1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 18 Mehefin 2019.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch yn fawr, Llywydd. Brif Weinidog, mae gen i hawl i ofyn cwestiwn i chi yn Gymraeg yn y Senedd hon, ond does gan fy nhad, 84 mlwydd oed, ddim hawl i ofyn cwestiwn yn Gymraeg i'w feddyg, neu i'w optegydd, neu i'w fferyllydd neu i'w ddeintydd. Bum mlynedd yn ôl, fe ddywedoch chi yn bersonol taw gwraidd yr achos dros wella'r defnydd o'r Gymraeg mewn gofal sylfaenol yw'r posibilrwydd mai dim ond yn eu hiaith gyntaf y gall cleifion agored i niwed fynegi eu hunain yn llawn. Heddiw, mae pwyllgor trawsbleidiol yn y Senedd, sy'n cynnwys Aelodau Llafur, yn dweud taw ychydig iawn o gynnydd, os o gwbl, mae'r rheoliadau rŷch chi newydd eu cyhoeddi yn ei wneud o ran hawl i bobl yng Nghymru dderbyn gwasanaethau iechyd yn eu dewis iaith. Pam, ar ôl 84 o flynyddoedd, mae fy nhad i yn dal i gael ei drin fel dinesydd eilradd?
Wel, a gaf i ddweud, unwaith eto, Llywydd, yn fy marn i, mae cael gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg, yn enwedig ym maes iechyd, yn hollbwysig? Dyna pam rŷn ni, yn gynharach, wedi cyhoeddi pethau newydd ddiwedd mis Mai, sy'n estyn y pethau rŷm ni'n eu gwneud yn y maes iechyd i ofal sylfaenol. Wrth gwrs, prosiect tymor hir yw e i dyfu pobl yn y gweithlu sy'n barod a gyda'r sgiliau i roi gwasanaethau trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Ond, fel Llywodraeth, rŷm ni wedi bod yn gweithio gyda phobl yn y maes, gyda'r colegau brenhinol, gyda'r byrddau iechyd, i berswadio pobl sy'n gallu rhoi gwasanaethau drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg i wneud hynny i ddechrau, ac i dynnu fwy o bobl i fewn i'r maes.
Ddoe, es i i Brifysgol Aberystwyth. Cwrddais i gyda'r bobl yna. Maen nhw newydd lwyddo i gael yr hawl yn ôl i hyfforddi yn y maes nyrsio, ac mae tyfu pobl sy'n gallu rhoi gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg yn rhywbeth sydd yng nghanol eu cynllun nhw.
So, rŷm ni yn gwneud pethau, ond mae mwy i’w wneud, wrth gwrs. Ond y pwynt sylfaenol yw bod yr hawl sydd gyda phobl i ddefnyddio’r Gymraeg a chael gwasanaethau cyhoeddus trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn rhywbeth rŷn ni’n ei gefnogi, wrth gwrs, fel Llywodraeth.
Ond, Brif Weinidog, roeddech chi eich hunain wedi adnabod hwn fel gwagle enfawr bum mlynedd yn ôl. Ble ŷch chi wedi bod? Mae’r pwyllgor ei hunan yn dweud rŷn ni’n dal i fod yr un mor bell i ffwrdd o gyflawni’r lefel dewis iaith cydradd ag yr oedden ni ar ddechrau’r Cynulliad hwn. Does dim symud ymlaen o gwbl.
Ac a gaf i droi at fater arall sydd yn greiddiol bwysig o ran dyfodol yr iaith, sef cyflogaeth? Yn yr ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn iaith gymunedol, ymhlith y cyflogwyr mwyaf yw’n prifysgolion ni, ac rŷn ni wedi clywed yn ddiweddar am y problemau ariannol dybryd sydd yn y Drindod Dewi Sant ac ym Mangor. Nawr, yn y gorffennol, pan rŷn ni wedi codi problemau mewn prifysgolion unigol, mae eich Llywodraeth chi wedi dweud, ‘Wel, sefydliadau annibynnol ŷn nhw—dŷn ni ddim yn gallu ymyrryd’. O ystyried pa mor ddifrifol nawr ydy’r creisis ariannol o fewn y sector, a allaf i ofyn ichi gadarnhau a fyddech chi, fel mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi datgan, yn gadael i sefydliad prifysgol yng Nghymru fynd i’r wal?
Wel, Llywydd, hoffwn i fynd yn ôl at y pwynt cyntaf a gododd yr Aelod oherwydd nid wyf i'n cytuno ag ef o gwbl na fu unrhyw gynnydd o ran y ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg yn y sector iechyd. Credaf ei fod yn un o'r pethau gwirioneddol galonogol sydd wedi newid yn ystod y degawd diwethaf fy mod i erbyn hyn, pan fyddaf i'n mynd i ysbytai mewn unrhyw ran o Gymru, yn gweld aelodau o staff yn gwisgo arwyddion amlwg sy'n dweud wrthych eu bod nhw'n gallu ac yn barod i ddarparu gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n rhaid i ni annog y bobl hynny, mae'n rhaid i ni gefnogi'r bobl hynny, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i fwy ohonyn nhw, wrth gwrs, ond nid yw'n helpu'r achos o wneud hynny i ymddwyn fel pe byddai'r bobl hynny sydd wedi bod yn rhan o'r ymdrech wirioneddol drwy'r rhaglen 'Mwy na geiriau'—os byddwn ni'n diystyru eu hymdrechion ac yn ymddwyn fel pe na byddai dim o gwbl wedi ei gyflawni. Mae llawer iawn wedi ei gyflawni. Mae'r sefyllfa'n wahanol iawn i sut yr oedd hi. Nid yw hynny'n golygu, ac yn enwedig mewn meysydd fel seiciatreg, nad oes llawer mwy yr ydym ni eisiau ei wneud, ond rydym ni'n sicrhau gwelliant trwy annog pobl sy'n barod i fod yn rhan o'r ymdrech honno yn hytrach na diystyru eu hymdrechion fel pe na bydden nhw wedi gwneud unrhyw wahaniaeth.
Nawr, pan fydd fy nghyd-Aelod y Gweinidog addysg yn dweud wrth yr Aelodau bod sefydliadau addysg uwch yn gyrff annibynnol, mae'n rhaid iddyn nhw fod yn hynny. Mae'n gwbl amhriodol y dylem ni fyth geisio ymyrryd yn y penderfyniadau y maen nhw'n eu gwneud. Fel Llywodraeth, rydym ni wedi gweithio'n galed i gynnal y sector yma yng Nghymru. Rydym ni wedi gweithio gyda'r sector er mwyn gallu gwneud hynny. Dyna pam yr oeddwn i'n benderfynol, pan euthum i Aberystwyth ddoe, o gyfarfod â'r is-ganghellor a'i chydweithwyr i glywed am y gwaith y maen nhw'n ei wneud a'r hyn y gallwn ni ei wneud i'w cynorthwyo yn eu hymdrechion. Dyma pam y cyfarfu'r Gweinidog addysg â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn gynharach heddiw er mwyn parhau â'r ymdrech honno. Rydym ni'n deall bod heriau. Wrth gwrs bod heriau, ar ôl degawd o gyni cyllidol, ym mhob rhan o'r hyn y mae'r gwasanaeth cyhoeddus yn ceisio ei gyflawni yng Nghymru, ac nid yw addysg uwch yn ddim gwahanol. Ond y gwahaniaeth rhwng y sector addysg uwch yn Lloegr a'r un yng Nghymru yw ein bod ni'n gweithio gyda'r sector gyda'r nod bob amser o'i gefnogi yn hytrach na dim ond dweud y bydd grymoedd y farchnad yn berthnasol ac y bydd y rhai sy'n mynd i'r wal yn mynd i'r wal beth bynnag.
Bydd nifer o bobl yn teimlo’n anniddig iawn, yn arbennig, wrth weld prifysgolion yng Nghymru’n diswyddo cannoedd o staff tra ar yr un pryd yn talu cyflogau i’w is-gangellorion, sydd, yn ôl ffigurau diweddaraf HEFCW, yn ennill £254,000 ar gyfartaledd. Nawr, tu allan i’r sector prifysgolion, mae cyflog prif weithredwr Banc Datblygu Cymru ymhlith yr uchaf yn y sector cyhoeddus—hynny yn adlewyrchu, am wn i, pwysigrwydd y rôl. Yn wyneb hynny, allwch chi ddweud pam ŷch chi, fel Llywodraeth, fel mater o bolisi, wedi gosod cynsail wrth gytuno i ddeiliad y swydd ymgymryd â rôl anweithredol cyflogedig tu hwnt i’w waith llawn amser yn y banc?
Wel, Llywydd, gadewch i mi ddweud nad wyf i o blaid y rhai sy'n cael eu talu ar frig ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu talu ar lefelau sy'n eu gwahanu oddi wrth weddill eu gweithlu. Dyna pam mae gan Lywodraeth Cymru gymhareb sydd ymhlith y culaf yn holl gyrff sector cyhoeddus Cymru rhwng yr hyn sy'n cael ei dalu ar frig yr ystod a'r bobl hynny sy'n cael llai o dâl yn ein gwasanaeth cyhoeddus ei hun. Mae hynny'n wir yn y sector addysg uwch hefyd, er nad yw'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud am gyflogau is-gangellorion yn benderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan Weinidogion, ac ni ddylai Gweinidogion ymyrryd â nhw ychwaith.
Ceir sectorau lle mae'r sector cyhoeddus yn gweithredu erbyn hyn lle'r ydych chi mewn marchnad gystadleuol. Mae hynny'n wir yn y gwasanaeth iechyd, fel y gwyddom, lle mae'n rhaid dod o hyd i bobl brin i ddod i weithio yng Nghymru. Dyma pam yr ydym ni'n cynnig i'n meddygon teulu—ac mewn rhannau o Gymru y mae'r Aelod ei hun yn eu cynrychioli—cyllid ychwanegol a chyllid i gael pobl i ddod i weithio mewn rhannau o Gymru lle na fyddem ni'n gallu denu pobl fel arall. Mae'n gwbl anochel—efallai nad ydym ni'n ei hoffi, ond mae'n anochel pan fo gwasanaethau cyhoeddus yn cystadlu am adnoddau prin a phobl sy'n gallu dewis ble bynnag y maen nhw eisiau mynd i weithio, bod y swm yr ydym ni'n ei dalu iddyn nhw yn dod yn rhan o'r ffordd y mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o ddod â phobl i gyflawni'r cyfrifoldebau gwirioneddol bwysig hyn.
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n credu bod gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru yn diwallu anghenion ein pobl ifanc?
Rwy'n credu bod gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn diwallu anghenion ein holl bobl i'r graddau y mae pobl y tu hwnt i Gymru yn ei ystyried yn rhyfeddol. Wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu—ac rwy'n siŵr bod yr Aelod ar fin cynnig enghraifft i mi lle ceir pethau y byddem ni'n hoffi eu gweld yn cael eu gwneud yn well. Mae gwasanaethau iechyd a phobl ifanc yn aml wedi bod yn frwydr. Ceir gwaith ymchwil hirsefydlog sy'n dweud wrthych chi y bydd meddyg teulu, er enghraifft, yn treulio llai o amser gyda rhywun dan 20 nag unrhyw un arall y mae'n ei weld. Felly, mae gwneud yn siŵr bod y gwasanaeth iechyd wedi ei drefnu'n briodol i ddeall a diwallu anghenion pobl ifanc yn rhywbeth sydd wedi bod yn broblem hirdymor o ran anghydraddoldebau iechyd, a bydd enghreifftiau, does dim dwywaith, o ble mae mwy y byddem ni'n dymuno ei wneud.
Mae'r Prif Weinidog yn hollol gywir: mae pethau y gellir eu gwneud yn well oherwydd mae pryderon yng Nghymru mai dim ond dwy ganolfan gwasanaethau iechyd meddwl i blant a'r glasoed sydd ar agor i bobl ifanc yng Nghymru, yn cynnig cyfanswm o 27 gwely yn unig. Nawr, lleihawyd capasiti'r trydydd sector i 12 o welyau o 24, ond oherwydd pryderon ynghylch safonau yn y ganolfan yn ôl ym mis Gorffennaf y llynedd, symudwyd cleifion o Gymru oddi yno ac erbyn hyn dim ond cleifion o Loegr y mae'r ganolfan yn eu derbyn. Gan fod y canolfannau hyn yn gweithredu o dan gyfyngiad ar hyn o bryd neu fod ganddynt gyfyngiadau derbyn ar waith, nid yw'r canolfannau gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yng Nghymru yn diwallu anghenion cleifion risg uchel yn effeithiol. Mae rhai cleifion o Gymru yn cael eu trin y tu allan i'r ardal, gan ychwanegu baich ychwanegol arnyn nhw a'u teuluoedd. Nawr, codwyd y capasiti cyfyngedig hwn yn ôl yn 2013, ac eto mae'n ymddangos i mi nad oes unrhyw gynnydd wedi ei wneud. Rwy'n siŵr, Prif Weinidog, eich bod chi'n cytuno â mi bod hyn yn gwbl annerbyniol. A allwch chi ddweud wrthym ni felly pa gamau yr ydych chi'n mynd i'w cymryd i ddatrys y sefyllfa benodol hon?
Wel, Llywydd, fel mae'n digwydd, nid wyf i'n cytuno â'r Aelod. Mae gen i farn wahanol iawn i'r un, rwy'n credu, fy mod i wedi ei glywed yn ei ddweud am yr angen am wasanaethau haen 4 ym maes iechyd meddwl plant a'r glasoed. Yn sicr nid wyf i'n cytuno bod angen mwy o ganolfannau arnom ni. Yr hyn sydd ei angen arnom ni yw sicrhau bod cyn lleied â phosibl o bobl ifanc sydd angen gwasanaeth o'r math hwnnw. Felly, i mi, nid bod â mwy o welyau yr ydym ni angen mynd â phobl ifanc iddyn nhw yw'r prawf o lwyddiant, ond bod gennym ni fwy o wasanaethau cymunedol, mwy o wasanaethau ymyrryd mewn argyfwng, a'n bod ni'n gallu symud pobl ifanc i lawr y raddfa ymyrraeth.
Felly, rwy'n gyfforddus iawn bod gennym ni ganolfan yn y gogledd a chanolfan yn y de yn Nhŷ Llidiard. Credaf mai'r penderfyniad cywir oedd tynnu cleifion o Gymru o'r drydedd ganolfan y mae'r Aelod yn cyfeirio ati gan nad oedd y gwasanaeth hwnnw yn addas i'w ddiben ac nad oedd yn diwallu anghenion pobl ifanc. Mae nifer y bobl ifanc o Gymru yr ydym ni'n eu lleoli y tu allan i Gymru yn gostwng. Mae wedi bod yn gostwng dros y blynyddoedd diwethaf, a hoffwn ei weld yn gostwng ymhellach, oherwydd er fy mod i'n fodlon derbyn y bydd nifer fach o blant o Gymru y mae eu hanghenion mor eithriadol ac mor sylweddol fel bod yn rhaid i chi ddod o hyd i wasanaeth mor arbenigol na all poblogaeth o 3 miliwn o bobl ei gynnal, rwyf i eisiau gweld cymaint â phosibl o bobl ifanc o Gymru yn derbyn gofal yn nes at eu teuluoedd ac yn nes at eu cartrefi. Mae hynny'n golygu dychwelyd plant sy'n derbyn gofal yn Lloegr i wasanaethau haen 4, ac mae'n golygu symud gwasanaethau haen 4 i bobl ifanc yng Nghymru yn ôl i'r gymuned ac yn nes at gartrefi pobl.
Felly, rwy'n cytuno ei fod yn faes gwirioneddol bwysig, ac mae'n dda iawn cael cyfle i'w drafod ar lawr y Cynulliad, ond mae fy ateb i iddo yn llwyr i'r gwrthwyneb i ateb yr Aelod—nid ychwanegu mwy o welyau a rhoi mwy o adnoddau yno, mae'n golygu tynnu pobl, dad-ddwysáu, cryfhau gwasanaethau cymunedol a defnyddio'r 27 o welyau hynny dim ond pan fyddwn ni'n sicr bod hynny'n hanfodol.
Ond does bosib na ddylem ni fod yn darparu gwasanaethau yma yng Nghymru i'r bobl ifanc hynny a dylem ni fod yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau, gan gynnwys gwelyau hefyd. Felly, yn sicr, Prif Weinidog, mae'n rhaid i chi dderbyn hynny.
Nawr, codwyd pryderon pellach ynghylch amseroedd aros cleifion gyda mi. Canfu adroddiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru bod cyfartaledd o 57 y cant o gleifion wedi aros dim mwy na phedair wythnos. Fodd bynnag, mae'r arolygiaeth yn nodi bod y rhan fwyaf o gleifion yn aros rhwng pedair a 26 wythnos am eu hapwyntiad cyntaf. Nawr, mae adroddiad gan gyngor iechyd cymuned, yr ydych chi'n bwriadu ei ddiddymu, wedi rhybuddio bod pobl ifanc ddim ond yn teimlo y bydden nhw'n cael eu gweld pe bydden nhw'n gwneud ymgais ddifrifol i gyflawni hunanladdiad. Rhybuddiodd adroddiad arall bod adrannau damweiniau ac achosion brys yn troi'n ddewis diofyn ar gyfer achosion o orddosio a hunan-niweidio oherwydd anawsterau o ran cael gafael ar gymorth gan Ganolfan CAMHS neu ofal sylfaenol.
A ydych chi'n credu mai dyma'r adeg iawn i ddiddymu cynghorau iechyd cymuned, y mae cleifion yn ymddiried ynddynt, a'u disodli gyda chyrff llais dinasyddion cenedlaethol efallai na fyddent yn teimlo y gallan nhw fod yn feirniadol o Lywodraeth Cymru na'r byrddau iechyd gan mai chi fydd yn eu penodi, yn eu hariannu ac na fyddan nhw eisiau cael eu diswyddo gennych chi? Sut y bydd eich cyrff llais dinasyddion yn siarad ar ran cleifion, ac yn enwedig y bobl ifanc hyn, ar adeg pan fo arnyn nhw fwyaf ei angen ?
Wel, Llywydd, mae cynghorau iechyd cymuned yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Gellid cyfeirio pob beirniadaeth y mae newydd ei gwneud atynt hwythau yn yr un modd, ac, yn sicr, nid yw'r trefniadau hynny wedi atal cynghorau iechyd cymuned rhag siarad ar ran cleifion.
Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw cryfhau llais y dinesydd yn GIG Cymru. Bydd y corff yr ydym ni'n ei gynnig yn gwbl annibynnol ar y Llywodraeth, a bydd yn gweithredu—ac mae hyn yn hollbwysig o ran y cwestiwn a ofynnodd yr Aelod i mi yn yr ail o'i gwestiynau—ar draws y ffin iechyd a gofal cymdeithasol, nad yw cynghorau iechyd cymuned yn ei wneud. Dim ond o fewn y gwasanaeth iechyd y mae cynghorau iechyd cymuned yn gweithredu. Ac mae'r bobl ifanc y cyfeiriodd atynt—ac rwy'n ddiolchgar iddo am dynnu sylw at y materion hynny y prynhawn yma—mae'r bobl ifanc hynny'n dibynnu ar wasanaethau a ddarperir gan y gwasanaeth iechyd ac yn aml iawn drwy adrannau gwasanaethau cymdeithasol hefyd. A bydd y sefydliad newydd yn gallu siarad ar ran y bobl ifanc hynny ar draws y sbectrwm cyfan mewn modd na all y system bresennol ei wneud. Mae wedi ei lunio'n gyfan gwbl i fod yn gwbl annibynnol, i allu gwneud pa bynnag bwyntiau y mae'n dymuno eu gwneud, ac mae'r cynigion hynny, Llywydd, yma ar lawr y Cynulliad erbyn hyn i Aelodau graffu arnynt. Bydd ymchwiliad cam 1 gerbron y pwyllgor, lle gellir galw tystion. Edrychaf ymlaen at weld yr Aelodau'n gallu archwilio pob agwedd ar y Bil, gan gynnwys ystyried sut y mae'r cynigion hyn yn cryfhau annibyniaeth, yn cryfhau llais y claf, ac yn ei ymestyn y tu hwnt i'r ffiniau y mae wedi ei gyfyngu oddi mewn iddynt ar hyn o bryd. Rwy'n credu y byddwn ni'n gwneud gwaith da iawn ar ran cleifion a phobl ifanc hefyd.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Y penwythnos hwn, ymddangosodd y pennawd canlynol yn y South Wales Argus:
Mae traffig yn ciwio a cheir oediadau difrifol ar...yr M4 o amgylch Casnewydd.
Wrth iddyn nhw ei drydar, awgrymais efallai y bydden nhw'n hoffi rhoi'r neges ar frig eu tudalen yn y dyfodol. Ar yr achlysur hwn, adroddodd yr AA bod oediadau difrifol, gyda chyflymder cyfartalog o 15 mya. Yna dywedodd yr AA:
ni fu damwain...mae'r ciwiau'n ganlyniad i draffig arferol tuag at Dwnnel Bryn-glas.
Prif Weinidog, trwy dorri eich addewid maniffesto i adeiladu ffordd liniaru ar gyfer y M4, onid ydych chi'n dweud bod Cymru ar gau i fusnes o dan Lafur?
Wel, bydd y bobl hynny'n falch iawn, Llywydd, nad oes yn rhaid iddyn nhw aros nawr am bum mlynedd a mwy am ateb i'r anawsterau a wynebwyd ganddynt, gan nad yw fy mhenderfyniad yn benderfyniad sy'n ymwneud â mynd i'r afael â'r anawsterau sy'n bodoli o gwmpas twnnel Bryn-glas, mae'n ymwneud â dod o hyd i ffyrdd amgen o fynd i'r afael â'r problemau hynny, o fynd i'r afael â nhw ynghynt o lawer nag y byddai ffordd liniaru i'r M4 erioed wedi ei wneud. Edrychaf ymlaen at gyfarfod â'r Arglwydd Burns yfory, a fydd yn cadeirio'r grŵp yr ydym ni bellach wedi ei sefydlu i gyflwyno'r syniadau cyflym hynny a fydd yn gwneud gwahaniaeth yn nhwnnel Bryn-glas. Rwy'n credu y bydd hynny'n gwneud llawer mwy i'r bobl y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw, ac rwy'n benderfynol o barhau i weithio gyda chynrychiolwyr lleol o ardal Casnewydd, gan gynnwys cyngor y ddinas, i wneud yn siŵr ein bod ni'n symud ymlaen nawr, yn edrych tua'r dyfodol, yn dod o hyd i atebion newydd ac yn mynd i'r afael â'r materion sydd yno i fynd i'r afael â nhw.
Nid dyna a addawyd gennych chi eich maniffesto, nage?
Mae'r Gweinidog y tu ôl i chi, Lee Waters, yn dweud ei fod yn dipyn o ystrydeb i awgrymu bod Cymru ar gau i fusnes—[Torri ar draws.]
Nid dyna wnaethoch chi ei roi yn eich maniffesto. Roedd yn dweud—maniffesto Llafur—
Byddwn yn cyflwyno ffordd liniaru ar gyfer yr M4.
Iawn—
Nid ydych chi wedi gwneud hynny—rydych chi wedi torri eich addewid.
—nid wyf i'n gallu clywed y cwestiwn; nid wyf i'n credu bod y Prif Weinidog yn gallu. A allwch chi barhau â'ch cwestiwn mewn rhywfaint o ddistawrwydd?
Felly, nid fy ngeiriau i oedd yr hyn y mae Lee Waters yn ei ddweud oedd yn ystrydeb—cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain Cymru Ian Price a ddywedodd bod y diddymiad hwn yn cyfleu'r neges nad yw Cymru ar agor i fusnes.
Bydd twf economaidd yn cael ei lethu, bydd ffydd yn y rhanbarth yn gwanhau a bydd cost ffordd liniaru yn y pen draw yn codi.
Nawr, nid wyf i'n dyfynnu Ysgrifennydd Cymru Alan Cairns yn aml, ond rwy'n cytuno ag ef bod y penderfyniad hwn yn hynod siomedig ac yn ddiwrnod tywyll i Gymru.
Yr Ysgrifennydd Gwladol y bu'n rhaid i ni ddibynnu arno hefyd i ddarganfod unrhyw beth am yr hyn a oedd yn digwydd gyda'r ymchwiliad a'r adroddiad, gan ganfod, mewn gwirionedd, bod y penderfyniad yn un cadarnhaol gan yr arolygydd rai wythnosau cyn i Lywodraeth Cymru ein hysbysu. Nawr, a yw'r Prif Weinidog yn cydnabod mai chi roddodd derfyn ar ddadl effeithiol ar yr adroddiad hwn pan allai fod wedi gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd, trwy ei gadw'n gyfrinach am rai misoedd tra'r oeddech chi'n gwneud eich penderfyniad eich hun? Ac onid yw Llywodraeth y DU yn gywir ar y pwynt sylfaenol y byddai'r ffordd hon yn cael ei hadeiladu nawr oni bai am 20 mlynedd o ddatganoli o dan arweinyddiaeth Llafur?
Wel, Llywydd, wn i ddim a oes llawer i'w ddysgu gan yr aelod am faniffestos. Safodd dros y Blaid Geidwadol ar sail maniffesto; cefnodd ar hwnnw yn syth. Safodd dros blaid UKIP ar sail maniffesto; cefnodd ar hwnnw. Nid wyf i'n credu bod unrhyw wersi y mae neb yma fyth yn debygol o'u cymryd ganddo ef ar y pwnc o aros yn driw i bethau y gwnaethoch chi sefyll ar eu sail mewn etholiad.
O ran Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, roeddwn i'n falch iawn o gyfarfod â phrif weithredwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Ffederasiwn y Busnesau Bach a Chyngres yr Undebau Llafur yr wythnos diwethaf i siarad yn union am y penderfyniad a wnaed, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am y ffordd y daethant i'r cyfarfod hwnnw mewn ysbryd cwbl adeiladol. Daethant yn awyddus i gyfrannu at y gronfa newydd o syniadau sydd yno i fynd i'r afael â'r anawsterau a wynebir yn nhwnnel Bryn-glas. Daethant i ddweud pa mor awyddus oedden nhw i gymryd rhan yn y grŵp a fydd yn cael ei sefydlu nawr i gynnig yr atebion hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n anodd dychmygu mwy o gyferbyniad rhwng yr ysbryd adeiladol y daeth y Cydffederasiwn a chydweithwyr eraill at y Bwrdd hwnnw ynddo a'r dôn o edliw bai a gynigiwyd i ni gan yr Aelod unwaith eto y prynhawn yma.
Nid oes ganddo unrhyw ddealltwriaeth o gwbl o'r ffordd y mae penderfyniadau yn cael eu gwneud mewn Llywodraeth; nid oes ganddo ddim gafael o gwbl ar y drefn y mae'n rhaid ei dilyn wrth wneud y penderfyniadau hynny. Rwy'n gwbl gyfforddus, yn yr achos hwn, bod y penderfyniad wedi ei wneud yn briodol, gan barchu'r rheolau y bu'n rhaid gwneud y penderfyniad hwnnw'n unol â nhw, a bod y penderfyniad a wneir nawr yn rhywbeth y mae angen i ni i gyd ei gefnogi, bwrw ymlaen ag ef a gwneud yn siŵr bod gennym ni atebion y gallwn ni eu rhoi ar waith yn llawer cyflymach nag y byddai ffordd liniaru byth wedi eu cynnig i bobl yng Nghasnewydd, a'r anawsterau yr wyf i wedi dweud bob tro y gofynnwyd i mi fy mod i'n cydnabod eu bod nhw yno a bod angen eu datrys.
Tynnwyd cwestiwn 3 [OAQ54038] yn ôl. Felly, cwestiwn 4—Andrew R.T. Davies.