Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 18 Mehefin 2019.
Bydd nifer o bobl yn teimlo’n anniddig iawn, yn arbennig, wrth weld prifysgolion yng Nghymru’n diswyddo cannoedd o staff tra ar yr un pryd yn talu cyflogau i’w is-gangellorion, sydd, yn ôl ffigurau diweddaraf HEFCW, yn ennill £254,000 ar gyfartaledd. Nawr, tu allan i’r sector prifysgolion, mae cyflog prif weithredwr Banc Datblygu Cymru ymhlith yr uchaf yn y sector cyhoeddus—hynny yn adlewyrchu, am wn i, pwysigrwydd y rôl. Yn wyneb hynny, allwch chi ddweud pam ŷch chi, fel Llywodraeth, fel mater o bolisi, wedi gosod cynsail wrth gytuno i ddeiliad y swydd ymgymryd â rôl anweithredol cyflogedig tu hwnt i’w waith llawn amser yn y banc?