2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 19 Mehefin 2019.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i wella ansawdd tai yng Nghymru? OAQ54050
Mae Llywodraeth Cymru'n darparu £108 miliwn y flwyddyn i landlordiaid cymdeithasol ar ffurf y lwfans atgyweiriadau mawr i gynghorau a chyllid gwaddoli llenwi bwlch i gymdeithasau tai trosglwyddo gwirfoddol ar raddfa fawr. Mae hyn er mwyn sicrhau y bydd pawb sy'n byw yn ein 225,000 o gartrefi cymdeithasol yng Nghymru yn byw mewn cartrefi o ansawdd da erbyn Rhagfyr 2020.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei hateb. Rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â mi y byddai'n anffodus iawn pe bai cyllid Llywodraeth Cymru o ffynonellau eraill yn cael effaith negyddol anfwriadol ar ansawdd tai yng Nghymru. Mae gennyf nifer o etholwyr sydd wedi bod yn cael anawsterau go iawn gyda deunydd inswleiddio waliau ceudod wedi'i werthu'n amhriodol neu wedi'i osod yn amhriodol. Gwn fod hwn yn fater sydd wedi cael ei godi droeon, a gan David Rees yn ddiweddar.
Yn amlwg, nid yw'r mater hwn yn rhan uniongyrchol o'ch portffolio, Weinidog, ond mae'n cael effaith wirioneddol ar ansawdd tai rhai o fy etholwyr, a gwn am lawer o rai eraill. Yr hyn sy'n anffodus yw mai'r dystiolaeth sy'n cael ei hanfon ataf yw bod yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl, sydd i fod i fynd i'r afael â hyn, yn fawr o gymorth mewn gwirionedd. Mae un achos penodol rwyf am ysgrifennu at Weinidog yr amgylchedd yn ei gylch gan nad ydynt yn ymateb, a phan fyddant yn ymateb, maent yn cynnig unioni'r gwaith yn rhannol yn unig.
Nid yw'r teulu penodol a ysgogodd y cwestiwn hwn yn bobl gefnog. Maent wedi gweithio'n galed iawn i allu fforddio eu cartref eu hunain. Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog a wnewch chi, gan wisgo'ch het ansawdd tai, gael sgwrs bellach gyda Gweinidog yr amgylchedd i weld a oes mwy y gall y Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod yr asiantaeth warantu yn addas i'r diben, a'u bod yn ymateb mewn ffordd briodol, ond hefyd mewn modd tosturiol tuag at bobl sy'n wynebu problemau lleithder anodd iawn mewn cartrefi y bu'n rhaid iddynt ymdrechu'n galed iawn i'w prynu?
Rwy'n fwy na pharod i wneud hynny. Os anfonwch y manylion at Weinidog yr amgylchedd, rhwng y ddau ohonom, gallwn edrych ar y mater penodol rydych yn ymdrin ag ef. Mewn gwirionedd, yn llawer mwy cyffredinol, rydym ar fin derbyn adroddiad gan y gweithgor datgarboneiddio tai. Maent yn edrych ar dai yn gyffredinol, nid tai cymdeithasol yn unig. Felly, rydym yn disgwyl argymhellion ganddynt am nifer o'r pethau a godwyd gennych yn fwy cyffredinol o ran y pethau penodol yno: felly, y sgiliau sydd ar gael i ddeiliaid cartrefi preifat—mae'n ddrwg gennyf, perchnogion cartrefi preifat; baglais dros fy ngeiriau—yng Nghymru; y cyngor y gallant ei gael ynglŷn â'r ffordd orau o inswleiddio eu cartrefi heb achosi rhai o'r anawsterau y soniwch amdanynt; a materion ynghylch effeithlonrwydd ynni ac anwedd a phethau o'r fath. Felly, rydym yn disgwyl yr adroddiad hwnnw cyn bo hir, ac rwy'n disgwyl cael sgwrs dda iawn ar draws y Llywodraeth a chyda'r Cynulliad ynglŷn â'r ffordd orau o roi rhai o'r argymhellion ar waith.
Weinidog, yn gynharach eleni, arweiniodd fy nghyd-Aelod yma, David Melding, ddadl a oedd yn cydnabod bod nifer y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru yn annigonol i ateb y galw, ac yn ystod y ddadl, cydnabu pob un ohonom fod prinder tai cymdeithasol yng Nghymru. Ond mae prinder hefyd o ran mathau eraill o gartrefi a fydd yn denu perchnogion tai iau, uchelgeisiol i symud i Gymru. Deallaf fod gan swydd Amwythig, er enghraifft, y sir wrth ymyl fy etholaeth fy hun, bolisi cynllunio mwy hyblyg sy'n caniatáu i dirfeddianwyr ddatblygu eu tir ar gyfer cartrefi dethol, gan ddenu gweithwyr proffesiynol iau, gan gynnwys athrawon, pobl fusnes a meddygon, y mae eu taer hangen yng nghanolbarth Cymru wrth gwrs, i symud i Gymru ac i ymgartrefu yng Nghymru, i ddilyn gyrfa ac i fuddsoddi yn yr economi leol. A gaf fi ofyn pa fwriad sydd gennych i adolygu canllawiau cynllunio er mwyn rhoi hyblygrwydd i awdurdodau lleol weithredu eu polisïau cynllunio mewn modd a fydd yn sicrhau bod y galw am y mathau hyn o gartrefi yn cael ei ddiwallu er mwyn annog teuluoedd iau a gweithwyr proffesiynol i ddod i Bowys a siroedd fel fy un i? Neu yn wir, a ydych yn credu nad oes angen yr hyblygrwydd hwnnw ar awdurdodau lleol gan fod ganddynt yr hyblygrwydd hwnnw eisoes, ac nad oes angen unrhyw newid i ganllawiau cynllunio?
Mae hwn yn gwestiwn ynglŷn ag ansawdd y cyflenwad tai, mewn gwirionedd, ac mae hwnnw'n gwestiwn ynglŷn â'r cyflenwad tai ei hun. Ond fe ailgyhoeddasom 'Polisi Cynllunio Cymru' ychydig cyn y Nadolig. Mae hwnnw'n pwysleisio ymagwedd adeiladu'n seiliedig ar leoedd, gyda phwyslais ar fodelau cynaliadwy'n seiliedig ar leoedd. Felly, yr hyn rydym yn gofyn i awdurdodau lleol ei wneud, yn eu Cynlluniau Datblygu Lleol, yw edrych ar greu lleoedd cynaliadwy sy'n cynnwys datblygiadau deiliadaeth gymysg. A dweud y gwir, mae holl ystadegau'r farchnad yn dangos inni ein bod yn adeiladu digon o gartrefi ar gyfer y farchnad; y pethau rydym yn brin ohonynt yw cartrefi rhent cymdeithasol. Felly, ar hyn o bryd, mae'r farchnad yn darparu mwy na digon o gartrefi ar gyfer y farchnad, ac mae ein cynllun Cymorth i Brynu wedi sbarduno rhywfaint o hynny, ond mewn gwirionedd, yr hyn y mae angen i ni adeiladu llawer mwy ohonynt—miloedd yn fwy ohonynt—yw cartrefi rhent cymdeithasol, felly sefyllfa wahanol iawn i'r darlun rydych newydd ei ddisgrifio.
Mae gennym ormod o dai o ansawdd gwael yng Nghymru, a llawer ohonynt yn gwneud defnydd aneffeithlon iawn o ynni, sy'n golygu bod y bobl dlotaf naill ai'n oer neu'n talu mwy am wresogi eu cartrefi na chi a fi. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella effeithlonrwydd ynni, yn enwedig yn y sector rhentu preifat a'r rhan gost isel iawn o'r sector rhentu preifat?
Ar hyn o bryd, rydym wedi canolbwyntio ar safon ansawdd tai Cymru ar gyfer tai a ddarperir yn gyhoeddus. Gŵyr Mike Hedges yn iawn fod safon ansawdd tai Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid cymdeithasol gael sgôr o 65 neu uwch yn y weithdrefn asesu safonol, neu dystysgrif perfformiad ynni sy'n cyfateb i radd D. Mae oddeutu 97 y cant o'n stoc yn cyrraedd y safon honno ar hyn o bryd, ac mae gennym ychydig yn fwy i'w wneud cyn ein bod yn bodloni'r safon ansawdd tai ar gyfer Cymru gyfan. Yr hyn rydym wedi bod yn ceisio'i wneud yn y sector rhentu preifat yw newid y berthynas rhwng landlordiaid a thenantiaid a sicrhau bod tenantiaid yn cael bargen well yn gyffredinol o ran y ffordd y caiff eiddo ei osod, y mathau o eiddo sydd ar gael a'r rheoliadau drwy Rhentu Doeth Cymru. Ar hyn o bryd, nid ydym wedi cael unrhyw arwyddion penodol ynghylch effeithlonrwydd ynni, ond fel y dywedais wrth ateb Helen Mary Jones, rydym yn disgwyl i'r gweithgor datgarboneiddio adrodd cyn bo hir, a gofynnwyd iddynt ystyried Cymru gyfan, ac rwy'n disgwyl set o argymhellion ynghylch yr hyn y dylem ei wneud ar draws pob deiliadaeth yng Nghymru i wella effeithlonrwydd ynni, ac yn wir, insiwleiddio a safonau i fynd gyda hynny.