Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 18 Mehefin 2019.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac am y dogfennau y mae wedi'u darparu inni. Ni fydd ein plaid yn gallu cefnogi'r ddeddfwriaeth fel y mae, ond rydym ni'n gwerthfawrogi rhai o'r egwyddorion y tu ôl iddi, a byddwn yn edrych drwy'r broses graffu i'w chryfhau lle gallwn ni oherwydd dyna fyddai ein dewis, wrth gwrs, yn hytrach na gwrthwynebu.
Sylw byr i ddechrau gyda golwg ar ambell agwedd y gallwn yn amlwg eu cefnogi. Mae ehangu'r corff llais y cleifion i gynnwys gofal yn ogystal ag iechyd yn gwneud llawer o synnwyr i ni; wrth gwrs, mae'n peri i rywun ofyn pam na all rhywun roi'r swyddogaeth honno i'r cynghorau iechyd cymuned rhanbarthol, ond dof yn ôl at hynny mewn munud. Ac mae'n amlwg yn gwneud synnwyr llwyr y dylai'r Gweinidog allu penodi is-gadeiryddion yr ymddiriedolaethau yn yr un modd ag y bydd yn penodi is-gadeiryddion y byrddau iechyd lleol. Gallai hynny, fel y dywedodd y Gweinidog, helpu gwella gwaith craffu.
Os caf i droi yn awr, Llywydd dros dro, at ein pryderon, byddaf yn dechrau gyda'r mater o ddeddfu ar gyfer ansawdd. Mae hyn bob amser wedi fy nharo i braidd yn od, sef y byddech yn tybio na fyddai gennym ni ddim gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru lle nad oeddem yn bwriadu i'r gwasanaethau a oedd i'w darparu fod o'r ansawdd uchaf posib. Ac nid ydym ni ar y meinciau hyn, mewn egwyddor, yn gwrthwynebu'r ddeddfwriaeth honno, ond yn fy marn i mae'n rhaid i ddeddfwriaeth gael grym. Felly, fe hoffwn i ofyn i'r Gweinidog heddiw: a fydd y ddeddfwriaeth hon ar gyfer ansawdd yn cyflwyno system lle mae goblygiadau i reolwyr unigol pan fydd methiant i sicrhau ansawdd?
Wrth gwrs, mae'n llygad ei le pan ddywed yn ei ddatganiad gydag unrhyw sefydliad o faint y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, y bydd pethau'n mynd o chwith weithiau. Pan fydd pethau'n mynd o chwith, gwyddom y gall meddygon a nyrsys gael eu dwyn i gyfrif, ac yn wir, eu diarddel os byddant yn methu â darparu ansawdd y gwasanaeth a diogelwch y gwasanaeth y mae gan eu cleifion yr hawl i'w disgwyl. Felly, a fydd y ddeddfwriaeth hon yn rhoi mwy o rym i'r Gweinidog i ymdrin â rheolwyr pan fyddant yn methu â chyflawni? Rydym ni'n dal i gredu ar yr ochr hon i'r tŷ fod angen cofrestr arnom ni ar gyfer rheolwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a bod angen ffordd i'w diarddel yn union fel y gallwn ni ddiarddel meddygon a nyrsys os methant â pherfformio. Felly, byddai'n dda gennyf glywed gan y Gweinidog heddiw a oes modd yn y ddeddfwriaeth hon deddfu ar gyfer ansawdd er mwyn sicrhau bod yr atebolrwydd unigol hwnnw'n cael ei gyflwyno.
I droi yn awr at gorff llais y dinesydd, hoffwn, os gwnaiff y Llywydd dros dro ganiatáu i mi, ddyfynnu grŵp o gleifion, sy'n rhoi sylwadau ar y ddeddfwriaeth hon:
Mae diddymu'r cynghorau iechyd cymuned yn gwbl groes i resymeg. Yn achos Tawel Fan, y cynghorau iechyd cymuned yn aml oedd yr unig ffynhonnell gefnogol o gymorth a chefnogaeth annibynnol—swyddogaeth yr oeddent yn ymgymryd â hi heb ofn na ffafriaeth. Mae dileu'r hawl i wneud ymweliadau dirybudd mewn difrif yn golygu cael gwared ar graffu diduedd.
Nawr, beth bynnag a wnawn ni gyda'r ddeddfwriaeth hon, gobeithiaf y bydd y Gweinidog heddiw'n ailystyried y cymal hwnnw a fyddai'n dileu'r hawl i ymweld yn ddirybudd. P'un a yw'n gorff cenedlaethol, p'un a ydym yn parhau â mwy o gynghorau iechyd cymuned lleol, mae'n gwbl hanfodol bod y rheini sy'n gyfrifol am eiriol dros y claf yn gallu ymweld ar yn union adeg lle nad oes neb eisiau iddyn nhw wneud hynny. Fel arall, mae perygl y byddan nhw'n ddibwrpas, a gobeithiaf y bydd y Gweinidog, wrth lunio'r ddeddfwriaeth, yn ystyried newid hynny.
Bydd y Gweinidog yn deall, rwy'n siŵr, y pryderon y mae pobl yn eu mynegi y byddai'r corff cenedlaethol newydd hwn yn ymbellhau o'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Dydw i ddim yn credu bod hynny'n anochel; credaf y gellid rhoi sylw i hynny, ond tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym ni heddiw: a yw'n deall bod hynny'n bryder ystyrlon, a pha ystyriaeth y mae wedi'i rhoi eisoes i'r modd y gellid mynd i'r afael â hynny? Wrth gwrs, bydd yn wir, meddai yn ei ymateb i Angela Burns, y bydd yna gynrychiolaeth ar lawr gwlad o hyd, ond bydd y rhai sy'n gyfrifol am y gynrychiolaeth honno yn bell iawn o'r rheng flaen os yw'n gorff cenedlaethol. A bydd angen cryn argyhoeddi arnom ni mai dyma'r ffordd gywir o fynd ati.
Cyfeiriodd y Gweinidog yn ei ymateb i Angela Burns at y broses benodi, a tybed a all roi sicrwydd pellach inni ynghylch sut y bydd hynny nid yn unig yn annibynnol ond yn cael ei gweld fel proses annibynnol. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae'r Gweinidog yn penodi hanner yr Aelodau'n uniongyrchol, ond mae gan awdurdodau lleol fewnbwn, mae sefydliadau'r trydydd sector yn cyfrannu at hyn, ac mae hynny'n golygu bod pobl yn cael rhyw sicrwydd bod y cynghorau iechyd cymuned presennol yn annibynnol. Nid oes neb, wrth gwrs, yn dweud eu bod yn berffaith. Mae yna faterion, er enghraifft, sy'n ymwneud â chael digon o gapasiti i allu cael cyngor cyfreithiol o'r ansawdd gorau. Credwn y gellid mynd i'r afael â hynny drwy rannu gwasanaethau yn hytrach na chreu un corff newydd, ond gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn cydnabod heddiw fod y pryderon am annibyniaeth yn rhai dilys ac y bydd yn ceisio mynd i'r afael â'r rheini drwy broses y Bil.
Trof yn fyr at Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Rwyf wedi clywed yr hyn a ddywedodd wrth Angela Burns. Rydym ni yn croesawu'r gwaith o ystyried rhoi sail ddeddfwriaethol wahanol i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ond a all y Gweinidog ddweud ychydig wrthym ni heddiw ynglŷn â beth yw'r amserlen ar gyfer y gwaith hwnnw? Oherwydd mae hi'n glir—a byddwn yn rhoi o'r neilltu am y tro y materion ynghylch adnoddau, er bod y rheini'n bwysig, ond mae'n amlwg bod angen i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fod yn fwy amlwg yn annibynnol a bod yn gryfach o ran deddfwriaeth. Tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym ni faint o amser y mae'n credu y bydd yn ei gymryd i gwblhau'r darn hwnnw o waith y mae'n sôn amdano yn ei ddatganiad.
Yn olaf, gan droi at y ddyletswydd gonestrwydd, nawr, unwaith eto, ni fyddai neb yn anghytuno y bydd hynny'n gam ymlaen ac y bydd hynny'n welliant, ond byddwn yn dadlau, Llywydd dros dro, nad yw rhoi'r cyfrifoldeb hwnnw ar gyrff yn ddigonol. Mae'r Gweinidog yn ei ddatganiad yn cyfeirio at y sefyllfa yng Nghwm Taf. Wel, byddai rhoi dyletswydd gonestrwydd ar y corff hwnnw yn enghraifft wych o godi pais ar ôl piso. Gwyddom, yn y sefyllfa honno, naill ai nad oedd rheolwyr Cwm Taf yn gwybod beth oedd yn digwydd, ac os felly roeddent yn anghymwys, neu eu bod yn gwybod ac yn dewis peidio â'i gyhoeddi, ac yn yr achos hwnnw roeddent yn anonest ac yn llwgr. Yn y naill achos neu'r llall, ni allaf weld sut y byddai gosod dyletswydd gonestrwydd gyfreithiol arnynt yn gwneud y mymryn lleiaf o wahaniaeth o ran p'un a ydynt yn gweithredu'n briodol ai peidio. Mae llawer o bethau eraill y mae angen eu gwneud. Credwn fod angen rhoi dyletswydd gonestrwydd ar staff, er mwyn grymuso chwythwyr chwiban. Os oes ganddyn nhw ddyletswydd gyfreithiol a'u bod yn gallu dweud wrth eu rheolwr, 'mae'n rhaid imi sôn am yr hyn yr wyf wedi'i weld gan fod gennyf ddyletswydd gonestrwydd gyfreithiol', gallai hynny gefnogi'r ddyletswydd gonestrwydd gyfreithiol sydd ar y cyrff iechyd, na fyddem yn anghytuno â hi ond nad ydym ni'n teimlo ei bod yn ddigonol.
I gloi fy sylwadau, Llywydd dros dro— gallaf weld eich bod yn edrych arnaf, ac yn gwbl briodol mae'n debyg—mae bwriad y ddeddfwriaeth hon yn amlwg yn dda, ond fel yr arferai un o fy athrawon ysgol ddweud wrthyf pan oeddwn yn ifanc sef bod uffern yn llawn o fwriadau da. Bydd angen inni graffu ar hyn yn fanwl iawn. Ac mae'r Gweinidog eisoes wedi dweud, ac rwy'n ddiolchgar iddo am hyn, y bydd yn croesawu'r gwaith craffu hwnnw. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae gwendidau o ran y ddyletswydd gonestrwydd, dydw i ddim yn gwybod yn union beth yr ydym ni'n mynd i'w gyflawni gyda deddfu ar gyfer ansawdd os nad ydym ni'n gwneud y pethau eraill sydd angen i ni eu gwneud, ac rwyf ymhell o gael fy argyhoeddi y dylai un corff cenedlaethol ddisodli'r cymunedau iechyd cymunedol, y mae, yn ddiau, angen eu cryfhau.