yn aml, mae Mark yn gwneud llawer o'i fancio ar gyfer amryw o gyfrifon banc personol a busnes ar-lein. Pan gysylltodd twyllwr â Mark dros y ffôn, gan honni ei fod yn ffonio o'i fanc i drafod trafodiad twyllodrus ar un o'i gyfrifon ar-lein, roeddent mor argyhoeddiadol nes bod Mark wedi credu eu sgam, ac aethant ati i ddwyn £38,000 o'i gyfrif. Mae tua hanner yr arian wedi'i ad-dalu gan ei fanc, ond mae'n annhebygol o weld y gweddill—arian na all fforddio ei golli; cynilion ei fywyd a neilltuwyd ar gyfer ei ymddeoliad. Roedd Mark eisiau i mi dynnu sylw at yr hyn a ddigwyddodd iddo heddiw yn y gobaith y byddai'n atal pobl eraill rhag gorfod dioddef rhywbeth tebyg. Yn anffodus, nid Mark yw'r unig un; mae dioddefwyr seiberdroseddu yn colli £190,000 y dydd.
Felly, beth y gallwn ei wneud i fynd i'r afael â'r bygythiad cynyddol hwn? Codi ymwybyddiaeth yw'r prif beth y gallwn ei wneud, fel Llywodraeth, fel sefydliad ac fel unigolion, oherwydd mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn y mater hwn. Mae'n rhaid i ni addysgu'r cyhoedd am amrywiaeth a soffistigeiddrwydd cynyddol y sgamiau. Mae'n rhaid i ni gynyddu nifer yr ymgyrchoedd addysg defnyddwyr er mwyn rhoi gwybod i'r cyhoedd am y gwahanol fathau o sgamiau. Mae'n rhaid i ni anfon neges glir nad oes dim o gwbl i fod â chywilydd yn ei gylch os ydych yn dioddef trosedd o'r fath. Ni fyddech yn teimlo cywilydd ynglŷn â chyfaddef eich bod wedi cael eich mygio felly pam y dylid trin rhywun sydd wedi dioddef dan law troseddwr tra fedrus yn wahanol?
Mae embaras, yn anffodus, yn un o'r prif resymau pam mai dim ond un o bob pum o sgamiau sy'n cael eu cofnodi. Mae angen i bobl ddeall pwysigrwydd rhoi gwybod am sgamiau. Mae peidio â gwybod am y troseddau hyn yn ei gwneud hi'n anos i'r awdurdodau nodi a gweithredu yn erbyn y sgamwyr. Mae'n ei gwneud yn anos nodi pwy sydd fwyaf tebygol o gael eu targedu ac i weithredu i sicrhau bod y grwpiau hynny'n cael gwybodaeth berthnasol ynglŷn â sut i osgoi sgamiau o'r fath yn y dyfodol.
Ar wahân i godi ymwybyddiaeth, buaswn yn gofyn i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydweithio â'r diwydiant i roi gwell mesurau diogelu ar waith. Ni ddylai fod yn bosibl i sgamwyr ffugio rhifau ffôn. Mae angen i'r Llywodraeth a'r cwmnïau ffôn fynd i'r afael â'r bygythiad cynyddol hwn a rhoi diwedd ar alwadau ffôn awtomatig. Mae'r galwadau awtomatig hyn wedi symud ymlaen o hawliadau PPI i annog pobl i hawlio'n dwyllodrus am anaf personol yn dilyn damwain car. Mae angen i ni gryfhau deddfau diogelu data i atal pobl rhag gwerthu gwybodaeth bersonol heb wybodaeth a chydsyniad pendant.
Dros y pythefnos nesaf, mae Cyngor ar Bopeth yn cynnal eu hymgyrch Ymwybyddiaeth Sgamiau 2019, ac mae'n gyd-ddigwyddiad llwyr fy mod wedi dewis cyflwyno'r pwnc hwn ar gyfer dadl fer yn ystod eu hymgyrch, mae'n gyd-ddigwyddiad ffodus. Anogaf yr holl Aelodau yma i drydar eu cefnogaeth i'r ymgyrch gan ddefnyddio'r hashnod #ymwybyddiaethsgamiau.
Gall sgamiau effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg, felly beth am wneud popeth a allwn i godi ymwybyddiaeth, cael gwared ar y stigma, cynyddu'r niferoedd sy'n rhoi gwybod amdanynt, a chryfhau deddfwriaeth, er mwyn amddiffyn ein hetholwyr ac atal eraill rhag gorfod dioddef yr hyn y mae Mark Morgan wedi gorfod ei ddioddef. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn ddiolch i Caroline am ganiatáu i mi gyfrannu at ei dadl. Mae sgamiau, yn eu hanfod, yn dor-ymddiriedaeth. Maent yn aml yn achosi embaras, lle bydd dioddefwr yn beio'i hun bron am gredu'r sgam. Wrth gwrs, bydd codi ymwybyddiaeth o sgamiau yn gymorth mawr i leihau'r stigma di-alw-amdano o fod yn ddioddefwr sgam, yn ogystal ag annog y cyhoedd i fod yn wyliadwrus, ond un o'r ffyrdd allweddol o godi ymwybyddiaeth yw drwy erlyniadau, sydd i'w gweld yn digwydd yn anfynych tu hwnt.
Yn wir, yn gynharach eleni, dywedodd Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi a'r Gwasanaethau Tân ac Achub fod ymagwedd anghyson tuag at blismona twyll yng Nghymru a Lloegr, a bod hynny wedi golygu bod y cyhoedd yn wynebu risg uchel o sgamiau. Ym mis Ebrill, dywedodd Wayne May, sylfaenydd Scam Survivors, gwefan sy'n ymroddedig i ddatgelu twyllwyr a helpu dioddefwyr, wrth y BBC ei fod yn cydymdeimlo â'r heddlu. Esboniodd fod twyllwyr yn aml yn gweithredu mewn gwahanol wledydd, felly er y gallai dioddefwr golli popeth sydd ganddynt, byddai'n costio mwy iddynt geisio ymchwilio i'r achos. Yn aml, ni fydd dioddefwyr yn rhoi gwybod am y sgamiau, nid yn unig oherwydd yr embaras, ond oherwydd eu bod wedi darllen storïau ar-lein lle y mae'r heddlu wedi dweud wrth ddioddefwyr nad oes dim y gallant ei wneud.
Felly, beth y gallai'r ateb fod os yw canfod ac erlyn mor anodd a chostus? Mae Google, Amazon, eBay, Facebook a PayPal i gyd yn gwneud symiau enfawr o arian ac yn defnyddio algorithmau soffistigedig i broffilio pobl sy'n defnyddio eu gwasanaethau. Os ydych yn cerdded i mewn i rai canghennau gyda'ch ffôn symudol yn eich poced, bydd Google yn rhoi gwybod i'r clerc sydd y tu ôl i'r cownter pa gynhyrchion ariannol rydych wedi chwilio amdanynt ar Google yn ddiweddar ac felly pa rai y dylent geisio eu gwerthu i chi. Wrth gwrs, mae Google yn codi tâl ar y banciau am y gwasanaeth hwn. Yn sicr, gyda'r holl waith monitro y mae Google, Amazon a'r lleill yn ei wneud, gallent fod yn gwneud mwy i ganfod sgamiau a'r rhai sy'n agored iddynt. Efallai y dylem ystyried gorfodi'r cwmnïau technoleg mawr i wneud mwy, ac ystyried eu dwyn i gyfrif, yn rhannol o leiaf, os bydd un o'u defnyddwyr yn dioddef sgam. Mae'r broblem hon yn codi, yn bennaf, oherwydd y farchnad ar-lein, ac nid yw ond yn briodol, fel rydym yn ymdrin yn briodol â diogelwch corfforol, y dylem fynnu ei bod yn awr yn bryd i'r rhai sy'n gwneud ffortiwn drwy roi pobl mewn cysylltiad ag eraill ar-lein orfod ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am adennill colledion y rhai sy'n dioddef sgamiau o ganlyniad i hynny. Felly, hoffwn ddiolch i Caroline am gyflwyno'r ddadl hon. Rwy'n cefnogi'r ddadl yn llwyr—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, na, na, ni all dderbyn ymyriad. Mae wedi cael llawer mwy o amser na'r funud a ganiatawyd iddi. Mae'n ddrwg gennyf.
O, popeth yn iawn. Fe eisteddaf, felly.
Gallwch wneud ymyriad pan fydd y Gweinidog yn siarad os bydd angen. Mae'n ddrwg gennyf. Diolch. Galwaf ar y Dirprwy Lywydd a'r Prif Chwip i ymateb i'r ddadl. Jane Hutt.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae hwn yn bwnc pwysig, ac mae'n amserol iawn, gydag ymgyrch Ymwybyddiaeth Sgamiau eleni yn dechrau yr wythnos hon. Gwn y bydd pobl wedi cysylltu â llawer o'r Aelodau, fel y mae Caroline Jones wedi'i nodi—pobl hŷn a bregus yn aml sydd wedi dioddef sgamiau. Fel y gwyddoch, nid yw'r polisi ar atal sgamiau wedi'i ddatganoli. Yn yr un modd, mae twyll o unrhyw fath yn drosedd ac yn fater i'r heddlu ymdrin ag ef. Er hyn, rydym yn benderfynol o wneud popeth a allwn i fynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru ac sy'n cael effaith mor fawr ar ddioddefwyr.
Fel y gwyddom ni i gyd, ac rydym wedi clywed hyn mor glir, gall sgamiau gael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr a'u teuluoedd. Amcangyfrifir bod defnyddwyr Prydain yn colli tua £3.5 biliwn i sgamiau bob blwyddyn, sy'n cyfateb i £70 ar gyfer pob oedolyn sy'n byw yn y DU. Ac wrth gwrs, clywsom am ymchwil Cyngor ar Bopeth sy'n dangos bod 61 y cant o bobl wedi cael eu targedu gan sgamwyr yn y ddwy flynedd diwethaf. Rwyf hefyd wedi dychryn wrth ddysgu drwy eu hymchwil fod bron i 40 y cant o bobl wedi cael eu targedu bum gwaith neu fwy. Mae twyllwyr yn cysylltu â phobl hŷn, rhai yn eu 80au a 90au, yn mynnu arian neu'n ceisio eu hannog i drosglwyddo arian banc, fel rydym wedi'i glywed, ac yn eu bygwth os nad ydynt yn cydymffurfio. Mae'r galwadau ffôn hyn yn peri gofid mawr i'r rheini a dargedir, pa un a ydynt yn colli arian ai peidio.
Yn aml, gall yr effaith ar iechyd a llesiant fod yn llawer mwy na'r golled ariannol. Mae pobl yn colli hyder a gallant ddioddef mwy o unigrwydd a mynd yn fwy ofnus. Mae hyn, yn ei dro, yn arwain at ddirywiad mewn iechyd meddwl a chorfforol, ond drwy gydweithio ar draws ystod eang o sefydliadau rydym mewn sefyllfa dda i ddylanwadu ar newid. Gallwn helpu i atal twyllwyr rhag achosi'r boen a'r trallod sy'n difetha bywydau, ac mae honno'n neges gref o'r ddadl hon. Mae'n hanfodol bod pawb yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi a'u cymunedau. Dyna pam y gwnaethom ymrwymiad yn 2013 i gefnogi'r camau i greu parthau dim galw diwahoddiad er mwyn atal masnachwyr twyllodrus a galwyr digroeso rhag cysylltu â phobl yn eu cartrefi. Ond nid yw pob sgam yn digwydd ar garreg y drws—[Torri ar draws.]
Diolch am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n falch iawn eich bod wedi sôn am y ffaith eich bod wedi cefnogi parthau dim galw diwahoddiad oherwydd yn amlwg, mae thema'r ddadl hon, yn fy marn i, wedi ymwneud mwy â galwadau ar-lein a galwadau ffôn sydd wedi bod yn sgamiau. Rwyf wedi bod yn llysgennad sgamiau ers peth amser fel rhan o'r rhaglen sy'n ceisio cynnwys gwleidyddion yn hyn, ond un o'r pethau y mae llawer o bobl wedi gofyn i mi annog Llywodraeth Cymru i'w wneud yw sicrhau bod Cymru yn wlad 'dim galw diwahoddiad', ac rwy'n meddwl tybed, Weinidog, a yw hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ystyried. Does bosibl na allai ystyried annog siroedd i gyflwyno'u cynlluniau eu hunain. Tybed a yw hwnnw'n ddull o weithredu y gallech ystyried ei roi ar waith.
Wel, diolch i Darren Millar am y gydnabyddiaeth fod—. Yn wir, rydym wedi trafod hyn, gyda chi siŵr o fod, yn y Siambr, o ran cefnogi'r camau i ymestyn parthau dim galw diwahoddiad. Byddaf yn sicr yn edrych ar hynny eto ac yn adrodd yn ôl i chi, nid yn unig fel llysgennad, ond mewn ymateb i'r ddadl hon.
Pan oeddwn yn dweud nad yw pob sgam yn digwydd ar garreg y drws, gwyddom fod unigolion yn cael eu targedu drwy'r post, dros y ffôn, ac yn gynyddol, drwy sgamiau seiber. Mae'n debyg nad oeddem yn gwybod hynny mor bell yn ôl pan oeddem yn ystyried y mater hwn yn wreiddiol. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gall cynhwysiant ariannol a digidol ein dinasyddion helpu pobl i ddod yn fwy ymwybodol o'r bygythiadau a chynyddu hyder drwy gymryd camau syml i'w hamddiffyn eu hunain. Mae gennym strategaeth cynhwysiant ariannol sy'n cydnabod bod gallu ariannol gwell yn gallu helpu pobl i osgoi dioddef sgamiau, a gallai hynny, wrth gwrs—. I'r dioddefwyr hynny, mae'n effeithio ar eu gallu i aros mewn gwaith, gall arwain neu gyfrannu at ddyledion a phroblemau tai a lles, ac mae gan y rhain i gyd gysylltiadau sefydledig â salwch meddwl. Mae ein fframwaith strategol ar gyfer cynhwysiant digidol yn cydnabod bod sgamiau ar-lein yn gallu effeithio ar unrhyw un, ond gall y rhai nad oes ganddynt sgiliau digidol sylfaenol i ddiogelu eu hunain ar-lein fod yn arbennig o agored i'r sgamwyr hyn.
Gwyddom fod sgamiau ar-lein yn dod yn fwyfwy cyffredin wrth i fwy o bobl wneud taliadau ar-lein, bancio ar-lein, cyfathrebu drwy e-bost a chyfryngau cymdeithasol, ac er bod y banciau'n gwneud gwaith rhagorol yn y maes hwn, mae'n rhaid i bawb ohonom godi ymwybyddiaeth o'r bygythiadau i helpu pobl i osgoi dioddef sgamiau mwyfwy soffistigedig. Erbyn hyn, cydnabyddir mai twyll yw'r drosedd fwyaf cyffredin yn y DU ac mae troseddwyr yn datblygu technegau mwyfwy soffistigedig i dwyllo pobl i roi eu harian.
Er nad yw'r cyfrifoldeb dros bolisïau ar droseddu wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, gall nifer o feysydd cyfrifoldeb datganoledig effeithio ar ddiogelwch cymunedol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ym mis Mawrth eleni, trefnodd Tarian, yr uned ranbarthol ar gyfer troseddau cyfundrefnol, daith bws seiberddiogelwch Cymru i addysgu pobl a busnesau am seiberddiogelwch a throseddu. Ariannwyd hynny gan grant refeniw seibergadernid Llywodraeth Cymru. Teithiodd i bob ardal awdurdod lleol yng Nghymru, gan ymgysylltu ag aelodau o'r cyhoedd, busnesau, a rhoi cyngor iddynt ar seiberddiogelwch i sicrhau bod pobl mewn busnesau yn gallu adnabod arwyddion seiberdroseddu a sicrhau bod ganddynt yr hyn y maent ei angen i aros yn ddiogel ar-lein. A gallaf sicrhau'r Aelodau fy mod yn cyfarfod yn rheolaidd â phrif gwnstabliaid, comisiynwyr heddlu a throseddu pob un o'r pedwar heddlu yng Nghymru, lle rydym yn trafod materion sydd o ddiddordeb cyffredin gyda'r nod o wneud cymunedau'n fwy diogel. Mae ein heddluoedd yng Nghymru yn codi ymwybyddiaeth o sgamiau. Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru yn gweithio gydag asiantaethau partner a chymunedau yn ne Cymru i fynd i'r afael â galwyr digroeso ar garreg y drws a masnachwyr diwahoddiad. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid ar gyfer 500 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol sy'n gweithio yn ein cymunedau, ac maent yn rhoi cymorth lle a phryd bynnag y bo angen ac yn rheolaidd yn cynnal sesiynau codi ymwybyddiaeth o sgamiau gyda thrigolion lleol a'r rôl bwysig y gallant ei chwarae.
Rwy'n croesawu'r camau sy'n cael eu cymryd gan dîm sgamiau'r Safonau Masnach Cenedlaethol i hyfforddi 1 filiwn o ffrindiau ledled y DU erbyn 2020, gan gynnwys 50,000 yng Nghymru dros y ddwy flynedd nesaf. Mae'n ymwneud ag annog pobl i edrych ar ôl ei gilydd yn eu cymunedau ac adnabod yr arwyddion y gallai rhywun fod mewn perygl—mae hwnnw'n bendant yn gam cadarnhaol i atal troseddau pellach. A hoffwn dynnu sylw at waith Partneriaeth Cymru yn erbyn Sgamiau y mae eu haelodau'n cynnwys Age Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a safonau masnach. Felly, rwy'n gobeithio fy mod wedi rhoi sicrwydd i'r Aelodau fod Llywodraeth Cymru yn malio am y mater hwn. Rydym yn gweithio'n galed o fewn ein cyfrifoldebau datganoledig i gael gwared ar sgamiau a chefnogi dioddefwyr a byddwn yn parhau i ddarparu cymorth a chodi ymwybyddiaeth o'r mater pwysig hwn lle bynnag y bo modd, a byddwn yn mynegi ein pryderon wrth Weinidogion y DU sy'n gyfrifol am y materion hyn, ac yn gweithio gyda hwy. Diolch.
Diolch yn fawr. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.