1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 2 Gorffennaf 2019.
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau tlodi plant? OAQ54190
Diolchaf i Lynne Neagle am hynna. Mae'n annerbyniol i gyfleoedd bywyd plentyn gael eu penderfynu ar sail ei amgylchiadau cymdeithasol neu economaidd. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn arwain adolygiad o raglenni ariannu Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod nhw'n cael yr effaith fwyaf posibl ar fywydau plant sy'n byw mewn tlodi.
Diolch, Prif Weinidog. Fis diwethaf, yn dilyn dadl Aelod unigol, dan arweiniad fy nghyd-Aelod, John Griffiths, pleidleisiodd ACau o blaid Llywodraeth Cymru yn cyflwyno strategaeth newydd i fynd i'r afael â thlodi ynghyd â chyllideb fanwl a chynllun gweithredu i'w rhoi ar waith. O ystyried y gefnogaeth drawsbleidiol amlwg sydd i fwy o weithredu yn y maes hwn, pryd fydd y strategaeth yn cael ei chyflwyno? A pha sicrwydd allwch chi ei roi y bydd yn cael ei hategu gan dargedau eglur, cyllidebau tryloyw ac arweinyddiaeth weinidogol gref?
Wel, Llywydd, rydym ni'n dal i ystyried, wrth gwrs, y cynnig a basiwyd yma ar lawr y Cynulliad. Rwyf i o blaid yr hyn a ddywedodd yr Aelod yn rhan gyntaf ei chwestiwn atodol. Rwyf i o blaid camau sy'n gwneud gwahaniaeth ym mywydau plant yma yng Nghymru. Rwyf i o blaid adeiladu ar yr hanes y mae Llywodraethau olynol wedi ei sicrhau lle'r ydym ni'n sefydlu polisïau a rhaglenni yma yng Nghymru sy'n golygu bod arian yn cael ei adael ym mhocedi teuluoedd y byddai'n rhaid iddyn nhw dalu arian am wasanaethau fel arall.
Felly, mae'r ffaith bod gennym ni £244 miliwn yn ein cynllun rhyddhad treth gyngor yn golygu y byddai'r teuluoedd hynny a fyddai fel arall—ac ar draws ein ffin—yn talu bob wythnos am y dreth gyngor yn cael yr arian hwnnw wedi ei adael yn eu poced yma yng Nghymru, ac mae hynny'n golygu bod arian ganddyn nhw i'w wario ar les plant. Pan fyddwch chi'n diddymu ffioedd presgripsiwn, pan fo gennych chi'r cynnig gofal plant mwyaf hael yng Nghymru, pan fyddwch chi'n ariannu prydau ysgol am ddim newydd pan nad ydyn nhw'n cael eu hariannu yn Lloegr, pan fo gennych chi frecwastau am ddim mewn ysgolion cynradd, pan fo gennym ni'r unig raglen genedlaethol o gyfoethogi gwyliau ysgol—mae hynny i gyd, Llywydd, yn dod i fwy na £0.5 biliwn, a phe na byddai'n cael ei ddarparu gan y rhaglenni y mae Llywodraethau olynol yn y fan yma wedi eu datblygu, byddai teuluoedd yn gorfod talu am y pethau hynny o'u pocedi eu hunain. Mae hynny'n gadael, ym mhocedi teuluoedd yng Nghymru, unrhyw beth rhwng £1,000 a £2,000 bob blwyddyn. Dyna'r math o gamau ymarferol yr wyf i'n credu sydd yn nwylo awdurdodau cyhoeddus Cymru.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Lynne Neagle am yr angen i gymryd camau pellach fel bod gan deuluoedd arian y gallan nhw ei wario i ddiwallu anghenion eu plant a'u teuluoedd ehangach. Byddwn yn edrych i weld beth arall y gellir ei wneud. Byddwn yn edrych arno yng nghyd-destun y cynnig a basiwyd yma ar lawr y Cynulliad. Ond byddwch yn gwybod—bydd yr Aelodau yn y fan yma yn gwybod—mai'r feirniadaeth o'r Cynulliad Cenedlaethol yn aml yw ein bod ni'n ffatri strategaethau ac nad yw'r strategaethau hynny bob amser yn effeithio ar fywydau teuluoedd yn y ffordd y byddem ni wedi dymuno ei gweld. Mae gen i ddiddordeb yn y pethau y gallwn ni eu gwneud sy'n gwneud gwahaniaeth ac sy'n gwneud gwahaniaeth ym mywydau plant a fyddai fel arall yn byw mewn tlodi, a dyna'r hyn y byddwn ni'n canolbwyntio arno.
Rwy'n llwyr gefnogi galwad Lynne Neagle a gofynnaf i chi ailystyried hynny, o gofio bod Comisiynydd Plant Cymru wedi galw ym mis Mawrth am gynllun cyflawni newydd ar dlodi plant yng Nghymru. [Torri ar draws.] A oes problem sain?
Nid wyf i'n gallu ei glywed.
Os gallwch chi—. Doedd eich meicroffon ddim yn—. Na, peidiwch â'i symud. Dyna'r peth gwaethaf i'w wneud. Nid oedd eich meicroffon ymlaen ar ddechrau'r cwestiwn. Ymddiheuraf am hynny. Os gallwch chi ailadrodd eich cwestiwn fel y gall y Prif Weinidog glywed.
Iawn. Pleidleisiais gyda Lynne Neagle yn y ddadl y cyfeiriodd hi ati. Rwy'n llwyr gefnogi ei galwad, a gofynnaf i chi ailystyried y pwynt penodol a gododd hi pan alwodd Comisiynydd Plant Cymru ar Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth am gynllun cyflawni newydd ar dlodi plant.
Hyd yn oed cyn y cwymp ariannol, roedd gan Gymru'r lefelau tlodi plant uchaf yn y DU: 29 y cant yn 2007, 32 y cant yn 2008—hyd yn oed cyn y cwymp. Yn 2012, dywedodd 'Child Poverty Snapshots' gan Achub y plant mai Cymru sydd â'r cyfraddau tlodi plant a thlodi plant difrifol uchaf o blith holl wledydd y DU. Ym mis Mai, dywedodd y rhwydwaith Dileu Tlodi Plant mai Cymru oedd yr unig wlad yn y DU lle bu cynnydd o ran tlodi plant y llynedd.
Wel, mae hi'n Wythnos Cyd-gynhyrchu Genedlaethol, fel yr atgoffodd Ymddiriedolaeth Carnegie rai ohonom ni ddoe. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r datganiad yn 'Tlodi Plant a Theuluoedd yng Nghymru: Canlyniadau Arolwg Plant a Theuluoedd 2018' Plant yng Nghymru? Gofynnodd i ymatebwyr, pobl yn ein cymunedau, beth oedden nhw ei gredu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn ei wneud i leihau tlodi plant a theuluoedd, a'r sylw cyntaf a ddyfynnwyd oedd
'Buddsoddi mewn cymunedau lleol—ymgysylltu â phobl leol a gweithio drwy strategaethau o’r gwaelod i fyny ar gyfer rhaglenni adfywio'.
Er gwaetha'r rhethreg, er gwaethaf y biliynau a wariwyd, nid yw hyn wedi digwydd, nid yw'n digwydd, ac mae'n rhaid iddo ddigwydd o fewn y strategaeth os ydym ni am fynd i'r afael â'r cywilydd hwn o'r diwedd.
Wel, Llywydd, rwy'n llwyr o blaid llunio polisïau tlodi plant mewn trafodaeth â'r bobl hynny sy'n destun polisïau. Pan fyddaf i'n siarad â theuluoedd yn fy etholaeth i sydd yn dioddef tlodi plant, yna'r pethau y maen nhw'n siarad â mi amdanynt yw'r ffaith bod eu budd-daliadau wedi eu rhewi ers y flwyddyn 2015, bod yn rhaid iddyn nhw dalu'r dreth ystafell wely am y fraint o gael rhywle lle gall eu wyrion a'u wyresau ddod i aros gyda nhw, a lle, os ydych chi'n deulu â mwy na thri o blant, y cewch chi eich cosbi gan gap plant y Llywodraeth Geidwadol. Felly, hanes tlodi plant yn ystod datganoli, Llywydd, yw bod tlodi plant yng Nghymru wedi gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn yn ystod y 10 mlynedd cyntaf, ac yn yr ail ddegawd, bydd y degawd yn dod i ben gyda 50,000 yn fwy o blant mewn tlodi nag a oedd ar ei ddechrau. Wrth gwrs, mae angen i ni lunio ein hymatebion ochr yn ochr â'r bobl hynny sy'n destun y polisïau hynny, ond dyna'r polisïau sydd wedi achosi tlodi plant. Maen nhw wedi gwneud hynny'n fwriadol ac yn ymwybodol, ac mae'n bryd i'r pleidiau yn y Siambr hon sy'n gyfrifol am y polisïau hynny gyfaddef hynny.