1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 2 Gorffennaf 2019.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ganiatâd cynllunio a newid defnydd adeiladau? OAQ54189
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer newid sylweddol i ddefnydd adeilad fel arfer, ac eithrio lle y mae eisoes wedi ei ganiatáu gan y Gorchymyn dosbarthiadau defnydd a'r Gorchymyn datblygu a ganiateir. Mae'n rhaid gwneud penderfyniad ynghylch unrhyw gais am ganiatâd cynllunio yn unol â'r cynllun datblygu lleol, oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn nodi fel arall.
Diolch. Cau tafarndai yw'r pwnc y mae gen i ddiddordeb ynddo. Roeddem ni'n sôn yn gynharach am gau banciau yng Nghymru; problem arall sy'n effeithio ar y stryd fawr yw cau tafarndai. Rydym ni wedi gweld chwarter y tafarndai yng Nghymru yn cau yn yr 20 mlynedd diwethaf. Nawr, maen nhw wedi cymryd rhai camau deddfwriaethol yn gysylltiedig â hyn yn Lloegr gyda Deddf Lleoliaeth 2011. Rwyf i wedi gofyn cwestiynau yn y fan yma o'r blaen ynglŷn â pha gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn, ond nid yw'n ymddangos fy mod i—neu nid yw'n ymddangos ein bod ni fel Siambr—wedi clywed dim ers i mi godi'r mater ddiwethaf ym mis Chwefror y llynedd. Felly, byddwn yn ddiolchgar o gael yr wybodaeth ddiweddaraf am eich syniadau.
Diolchaf i'r Aelod. Rwy'n gobeithio bod gen i newyddion cymharol dda iddo o ran ei gwestiwn. Fel y bydd yn gwybod, comisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad gan Brifysgol Gorllewin Lloegr yn edrych i weld a yw Gorchmynion dosbarth defnydd cyfredol yn parhau i fod yn addas i'w diben. Er bod y Gorchmynion, yn gyffredinol, yn parhau i gyflawni'r swyddogaethau y'u sefydlwyd ar eu cyfer, daeth yr adroddiad i'r casgliad bod nifer o welliannau y gellid eu gwneud iddyn nhw—yn arbennig, wrth ddiwygio'r Gorchymyn dosbarth defnydd cyfunol a'r Gorchymyn datblygu a ganiateir. Un o'r newidiadau yr ydym ni'n bwriadu ei gyflwyno y flwyddyn nesaf fydd darparu mwy o fesurau diogelu i dafarndai.
Nawr, bydd y cynigion yn ceisio sicrhau na chaiff unrhyw dafarn newid ei defnydd na chael ei dymchwel heb gael caniatâd cynllunio yn gyntaf. Ac mae hynny'n mynd i newid, oherwydd bydd yn golygu y bydd lefel uwch o graffu pan fyddai cynigion datblygu fel arall yn arwain at golli ased cymunedol yn barhaol, ac mae llawer o'n tafarndai yn asedau cymunedol pwysig iawn mewn trefi a phentrefi yng Nghymru.
Ceir nifer o gynigion eraill sy'n deillio o'r gwaith a wnaed gan Brifysgol Gorllewin Lloegr. Byddwn yn eu dwyn ynghyd yn rhan o gydgyfnerthu ehangach o ddeddfwriaeth gynllunio, ac rydym ni'n bwriadu dod i lawr y Siambr y flwyddyn nesaf i wneud y newidiadau hynny i'r ddeddfwriaeth.
Prif Weinidog, mae angen i ni fod yn ofalus iawn gyda'n hadeiladau mwyaf gwerthfawr. Efallai eich bod chi wedi clywed bod cynlluniau'n cael eu hystyried erbyn hyn—nid wyf i'n disgwyl i chi wneud sylwadau ar y rhain, ond mae cynlluniau'n cael eu hystyried ar gyfer datblygu siop Howells. Ac maen nhw'n ddiddorol iawn, a bod yn deg. Maen nhw'n haeddu cael eu harchwilio'n drylwyr. Ac, os trown ni at lyfr gwych Newman ar adeiladau Morgannwg, dywed am ychwanegiad Howells gan Percy Thomas yn 1928, a dyfynnaf:
Mae hwn yn ddehongliad gwych o glasuriaeth Beaux-Arts Americanaidd.
Ac mae awduron eraill wedi dweud ei bod yn sleisen o Chicago yng Nghaerdydd. Ond llyncodd ychwanegiad diweddarach gapel Bedyddwyr Bethany, a sylwaf y gallai hwn gael ei ryddhau eto nawr. Ond y wers yn y fan yma yw bod angen i ni addasu adeiladau fel y gellir eu defnyddio ym mhob cenhedlaeth, ond ei wneud gyda gofal mawr, oherwydd nid oedd yr hyn a wnaed yn y 1960au i gapel Bethany yn enghraifft o arfer gorau.
Wel, diolchaf i'r Aelod am hynna ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd. Ac mae hon wedi bod yn dipyn o thema ar lawr y Cynulliad yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf. Cefais rywfaint o waith i'w wneud yn dilyn cwestiwn Nick Ramsay wythnos neu ddwy yn ôl am Troy House. Nawr, o'r gwaith hwnnw, rwy'n credu ein bod ni eisoes yn gwybod bod gofyniad statudol, mewn unrhyw gynnig cynllunio, i roi ystyriaeth arbennig i ddymunoldeb cadw adeiladau lle mae gan yr adeiladau hynny statws arbennig o'r math y mae David Melding wedi cyfeirio ato y prynhawn yma. Felly, rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud. Rydym ni'n edrych i weld a yw'r trefniadau cynllunio presennol yn cefnogi'r canlyniad hwnnw yn y modd y byddem ni'n dymuno iddyn nhw ei wneud. Mae'r gofyniad statudol yn amddiffyniad pwysig sydd gennym ni eisoes yn y ffordd y mae ein cyfraith gynllunio yn gweithredu, ond rwyf i wedi gofyn i swyddogion roi cyngor i mi ynghylch pa a oes unrhyw ffyrdd eraill y gellid cryfhau hynny er mwyn sicrhau, pan gaiff cynigion eu gwneud, eu bod nhw'n rhoi ystyriaeth gwbl briodol i natur ac arwyddocâd hanesyddol adeiladau, ond bod yr adeiladau hynny angen dyfodol yn ogystal â gorffennol a bod yn rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o wneud yn siŵr bod ffyrdd dichonol i'r adeiladau hynny allu parhau i fod â diben byw.
Pryd, Brif Weinidog, welwn ni Lywodraeth Cymru’n cyflwyno rheolau newydd a fydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i gael caniatâd cynllunio er mwyn troi tŷ preswyl yn dŷ haf neu’n dŷ gwyliau?
Wel, dwi’n gyfarwydd, wrth gwrs, gyda’r ddadl sydd tu ôl i’r cwestiwn ac mae ein swyddogion ni wedi edrych yn fanwl ar y wybodaeth sydd yna yn y maes i weld os yw’r rheolau sydd gyda ni ar hyn o bryd yn deg i bob un neu os oes bwlch wedi codi yn y rheoliadau lle bydd yn rhaid inni fynd yn ôl i wneud rhywbeth arall. Rŷm ni’n dibynnu ar y wybodaeth sydd yn dod i mewn o'r awdurdodau lleol ac rŷm ni wedi cael peth gwybodaeth oddi wrth Wynedd, er enghraifft, am yr effaith maen nhw’n meddwl maen nhw'n ei weld yn y maes lleol. Dŷn ni ddim ar hyn o bryd yn siŵr os yw hynna’n dod at y point lle mai newid y rheoliadau yw’r ffordd orau i ddatrys y broblem, os oes problem i’w ddatrys, ond rŷm ni’n agored i’r ddadl, rŷm ni’n casglu’r wybodaeth ac, os yw’r achos yna, fel Llywodraeth, rŷm ni’n agored i weld os oes rhywbeth arall bydd yn rhaid inni ei wneud i newid y rheoliadau.