4. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Darparu Cymru Carbon Isel

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 25 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:54, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Mike Hedges. Rydych chi'n gwbl gywir; newid hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf yr ydym ni'n ei wynebu. Y cyngor a gawn ni yw bod gennym 12 mlynedd i drawsnewid y sefyllfa, ac mae'n bosib mai ni yw'r genhedlaeth olaf all wneud hynny, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni'n manteisio ar y cyfle ac nad yw ein plant, na phlant ein plant, yn gallu troi a dweud wrthym 'Pam na wnaethoch chi rywbeth ynglŷn â'r peth pan oeddech chi'n gallu?'

Mae Mike Hedges yn codi pwynt pwysig iawn, rwy'n credu, ynghylch technoleg batris. Rwyf innau wedi bod yn Nhŷ Solcer—tua dwy flynedd a hanner yn ôl erbyn hyn, ac rwy'n cofio meddwl bod y batris yr oedden nhw'n eu defnyddio bryd hynny'n fawr iawn. Yn amlwg, mae llawer o waith ymchwil a datblygu yn digwydd i sicrhau bod y batri sy'n cael ei storio yn mynd yn llai, oherwydd ni fydd gan bobl ddigon o le i gadw'r batris mawr hynny. Mae hyn yn wir hefyd am hydrogen—rwy'n credu ei bod yn hollbwysig nad ydym yn cyflwyno technolegau na all pobl eu defnyddio'n rhwydd. Felly, mae batris yn enghraifft loyw. Mae angen inni sicrhau hefyd bod y seilwaith ar gael. Mae angen atgyfnerthu'r Grid Cenedlaethol mewn rhannau o Gymru—y canolbarth yn sicr—a mater i Lywodraeth y DU yw sicrhau bod hyn yn digwydd, ac rwy'n cael y trafodaethau hynny gyda'r Grid Cenedlaethol ac mae swyddogion wedi codi hyn gyda Llywodraeth y DU hefyd.

Yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddaf yn mynd i'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, ynghyd â'r Prif Weinidog, ac ynni fydd y pwnc yn y fan honno. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at siarad â chydweithwyr o bob rhan o Lywodraeth y DU, y gweinyddiaethau datganoledig, ac, wrth gwrs, dibyniaethau'r Goron ar yr hyn y maen nhw'n ei wneud. Rwy'n siŵr y bydd llawer y gallwn ei ddysgu.

Coed—rwyf am fynd yn ôl at yr ateb a roddais i Andrew R.T. Davies: nid ydym yn plannu digon o goed. Rydych chi'n hollol iawn; ceir buddiannau masnachol hefyd. Nid mater i'r Llywodraeth yn unig yw plannu coed; mae llawer o sefydliadau a all ein helpu ni. Yn sicr, fe ddylai Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn plannu mwy o goed, ac rwyf wrthi'n ystyried, fel y dywedais yn fy ateb i Andrew R.T. Davies, y cymorth y gallwn eu rhoi iddynt o ran cyllid.

Rwyf i o'r farn eich bod chi'n gwneud pwynt da iawn am goedwigoedd trefol. Roedd ymrwymiad maniffesto'r Prif Weinidog o ran coedwig genedlaethol—rwy'n credu, ar y dechrau, pan oeddem ni'n trafod coedwig genedlaethol, roeddwn i'n meddwl am goedwig. Ond, yn amlwg, mae'r dewisiadau yr wyf i wedi gofyn i'r swyddogion weithio arnyn nhw yn dangos y gellir uno llawer mwy o goedwigoedd llai o faint o gwmpas Cymru, ond heddiw'n unig y cefais i'r dewisiadau hynny. Bydd angen imi eu trafod nhw ymhellach gyda'r Prif Weinidog, ond credaf fod cyfleoedd ar gael i gysylltu'r coedwigoedd â llwybr yr arfordir, er enghraifft, i sicrhau y bydd pobl yn sylweddoli beth ydyn nhw a beth yw eu pwrpas nhw.

Mae gennym nifer o gynlluniau. Byddwch chi'n ymwybodol o gynllun Maint Cymru. Erbyn hyn, rydym ni ar gyfradd o ddwywaith maint cynlluniau Maint Cymru, gyda'r nifer o goed yr ydym wedi eu plannu. Ac, wrth gwrs, cafodd ein cynllun Plant! ei sefydlu yn ôl yn 2008 i blannu coeden i bob plentyn a aned ac a fabwysiadwyd yng Nghymru—ers 2014, rydym  wedi plannu coeden yng Nghymru ac rydym hefyd wedi plannu coeden yn Uganda.