3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 18 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:30, 18 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Amlygodd yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yr angen i wella profiad ac ansawdd gofal yn barhaus, er mwyn sicrhau bod gennym ni system iechyd a gofal cymdeithasol sydd bob amser yn dysgu a lle clywir llais y dinesydd yn ganolog ac yn amlwg. Cyhoeddais ymateb Llywodraeth Cymru, ein cynllun tymor hir ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, 'Cymru Iachach' ym mis Mehefin y llynedd. Mae'n amlinellu sut y bydd ansawdd yn allweddol i wneud y system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn addas ar gyfer y dyfodol—system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n rhoi canlyniadau da, profiad da i bobl a'r gwerth gorau. Mae ein cynllun yn nodi uchelgeisiau'r Llywodraeth hon i ddod â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd fel y cânt eu cynllunio a'u darparu ar sail anghenion a dewisiadau pobl. Mae ein cynllun yn pwysleisio pwysigrwydd gwella ac ymgysylltu'n barhaus â dinasyddion mewn modd sy'n gwerthfawrogi ac yn galluogi pobl i gyfrannu eu gwybodaeth, eu profiad ac, wrth gwrs, eu dewisiadau.

Mae'r Bil yn gam nesaf ymlaen yn y broses o wella ansawdd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r Bil yn adeiladu ar yr asedau sydd gennym ni eisoes yng Nghymru, i gryfhau a diogelu ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer y dyfodol, gan hwyluso rhoi llais cryfach i ddinasyddion, gwella atebolrwydd gwasanaethau er mwyn darparu gwell profiad, ansawdd gofal gwell a chanlyniadau gwell i bobl yng Nghymru. Mae'r Bil yn cyflwyno newidiadau a fydd yn cryfhau'r ddyletswydd ansawdd bresennol sydd ar gyrff y GIG ac yn ymestyn hyn i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â swyddogaethau'r gwasanaeth iechyd; yn rhoi dyletswydd gonestrwydd sefydliadol ar ddarparwyr gwasanaethau'r GIG, gan ei gwneud hi'n ofynnol iddyn nhw fod yn agored ac yn onest gyda chleifion a defnyddwyr gwasanaeth pan fydd pethau'n mynd o chwith; yn cryfhau llais dinasyddion, drwy ddisodli cynghorau iechyd cymuned â chorff newydd ar gyfer Cymru gyfan a fydd yn rhoi llais i ddinasyddion ac yn cynrychioli buddiannau pobl ym mhob agwedd ar iechyd a gofal cymdeithasol; ac yn galluogi penodi is-gadeiryddion ar gyfer ymddiriedolaethau'r GIG, gan sicrhau eu bod yn gyson â byrddau iechyd.

Mae'r ddyletswydd ansawdd bresennol yn Neddf 2003 wedi llwyddo i roi rhywfaint o bwyslais ar wella ansawdd a datblygu seilwaith. Fodd bynnag, fe'i dehonglwyd mewn ffordd gymharol gul ac arweiniodd at roi sylw ar sicrwydd ansawdd yn hytrach na mynd ati'n rhagweithiol i gynllunio a gwella ansawdd. Mae angen i ansawdd fod yn ehangach na hyn. Rwyf eisiau i ansawdd fod yn ffordd system gyfan o weithio, er mwyn sicrhau gwasanaethau diogel, effeithiol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy'n amserol, yn effeithlon ac yn deg. Rhaid i hynny gynnwys hybu diwylliant o ddysgu. Mae'r Bil yn disodli dyletswydd 2003 â dyletswydd ansawdd ehangach, sy'n cyd-fynd yn well â sut yr ydym ni eisiau i'n cyrff GIG weithio gyda'i gilydd. Bydd yn cryfhau'r camau gweithredu a'r penderfyniadau er mwyn gwella ansawdd ein system gyfan. A bydd y ddyletswydd ansawdd yn cael ei rhoi ar gyrff y GIG ac ar Weinidogion Cymru. Bydd yn sicrhau yr effeithir ar ansawdd gwasanaethau yn ei ystyr ehangaf. Dyma fydd yr ystyriaeth gyntaf wrth wneud penderfyniadau am wasanaethau iechyd.

Yn anochel, mewn system mor eang a chymhleth â'r GIG, bydd pethau weithiau'n mynd o chwith. Bydd y ddyletswydd gonestrwydd yn helpu i sicrhau, pan fydd hyn yn digwydd, bod darparwyr gwasanaethau'r GIG yn agored ac yn onest â phobl yr effeithiwyd arnyn nhw. Mae digwyddiadau diweddar yn hen ardal Cwm Taf wedi dangos inni bwysigrwydd hyn. Bydd y Bil yn helpu i sicrhau bod unigolion yn cael eu cefnogi, bod sefydliadau yn gwneud y peth priodol ac yn defnyddio digwyddiadau o'r fath i ddysgu a gwella.

Ceir tystiolaeth gynyddol bod gan systemau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gwneud yn dda, bobl wrth eu gwraidd, ac y dylai man cychwyn unrhyw benderfyniad ganolbwyntio ar yr hyn sydd orau i'r unigolyn. Mae cyflawni ein huchelgais i wella ansawdd yn golygu gwrando ar lais pobl yng Nghymru a'i werthfawrogi. Bydd creu corff  llais y dinesydd newydd i Gymru gyfan yn cryfhau'r llais hwnnw ym mhob agwedd ar wasanaethau iechyd a chymdeithasol yn genedlaethol, rhanbarthol a lleol. Bydd cryfhau ymgysylltiad y cyhoedd, a chefnogi dinasyddion i gael llais cryf, yn cynyddu dylanwad pobl. O gyfuno hyn gyda gwaith y ddwy arolygiaeth—Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru—bydd yn cefnogi'r ymgyrch dros wasanaethau o safon uwch.

Yn olaf, bydd y gofynion ynghylch is-gadeiryddion ymddiriedolaethau GIG yn cryfhau eu trefniadau llywodraethu ac yn sicrhau eu bod yn gyson â byrddau iechyd lleol. Dim ond un agwedd yw'r Bil hwn ar gyfres o fesurau yr ydym ni'n eu gweithredu yn ein hymgyrch ddiwyro tuag at wella ansawdd iechyd a gofal cymdeithasol. Er enghraifft, byddwn yn bwrw ymlaen â gwaith pellach ar wahân ynghylch y ffordd y caiff penderfyniadau ynghylch newid gwasanaethau eu gwneud yn y GIG ac yn ystyried sut y gellir defnyddio cyfansoddiad byrddau iechyd i gryfhau trefniadau llywodraethu. Rydym ni hefyd yn symud ymlaen gyda'r gwaith i atgyfnerthu rheoleiddio ac arolygu, gan gynnwys gwaith i ystyried sail ddeddfwriaethol AGIC. Yn y tymor byr, rydym ni wedi buddsoddi arian ychwanegol i ddatblygu cynaliadwyedd AGIC yn raddol ac i fod yn barod i ymateb i unrhyw fframwaith deddfwriaethol newydd yn y dyfodol.

Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r Bil hwn i graffu arno. Edrychaf ymlaen at drafod â'r Cynulliad a'i bwyllgorau dros y misoedd i ddod, y Bil hwn a fydd, yn fy marn i, yn sicrhau manteision cadarnhaol i bobl Cymru. Bydd y Bil yn helpu i wireddu ein huchelgais cyffredin i gael system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar ansawdd, sef system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n agored ac yn onest, a lle caiff llais y dinesydd ei glywed yn uchel ac yn glir.