1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Mehefin 2019.
1. Beth yw'r broses y mae Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i wyrdroi penderfyniad gan bwyllgor cynllunio awdurdod lleol i wrthod caniatâd cynllunio? OAQ54087
Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Pan fo awdurdodau cynllunio lleol yn gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad, mae gan yr ymgeisydd hawl i apelio i Weinidogion Cymru. Yr arolygydd cynllunio, a benodir ar ran Gweinidogion Cymru, sy'n penderfynu'r rhan fwyaf o apeliadau. Caiff nifer fach eu hadfer i gael eu penderfynu trwy Weinidogion Cymru eu hunain.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Prif Weinidog, nid oes neb mewn gwell sefyllfa, does bosib, i wneud penderfyniadau cytbwys am gynllunio lleol na'r bobl sy'n byw yno. Yn 2016, pleidleisiodd cynghorwyr Caerffili yn erbyn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad tai yn Hendredenny. Roedd trigolion lleol yn ddig, a hynny'n briodol iawn, o weld y penderfyniad hwn yn cael ei wrthdroi gan Weinidog ym Mae Caerdydd, ac mae'r cynghorwyr ar fin pleidleisio eto ar hyn yfory ar ôl i benaethiaid cynllunio gymeradwyo'r cais. Y gwir amdani yw nad yw'r seilwaith yno i allu ymdopi â 260 o gartrefi ychwanegol o ran ffyrdd, lleoedd mewn ysgolion a gallu cael gafael ar feddygon teulu. Dim ond cyfran fach iawn o'r cartrefi newydd hyn a elwir yn fforddiadwy, felly mae'r fantais i'r ardal leol yn ymddangos yn amheus a dweud y lleiaf. Cyflwynwyd tri deg pump o lythyrau gwrthwynebu, a cheir pryderon hefyd ynghylch effaith adeiladu ar safle tir glas ar yr amgylchedd. Prif Weinidog, onid yw'n amser i Lywodraeth Cymru ddiwygio polisi cynllunio i sicrhau ei fod yn ymwneud â chynllunio yng ngwir ystyr y gair, trwy gynnwys lleisiau lleol o'r dechrau, a chynnwys y ddarpariaeth o seilwaith a gwasanaethau addas mewn cynlluniau datblygu o'r cychwyn yn hytrach na gorfodi prosiectau nad oes croeso iddynt ar drigolion lleol?
Wel, Llywydd, diolchaf, wrth gwrs, i Delyth Jewell am y cwestiwn ychwanegol yna. Mae'n bwysig bod yn eglur bod yr hawl i apêl yn hawl statudol. Fe'i nodir yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, a diwygiwyd y broses apelio a ddilynir yng Nghymru mor ddiweddar â 2017, a chytunwyd ar y rheolau sy'n llywodraethu'r broses apelio yma yng Nghymru yn y fan yma yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Felly, clywaf yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud am yr angen i'w diwygio ymhellach, ond fe gawsant eu diwygio, ac fe'u diwygiwyd yma ar lawr y Cynulliad hwn mor ddiweddar â'r flwyddyn cyn y llynedd. Bwriadwyd i'r newidiadau wneud y system yn fwy cymesur, yn gost-effeithiol, a'i hagor yn fwy i gyfranogiad y cyhoedd yn y broses apelio. Mae'n ddigwyddiad prin iawn, Llywydd, pan gaiff apêl ei hadfer ar gyfer penderfyniad gan Weinidogion Cymru. Ar gyfartaledd, caiff tua phum apêl cynllunio mewn unrhyw flwyddyn unigol—llai nag 1 y cant o'r holl apeliadau a gyflwynir i'r arolygiaeth gynllunio—eu hadfer i Weinidogion Cymru, a chânt eu hadfer o dan amgylchiadau sy'n gaeth i'r rheolau.
Yn achos Hendredenny, sef yr enghraifft benodol y cyfeiriodd yr Aelod ati, nid oedd her statudol i benderfyniad Gweinidog Cymru. Mae gan bobl chwe wythnos pryd y cânt fynd i'r Uchel Lys i herio'r penderfyniad hwnnw. Ni chyflwynwyd unrhyw her. Felly, mae'r penderfyniad yn derfynol. Mae materion eraill, fel y dywedodd Delyth Jewell, i'w penderfynu nawr gan yr awdurdod cynllunio lleol, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n cadw mewn cof y materion y mae hi wedi eu codi ac a godwyd gan drigolion lleol.
Prif Weinidog, pwynt tebyg i'r un a wnaed gan Delyth Jewell. [Torri ar draws.] Rwy'n gobeithio nad fi sy'n achosi'r llefain i fyny'r grisiau. [Torri ar draws.] Na, nid fy mabi i yw ef; gobeithio ddim beth bynnag. [Chwerthin.]
Mae Tŷ Troy yn Nhrefynwy yn eiddo rhestredig gradd II, sy'n dyddio'n ôl i'r ail ganrif ar bymtheg, wedi ei leoli yn ward Llanfihangel Troddi yn Sir Fynwy. Mae wedi bod mewn cyflwr gwael o ddirywiad ers blynyddoedd lawer. Mae wedi bod yn ysbyty ar wahanol adegau, mae wedi bod yn ysgol, ac mae'n wag ar hyn o bryd. Cymeradwyodd Cyngor Sir Fynwy ganiatâd cynllunio i achub yr adeilad a'i droi'n fflatiau, ond mae'r penderfyniad wedi ei wrthdroi gan arolygydd Llywodraeth Cymru ar y sail ei fod ar orlifdir. Nawr, rwy'n gwybod ei bod yn debygol na fyddwch chi'n gallu trafod manylion y cais hwnnw, ac nid wyf i'n gofyn i chi wneud hynny, ond os oes gennych chi sefyllfa lle mae gennych chi adeilad rhestredig gradd II sy'n dirywio bob blwyddyn, mewn cyflwr difrifol a bod cynllun o ryw fath ar y bwrdd i geisio adfer yr adeilad hwnnw, ceir pryder mawr yn amlwg pan fydd Llywodraeth Cymru yn dweud na all hynny ddigwydd. Beth allwch chi ei wneud? Pa gamau diogelu y gallwch chi eu cynnwys yn y broses gynllunio er mwyn sicrhau, iawn, pan fydd materion fel hyn yn cael eu gwrthdroi gan Lywodraeth Cymru, bod amddiffyniad ar waith i sicrhau nad yw adeilad rhestredig ddim ond yn cael ei adael i fynd yn adfail a chael ei golli i'r genedl?
Diolchaf i Nick Ramsay, Llywydd, am y pwynt pwysig yna. Rwy'n gyfarwydd, fel y mae'n digwydd, â Thŷ Troy ac rwy'n deall y pwynt y mae'n ei wneud am yr angen i ystyried statws rhestredig adeiladau o'r math hwnnw wrth wneud penderfyniadau cynllunio. Fel y dywed, yn yr achos hwn, gwnaeth yr Arolygiaeth Gynllunio ei dyfarniad ar y sail nad oedd yn adeilad addas i'w droi'n fflatiau, oherwydd y perygl o lifogydd. Ac, er mwyn bod yn eglur gyda'r Aelodau, Llywydd, mae'r Arolygiaeth Gynllunio yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Mae'n gweithredu trwy gyfres o reolau yr ydym ni'n eu gosod, ond nid oes unrhyw Weinidog byth yn ymyrryd mewn penderfyniad y mae arolygydd cynllunio yn ei wneud. Mae'r Gweinidog sydd â chyfrifoldebau cynllunio wedi clywed y pwyntiau y mae Nick Ramsay wedi eu gwneud, a byddwn yn edrych eto i wneud yn siŵr bod y rheolau y mae'r Arolygiaeth Gynllunio yn gweithredu yn unol â nhw yn ystyried y pwyntiau a wnaed ynghylch yr angen i roi sylw dyledus i statws rhestredig adeiladau wrth wneud y penderfyniadau hynny.FootnoteLink