Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 18 Mehefin 2019.
Wel, Llywydd, diolchaf, wrth gwrs, i Delyth Jewell am y cwestiwn ychwanegol yna. Mae'n bwysig bod yn eglur bod yr hawl i apêl yn hawl statudol. Fe'i nodir yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, a diwygiwyd y broses apelio a ddilynir yng Nghymru mor ddiweddar â 2017, a chytunwyd ar y rheolau sy'n llywodraethu'r broses apelio yma yng Nghymru yn y fan yma yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Felly, clywaf yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud am yr angen i'w diwygio ymhellach, ond fe gawsant eu diwygio, ac fe'u diwygiwyd yma ar lawr y Cynulliad hwn mor ddiweddar â'r flwyddyn cyn y llynedd. Bwriadwyd i'r newidiadau wneud y system yn fwy cymesur, yn gost-effeithiol, a'i hagor yn fwy i gyfranogiad y cyhoedd yn y broses apelio. Mae'n ddigwyddiad prin iawn, Llywydd, pan gaiff apêl ei hadfer ar gyfer penderfyniad gan Weinidogion Cymru. Ar gyfartaledd, caiff tua phum apêl cynllunio mewn unrhyw flwyddyn unigol—llai nag 1 y cant o'r holl apeliadau a gyflwynir i'r arolygiaeth gynllunio—eu hadfer i Weinidogion Cymru, a chânt eu hadfer o dan amgylchiadau sy'n gaeth i'r rheolau.
Yn achos Hendredenny, sef yr enghraifft benodol y cyfeiriodd yr Aelod ati, nid oedd her statudol i benderfyniad Gweinidog Cymru. Mae gan bobl chwe wythnos pryd y cânt fynd i'r Uchel Lys i herio'r penderfyniad hwnnw. Ni chyflwynwyd unrhyw her. Felly, mae'r penderfyniad yn derfynol. Mae materion eraill, fel y dywedodd Delyth Jewell, i'w penderfynu nawr gan yr awdurdod cynllunio lleol, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n cadw mewn cof y materion y mae hi wedi eu codi ac a godwyd gan drigolion lleol.