Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 18 Mehefin 2019.
Wel, a gaf i ddweud, unwaith eto, Llywydd, yn fy marn i, mae cael gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg, yn enwedig ym maes iechyd, yn hollbwysig? Dyna pam rŷn ni, yn gynharach, wedi cyhoeddi pethau newydd ddiwedd mis Mai, sy'n estyn y pethau rŷm ni'n eu gwneud yn y maes iechyd i ofal sylfaenol. Wrth gwrs, prosiect tymor hir yw e i dyfu pobl yn y gweithlu sy'n barod a gyda'r sgiliau i roi gwasanaethau trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Ond, fel Llywodraeth, rŷm ni wedi bod yn gweithio gyda phobl yn y maes, gyda'r colegau brenhinol, gyda'r byrddau iechyd, i berswadio pobl sy'n gallu rhoi gwasanaethau drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg i wneud hynny i ddechrau, ac i dynnu fwy o bobl i fewn i'r maes.
Ddoe, es i i Brifysgol Aberystwyth. Cwrddais i gyda'r bobl yna. Maen nhw newydd lwyddo i gael yr hawl yn ôl i hyfforddi yn y maes nyrsio, ac mae tyfu pobl sy'n gallu rhoi gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg yn rhywbeth sydd yng nghanol eu cynllun nhw.
So, rŷm ni yn gwneud pethau, ond mae mwy i’w wneud, wrth gwrs. Ond y pwynt sylfaenol yw bod yr hawl sydd gyda phobl i ddefnyddio’r Gymraeg a chael gwasanaethau cyhoeddus trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn rhywbeth rŷn ni’n ei gefnogi, wrth gwrs, fel Llywodraeth.