1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 25 Mehefin 2019.
3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog a chefnogi tyddynwyr yng Nghymru? OAQ54136
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae tyddynwyr yn chwarae rhan bwysig o ran gofalu am ein tirwedd a chyfrannu at ein heconomi. Maen nhw'n gymwys ar gyfer ein gwasanaeth cyngor Cyswllt Ffermio, yn ogystal â chynllun y taliad sylfaenol ac amrywiaeth o gymorth arall gan Lywodraeth Cymru, fel y grant busnes fferm.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Mae'n siŵr y bydd eisiau ymuno â mi i longyfarch Tyddynwyr Morgannwg, a gynhaliodd arddangosfa ardderchog yn y Senedd yr wythnos diwethaf, yn arddangos holl ystod eu gwaith a pha mor arloesol ydoedd, a hefyd, rwy'n credu, am y tro cyntaf, Llywydd—gyda'ch caniatâd chi rwy'n siŵr—daethant â rhai anifeiliaid i'r ystâd. Aeth llawer o Aelodau yno a'u gweld wrth ochr y Pierhead.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cofio rhan mor hanfodol o'r economi amaethyddol yw tyddynwyr, a'r angen i'r Llywodraeth ymgynghori â nhw a chydnabod eu harloesedd, a'u cynnwys yn y gwaith o ddatblygu polisïau, yn enwedig ar ôl Brexit. Cyfeiriasoch at gynllun y taliad sylfaenol. Wrth gwrs, mae hwnnw wedi ei bennu ar gyfer maint lleiaf o 5 hectar neu 12.4 erw yng Nghymru. Mae hwnnw'n rhywbeth a allai, wrth i ni symud at gydnabod nwyddau cyhoeddus, fod yn briodol i annog tyddynwyr i ddarparu gwasanaethau fel ymweliadau ysgol ac effeithiau amgylcheddol eraill y gallan nhw eu gwneud hefyd. Mae hwn yn sector na ddylem ni ei anghofio. Mae'n wirioneddol bwysig i ffyniant bywyd gwledig.
Diolchaf i David Melding am hynna ac rwy'n ei longyfarch ar noddi'r digwyddiad Tyddynwyr Morgannwg yr wythnos diwethaf. Roeddwn i, fy hun, yn bresennol mewn rhai digwyddiadau a gynhaliwyd ganddyn nhw yn y fan yma yn y gorffennol, ac maen nhw'n gyfle, bob amser, i arddangos ffermio Cymru, bwyd o Gymru, a'r ymrwymiad sydd gan y sector i'r safonau uchaf. Roedd yn braf gweld y daethpwyd ag anifeiliaid yma, hefyd, o Forgannwg—rwy'n siŵr bod anifeiliaid o rannau eraill o Gymru ar gael hefyd, Llywydd, i ymweld â ni yn y fan yma. Ond rydym ni eisiau parhau fel Llywodraeth i gefnogi tyddynwyr Cymru.
Mae gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ŵyl tyddynnod a chefn gwlad, y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i'w noddi, ac roedd y prif filfeddyg ac eraill yn bresennol yno. Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfres o ddigwyddiadau o'r enw 'Byw oddi ar 10 erw', sydd wedi eu hanelu'n benodol iawn at y sector tyddynnod. Er bod yn rhaid i dyddynwyr fod â 5 hectar fel isafswm maint i fod yn gymwys ar gyfer cynllun y taliad sylfaenol, nid oes cyfyngiad maint ar y grant busnes fferm yma yng Nghymru, ac rydym ni'n annog tyddynwyr sydd â diddordeb mewn arallgyfeirio, wrth ddarparu nwyddau cyhoeddus o'r math a ddisgrifiodd David Melding, i wneud cais am y grant hwnnw fel y gallwn barhau i'w helpu i arloesi ac arallgyfeirio.
Mae'r rhan fwyaf o dyddynnod yn fusnesau sy'n cael eu rhedeg gan deuluoedd, sydd angen ategu eu hincwm gyda ffynonellau eraill fel twristiaeth. Maen nhw'n gwneud cyfraniad mawr at ein heconomïau gwledig. Maen nhw hefyd yn tueddu i werthu'n lleol, gan leihau milltiroedd bwyd a bod yn llesol i'n hamgylchedd. Yn fy marn i, mae cyflenwi a bwyta bwyd cartref yn nes at adref yn gwneud synnwyr perffaith. Prif Weinidog, beth all eich Llywodraeth chi ei wneud i annog mwy o gynhyrchu bwyd yn lleol?
Llywydd, gadewch i mi gytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud am bwysigrwydd tyddynnod i'w heconomïau lleol; y ffordd y bu'n rhaid i arallgyfeirio fod yn rhan o'r hyn y mae'n rhaid i berchennog tyddyn feddwl amdano erioed, oherwydd ar ei ben ei hun, mae'n annhebygol o allu cefnogi teulu. Yn ogystal â'r pethau y soniais amdanyn nhw yn fy ateb i David Melding, bydd Cyswllt Ffermio yn cynnal sioe arloesi ac arallgyfeirio ar 26 Medi eleni. Bydd yn gyfle i ddod â thyddynwyr o bob cwr o Gymru ynghyd. Mae'n sicr y bydd pwyslais ar gynhyrchu bwyd a chynhyrchu bwyd yn lleol, ac i gefnogi'r sector yn yr ymdrechion y mae'n eu gwneud i ddarparu'r cynhyrchion hynny y gellir eu gwerthu'n lleol ond y mae ganddyn nhw farchnad ymhellach i ffwrdd yn aml hefyd.
A gaf innau hefyd ganmol David am ddigwyddiad ardderchog, yn cynnal cymdeithas Tyddynwyr Morgannwg? Edrychwn ymlaen at ei weld yn dod yn ôl y flwyddyn nesaf yn fwy ac yn well eto. Ond a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog: beth yw ei weledigaeth, ar gyfer tyddynwyr a rheolwyr tir eraill mewn sefyllfa ôl-Brexit? Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl y dathlwyd hanner canmlwyddiant y polisi amaethyddol cyffredin, ac roedd hwnnw'n mynd i newid pa un a oeddem ni'n aros yn yr UE ai peidio, ond rydym ni mewn sefyllfa wahanol iawn erbyn hyn. Felly, yn y dyfodol, a all ef gyflwyno'r weledigaeth honno am ba mor wahanol yw'r dyfodol hwnnw mewn sefyllfa ôl-Brexit, a pha gyfleoedd, os oes rhai, a fyddai ar gyfer gwahanol fath o reoli tir?
Diolchaf i Huw Irranca-Davies am hynna. Cefais gyfle i siarad yng nghyfarfod blynyddol cyffredinol Undeb Amaethwyr Cymru yr wythnos diwethaf yn Aberystwyth, a dyma'n union oedd y pwynt trafod yn y cyfarfod hwnnw. Os bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, yna bydd cymorthdaliadau uniongyrchol o dan y PAC yn dod i ben, a dyna pam mae cymaint o ymdrech wedi ei gwneud yng Nghymru, drwy 'Brexit a'n tir', i ddechrau cymryd ein dyfodol i'n dwylo ein hunain. Cawsom ymateb gwych i'r ymgynghoriad hwnnw, dros 12,000 o ymatebion iddo, ac rydym ni ar fin cyhoeddi cyfres o gynigion olynol pryd y byddwn yn dysgu o'r ymgynghoriad hwnnw ac yn cyflwyno cynigion ar gyfer ffermio cynaliadwy lle bydd cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a defnydd cynaliadwy o'r tir, stiwardiaeth amgylcheddol y tir, yn dod ynghyd i ddarparu'r dyfodol cynaliadwy hwnnw. Edrychaf ymlaen at gael trafodaethau pellach gyda buddiannau ffermio a rheolwyr tir eraill ym maes coedwigaeth ac yn y blaen i ganfod ffyrdd, cyn belled â bod yr adnoddau gennym ni yma yng Nghymru yr ochr arall i'r PAC, ac rydym ni'n ymrwymedig i ddefnyddio'r adnoddau hynny i barhau i gefnogi cymunedau gwledig ac amaethyddol, i wneud hynny mewn ffordd sy'n gwobrwyo ffermwyr gweithgar am y gwaith y maen nhw'n ei wneud ym maes cynhyrchu bwyd, ond hefyd am y gwaith y maen nhw'n ei wneud o ran sicrhau nwyddau cyhoeddus y mae'r cyhoedd yn barod i wneud buddsoddiad ynddyn nhw.