6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Dysgu Hanes Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:18, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl hon, oherwydd rwy'n gobeithio bod hanes yn fwy i ni na dim ond rhestr o ddyddiadau a dealltwriaeth o'r bonedd a'r uchelwyr. I mi, mae hanes yn llawer mwy na hynny. Mae'n cynnwys hanes ein pobl, hanes ein hiaith, ein diwylliant, ein daearyddiaeth, ein heconomi. Ni allwn gael hanes economaidd heb Robert Owen a'r effaith y mae'n dal i'w chael heddiw, ac rwy'n siarad fel Aelod Cydweithredol o'r Senedd hon. Cefais fy magu yn y diwylliant a grëwyd o ganlyniad i ddiwydiannu, ac yn sicr mae'n rhaid i ni ddeall hanes strwythurol ein gwlad, os mynnwch.

Bydd y Gweinidog yn gwybod hanes Cilmeri a'i bwysigrwydd i ni, ac mae'n bwysig fod fy mab yn gwybod yr hanes hwnnw hefyd. Ond yr wythnos diwethaf wrth gwrs, ymwelodd y Gweinidog â thramffordd Brinore yn ei hetholaeth yn Nhal-y-bont. Nawr, pe bai'r Gweinidog wedi cerdded ar ei hyd, byddai wedi cyrraedd fy etholaeth i yn Nhredegar, a phe bai wedi cerdded ar draws y bryniau a cherdded drwy Drefil, byddai wedi mynd heibio i'r Ogof Fawr. Nawr, treuliais 30 mlynedd yn chwilio amdani, rwy'n gobeithio y byddai hi'n cael mwy o lwc. Byddai wedi gwybod hanes yr Ogof Fawr lle cadwyd arfau cyn i Zephaniah Williams siarad â'r bobl yn Nhredegar yn Twyn Star—mwy na thebyg mai yn Gymraeg y siaradodd—a'u harwain i Westy'r Westgate yng Nghasnewydd ar y penwythnos gwlyb hwnnw ym mis Tachwedd. Dyna'r pethau sy'n ein cysylltu. Maent yn cysylltu sir Frycheiniog a Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd.

Pan oeddwn yn yr ysgol, dysgais am y chwyldro diwydiannol—glo, mwyn haearn, coed a dŵr yn cyd-ddigwydd ym Mlaenau'r Cymoedd gan sbarduno chwyldro diwydiannol—ond dysgais hefyd am hanes pobl a grëwyd o ganlyniad i'r chwyldro diwydiannol hwnnw a diwylliant a grëwyd gan y bobl hynny. Dysgais am y faner goch yn cael ei chwifio yn yr awyr gan weithwyr Merthyr, a dysgais pam roeddent yn gwneud hynny. Dysgais hefyd am 'black domain' y Teirw Scotch a orfododd y streiciau yn Nhredegar.

Dysgais hefyd lle roedd y gweithfeydd haearn yn Nhredegar. Nid oes arwydd yno heddiw, ond mae yna giât i hen weithfeydd yr NCB, sy'n dweud stori arall wrthym am ein hanes. Mae hwnnw'n hanes nad oedd o reidrwydd ar y cwricwlwm, ond fe'i clywais gan athrawon ysbrydoledig. Rwy'n dal i alw 'Mr Darkins' yn Mr Darkins ac nid 'Jeff'. Fe wnaeth fy ysbrydoli i ddysgu am y Siartwyr ac fe wnaeth fy ysbrydoli i ddysgu am bwy oeddem ac o ble y daethom. A PJ—Peter Morgan Jones—a ddysgodd bob un ohonom am hanes yr hyn yw Cymru'n digwydd bod; treuliodd amser yn siarad â ni am y Tad Ignatius, wrth gwrs, yng Nghapel-y-ffin, yn ogystal. Felly, mae gennym hanes diwylliannol, hanesyddol a chrefyddol, llawer mwy na rhywbeth sy'n digwydd mewn ystafell ddosbarth ac sy'n cylchdroi o gwmpas dyddiadau.

Gobeithio y bydd y Gweinidog, wrth ymateb i'r ddadl hon, yn siarad â ni am yr hyn y mae wedi'i alw yn ei gwaith yn 'gynefin', sy'n air bendigedig yn fy marn i, gair na ellir ei gyfieithu, sy'n dweud wrthym o ble rydym yn dod, lle rydym yn byw, lle mae ein teulu'n byw a lle mae ein pobl yn byw. Gobeithio bod y cysyniad o gynefin, y syniad mai'r hyn y cawsom ein gwneud ydym ni, yn rhywbeth na chaiff ei gyfyngu i wers hanes. Gobeithio y bydd yn rhan o'n gwersi economaidd, gobeithio y bydd yn rhan o'n gwersi daearyddiaeth, gobeithio y bydd yn rhan o'n gwersi iaith, gobeithio y bydd yn rhan o greu dinesydd sy'n deall, nid yn unig yr hyn a ddigwyddodd a phryd y digwyddodd, ond sut y mae hynny wedi effeithio arnom heddiw.

Gadewch i mi ddweud hyn wrth gloi. Rwy'n credu bod angen i ni ddod o hyd i ffordd o wneud hyn y tu allan i'r ysgol hefyd. Oherwydd fe ddysgodd Mr Darkins a PJ fi y tu allan i'r ystafell ddosbarth lawn cymaint ag y gwnaethant yn yr ystafell ddosbarth, drwy ein hysbrydoli i ddarganfod mwy. Mae pawb o fy nghenhedlaeth i yn deall ac yn cofio Gwyn Alf a Wynford Vaughan-Thomas yn dadlau ar draws y wlad a thrwy'r cenedlaethau yn The Dragon Has Two Tongues. Un o'r protestiadau cyntaf y bûm ynddi oedd protest i gofio terfysg Merthyr ac i gofio'r hyn a ddigwyddodd yno. Siaradodd bryd hynny am ei hanes personol fel un o feibion Dowlais, ond siaradodd hefyd am ei brofiadau ar draethau Normandi, wrth iddo ymladd mewn rhyfel a ddisgrifiodd fel rhyfel y bobl yn erbyn ffasgiaeth—unwaith eto, mae hynny'n atseinio drwy'r oesoedd.

Nid yw hanes bob amser yn gyfforddus ac nid yw bob amser yn gyfleus ac nid yw bob amser yn hawdd. Ar hyn o bryd, rydym yn cofio'r terfysgoedd hil yng Nghaerdydd. Siaradais â phobl gartref yn Nhredegar ynglŷn â chofio canrif wedi'r terfysgoedd gwrth-Iddewig ym 1911. Nid oeddent eisiau cofio hynny. Roedd cywilydd arnynt am yr hyn a ddigwyddodd yn ein tref yn ein henw ni a chywilydd am yr hyn a wnaeth hynny i ni, yn enwedig yn awr a ninnau'n dal i frwydro yn erbyn gwrth-Semitiaeth yn y wlad hon. Felly, mae ein hanes yn cynnwys mwy na'r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol, mae'n cynnwys pwy ydym ni heddiw, a'n cyfrifoldeb ni fel seneddwyr ac fel arweinwyr y wlad hon yw sicrhau bod ein hanes yn aros yng nghalonnau a meddyliau ein pobl wrth i ni geisio creu dyfodol i'n pobl.