– Senedd Cymru am 3:29 pm ar 19 Mehefin 2019.
Rwy'n mynd i symud ymlaen yn awr at y datganiadau 90 eiliad. Daw'r datganiad 90 eiliad cyntaf gan Elin Jones, i ddathlu 50 mlynedd o Sali Mali.
Mae Sali Mali yn 50 oed heddiw. Ar y dydd hwn yn 1969, cyhoeddwyd y llyfr cyntaf Sali Mali gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion, fel rhan o gyfres Darllen Stori. Yn y dyddiau hynny, mi oedd llyfrau darllen i blant bach yn y Gymraeg yn bethau prin iawn, ac fe fues i, fel eraill, yn lwcus iawn i ddysgu darllen drwy gymorth Sali Mali.
Creadigaeth Mary Vaughan Jones oedd Sali Mali, a Rowena Wyn Jones oedd yr arlunydd. Am gyfraniad gan y ddwy yma i’r Gymraeg ac i ddarllen, drwy greu cymeriad mor hirhoedlog, ac a gydiodd yn nychymyg cenedlaethau o blant bach a’u hathrawon hyd heddiw. Mary Vaughan Jones hefyd oedd yn gyfrifol am gymeriadau Jac y Jwc, y Pry Bach Tew a Jaci Soch. Rhain oedd ffrindiau fy mhlentyndod i, ac mae meddwl amdanynt hyd heddi yn twymo fy nghalon.
Daeth Sali Mali hefyd yn tv superstar, drwy animeiddio a thrwy gyfres Caffi Sali Mali ar S4C. Ifana Savill ysgrifennodd y cyfresi teledu, a hi a’i gŵr sefydlodd Pentref Bach ym Mlaenpennal, Ceredigion, a ddaeth yn set deledu ac yn ganolfan wyliau ar gyfer teuluoedd, er mwyn i’r plant fyw bywyd Sali Mali.
Daeth Sali Mali i ymweld â’r Senedd ac eistedd yn sedd y Llywydd yn ystod Eisteddfod yr Urdd yn ddiweddar, a heno mi fyddwn yn goleuo y Senedd yn oren i ddathlu ei phen-blwydd. Diolch i'r rhai a gafodd y weledigaeth i'w chreu, a phen-blwydd hapus, Sali Mali.
A daw'r datganiad 90 eiliad nesaf i ddilyn hynny gan Mick Antoniw ar Ddiwrnod Dyneiddiaeth y Byd, 21 Mehefin 2019.
Diolch. Mewn byd o anoddefgarwch a rhaniadau cynyddol, ac mewn byd sy'n wynebu newid technolegol a chymdeithasol dramatig, weithiau mae'n hawdd gadael i gredoau cul ymwreiddio ac anwybyddu ehangder syniadau a dychymyg a chyffredinrwydd y credoau libertaraidd sydd i'w cael yn y byd, boed hynny'n gysylltiedig â chred mewn Duw neu gred resymol nad oes Duw. Mae dyneiddiaeth yn ganlyniad i draddodiad hir o feddwl rhydd sydd wedi ysbrydoli llawer o feddylwyr gorau'r byd ac artistiaid creadigol a gwyddoniaeth ei hun.
Mae dyneiddiaeth yn foesegol. Mae'n cadarnhau gwerth, urddas ac ymreolaeth yr unigolyn a hawl pob unigolyn i'r rhyddid mwyaf posibl sy'n gydnaws â hawliau pobl eraill. Mewn sawl ffordd, mae dyneiddiaeth yn debyg i grefydd. Fodd bynnag, y gwahaniaeth allweddol yw bod dyneiddwyr yn cydnabod mai yn ein dwylo ni yn unig y mae'r pŵer i ddatrys problemau, drwy ddadansoddi rhesymegol a'r defnydd o wyddoniaeth.
Mae gan y rhai nad ydynt yn grefyddol lawer i'w gyfrannu at y gwerthoedd sy'n sail i'n cymdeithas a'i chyfeiriad yn y dyfodol. Drwy gydnabod dyneiddiaeth yn llawn fel moeseg ddinesig ym mhob un o'n sefydliadau cymdeithasol a chyhoeddus, gallwn harneisio potensial meddwl dilestair er budd pawb.
Felly, ddydd Gwener, rydym yn dathlu Diwrnod Dyneiddiaeth y Byd, pan fyddwn yn cydnabod ein dynoliaeth gyffredin a'n rhwymedigaethau i'n gilydd. Mae'n ddiwrnod ar gyfer hybu a dathlu gwerthoedd blaengar dyneiddiaeth fel ymagwedd athronyddol tuag at fywyd a dull o sicrhau newid heddychlon, cyfunol a chydsyniol yn y byd.
A daw'r datganiad 90 eiliad nesaf gan Vikki Howells ar Fis Pride Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol 2019 a'r ugeinfed mlynedd ers digwyddiad Pride cyntaf Caerdydd.
Mis Mehefin yw Mis Pride LHDT, ac mae'n achlysur i bobl LHDT+ ddathlu datblygiadau yn eu hawliau ledled y byd. Mae hefyd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o'r materion cyfredol sy'n wynebu'r gymuned. Mae digwyddiad 2019 yn arbennig o bwysig, gan fod yr un mis yn nodi hanner canmlwyddiant terfysgoedd Stonewall.
Ceir arwyddocâd yn nes adref hefyd i fis Pride eleni, wrth i Pride Cymru ddathlu eu hugeinfed pen blwydd. Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf o'r fath, Mardi Gras Caerdydd fel y'i gelwid ar y pryd, ym mis Medi 1999 a denodd 5,000 o bobl i Gae Cooper yng nghanol y ddinas. Yn y cyfnod ers hynny, cafwyd llawer tro ar fyd. Ond diolch i ddyfalbarhad gwirfoddolwyr, mae Pride Cymru, fel y'i hailenwyd yn symbol cryf o'i bwysigrwydd cenedlaethol, wedi cryfhau fwyfwy. Mae bellach yn croesawu 50,000 o gyfranogwyr dros dridiau, gan ddenu ymwelwyr o bob cwr o Gymru, y DU, a'r byd yn wir, i'r ddinas, gan gynhyrchu dros £2.5 miliwn i'r economi leol, a bydd 16,000 o bobl yn gorymdeithio drwy Gaerdydd yn enw cydraddoldeb—gyda'r orymdaith ei hun yn ychwanegiad poblogaidd ers 2012.
Yn 2019, bydd Pride Cymru yn ennill ei le fel y pumed digwyddiad Pride mwyaf yn y DU. Bydd hefyd yn edrych ymlaen at EuroPride 2025, a fydd yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd, ac sydd newydd ddenu 0.5 miliwn o bobl i Fienna, lleoliad y digwyddiad eleni. Ond gan fod Pride Caerdydd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru ill dau'n dathlu eu hugeinfed pen-blwydd, ceir cyfle i ni fyfyrio ar y cysylltiad rhwng datganoli a chydraddoldeb.