Caniatâd Cynllunio

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 18 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 1:30, 18 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Prif Weinidog, nid oes neb mewn gwell sefyllfa, does bosib, i wneud penderfyniadau cytbwys am gynllunio lleol na'r bobl sy'n byw yno. Yn 2016, pleidleisiodd cynghorwyr Caerffili yn erbyn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad tai yn Hendredenny. Roedd trigolion lleol yn ddig, a hynny'n briodol iawn, o weld y penderfyniad hwn yn cael ei wrthdroi gan Weinidog ym Mae Caerdydd, ac mae'r cynghorwyr ar fin pleidleisio eto ar hyn yfory ar ôl i benaethiaid cynllunio gymeradwyo'r cais. Y gwir amdani yw nad yw'r seilwaith yno i allu ymdopi â 260 o gartrefi ychwanegol o ran ffyrdd, lleoedd mewn ysgolion a gallu cael gafael ar feddygon teulu. Dim ond cyfran fach iawn o'r cartrefi newydd hyn a elwir yn fforddiadwy, felly mae'r fantais i'r ardal leol yn ymddangos yn amheus a dweud y lleiaf. Cyflwynwyd tri deg pump o lythyrau gwrthwynebu, a cheir pryderon hefyd ynghylch effaith adeiladu ar safle tir glas ar yr amgylchedd. Prif Weinidog, onid yw'n amser i Lywodraeth Cymru ddiwygio polisi cynllunio i sicrhau ei fod yn ymwneud â chynllunio yng ngwir ystyr y gair, trwy gynnwys lleisiau lleol o'r dechrau, a chynnwys y ddarpariaeth o seilwaith a gwasanaethau addas mewn cynlluniau datblygu o'r cychwyn yn hytrach na gorfodi prosiectau nad oes croeso iddynt ar drigolion lleol?