Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 18 Mehefin 2019.
Gweinidog, hoffwn ddiolch ichi am eich datganiad y bore yma—neu'r prynhawn yma—ac am gyflwyno'r manylion pellach am y Bil hwn a gyflwynwyd gennych chi ddoe.
Rwy'n credu bod angen i mi ddechrau drwy ofyn i chi a allwch chi esbonio i ni pam yr ydych chi'n credu bod angen y ddeddfwriaeth hon arnom ni. Oherwydd, wrth gwrs, rydym ni i gyd eisiau cefnogi gwell ansawdd yn ein gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig gyda'r GIG, oherwydd bod hynny'n cael effaith mor uniongyrchol ar unigolyn. Ac rydym ni i gyd yn dymuno cefnogi'r egwyddor o onestrwydd. Fodd bynnag, mae'r ddau nod da iawn hynny wrth gwrs yn cuddio'r mileindra, sef cael gwared ar y cynghorau iechyd cymuned. Byddai angen i'r Ceidwadwyr Cymreig gael sgwrs hir iawn gyda chi dros yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod ynghylch a fyddai hynny mewn gwirionedd o fudd i'r claf ac a fyddai'n gymorth gwirioneddol i atgyfnerthu llais y claf.
Mae naw mlynedd wedi mynd heibio ers cyhoeddi 'Law yn Llaw at Iechyd' ac mae pedair blynedd wedi mynd heibio ers i'n Bwrdd Iechyd hynaf fod mewn mesurau arbennig, ond dim ond nawr mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno unrhyw fath o ddeddfwriaeth neu'n ystyried sut i wella'r safonau ansawdd hynny. Ac os dywedwch chi—fel yr ydych chi wedi dweud yn eich datganiad—fod y pwyslais presennol yn rhy gul, wel, Gweinidog, rydych chi a'ch Llywodraeth wedi cael y rhan orau o ddegawd i gywiro hynny. Felly pam ydych chi'n credu mai deddfu ar ei gyfer fydd yn gwneud y gwahaniaeth, yn hytrach na'r newid mewn diwylliant, sef yr hyn y mae gwir, gwir ei angen arnom ni?
O ran y ddyletswydd gonestrwydd, unwaith eto, credaf fod honno'n egwyddor ddiddorol iawn. Unwaith eto, byddwn eisiau cefnogi hynny ym mhob agwedd ar fywyd. Mae gennyf rywfaint o bryder ynghylch sefydlu gweithgor i ddatblygu canllawiau i benderfynu faint o niwed y mae'n rhaid ei ddioddef cyn i'r ddyletswydd gael ei sbarduno. Ymhle y bydd llais y claf ar y gweithgor hwnnw? Oherwydd, a bod yn blwmp ac yn blaen, os oes unrhyw niwed, dyna ddylai fod y sbardun. Ac mae gennyf bryder yn deillio o'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud, o'ch datganiad, ac o'r dadansoddiad o'r memorandwm esboniadol, y bydd trothwy, y bydd ffon fesur. Ble mae'r ffon fesur honno, a pha mor uchel fydd hi?
Dof yn awr, wrth gwrs, at gynghorau iechyd cymuned, sef, mae'n debyg, y maes sy'n peri'r pryder mwyaf imi. Dyma sy'n peri'r pryder mwyaf imi oherwydd mae popeth mae'r Llywodraeth wedi ei ddweud dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn ymwneud ag adolygiad seneddol, wedi bod yn ymwneud â'r weledigaeth ar gyfer iechyd, wedi bod ynglŷn â grymuso'r claf. Ac eto, yn y bôn, bydd y cynnig hwn yn dileu pob un o'r cynghorau iechyd cymuned lleol—y bobl ar lawr gwlad, y bobl a all gerdded i mewn i ward 2 yn Ysbyty Glangwili, ward 10 yn Ysbyty Llwynhelyg, sy'n mynd i Fronglais, yn mynd i unrhyw ysbyty yng Nghymru, a chael golwg arni mewn gwirionedd. Mae hyn yn mynd i gael gwared ar y bobl leol sy'n gallu gwrando ar bryder sydd gan breswylydd lleol am y gwasanaethau y mae yn eu derbyn. Mae'n mynd i gynnwys y cwbl mewn sefydliad cenedlaethol, cyffredinol—a hwrê, mae hynny'n swnio'n wych—ond, yn anffodus, rydym ni wedi gweld hyn dro ar ôl tro gyda Llywodraeth Cymru, lle nad yw'r cyrff cenedlaethol hyn, yn ymestyn ar hyd a lled Cymru, yn syml yn cyflawni'r hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud. Ac o'r holl bethau y dylai GIG Cymru eu gwneud, dylai fod yn gwrando ar lais y claf, oherwydd mae'n ymwneud â phobl ac mae'n ymwneud â'r cleifion hynny.
Felly, rwy'n wirioneddol bryderus ynghylch y sylw yn eich datganiad am gyfuno hyn gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, oherwydd rydym ni'n gwybod, onid ydym ni, fod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi'i thanariannu. Mae'n dal wedi ei thanariannu. Mae wedi cael llai o arian nag unrhyw arolygiaeth arall yng Nghymru—er enghraifft £3.5 miliwn o'i gymharu â £13 miliwn ar gyfer Arolygiaeth Gofal Cymru a £11.3 miliwn ar gyfer Estyn. Hwn hefyd yw'r unig gorff arolygu o'i fath yn y DU nad yw'n gwbl annibynnol ar y Llywodraeth y mae yno i gadw llygad arni. Mae hynny'n cael ei gadarnhau drwy edrych ar Adolygiad Marks yn 2014, lle soniodd adolygiad Marks eto am y diffyg pwyslais, bod y pwyslais yn rhy gul ac, wrth gwrs, yr holl adroddiadau gwych hyn sy'n cael eu llunio mewn modd adweithiol ac yn diflannu i ebargofiant. Ac rwy'n credu bod hynny'n bwynt allweddol iawn, Gweinidog, oherwydd, wrth gwrs, mae sefydliadau fel AGIC yn ymateb i ddigwyddiad. Maen nhw'n dod i mewn wedyn ac yn dechrau clirio'r llanast. Mae Cynghorau Iechyd Cymuned yn aml iawn ar y rheng flaen ac maen nhw'n gallu ymyrryd ar y dechrau pan fydd problem yn codi yn y lle cyntaf.
Felly, hoffwn ddeall sut yr ydych chi'n gweld y bydd yr AGIC gwan iawn a diddannedd yn gallu cefnogi eich corff cenedlaethol newydd, oherwydd mae'r gwrthwynebiad yn seiliedig ar y gred, os collwn ni ein Cynghorau Iechyd Cymunedol annibynnol, rydym ni'n colli'r gallu i ddwyn ein gwasanaethau iechyd i gyfrif. Ac a siarad yn blaen, roedd y datganiad i'r wasg gwasaidd ar y naw a ryddhawyd y bore yma gan Gonffederasiwn y GIG, yn awgrymu i mi, os nad oedd dim arall, fod y byrddau iechyd yn gorfoleddu a llawenhau, oherwydd bod hyn yn tawelu llais. Nid ail-rymuso llais yw hyn.
Nid wyf yn deall—a byddwn wrth fy modd pe gallech chi esbonio wrthym ni—pam na wnaethoch chi'r penderfyniad i ehangu cylch gwaith y cynghorau iechyd cymuned presennol fel eu bod yn cynnwys gofal cymdeithasol yn ogystal â gofal iechyd, a pham na wnaethoch chi eu hariannu'n briodol, hyd yn oed pe baech yn eu rhoi mewn strwythur a fyddai'n rhoi mwy o gryfder i'r corff ymbarél hwnnw. Oherwydd y maen nhw wedi gwneud gwaith da iawn. Rwy'n gwybod nad yw'n gyson ledled Cymru. Felly, rwyf yn cefnogi'r ddadl ynghylch cysondeb. Ond pan gofiwch chi y cafodd cyngor iechyd cymuned, heb fod yn bell iawn yn ôl, ei fygwth â gwysiad llys am ddwyn ei fwrdd iechyd i gyfrif am ymarfer ymgynghori, yna mae hynny'n dweud wrthyf ble mae'r grym yn hyn o beth mewn gwirionedd. Hoffwn wybod—ac rwyf wedi dal eich llygad, Llywydd dros dro—hoffwn wybod sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod y llais hwnnw yn wirioneddol annibynnol—yn annibynnol arnoch chi, y Llywodraeth, yn annibynnol arnoch chi, y Gweinidog, yn annibynnol ar y byrddau iechyd, ac yn gwasanaethu'r claf. Gan mai dyna eu hunig swyddogaeth, ac rydym ni'n gweld nad yw'r cyrff cenedlaethol hyn yn gwneud hynny ac yn cael eu llyncu gan bartneriaethau rhanbarthol.